Transcript
BECKI VICKERSTAFF
Mewn gwirionedd, ffordd o edrych ar alluoedd digidol o lefel uwch yw fframwaith gallu digidol Jisc, os hoffech chi. Ac mae'n canolbwyntio ar chwe maes gallu digidol gwahanol. Felly, mae gennym hyfedredd TGCh, data gwybodaeth a llythrennedd yn y cyfryngau, er enghraifft. Ond fframwaith oedd hwn y gwnaeth y sector ei ddylunio, gweithio gydag ef, coladu ar ei gyfer a chydweithio arno hefyd. Ac mae'n un a ddefnyddir mewn llawer o sefydliadau addysg uwch, a'r sector ar lefel genedlaethol a rhyngwladol hefyd.
Mae gennym y prif chwe maes gallu digidol hynny yn y fframwaith. Felly, mae gennym hyfedredd TGCh. Felly, mae'n edrych rhywsut ar hyfedredd digidol a chynhyrchiant digidol ac yn edrych ar y rheiny o ran beth y gallai fod ei angen ar ddefnyddiwr i allu llywio byd digidol yn llwyddiannus. Ac mewn lleoliad addysgol yn arbennig, byddem yn edrych ar y mathau gwahanol o dechnolegau a dulliau i allu llywio'r dechnoleg honno'n llwyddiannus iawn, er mwyn iddynt ei defnyddio'n effeithiol iawn yn y ffyrdd gwahanol.
Mae gennym hefyd wybodaeth, data a llythrennedd y cyfryngau hefyd. Felly mae hynny'n edrych ar feysydd fel llythrennedd data, llythrennedd gwybodaeth a llythrennedd y cyfryngau. Felly, mae'n golygu gallu llywio data yn llwyddiannus a gallu edrych arnynt yn llwyddiannus o ran gwneud yn siŵr y gallwn gael gafael ar wybodaeth, ond hefyd gwybod beth i wneud â'r wybodaeth honno.
Ac mae gennym waith creu yn ddigidol, datrys problemau ac arloesi hefyd. Felly, mae hynny'n mynd ac yn torri i lawr yn feysydd rhywsut, fel creu yn ddigidol, ymchwil ddigidol a datrys problemau. Felly, mae datrys problemau yn bwysig iawn, oherwydd mae'n amlwg ein bod ni'n symud ymlaen mewn byd digidol, yn enwedig gyda'r myfyrwyr hefyd, wrth iddynt edrych i fod yn un o raddedigion hyblyg y sgiliau trosglwyddadwy hynny. Ond hefyd, arloesi digidol, sy'n golygu gallu deall pa alluoedd digidol sydd eu hangen i lywio'r rheiny'n llwyddiannus hefyd.
Yna, rydym yn symud i faes arall ar ein fframwaith, sef cyfathrebu digidol, cydweithio a chyfranogiad. Felly, dyma lle rydym yn dechrau edrych ar bethau fel cyfathrebu digidol, cydweithio digidol a chyfranogiad digidol. Felly, rydym yn meddwl am sut y gallwn feddwl yn benodol am y pandemig hefyd, sut rydym yn edrych ar gydweithio ar-lein, sut mae hynny'n edrych yn llwyddiannus, pa alluoedd digidol all fod eu hangen arnom i allu gwneud hynny. Felly, mae nodi'r math cywir o dechnoleg neu blatfform i allu cyfathrebu'n llwyddiannus gyda'n gilydd ac, wrth reswm, gyda'r holl bethau hynny, mae edrych ar ffordd ddiogel o wneud hynny hefyd.
Ac yna maes arall ar ein fframwaith yw dysgu a datblygu digidol. Mae hynny'n golygu edrych ar faes dysgu digidol ac addysgu digidol. Felly unwaith eto, mae'n bwysig iawn gallu deall y galluoedd digidol sydd eu hangen i gefnogi'r meysydd hynny a chaniatáu unigolyn, boed yr unigolyn hwnnw'n aelod o staff neu'n fyfyriwr, i allu cyflawni ei rôl yn llwyddiannus, dewis y technolegau priodol hynny, ond gallu deall yr hyn sydd ei angen i ddatblygu'r maes hwnnw.
Ac yna mae gennym hunaniaeth a llesiant digidol, sy'n cael ei gynnwys ar draws y fframwaith cyfan. Felly, rydym yn meddwl am yr holl feysydd gwahanol hynny, ond edrych, mewn gwirionedd, ar y llesiant digidol hwnnw, gwybod faint o amser dylem fod yn ei dreulio ar-lein, cadw ein hunain yn ddiogel ar-lein, edrych ar fwlio ar-lein, y math yna o beth. Felly, edrych ar y gwaith rheoli hunaniaeth ddigidol hwnnw, meddwl am eich ôl troed digidol ond hefyd ar lesiant digidol. Felly, gwybod pryd y gallem fod yn treulio awr o flaen dosbarth Zoom neu ddarlith Zoom a sut mae hynny'n effeithio ar ein llesiant digidol. Felly mewn ffordd, yr holl brif feysydd hynny o'r fframwaith. Mae gennym y chwe phrif faes hynny o'r fframwaith, sy'n arwain at 15 maes hyfedredd digidol pellach.