Transcript

DR BECKI VICKERSTAFF
Gan feddwl am y ffordd y mae rhai o'n sefydliadau addysg uwch wedi defnyddio ein fframwaith gallu digidol, yr adnodd Darganfod ac ati, rydym wedi gweld enghreifftiau ardderchog o'r ffordd y mae hynny wedi effeithio ar y Brifysgol hefyd ac wedi'i grymuso. Ac os gallaf gyfeirio at Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, mae'n enghraifft dda iawn o brifysgol sydd wedi llunio strategaeth ddigidol glir iawn ac o'r ffordd y gall hynny gael effaith sylweddol ar bob rhan o'r sefydliad hwnnw.
Felly, defnyddiodd y Brifysgol ein fframwaith gallu digidol i greu ardal hwb benodol, felly mewn gwirionedd, mae wedi ei alinio â'i mentrau a'i hadnoddau ei hun hefyd. Ond mae wedi creu ffordd y gall ei staff a'i myfyrwyr werthuso eu galluoedd digidol o ddifrif. Felly unwaith eto, defnyddio'r adnodd Darganfod hefyd fel ffordd i'r unigolyn allu myfyrio ar ei allu digidol mewn amgylchedd cwbl ddiogel.
Ond gan fyfyrio wedyn ar ei anghenion ac unwaith eto, nodi ei gryfderau. Ac wedyn gynllunio'r ffordd ymlaen o ran sut y gall wella hynny. Ac unwaith eto, mae wedi creu'r gofod ar-lein ardderchog hwn i'w staff a'i myfyrwyr lle y gallant adeiladu ar y galluoedd digidol hynny. A chan ei fod wedi'i rannu'n ddarnau llai ac wedi'i addasu, mae'n fwy priodol ar gyfer y sefydliad ei hun hefyd. Felly mae wedi ystyried y gwahanol adnoddau sydd ar gael, a gyflwynwyd ganddi, ac mae'n rhan o'i phroses sefydlu hefyd.
Felly unwaith eto, mae'n bwysig iawn bod staff a myfyrwyr yn deall y gallu digidol hwnnw wrth ddechrau ar eu taith drwy'r Brifysgol, ond mae'n bwysig cynnwys hynny fel rhan o brosesau eraill hefyd. Felly mae wedi ei gynnwys o fewn arfarniadau hefyd ac wedi cynnal sesiynau â'r arweinwyr. Felly mae'r unigolion hynny sy'n gyfrifol am y mentrau lefel uchel hynny yn y sefydliad wedi'u cynnwys fel rhan o'r broses hefyd. Felly mae'r dull gweithredu cyfannol iawn hwnnw yn hynod bwysig.
Ond unwaith eto, un o'r pethau y mae wedi'i wneud yw defnyddio ein proffiliau go iawn, er enghraifft, a'u haddasu. Mae hefyd wedi creu proffiliau lefel pwnc penodol hefyd. Felly unwaith eto, eu gwneud yn fwy personol i'r sefydliad ond gan sicrhau eu bod yn gydnaws â'r fframwaith a gydnabyddir yn genedlaethol hefyd. Ac wedyn mae wedi cynnal gweithdai. A thrwy ddefnyddio'r data hynny o'r adnodd darganfod, gallwch nodi gofynion posibl o ran datblygu gwahanol alluoedd digidol.
Ond un o'r pethau y mae wedi'i wneud yw defnyddio ymarfer mapio LinkedIn Learning. Felly cynhaliodd LinkedIn Learning ymarfer mapio ardderchog yn erbyn ein fframwaith. Felly mae wedi alinio'r holl adnoddau sy'n amlwg yn rhan o LinkedIn Learning i'n hadnoddau hyfedredd digidol a'n fframwaith. Felly mae'n ffordd dda iawn i sefydliadau â'r tanysgrifiad hwnnw sicrhau bod popeth wedi'i alinio. Felly mae amser yn werthfawr iawn. Felly mae'r ffaith bod hynny eisoes wedi'i fapio yn cynnig ffordd dda iawn i staff a myfyrwyr allu bwrw golwg ar bethau gan nodi meysydd o bosibl a allai helpu i wella eu gallu digidol nhw hefyd.
Felly mae wedi gwneud gwaith da iawn, unwaith eto, gan ddefnyddio ein fframwaith, addasu ein proffiliau, cyflwyno'r adnodd Darganfod, er mwyn gallu sicrhau bod data ystyrlon ar gael er mwyn helpu i lywio datblygiad staff a chefnogi gallu digidol ei staff hefyd. Mae Prifysgol Caeredin yn sefydliad arall sydd wedi gwneud gwaith ardderchog gan ddefnyddio ein hadnodd Darganfod a'n fframwaith. Roedd dull y Brifysgol hon ychydig yn wahanol, ond unwaith eto, aeth ati i fapio ein fframwaith gallu digidol yn erbyn ei gwasanaeth ei hun.
Felly ar gyfer pob un o'r meysydd gallu digidol gwahanol hynny, aeth ati i edrych ar ei darpariaeth fewnol o fewn ei thîm sgiliau digidol. Aeth ati i greu ardal adnoddau i'w staff, unwaith eto, gan rannu'r holl feysydd hynny yn rhannau llai. Lluniodd adnodd Canfod Adnoddau i'r Brifysgol ('University Resource Finder'). Felly o dan y meysydd digidol hynny, gallai'r staff nodi pa feysydd y gallai fod angen iddynt eu gwella a dod i'w deall yn well, yn seiliedig ar yr adnodd darganfod.
Ac roedd yr adnodd Canfod Adnoddau hwnnw yn ffordd gyflym iawn o gyfeirio staff at yr hyn y gallent ei wneud i wella yn y maes hwnnw. Ond hefyd, aeth ati i weithio gyda hyrwyddwyr myfyrwyr, sy'n beth ardderchog i'w wneud ac yn rhywbeth yr ydym yn ei weld yn aml. Felly, mewn gwirionedd, daeth yr hyrwyddwyr myfyrwyr hynny yn eiriolwyr digidol. Ac roedd hynny o gymorth mewn perthynas â'r dull cyfoedion o gefnogi gallu digidol felly byddent yn mynd allan ac yn hyfforddi myfyrwyr eraill, gan sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r adnodd Darganfod ac ati. Felly roedd hynny'n ffordd ardderchog o wella hynny hefyd.
Ac un o'r pethau a wnaed yng Nghaeredin ac yr wyf yn hynod hoff ohono yw bod y Brifysgol wedi alinio'r adnodd darganfod digidol a'r gallu digidol hwnnw â rhaglenni newydd hefyd. Felly mae wedi creu rhaglenni wedi'u teilwra'n benodol er mwyn helpu staff i wella eu dealltwriaeth a'u gallu digidol ac unwaith eto, fwrw ati o ddifrif i ddefnyddio'r data hynny i lywio'r mentrau hynny hefyd. Ac aeth ati hefyd i ailddylunio un o'i chyrsiau rheoli ac arwain.
Felly mewn gwirionedd, unwaith eto, pwysigrwydd sicrhau ymrwymiad rhanddeiliaid ar lefel uwch i'r broses o wella gallu digidol ym mhob rhan o'r sefydliad, gan fod angen o ddifrif i'r arloesedd digidol hwnnw barhau ym mhob rhan o'r sefydliad. Ond gwnaeth hefyd ddefnyddio ymarfer mapio LinkedIn Learning i greu ardal ardderchog wedi'i theilwra'n arbennig lle gall ei staff fynd er mwyn gwella eu gallu digidol gan fod angen amser i greu adnoddau. Ac os oes rhywbeth yno'n barod ac yn cael ei ddefnyddio'n helaeth, yna mae'n ffordd dda iawn o ddefnyddio enghreifftiau da iawn o gynnwys er mwyn helpu i gefnogi'r gallu digidol hwnnw.