Entrepreneuriaeth gwledig yng Nghymru

Cyflwyniad

Mae’r uned hon yn ystyried y materion sy’n bwysig wrth ddechrau neu redeg busnes bach mewn amgylchedd gwledig.

Mae’r modelau busnes traddodiadol yn berthnasol i’r broses o redeg busnes mewn unrhyw leoliad. Bydd yr uned hon yn eich cyflwyno i rai syniadau a fydd yn eich helpu i weithio allan yr hyn rydych am ei wneud gyda’ch syniad busnes. Bydd yn gofyn i chi ystyried yr effaith y mae byw mewn lleoliad gwledig yn ei chael ar eich busnes ac i ystyried beth sy’n bwysig i chi.

Dyma rai cymeriadau a fydd yn cadw cwmni i ni drwy gydol yr uned. Mae gan bob un ohonynt gynnig gwahanol sy’n wynebu heriau penodol oherwydd y cyd-destun gwledig.

Mae Euan yn gweithio ar fferm y teulu ac mae am wneud mwy o incwm drwy arallgyfeirio y tu allan i weithgareddau ffermio traddodiadol.

Mae Gwyneth yn gogyddes frwd. Mae’n gweithio mewn caffi yn y dref, ond mae ei horiau gwaith wedi cael eu torri. Er mwyn ychwanegu at incwm y teulu, mae am werthu ei jamiau, ei siytnis a’i chyffeithiau cartref mewn marchnadoedd ffermwyr a ffeiriau bwyd.

Mae Julia, myfyrwraig Addysg Bellach, yn byw gyda’i theulu mewn ardal anghysbell lle mae’r Swyddfa Bost a siop y pentref dan fygythiad. Mae angen iddi gymryd rhan mewn gweithgarwch menter tîm fel rhan o’i chymhwyster Bagloriaeth Cymru ac fe’i hysbrydolwyd gan ddigwyddiadau menter a darlithoedd a fynychwyd yn y coleg. Gyda chymorth staff y Swyddfa Bost, mae hi am arwain trigolion lleol mewn cais i redeg y Swyddfa Bost a’r siop a’u rhedeg fel siop gymunedol.

Mae Dafydd yn ffermwr defaid sydd, ynghyd â’i wraig Ffion, yn gweithio oddi ar y fferm er mwyn ychwanegu at yr incwm ffermio. Mae Dafydd am arallgyfeirio i’r busnes rhentu tai gwyliau drwy droi tri beudy nad ydynt yn cael eu defnyddio yn llety hunan-arlwyo eco-gyfeillgar.

Mae Gwenllianyn athrawes ieithoedd sy’n byw mewn ardal gymharol wledig yng nghanolbarth Cymru lle mae cael mynediad i ddysgu yn anos (pellteroedd pell, trafnidiaeth gyhoeeddud hael ac amserlenni anhyblyg). Mae wedi gweld bod galw am wasanaethau datblygu proffesiynol parhaus o ran iaith a gwasanaethau cyfieithu ymhlith busnesau lleol sy’n allforio eu cynhyrchion i'r cyfandir.

Beth bynnag fo’ch cymhelliant dros ddilyn yr uned astudio hon, bydd yn eich tywys ar daith a fydd yn edrych ar yr heriau sy’n eich wynebu os ydych yn byw mewn amgylchedd gwledig ac yn eich ysgogi i feddwl am sut y gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i redeg busnes llwyddiannus o’ch dewis.