Goresgyn anawsterau

Mae sawl ffordd o gael help i oresgyn anawsterau a dod o hyd i'r ffordd orau o gyflawni eich nodau. Gallwch fynd i wefannau a chwilio am yr help sydd ei angen arnoch ar-lein, neu gallwch gael cyngor wyneb yn wyneb gan rai o'r sefydliadau a restrir yn yr adranRhagor o wybodaeth [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]   ar ddiwedd y cwrs.

Edrychwch ar yr help y mae Christine yn ei gael er mwyn goresgyn anawsterau.

Fy ffynonellau o gymorth

  • NEWCIS (canolfan gofalwyr leol)
  • Rhieni - cyllid
  • Gŵr - dealltwriaeth a chefnogaeth
  • Cwrs busnes - os byddaf yn sefydlu stondin neu siop grefftau
  • Trefnydd y digwyddiad crefftau
  • FLVC – (cyngor gwirfoddol lleol)
  • Fitfish – (encil)

Dywed Christine fod ei gwasanaeth gofalwyr lleol ac aelodau o'r teulu yn ffynonellau pwysig o gymorth, yn ogystal â chyfleoedd eraill a fyddai'n helpu gan gynnwys dilyn cwrs astudio a gwirfoddoli.

Gweithgaredd 4.4 Help i oresgyn anawsterau

Timing: Dylech dreulio tua 30 munud ar y gweithgaredd hwn.

Rydych wedi gweld y ffynonellau o gymorth a nodwyd gan Christine. Nawr meddyliwch am eich amgylchiadau chi. Os ydych yn credu y bydd angen help arnoch:

  • Dysgwch pwy all eich helpu.
  • Siaradwch am eich syniadau a'ch cynlluniau a'u trafod â'r bobl bwysig yn eich bywyd.
  • Edrychwch ar y rhestr o sefydliadau a roddir yn yr adran Rhagor o wybodaeth ar ddiwedd y cwrs.
  • Nodwch fanylion unrhyw sefydliad rydych yn ystyried gofyn iddo am help.

Defnyddiwch daflen Gweithgaredd 4.4 i fyfyrio ar bwy y gallwch ofyn iddynt neu ble y gallwch droi am help a'u rhestru

NEU

Ewch i Weithgaredd 4.4 o'ch Cofnod Myfyrio. Pan fyddwch wedi cwblhau'r gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn arbed y ddogfen eto.

Os ydych yn gweithio mewn grŵp, gallwch drafod hyn gyda thiwtor y grŵp ac eraill yn eich grŵp.

Ffactorau a all eich helpu neu eich rhwystro