Mae mynd i’r brifysgol yn gallu gwella’ch gwybodaeth, sgiliau, gobeithion gyrfaol a photensial ennill arian – ond mae hefyd yn gostus. Bellach, gall pob myfyriwr israddedig cymwys o Gymru sy’n dechrau ar gwrs yn y brifysgol am y tro cyntaf dderbyn cymorth gyda chostau byw, drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau.
Dysgwch a ydych chi’n gymwys a sut a phryd i wneud cais. Nid oes angen i’ch lle ar gwrs mewn prifysgol fod wedi’i gadarnhau cyn gwneud cais am gyllid myfyrwyr.
Stori Elen
Mae Elen Jones, sy’n 20 oed ac o Ynys Môn, yn astudio am radd yn y Gymraeg a'r Cyfryngau er mwyn helpu i roi ei gyrfa ar ben ffordd.
Stori Dylan
Yn ôl Dylan Jones, 21, o Fangor, dydy’r pandemig ddim yn amharu ar ei gynlluniau ar gyfer y dyfodol, er gwaethaf y newidiadau i ddysgu dros y flwyddyn ddiwethaf.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Llywodraeth Cymru ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon