Transcript
SARAH JONES
Fy enw i yw Sarah Jones. Fi yw Pennaeth Gwasanaethau Academaidd Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Rwy'n gweithio fel rhan o'r llyfrgell ac mae'r llyfrgell wedyn yn rhan o'r gyfarwyddiaeth gwasanaethau digidol. Felly, fy nhîm yw cangen addysgu a dysgu'r llyfrgell, a'r gwasanaethau digidol hefyd, i ryw raddau. Mae'n cynnwys y cynghorwyr sgiliau digidol, y cymorth datblygu sgiliau digidol, a hefyd y sgiliau llythrennedd gwybodaeth digidol sy'n rhan o swyddogaeth y llyfrgellwyr cyswllt academaidd. Felly rydym yn ymdrin ag amrywiaeth helaeth o weithgareddau datblygu sgiliau.
Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwella galluoedd digidol myfyrwyr a staff am amrywiaeth o resymau. Yn anad dim, rydym yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer gweithlu digidol iawn. Felly mae'n rhaid i sgiliau digidol fod yn rhan annatod o'r cwricwlwm. Er mwyn i staff allu cyflawni hyn, ac er mwyn i staff y gwasanaethau proffesiynol allu cefnogi'r broses, mae angen iddyn nhw hefyd feddu ar yr un lefelau o sgiliau digidol. Rydym yn anfon pobl i ymuno ag amgylchedd cynyddol ddigidol. Nid yw'r rhan fwyaf o swyddi y bydd plant ysgol gynradd yn eu gwneud yn bodoli.
Felly rydym hefyd yn eu paratoi ar gyfer dull datblygiad parhaus drwy gydol eu gyrfaoedd. Y brif her yn hyn o beth yw sicrhau ymrwymiad eich defnyddwyr, eich staff, a'r myfyrwyr. Oherwydd os na allant weld y perthnasedd, os nad yw'n gweithio iddynt, ac nad yw'n rhywbeth a gaiff ei lunio gan ystyried y rhwystrau y gallent eu hwynebu, yna ni fydd yn llwyddo.
Y peth pwysicaf i ni yw'r sgyrsiau rydym wedi'u cael ar hyd y ffordd, gan wrando ar ein defnyddwyr, sgwrsio â nhw, darganfod y rhwystrau rydym ni-- y rhwystrau sy'n unigryw iddyn nhw ac ymateb i hynny mewn ffordd mor fyfyriol â phosibl. Ac os gallwch wneud hynny, bydd pobl yn barod i'ch dilyn.
Gall SAUau gefnogi eu staff i roi blaenoriaeth i ymdrechion i ddatblygu eu sgiliau a'u galluoedd digidol drwy roi blaenoriaeth i hynny eu hunain, gan greu'r cyfleoedd hyn i staff ymgysylltu â'u sgiliau digidol a meithrin ffordd o feddwl sy'n anelu at ddatblygiad parhaus o fewn y sefydliad. Gallant hefyd gefnogi staff drwy fuddsoddi yn y broses.
Roeddem yn ffodus iawn bod swyddi newydd wedi'u creu. Cawsom amser a chyfle i ystyried beth yr oedd angen i ni ei wneud, ac i fwrw ati i wneud hynny yn y ffordd fwyaf synhwyrol a defnyddiol. Ni fydd pawb mor ffodus. Fodd bynnag, mae yna fan canol. Ac mae cael y gefnogaeth honno o'r lefel uchaf yn hanfodol yn fy marn i.
Gall SAUau gefnogi'r gymuned ehangach i ddatblygu'r sgiliau a'r galluoedd digidol drwy fod mor agored a hygyrch â phosibl. Er enghraifft, gall y cyhoedd ddod i mewn i'n llyfrgelloedd a'u defnyddio. Os nad oes ganddynt fynediad i dechnoleg gartref, gallant ddod i'n llyfrgelloedd a'i defnyddio yma.
Mae'r GanolfanDigidol yn cynnig siop un stop i staff a myfyrwyr uwchsgilio a datblygu eu sgiliau digidol. Diben y Ganolfan yw darparu un lleoliad lle y gallant ddod i asesu eu sgiliau digidol gan ddefnyddio'r adnodd Darganfod, ac wedyn ddefnyddio amrywiaeth o adnoddau er mwyn llenwi unrhyw fylchau o ran hyfforddiant. Ac rydym hefyd yn darparu rhai llwybrau dysgu strwythuredig er mwyn i bobl allu dod i'r Ganolfan, dilyn cwrs byr, ennill bathodyn digidol a datblygu eu sgiliau yn y ffordd fwyaf addas iddyn nhw.
Penderfynodd y Brifysgol fapio'n unol â fframwaith galluoedd digidol Jisc gan fod y gwaith mapio, yn y bôn, wedi'i wneud yn barod. Mae galluoedd a sgiliau digidol yn faes eang iawn, o greu dogfen Word, mewngofnodi i'ch e-bost, gwneud eich siopa ar-lein, ymgysylltu ar-lein hyd at dasgau mwy cymhleth fel rhaglennu. Mae rhai pobl yn wynebu rhwystrau sgiliau dim ond wrth ddysgu mewn amgylchedd digidol.
Felly gan fod Jisc wedi gwneud y gwaith hwnnw'n barod, roedd y broses yn haws i ni ac mae rhai o'r adnoddau roeddem yn eu defnyddio, er enghraifft LinkedIn Learning, hefyd wedi mapio eu hadnoddau eu hunain yn barod i fframwaith galluoedd digidol Jisc. Gwnaethom weithio gyda Jisc i greu'r ganolfan ddigidol.
Gwnaethom weithio'n agos gyda'n rheolwr cyfrif a roddodd gryn dipyn o gyngor i ni am yr hyn y gallai Jisc ei ddarparu i'n rhoi ar ben y ffordd. Rhoddodd astudiaethau achos ac adborth gan sefydliadau eraill a oedd eisoes wedi gwneud yr hyn roeddem yn ceisio ei wneud i ni hefyd. Mae gan Jisc gymunedau ymarfer ac roedd cyfleoedd i ni ymuno â'r cymunedau hynny a dysgu o brofiad eraill.
Y gwersi allweddol a ddysgwyd yn sgil datblygu'r GanolfanDigidol a dweud y gwir yw nad yw sgiliau digidol a galluoedd digidol mewn gwirionedd yn ymwneud â'r digidol, nid ydynt yn ymwneud â'r dechnoleg. Maent yn ymwneud â phobl. Maent yn ymwneud ag ofn pobl, â pharodrwydd pobl i ymgysylltu, â phobl yn deall beth y maent yn ei wneud a sicrhau bod pethau'n gweithio iddynt.
Mae'r staff a'r myfyrwyr wedi croesawu'r GanolfanDigidol. Rydym wedi dechrau drwy gyflwyno'r ganolfan yn raddol i grwpiau gwahanol. Mae hynny'n golygu y gallwn deilwra'r hyn rydym yn ei ddarparu, gan ddechrau gyda'r staff addysgu. Felly rydym wedi ymgysylltu ag amrywiaeth sylweddol o staff addysgu dros yr ychydig fisoedd diwethaf. A bu'r adborth a gawsom hyd yn hyn yn eithriadol o gadarnhaol.
Megis dechrau y mae'r gwaith. Felly rydym wrthi'n gwerthuso'r data defnydd a'r data ansoddol a ddeilliodd o rai o'r cyfweliadau lled-strwythuredig y buom yn eu cynnal â'r staff hefyd. Prif fudd y GanolfanDigidol yw ein bod wedi bod yn llenwi bwlch y mae pobl am ei lenwi, y mae ei angen ar bobl. Mae galw eithriadol amdani ac mae pobl yn awyddus i wybod pryd y bydd ar gael. Ac rydym yn teimlo ein bod wedi darparu rhywbeth y gwnaeth pobl ddarganfod, yn ystod y pandemig, yr oedd ei angen yn ddifrifol arnynt. Felly dyna fyddai'r prif fudd.
Rydym yn defnyddio adnodd Darganfod Jisc fel man cychwyn er mwyn i staff a myfyrwyr werthuso eu lefelau sgiliau digidol. Felly byddent yn cael awgrym y dylent-- byddem yn awgrymu iddynt y dylent gwblhau'r adnodd Darganfod. Wedyn mae'r adnodd Darganfod yn rhoi adroddiad personol iddynt sy'n breifat iddyn nhw. Ni fyddwn ni'n ei weld. Ac mae'n gwerthuso eu lefelau sgiliau digidol presennol yn erbyn meini prawf Jisc.
Mae hyn wedyn yn eu galluogi i ystyried pa uwchsgilio y gallai fod ei angen arnynt, y meysydd lle maent yn dangos cryfder a'r meysydd lle maent o bosibl yn dangos gwendid. O hyn, fel sefydliad, rydym hefyd yn gallu gweld dangosfwrdd ar wefan Jisc sy'n rhoi data i ni, data dienw, y gallwn eu defnyddio i nodi tueddiadau ac i nodi gwelliannau, i nodi meysydd o angen ym mhob rhan o'r sefydliad i'n helpu i deilwra'r cymorth rydym yn ei ddarparu yn well.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cydnabod bod sgiliau digidol yn un o'r meysydd sgiliau y mae angen canolbwyntio arno ar gyfer y dyfodol. Mae hefyd yn cydnabod bod tlodi digidol ac allgáu digidol yng Nghymru yn uwch nac yng ngweddill-- yn y DU gyfan ar gyfartaledd. Felly, i fi, dyna'r mater allweddol. Does dim modd ei drawsnewid heb ddarparu'r mynediad a'r sgiliau i'ch poblogaeth gyfan neu i gymaint o'r boblogaeth â phosibl.
Hefyd, wrth ddatblygu'r GanolfanDigidol, rydym yn ceisio sicrhau bod cymaint o adnoddau â phosibl ar gael yn hawdd, heb orfod mewngofnodi. Weithiau, mae hynny'n amhosibl. Er enghraifft, lle ceir cyfyngiadau trwyddedu. Mae hynny'n golygu mai dim ond i'ch staff a'ch myfyrwyr eich hun y gallwch roi mynediad. Ond cymaint â phosibl, rydym yn ceisio sicrhau bod popeth ar gael.
Rydym hefyd yn gweithio ar drefnu pecynnau o'n gwasanaethau i'w defnyddio yn ystod y cyfnod pontio rhwng ysgolion, oherwydd yn ein barn ni, mae gennym ran i'w chwarae yn y gymuned wrth gefnogi datblygiad sgiliau digidol o blentyndod hyd at fywyd fel oedolyn oedrannus, drwy gydol gyrfaoedd pobl, nid dim ond pan fyddant yn 18 oed ac yn dechrau ym myd addysg uwch neu pryd bynnag y byddant yn dechrau ym myd addysg uwch.