6.1 Archwilio eich ôl troed carbon digidol

Mae cynaliadwyedd nawr yn hanfodol ac yn rhan o’r trawsnewid digidol y mae angen i sefydliadau ei ystyried. Yn yr adran hon byddwn yn ystyried beth all SAUau ei wneud i reoli eu hol troed carbon.

‘TG yn aml yw un o’r cyfranwyr mwyaf at ôl troed carbon sefydliad addysg ei hun, gydag un coleg yn y DU yn priodoli 20% o’i allyriadau i TG yn unig.’ (Exploring digital carbon footprints, Jisc, 2022). Bydd lleihau olion traed carbon digidol boed yn rhai sefydliadau neu unigolion yn dod yn flaenoriaeth gan fod SAUau wedi ymrwymo i gyrraedd sero net erbyn 2050 neu cyn hynny.

Mae'r adroddiad Exploring digital carbon footprints gan Jisc yn canolbwyntio ar ffynhonnell ac effaith pedwar maes allweddol: caffael, TG ar y safle, technolegau cwmwl a gweithio o bell, yr ydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen y tu allan i'r cwrs hwn oherwydd ei hyd.

Yn y fideo isod, mae Scott Stonham, awdur yr adroddiad, yn rhoi trosolwg o’r prif feysydd a drafodir yn yr adroddiad.

Efallai yr hoffech ddarllen yr erthyglau canlynol ar OpenLearn gan Scott Stonham sy’n rhoi mewnwelediadau pellach:

Mae angen ystyried y strategaeth ar gyfer lleihau eich ôl troed carbon digidol ochr yn ochr â phob elfen o ddatblygiad sefydliadol. Os yw hwn yn faes y mae gennych ddiddordeb ynddo, byddem yn argymell eich bod yn edrych ar y cwrs Gweithio hybrid: datblygu sefydliadol sy’n rhan o’r casgliad hwn.

Wrth i sefydliadau fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy, mae angen i chi fel unigolyn fod yn agored i ffyrdd newydd o weithio, ac ymrwymo i newidiadau y gallwch eu gwneud yn eich bywydau proffesiynol a phersonol.

Gall fod yn anodd delweddu allyriadau carbon digidol oherwydd pa mor aml ydych chi'n meddwl beth sydd ei angen i dechnoleg fodoli? Pan fyddwch chi'n siarad am gyfrifiadura cwmwl pa ddelwedd sy'n dod i'r meddwl?

Ar lefel sylfaenol y rhesymau dros yr ôl troed carbon digidol cynyddol yw:

  • gweithgynhyrchu a chludo rhannau a chynhyrchion
  • pweru ac oeri seilweithiau technolegau
  • cael gwared â gwastraff electronig (e-wastraff)
  • ymddygiad defnyddwyr.

Nid yw prosesau gweithgynhyrchu bob amser yn gynaliadwy, mae canolfannau data (y cwmwl - y gweinyddion ffisegol sy’n storio ac yn prosesu data) yn defnyddio ynni’n barhaus ac angen awyru. Mae dyfeisiau electronig angen ynni i redeg a gall e-wastraff fod yn anodd ei ailgylchu oherwydd yr adnoddau na ellir eu hadnewyddu o fewn cynhyrchion.

Gweithgaredd 22 Lleihau ôl-troed carbon eich data digidol

10 muned

Mae faint o ddata digidol a geir mewn sefydliadau yn tyfu’n ddyddiol, ac mae rheoli hynny yn her. Er y bydd gan sefydliadau bolisïau, prosesau a systemau awtomataidd i geisio lleihau data diangen, mae rhai o’r rhain yn dibynnu ar unigolion i reoli data digidol yn gyfrifol.

Yn y fideo isod, mae Scott yn rhannu gwybodaeth ynglŷn â sut y mae data digidol yn cael effaith ar ôl-troed carbon digidol a’r mesurau y gall sefydliadau ac unigolion eu gweithredu. Wrth i chi wylio, gwnewch nodiadau am feysydd y gwelwch chi y gellid eu mabwysiadu’n rhwydd, ac ymrwymwch i newidiadau y gallwch chi eu gwneud fel unigolyn.

Mae’r adroddiad Exploring Digital Carbon yn cynnwys awgrymiadau syml sy’n gallu helpu i leihau olion traed carbon ac adnoddau i helpu i ddeall eich allyriadau, yn cynnwys y canlynol.

  • Ystyriwch faint rydych chi’n defnyddio eich ffôn clyfar (y defnydd cyfartalog yw 2.5 awr y dydd).
  • Lleihau disgleirdeb eich monitor.
  • Diffoddwch eich dyfeisiau, hyd yn oed os ydynt ar “stand-by”.
  • Defnyddiwch llai ar e-bost - darllenwch yr erthygl – The hidden cost of your emails on the planet
  • Symleiddiwch eich llofnod e-bost - cael gwared ar ddelweddau diangen.
  • Dilëwch ffeiliau electronig ac e-byst nad ydych eu hangen a gwagiwch eich ffolderi eitemau wedi’u dileu.
  • Lawrlwythwch yn hytrach na ffrydio sain a fideos.
  • Datdanysgrifiwch i e-gylchlythyrau nad ydych yn dymuno eu derbyn bellach.
  • Ymestyn oes eich cynhyrchion - a ydych chi wir angen y model diweddaraf? Cofiwch: lleihau, atgyweirio, ailddefnyddio ac ailgylchu.

Yn y fideo hwn, mae Scott yn rhoi awgrymiadau a chynghorion ynglŷn â sut y gallwch leihau eich ôl-troed carbon digidol.