Mynd i'r prif gynnwys
Printable page generated Friday, 29 March 2024, 7:53 AM
Use 'Print preview' to check the number of pages and printer settings.
Print functionality varies between browsers.
Unless otherwise stated, copyright © 2024 The Open University, all rights reserved.
Printable page generated Friday, 29 March 2024, 7:53 AM

Sesiwn 4: Egluro fy nodau a chynllunio ar gyfer y dyfodol

Cyflwyniad

Ffigur 4.1

Yn Sesiynau 1-3 rydych wedi edrych ar ble rydych nawr a sut gwnaethoch gyrraedd yno. Yn y sesiwn hon byddwch yn ystyried ble rydych am fod yn y dyfodol.

Efallai eich bod yn gweithio neu'n astudio ar hyn o bryd. Os na, efallai mai dyma'r amser iawn i chi ystyried dychwelyd i'r gwaith neu ailafael yn eich astudiaethau a gafodd eu gohirio, neu hyd yn oed newid cyfeiriad yn gyfan gwbl. Gallai hyn gynnwys adeiladu ar y wybodaeth a'r sgiliau rydych wedi'u datblygu o ofalu a meddwl am astudiaethau a allai arwain at waith sy'n gysylltiedig â gofal. Neu gallech fod am ddechrau rhywbeth hollol newydd.

Bydd eich man cychwyn o ran astudio yn dibynnu ar sawl peth: eich amgylchiadau personol, cymwysterau addysgol blaenorol, faint o amser sydd wedi mynd heibio ers i chi fod mewn addysg neu hyfforddiant ffurfiol, a chyfleoedd i ddilyn y cyrsiau sydd o ddiddordeb i chi.

Bydd ymchwilio i'r cwrs, rôl neu yrfa y mae gennych ddiddordeb ynddi yn eich helpu gyda'ch cynlluniau, gan sicrhau eich bod yn gwneud penderfyniad call, ac nad ydych yn troedio ar y llwybr anghywir. Efallai nad ydych mewn sefyllfa i weithio ar eich nodau ar gyfer y dyfodol eto, ond gall ystyried y peth fod yn broses ddefnyddiol.

Dewis proffil swydd

Ffigur 4.2

Mae llawer o'r sgiliau a'r galluoedd y gwnaethoch edrych arnynt yn Sesiwn 3 yn drosglwyddadwy - sgiliau rydych wedi'u datblygu mewn un rhan o'ch bywyd a all gael eu trosglwyddo i ran arall. Yn y sesiwn hon gofynnir i chi feddwl am y dyfodol - er enghraifft, pa yrfa neu faes a allai fod o ddiddordeb i chi - ac yna ystyried y posibiliadau a'r opsiynau i chi.

Rhoddir rhestr o'r prif feysydd gyrfa yng Ngweithgaredd 4.1. Gallwch weld bod y rhestr hon yn hir iawn - felly sut rydych yn dewis?

Gweithgaredd 4.1 Defnyddio'r cyfrifiadur i archwilio syniadau

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y gweithgaredd hwn.
Ffigur 4.3

Os mai eich prif nod drwy gwblhau Beth amdana i? yw eich helpu i benderfynu ar yrfa yn y dyfodol neu i newid gyrfa, efallai y byddwch am dreulio mwy o amser ar y gweithgaredd hwn er mwyn archwilio eich syniadau'n llawn. Bydd hyn yn helpu i sicrhau eich bod yn gwneud penderfyniad hyddysg a realistig drosoch chi'ch hun.

Gall sgiliau TG eich helpu i ymchwilio i'ch syniadau neu eu harchwilio. Cliciwch ar o leiaf un o'r gyrfaoedd neu feysydd a restrir yn Nhabl 4.1 sydd o ddiddordeb i chi, neu nad ydych yn gyfarwydd â hwy efallai. Mae'r meysydd gyrfaoedd a roddir yma yn ddolenni a fydd yn mynd â chi i wybodaeth proffil swydd yn y meysydd hyn. (Pwyswch 'Ctrl' ar eich cyfrifiadur a chwith-gliciwch â'r llygoden.)

Edrychwch ar y wybodaeth a roddir ar gyfer dau broffil swydd, fel y gallwch ymateb i'r pwyntiau canlynol:

  • Beth yw gofynion mynediad y proffiliau swydd rydych wedi'u dewis?
  • Enwch ddwy sgil sydd eu hangen ar gyfer y proffiliau swydd rydych wedi'u dewis.
  • Nodwch unrhyw bwynt sydd o ddiddordeb arbennig i chi neu sy'n eich synnu.

Gallwch gwblhau'r gweithgaredd hwn ar eich pen eich hun neu mewn parau os ydych mewn grŵp. Cofiwch arbed eich atebion oherwydd byddwch yn dychwelyd i'r rhain mewn gweithgareddau yn y dyfodol.

Defnyddiwch naill ai daflen Gweithgaredd 4.1  neu eich llyfr nodiadau i gofnodi eich atebion.

NEU

Ewch i Weithgaredd 4.1 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os hoffech weld gwybodaeth am yrfaoedd yn Gymraeg neu archwilio cyfleoedd sy'n benodol i Gymru, efallai y byddwch am fynd i wefan Gyrfa Cymru

Sut hwyl cawsoch chi? A oeddech yn gallu ateb y cwestiynau? A wnaeth unrhyw wybodaeth eich synnu?

Bydd y wybodaeth rydych newydd ymchwilio iddi yn eich helpu gyda'r gweithgaredd nesaf yn y sesiwn hon.

Efallai y byddwch am ddychwelyd i Weithgaredd 4.1 yn ddiweddarach er mwyn archwilio eich syniadau ymhellach, yn enwedig os mai eich prif nod yw penderfynu ar yrfa yn y dyfodol neu newid gyrfa.

Egluro eich nodau

Mae cynllunio gyrfa yn cymryd amser! Os ydych yn ystyried gyrfa newydd, neu efallai am wybod i ba gyfeiriad y gallai astudiaethau pellach a chymwysterau eich arwain, efallai y byddwch am ymchwilio i adnoddau eraill cyn nodi nodau posibl ar gyfer y dyfodol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chyngor gan Gyrfa Cymru neu Wasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored.

Hefyd, ceir adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs, sydd â dolenni gwybodaeth a manylion cyswllt ar gyfer rhagor o adnoddau a chymorth.

Efallai mai eich nod yw dechrau gyrfa newydd, dilyn cwrs astudio, dysgu sgil newydd neu wella eich sefyllfa - beth bynnag sy'n teimlo'n iawn i chi ar hyn o bryd. Nodwch unrhyw bwyntiau lle mae angen rhagor o wybodaeth arnoch yn eich barn chi, fel sgiliau astudio, cyllid a ffioedd neu ddewis o gyrsiau, er enghraifft - bydd y dolenni uchod yn eich helpu. Cadwch eich nodiadau'n ddiogel oherwydd bydd y rhain yn eich helpu gyda'ch cynlluniau ac wrth gwblhau'r cwrs.

Rydych wedi clywed gan James drwy gydol y cwrs. Nawr gwrandewch ar James yn siarad am ei brofiad o astudio'n rhan-amser tra'n gofalu.

James: bywyd, gwaith ac astudio

Download this video clip.Video player: cym_s4_james_4.3.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Claire: bywyd, gwaith ac astudio

Download this video clip.Video player: cym_s4_claire.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad|Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Wrth i chi wrando ar James a Claire, a wnaethoch sylwi a oeddent bob amser yn siŵr o'r hyn roeddent am ei wneud? Er bod James am wneud gradd Meistr, nid oedd wedi bwriadu dilyn cwrs ôl-raddedig yn wreiddiol. Roedd Claire wedi rhoi cynnig ar wahanol lwybrau addysg cyn iddi ddarganfod ei bod yn mwynhau iaith arwyddion ac mae bellach yn gweithio tuag at gymhwyster yn y maes hwnnw.

Weithiau ni fydd dewis gennym ond newid cyfeiriad neu gyflawni nod. Clywsom yn gynharach sut bu'n rhaid i James adael ei swydd lawn-amser er mwyn gofalu. Gwneir newidiadau neu ddewisiadau eraill yn wirfoddol, er enghraifft os byddwn yn mwynhau pwnc penodol neu fod gennym sgiliau mewn maes arall.

Myfyrio

A ydych eisoes yn gwybod beth rydych am ei wneud? A ydych wedi ystyried gwahanol bosibiliadau?

Gweithgaredd 4.2 Egluro fy nodau drwy ddelweddu

Efallai fod gennych ryw fath o syniad o'r cyfeiriad yr hoffech fynd iddo neu efallai eich bod yn dal i ystyried y peth. Pan fyddwn wedi cael profiadau anodd neu siomedig yn ein bywydau, gall y rhain effeithio ar ein hyder a sut rydym yn teimlo am y dyfodol.

Rydych wedi edrych ar eich sgiliau, rhinweddau a galluoedd ac mae gennych ryw fath o syniad o'r hyn sydd gennych i'w gynnig. Nawr gofynnwch i chi'ch hun:

  • Ble ydw i nawr?

Beth ydw i'n ei wneud?

Treuliwch beth amser yn dychmygu eich hun yn y dyfodol. Gadewch i'ch hun feddwl bod posibiliadau ar gael i chi.

Ysgrifennwch frawddeg yn sôn am eich gobeithion ar gyfer y dyfodol. Efallai y bydd yn ddefnyddiol edrych dros y nodiadau a wnaethoch ar gyfer Gweithgaredd 4.1.

Gallwch ddefnyddio taflen Gweithgaredd 4.2 neu gadw hyn yn eich llyfr nodiadau

NEU

Ewch i Weithgaredd 4.2 o'ch Cofnod Myfyrio.

Gallwch rannu hyn neu ei gadw i chi'ch hun. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Ffactorau a all eich helpu neu eich rhwystro

Trwy eu clipiau fideo a sain a'u taflenni gwaith, rydych wedi clywed Claire, Christine, Suzanne, James ac Alana yn siarad am y ffaith y bu'n anodd iddynt wneud yr hyn roeddent am ei wneud oherwydd rhai o'r anawsterau a wynebwyd ganddynt. Gwnaethant hefyd siarad am y cymorth a'r gefnogaeth a gawsant; er enghraifft, dod o hyd i swydd, gallu cwblhau cymhwyster neu fynd ar brofiad gwaith.

Myfyrio a thrafod

  • A allwch gofio unrhyw beth yn benodol a wnaeth helpu'r unigolion hyn i gyflawni eu nodau?
  • A allwch feddwl am unrhyw anawsterau y bu'n rhaid iddynt eu goresgyn?

Trafodwch hyn yn eich grŵp neu gwnewch nodiadau os ydych yn gweithio'n unigol.

Gan feddwl am eich bywyd nawr, beth allai eich helpu i gyflawni eich nodau? Pa bethau a allai ei wneud yn anodd?

Hefyd, gall fod yn ddefnyddiol ystyried sut y gwnaethoch benderfyniadau a dewisiadau yn y gorffennol, neu sut y gwnaethoch ymdopi mewn sefyllfaoedd anodd. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych wedi cymryd rhai 'camau gweigion' neu nad yw pethau wedi mynd gystal ag y byddech wedi gobeithio.

Sut ydych chi'n gwneud penderfyniadau a dewisiadau? Er enghraifft, a ydych yn ymchwilio ar y we, yn siarad â chynghorydd, ffrind neu gydweithiwr, neu'n cysylltu â cholegau lleol neu sefydliadau hyfforddi? Neu a ydych yn penderfynu'n gyflym ar ôl gweld neu glywed rhywbeth? Efallai fod eich llinell amser wedi eich helpu i weld rhai adegau lle, ar ôl myfyrio arnynt, y gallech fod wedi dewis yn wahanol o fod yn fwy gwybodus.

Edrychwch ar yr hyn y mae Alana wedi'i nodi'n ffactorau a all ei helpu i gyflawni ei nod a goresgyn anawsterau posibl.

Tabl 4.2
Fy nodauFfactorau a wnaiff fy helpu i'w cyflawniFfactorau a allai ei gwneud yn anodd i mi
  • Trin gwallt
  • Coleg
  • Fy mhendantrwydd
  • Rôl ofalu
  • Anawsterau dysgu
  • Arian
  • Teithio
  • Hunanamheuaeth

A nawr edrychwch ar yr hyn y mae Christine wedi'i nodi'n ffactorau cadarnhaol ac anawsterau posibl.

Tabl 4.3
Fy nodauFfactorau a wnaiff fy helpu i'w cyflawniFfactorau a allai ei gwneud yn anodd i mi
  • Helpu fy mab i setlo yn y coleg a chael fy hun yn y sefyllfa iawn i symud ymlaen
  • Stondin grefftau
  • Gwirfoddoli
  • Swydd ran-amser i ariannu'r stondin grefftau
  • Coleg neu brifysgol
  • Natur benderfynol
  • Cymwysterau a phrofiad blaenorol
  • Dyhead a'r angen i wella fy hun
  • Ffactorau a allai ei gwneud yn anodd i mi
  • Fy iechyd
  • Cyllid
  • Teithio
  • Cynnal cymhelliant os ydw i'n astudio ar fy mhen fy hun

Gweithgaredd 4.3 Ystyried fy nodau:ffactorau a all fy helpu neu fy rhwystro

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y gweithgaredd hwn.

Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 4.3  , gan restru eich nodau a'r ffactorau a all eich helpu neu eich rhwystro i'w cyflawni

NEU

Ewch i Weithgaredd 4.3 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Bydd angen y nodiadau a wnaethoch ar gyfer Gweithgaredd 4.2 ynglŷn â'ch nodau. Ysgrifennwch y rhain yn y blwch cyntaf; yna rhestrwch y ffactorau a wnaiff eich helpu a'r rhai a allai ei gwneud yn anodd i chi gyflawni eich nodau. Efallai mai eich nod yw dechrau gyrfa newydd, dilyn cwrs astudio, dysgu sgil newydd neu wella eich sefyllfa - beth bynnag sy'n teimlo'n iawn i chi ar hyn o bryd.

Efallai y bydd rhai o'r ffactorau a allai eich helpu i gyflawni eich nod, neu'r rhai a allai beri anawsterau, yn debyg i'r rhai a ddisgrifiwyd gan Christine ac Alana yn eu tablau. Er enghraifft, mae Christine ac Alana yn nodi bod arian yn anhawster a bod pendantrwydd yn ffactor cadarnhaol.

Goresgyn anawsterau

Mae sawl ffordd o gael help i oresgyn anawsterau a dod o hyd i'r ffordd orau o gyflawni eich nodau. Gallwch fynd i wefannau a chwilio am yr help sydd ei angen arnoch ar-lein, neu gallwch gael cyngor wyneb yn wyneb gan rai o'r sefydliadau a restrir yn yr adranRhagor o wybodaeth  ar ddiwedd y cwrs.

Edrychwch ar yr help y mae Christine yn ei gael er mwyn goresgyn anawsterau.

Fy ffynonellau o gymorth

  • NEWCIS (canolfan gofalwyr leol)
  • Rhieni - cyllid
  • Gŵr - dealltwriaeth a chefnogaeth
  • Cwrs busnes - os byddaf yn sefydlu stondin neu siop grefftau
  • Trefnydd y digwyddiad crefftau
  • FLVC – (cyngor gwirfoddol lleol)
  • Fitfish – (encil)

Dywed Christine fod ei gwasanaeth gofalwyr lleol ac aelodau o'r teulu yn ffynonellau pwysig o gymorth, yn ogystal â chyfleoedd eraill a fyddai'n helpu gan gynnwys dilyn cwrs astudio a gwirfoddoli.

Gweithgaredd 4.4 Help i oresgyn anawsterau

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y gweithgaredd hwn.

Rydych wedi gweld y ffynonellau o gymorth a nodwyd gan Christine. Nawr meddyliwch am eich amgylchiadau chi. Os ydych yn credu y bydd angen help arnoch:

  • Dysgwch pwy all eich helpu.
  • Siaradwch am eich syniadau a'ch cynlluniau a'u trafod â'r bobl bwysig yn eich bywyd.
  • Edrychwch ar y rhestr o sefydliadau a roddir yn yr adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs.
  • Nodwch fanylion unrhyw sefydliad rydych yn ystyried gofyn iddo am help.

Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 4.4 i fyfyrio ar bwy y gallwch ofyn iddynt neu ble y gallwch droi am help a'u rhestru

NEU

Ewch i Weithgaredd 4.4 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp, gallwch drafod hyn gyda thiwtor y grŵp ac eraill yn eich grŵp.

Crynodeb

Rydych bellach wedi cwblhau Sesiwn 4. Canolbwyntiodd y sesiwn hon ar sut i ddechrau gweithio tuag at eich nodau, sut i ymchwilio a chynllunio, sut y gallwch helpu eich hun, a sut i gydnabod bod angen i ni gael help eraill weithiau a gwybod ble i gael yr help hwnnw.

Yn sesiwn olaf Beth amdana i? byddwch yn edrych yn agosach ar y rhwydweithiau cymorth yn eich bywyd eich hun a all eich helpu wrth i chi weithio tuag at eich nodau. Byddwch hefyd yn nodi ffynonellau eraill o wybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd ar gael i chi wrth i gynllunio eich camau nesaf.

Sesiwn 5: Nodi fy nghamau nesaf a ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth a chymorth

Cydnabyddiaethau

Datblygwyd Beth amdana i? gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru a'r Brifysgol Agored yng Nghymru. Mae'n seiliedig ar ac wedi'i addasu o gynnwys a ddatblygwyd gan Lindsay Hewitt a Christine McConnell o'r Brifysgol Agored yn yr Alban mewn cydweithrediad â Rhaglenni Bridges.

Rydym yn hynod ddiolchgar i ofalwyr a staff o Wasanaeth Gwybodaeth Gofalwyr Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWCIS) am rannu eu straeon a phrofi gweithgareddau'r cwrs. Gobeithio bod rhywbeth yn eu profiadau sy'n siarad â chi hefyd.

Heblaw am ddeunyddiau trydydd parti a lle nodir yn wahanol (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan drwydded 4.0 Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike

Mae'r deunydd a gydnabyddir isod yn Berchenogol a chaiff ei ddefnyddio o dan drwydded (nid yw'n amodol ar Drwydded Creative Commons). Hoffem ddiolch yn garedig i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i atgynhyrchu deunydd yn yr uned hon:

Delweddau

Ffigur 4.1: © pablographix/iStockphoto.com

Ffigur 4.2: © RyanKing999/iStockphoto.com

Ffigur 4.3: © Logorilla/iStockphoto.com

tablau

Tabl 4.1 adapted from: https://nationalcareersservice.direct.gov.uk/ advice/ planning/ jobfamily/ Pages/ default.aspx

Video/audio: © The Open University

Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfraint. Os ydym wedi anwybyddu unrhyw un mewn camgymeriad, bydd y cyhoeddwyr yn fwy na pharod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf.

Datblygu eich dysgu ymhellach

Cliciwch y ddolen uchod i gael rhagor o wybodaeth am:

– astudiaethau pellach yn Gymraeg mewn perthynas â'r pwnc hwn

– cynnwys astudio cysylltiedig gan Y Brifysgol Agored

– y pwnc hwn a deunyddiau cwrs am ddim ar OpenLearn

– astudio o'r tu allan i'r DU? Mae gennym fyfyrwyr mewn dros gant o wledydd sy'n astudio ar gyfer cymwysterau ar-lein.

nesaf: Sesiwn 5: Nodi fy nghamau nesaf a ble y gallaf ddod o hyd i wybodaeth a chymorth