Seiberddiogelwch

Seiberddiogelwch yw sut mae unigolion a sefydliadau’n lleihau’r perygl o ymosodiad seiber. Y prif ffocws yw amddiffyn dyfeisiau a gwasanaethau rhag lladrad neu ddifrod. Er mai nod diogelwch gwybodaeth yw amddiffyn gwybodaeth ddigidol a chorfforol, mae seiberddiogelwch yn canolbwyntio ar ddiogelu digidol yn unig (National Cyber Security Centre, dim dyddiad).

Gweithgaredd 18 Dysgu mwy am ddiogelwch gwybodaeth a seiberddiogelwch

Cymaint o amser ag sydd gennych chi

Mae’r rhain yn feysydd cymhleth, ac argymhellir eich bod yn ymchwilio ymhellach i ddull a pholisi eich sefydliad yn y meysydd hyn. Man cychwyn da yw:

Information Security guidance gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

What is Cyber Security gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol

Neu, efallai yr hoffech astudio’r cwrs OpenLearn – Introduction to cyber security