Atodiad 4

‘Making the Red Water Really Clear’

John Osmond Gorffennaf 2010

http://www.clickonwales.org/ 2010/ 07/ making-the-%E2%80%98red-water%E2%80%99-really-clear/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]

Yn y cyfraniad hwn at gynhadledd ar y gydberthynas rhwng y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd a Senedd Llundain (neu ‘gydfyw’ rhwng afonydd Taf a Thafwys), dywedodd Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig ar y pryd, John Osmond, mai araith Rhodri Morgan ar ‘clear red water’ oedd yr unig ddatganiad neilltuol o athroniaeth wleidyddol i ymddangos hyd hynny o’r llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru. Yn yr araith honno, awgrymwyd bod gorgyffwrdd agos iawn, os nad hunaniaeth, yn bodoli rhwng gwerthoedd democratiaeth gymdeithasol, ymdeimlad newydd o ddinasyddiaeth Gymreig, a (drwy oblygiad, o leiaf) yr uniaethu poblogaidd â’r Blaid Lafur yng Nghymru - a gafodd ei galw’n Llafur Cymru gan Morgan, yn hytrach na Hen Lafur neu Lafur Newydd. Tynnodd yr araith hon sylw at ddwy elfen a oedd yn hanfodol i ddatblygu’r cydberthnasau hyn ymhellach: darparu budd-daliadau cynhwysol, sydd ar gael i holl ddinasyddion Cymru a phroses o ymgysylltu agored a chaeedig ag aelodau o’r cyhoedd.

Drwy fabwysiadu’r safbwynt hwn, dywed Osmond fod Prif Weinidog Cymru wedi creu’r potensial am densiwn ac anghytuno sylweddol â gwleidyddion yn San Steffan, gan gynnwys arweinwyr Blairite ei blaid ei hun, ond nododd na ddigwyddodd hynny mewn gwirionedd. Y rheswm am hyn, yn ei farn ef, oedd, er gwaethaf ei rhethreg, nad oedd Llywodraeth Cymru wedi datblygu polisïau digon uchelgeisiol a fyddai’n gwneud gwahaniaeth go iawn i Gymru. Mae’n cynnig rhai awgrymiadau ynglŷn â sut y gellid gwneud hyn, hyd yn oed o fewn cyfyngiadau’r pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd i Gaerdydd. Gan edrych ar ddau faes sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad Cenedlaethol, sef gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth, mae’n cynnig rhai atebion arloesol i broblemau enbyd: sut mae talu am gost gofal i’r henoed? Sut y gellir gwella trafnidiaeth ar y rheilffyrdd yng Nghymru?

Mae Osmond yn cynnig y gallai Llywodraeth Cymru, drwy ddefnyddio ei phwerau dros gyllid llywodraeth leol, ychwanegu tâl arall at y dreth gyngor er mwyn codi arian ar gyfer gofal cymdeithasol, yn yr un ffordd ag y caiff arian ei gasglu drwy braesept ar gyfer plismona. Drwy fuddsoddi mwy o arian mewn trafnidiaeth reilffyrdd, roedd Llywodraeth Cymru eisoes wedi cynhyrchu ‘devolution dividend’, gan wella cysylltiadau rhwng y de a’r gogledd ac yng nghymoedd y de. Cam creadigol arall fyddai defnyddio’r pwerau caffael sydd ar gael o dan y Ddeddf Trafnidiaeth (Cymru) i fwrw ymlaen â chynlluniau i ddatblygu system rheilffordd gul ar gyfer Caerdydd a’r de-ddwyrain. Fel y mae Osmond yn cydnabod, byddai camau o’r fath yn creu problemau i weision sifil ac yn denu gwrthwynebiad gan rannau eraill o’r system wleidyddol, ond mae hyn yn un o ganlyniadau arferol datganoli.

Back