Sesiwn 2: Dysgu drwy edrych ar fy mywyd dros amser

Cyflwyniad

Ffigur 2.1

Beth y gallwn ei ddysgu o edrych ar ein bywyd, a'n profiadau, dros amser? Sut y gall hyn fod yn ddefnyddiol ar gyfer y dyfodol?

Roedd a wnelo Sesiwn 1 ag edrych ar eich hun yn eich sefyllfa bresennol. Fodd bynnag, mae'r person rydych chi nawr yn rhannol o ganlyniad i bopeth sydd wedi digwydd i chi yn y gorffennol: gyda phwy oeddech chi, ble rydych wedi bod, beth rydych wedi'i wneud a'r digwyddiadau allanol sydd wedi effeithio ar eich bywyd.

Rydym yn dysgu o brofiadau da a drwg a bywyd llawn cyfnewidiadau, ond efallai fod rhai pobl wedi profi digwyddiadau eithafol yn eu bywyd y byddai'n anodd iawn ailedrych arnynt. Os felly, gallwch ddewis canolbwyntio ar rannau o'ch bywyd rydych yn hapus i dreulio amser yn meddwl amdanynt.

Mae eich profiad o ofalu yn debygol o ddylanwadu'n gryf ar eich sefyllfa bresennol. Efallai fod eich rôl ofalu wedi datblygu dros amser. Efallai, fel Christine, na fyddech yn disgrifio eich hun fel 'gofalwr' oherwydd mae'n rhywbeth sy'n normal i chi. I eraill, efallai fod dod yn ofalwr [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] wedi digwydd yn sydyn. Beth bynnag fo'ch sefyllfa, byddwch yn gwybod y gall amgylchiadau newid yn gyflym ac weithiau bydd pethau'n digwydd nad oes gennych reolaeth drostynt.

Beth sy'n werthfawr am edrych ar ein rolau a'n profiadau, a chydnabod yr hyn sy'n dylanwadu ar ein bywydau, yw y gallwn ganolbwyntio ar yr hyn sydd wir o ddiddordeb i ni ac yn ein cymell a dechrau deall y penderfyniadau a wnawn: a oes patrwm? Er enghraifft, gall yr hyn sy'n bwysig i ni newid dros amser, neu gall fod yn wahanol ar adegau gwahanol o'n bywyd. Gall y ffordd rydym yn teimlo am y profiadau hyn amrywio hefyd.

Felly, sut mae diffinio pethau da a phethau drwg? A yw'r un themâu yn codi yn y dewisiadau a wnawn? A allwn weld y gwahaniaeth rhwng dewisiadau a wnawn a newidiadau sy'n digwydd sydd allan o'n rheolaeth?

Yn y sesiwn hon, gofynnir i chi edrych ar eich profiadau mewn bywyd, gan gynnwys eich profiadau gofalu. Y nod yw gweld pa sgiliau a galluoedd rydych wedi'u datblygu, ynghyd â'r rhinweddau rydych wedi'u datblygu, yn enwedig o ofalu, yn ogystal â rhai rydych wedi'u meithrin mewn rhannau eraill o'ch bywyd.

Profiadau dros amser