Long description
Delwedd yn dangos y Fframwaith Sgiliau Digidol Hanfodol drwy ddefnyddio diagram o gylchoedd o fewn cylchoedd. Mae’r cylch lleiaf yn y canol wedi’i labelu â ‘Sgiliau Sylfaenol’, mae hwn yn ehangu i gylch mwy sydd wedi’i rannu’r bedair adran: ‘Cyfathrebu: Cyfathrebwch a chydweithiwch a rhannwch ar-lein’. ‘Ymdrin â gwybodaeth a chynnwys: Canfyddwch, rheolwch a storiwch wybodaeth a chynnwys digidol yn ddiogel.’ ‘Cyflawni trafodiadau: Ymgeisiwch am wasanaethau, prynwch a gwerthwch, a rheolwch drafodiadau ar-lein.’ ‘Datrys problemau: Canfyddwch ddatrysiadau i broblemau gyda phecynnau digidol a gwasanaethau ar-lein.’ Yn olaf, mae cylch arall amgylchynol sy’n ailadrodd yr ymadrodd ‘Byddwch yn ddiogel, yn gyfreithlon ac yn hyderus ar-lein.’