5.1 Llesiant digidol a diogelwch
Er bod llawer o sefydliadau’n edrych ar lesiant digidol a diogelwch fel endidau ar wahân, mae’n ddefnyddiol eu hystyried gyda’i gilydd, gan fod yna gorgyffwrdd: mae diogelwch wedi’i gysylltu’n gynhenid â llesiant a diogelwch. Os nad ydych yn teimlo’n ‘ddiogel’ oherwydd nad yw eich diogelwch digidol yn ddigonol, gall hynny effeithio ar eich llesiant (Gweler Ffigwr 4).

Mewn byd sy’n cael ei yrru’n fwy digidol, mae ein hanghenion a’n dibyniaeth ar dechnoleg wedi golygu bod ein bywyd digidol yn haeddu ystyriaeth fel angen sylfaenol. Mae Hierarchaeth Anghenion Maslow, a addaswyd i ystyried ein bywyd digidol, yn darparu fframwaith defnyddiol ar gyfer ystyried anghenion sefydliadol ac unigol. Yn yr un modd, mae saith nod llesiant a pum ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r model Jisc Digital Wellbeing yn mabwysiadu dull cyfannol o feithrin galluoedd a sgiliau digidol, gyda phwyslais ar lesiant.

Yn y cwrs hwn, nid ydym yn rhoi sylw manwl i lesiant digidol, ond mae cwrs Gweithio hybrid: llesiant a chynhwysiant yn cynnwys mwy o wybodaeth am lesiant a diogelwch digidol. Mae model Jisc digital wellbeing for individuals yn adnodd defnyddiol ar y pwnc hwn hefyd.
Gweithgaredd 14 Beth yw eich cyfrifoldebau diogelwch digidol yn y gweithle?
Bydd eich cyfrifoldebau am ddiogelwch digidol o fewn sefydliad yn amrywio yn ôl eich rôl a’r polisïau, prosesau a chanllawiau o fewn eich sefydliad. Cymerwch amser i archwilio'r rhain o fewn eich sefydliad, ystyriwch yr hyn y mae'n ofynnol i chi ei wneud, a'r hyn yr ydych yn ei wneud mewn gwirionedd. Efallai yr hoffech restru’r cyfrifoldebau allweddol sydd gennych yn y blwch testun rhydd isod.
Answer
Mae’n bwysig cofio y gall llesiant digidol a diogelwch gyfeirio at amgylcheddau ar-lein ac all-lein. Mae Tabl 7 yn cyflwyno rhai awgrymiadau syml ar y pwnc hwn:
Tabl 7
| Ar-lein | All-lein |
|---|---|
| A oes gennych chi allwedd adfer Bitlocker ar gyfer eich dyfeisiau? | Ble ydych yn diogelu eich dyfeisiau pan nad ydych yn eu defnyddio? |
Pa mor ddiogel yw eich cyfrinair? A ydych yn ei newid yn rheolaidd? Gallwch ei wirio ar: A yw eich cyfrinair yn cydymffurfio â chanllawiau eich sefydliad? | A ydych yn cloi eich cyfrifiadur pan fyddwch yn gadael eich ardal weithio? A ydych yn gwybod pwy i gysylltu â nhw os nad ydych yn gallu cael mynediad at eich systemau neu fynd ar-lein? |
| A yw eich sefydliad yn defnyddio Dilysu Aml-ffactor (Multi-Factor Authentication / MFA) ac a ydych wedi ei osod yn gywir? | Pwy all weld eich sgrin pan fyddwch yn gweithio? |
| A ydych yn ystyried sut ydych yn rhannu gwybodaeth yn fewnol ac allanol? Pa mor sensitif yw’r wybodaeth? | Pa faterion gwaith ydych chi’n eu trafod gyda phobl eraill? |
| A ydych yn defnyddio cyfrineiriau ar ddogfennau sensitif pan fo angen? | Sut ydych chi’n storio copïau caled o ddogfennau? |
| A ydych yn gwybod beth i’w wneud gyda negeseuon e-bost sbam? | Pwy ydych chi'n caniatáu i ddefnyddio'ch dyfeisiau? |
Mae gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol awgrymiadau pellach i’ch helpu i aros yn ddiogel ar-lein ac mae’r wefan Learn My Way yn cynnig adnodd introduction to Online Safety y gallech ei archwilio.
OpenLearn - Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
