6 Dyfodol digidol: trawsnewid digidol
Cyflymodd trawsnewid digidol yn ystod y pandemig::
According to a new McKinsey Global Survey of executives, their companies have accelerated the digitization of their customer and supply-chain interactions and of their internal operations by three to four years. And the share of digital or digitally enabled products in their portfolios has accelerated by a shocking seven years
Trawsnewid digidol yw sut mae sefydliadau’n gweithredu modelau busnes sy’n ystyried ac yn ysgogi datblygiad technoleg. Y nod yw gwella gallu ei bobl a datblygu prosesau i sicrhau ei fod yn gallu llwyddo yn y dyfodol.
Mae'r cyflymiad hwn wedi gweld cwmnïau'n cyflwyno atebion dros dro sydd bellach wedi'u gwreiddio ac yn datblygu i ddiwallu'r angen am ffyrdd newydd o weithio. Ar gyfer sefydliadau ac unigolion bydd hyn yn gofyn am y gwytnwch i barhau i weithio gydag ansicrwydd a dysgu sgiliau newydd wrth i dechnoleg newydd gael ei mabwysiadu.
Mae rhai o’r themâu allweddol y mae sefydliadau’n eu hystyried ar gyfer y dyfodol yn cynnwys:
- awtomeiddio prosesau busnes - dysgu peirianyddol a deallusrwydd artiffisial (AI)
- cyfrifiadura cwmwl
- defnyddio data i ysgogi gwneud penderfyniadau
- denu talent gyda’r galluoedd digidol cywir
- dull dim ymddiriedaeth at ddiogelwch
- sut fydd y ‘metaverse’ yn datblygu
- cynaliadwyedd - cyrraedd sero net ac olion traed carbon.
Yn y fideo mae cyfranwyr yn esbonio beth sydd angen i sefydliadau ei ystyried ar gyfer trawsnewid digidol a’r galluoedd digidol sydd eu hangen ar gyfer y dyfodol:
Rydym yn clywed y term ‘4ydd chwyldro diwydiannol’ yn aml. Yn y fideo canlynol, mae Jessica Leigh Jones MBE, Prif Swyddog Gweithredol IUNGO Solutions yn esbonio'n fyr beth mae hyn yn ei olygu.
Gweithgaredd 20 Beth sy’n gyrru trawsnewid digidol?
Darllenwch The 5 great shifts driving digital transformation (digileaders.com), sy’n archwilio rhai o’r meysydd mae arweinwyr sefydliadau angen eu hystyried, a The New Reality group’s research themes ac yna defnyddio’r ffeithlun ohono i feddwl am yr hyn sydd ei angen i alluogi trawsnewid digidol yn eich sefydliad.
Pa gamau sydd i weld yn briodol neu fwyaf perthnasol yn eich cyd-destun?

Gweithgaredd 21 Archwilio beth allai fod ynghlwm â thrawsnewid digidol ar gyfer SAUau
Archwiliwch yr adnoddau isod:
Dx: Digital Transformation of Higher Education | EDUCAUSEConsider the Three Ds When Talking about Digital Transformation | EDUCAUSE
Mae Educause yn awgrymu'r tri D yn y ddelwedd isod. Lle mae eich SAU chi ar ei daith tuag at drawsnewid digidol?

Mae’n rhaid ystyried trawsnewid digidol yng nghyd-destun ehangach datblygiad sefydliadol a’r amgylchedd yr ydych yn gweithredu ynddo, gan gynnwys lleihau allyriadau carbon i gyrraedd sero net erbyn 2050.
OpenLearn - Gweithio hybrid: sgiliau ar gyfer trawsnewid digidol
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.

