Transcript
JESSICA LEIGH JONES:
Mae'r gair digidol wir wedi datblygu o ran ei ystyr. Felly pan ddes i ar draws y gair digidol fel peiriannydd am y tro cyntaf, roeddwn i'n cymryd bod hynny'n golygu un a sero, y cod deuaidd, ond bellach mae'r term digidol wedi datblygu i gael ystyr llawer ehangach a mwy cyfannol am lif gwaith ac arweinyddiaeth a ffyrdd hyblyg o weithio. Felly pan fyddwn yn meddwl am safonau yn y byd digidol, mae'n hawdd iawn canolbwyntio'n ormodol ar y syniad o ddefnyddio adnoddau penodol.
Ac yn ein sefydliad yn y gorffennol, gwnaethom y camgymeriad o orfodi pobl i ddefnyddio rhai adnoddau penodol. Nid ydym yn gwneud hynny bellach. Felly os ydynt yn defnyddio iPad, efallai y byddant yn defnyddio Procreate, os ydynt yn defnyddio peiriant Windows, efallai y byddant yn defnyddio Inkscape. Ac mae hynny'n iawn ar yr amod bod y fformat yr un peth. Ond hefyd, nid yr adnodd ei hun yw'r peth pwysicaf yn fy marn i, ond sut y caiff ei ddefnyddio.
Felly, er enghraifft, mae adnoddau mapiau meddwl fel Miro, MURAL, Google Jamboard, mae'r rhain yn wych ar gyfer cydweithio ond dim ond os byddwch yn gwneud y gwaith paratoi i fynd â'ch defnyddwyr drwy'r daith honno. Felly nid yw'r adnodd ei hun yn gwneud iawn ar gyfer y llif gwaith. Mae'r adnodd yn rhan o'r llif gwaith. Mae tri math o rôl ddigidol mewn sefydliad modern.
Mae penseiri digidol neu arweinwyr digidol, a rhain yw'r bobl sydd wir yn deall llif gwaith digidol ac yn deall sut mae creu a hwyluso cydweithio o fewn y gweithlu. Yna mae gennych ddatblygwyr digidol. Felly rhain yw'r bobl nodweddiadol rydym yn meddwl amdanynt wrth sôn am waith digidol. Codwyr a rhaglenwyr yw'r rhain. Y bobl sy'n datblygu'r adnoddau rydym yn eu defnyddio i alluogi ein sefydliadau i fod yn ddigidol.
Ac yna mae pawb arall. Mae pawb arall yn y categori defnyddwyr digidol. Felly, ni waeth pa rôl nac ar ba lefel, pan fyddwch yn recriwtio rhywun i sefydliad neu'n mynd drwy drawsnewidiad digidol gyda'ch gweithlu presennol, mae'n rhaid i chi feddwl am y sgiliau defnyddiwr digidol sylfaenol hynny sydd eu hangen ar bawb.
GEMMA HALLETT:
Mae technoleg mor wahanol yn y gweithle. Rwy'n gweld hyn drwy'r amser gyda'n cwmni newydd arloesol; cwmnïau newydd sy'n tyfu'n gyflym ac yn symud yn gyflym. Maent yn lleoedd cyffrous i weithio, gyda'r dechnoleg ddiweddaraf. Ac yna rwy'n gweld efallai-- er mwyn cael swydd well, mi fyddaf yn dewis yr awdurdod lleol. Rwyf wedi cerdded i mewn i adeiladau cyngor lle maent yn defnyddio monitorau bwrdd, allweddell a llygoden. Ac os mai hwn yw'r byd gwaith y mae'r bobl ifanc hyn yn ymuno ag ef, yna mae hynny'n gofyn am set wahanol o sgiliau, yn enwedig sgiliau digidol, na'r rhai ar gyfer cwmnïau sy'n tyfu ac yn symud yn gyflym. Mae hynny o ran technoleg a'r byd digidol.
Ond rydym yn gweld hyn yn y sector gofal hefyd. Mae pethau wedi newid o ysgrifennu adroddiadau dyddiol a'u gadael yn y gegin neu-- yn enwedig ym maes gofal domestig lle mae gweithwyr gofal wedi rhoi'r gorau i ddefnyddio pen a phapur a nawr mae iPad ar y wal lle mae’n rhaid iddynt gofnodi popeth yn ddigidol. Ac mae'r prinder sgiliau yn y maes hwnnw o ran sgiliau digidol yn enfawr. Yr hyfforddiant y mae'n rhaid ei wneud fel bod rhywun sydd wedi bod yn y diwydiant gofal am y 10, 20, 30 mlynedd diwethaf yn gallu defnyddio iPad a'r apiau a gaiff eu defnyddio i fonitro popeth. Dyna sut mae'r sector gofal yn datblygu. Ac mae angen y set honno o sgiliau ar gyfer hynny hefyd.
JONATHAN MORGAN:
Mae'n hawdd iawn, pan fyddwch mewn amgylchedd addysg, i chwarae gyda chysyniad neu adnodd. Ond, yn y byd go iawn, yr hyn y mae'r cwsmer eisiau ydy cynnyrch gorffenedig, sy'n gweithio 100% heb ddiffygion gyda dogfennaeth, y gair ofnadwy hwnnw nad oes neb yn ei hoffi. Ond, mewn gwirionedd, cynnyrch sydd wedi mynd drwy'r broses feddwl o'r dechrau i'r diwedd. Ac efallai, ym myd addysg, wrth i ni ymgymryd â thrawsnewid digidol, wrth i ni ystyried technolegau newydd y gellir eu defnyddio, mae'n ymwneud ag ansawdd y cynnyrch gorffenedig y bydd cwsmeriaid am ei gael yn y pen draw yn y byd go iawn.
Mae ffyrdd newydd o weithio yn rhyfeddol. Y cynhyrchiant sy'n deillio o adnoddau newydd, rhai o'r pethau newydd sy'n digwydd yn fy myd i ac mewn perthynas â rheoli asedau. Sut mae chwilio mewn fideo? Allwch chi chwilio wynebau pobl? Allwch chi chwilio drwy'r testun? Allwch chi ddadansoddi fideo i wybod mai ras geir sydd ar y sgrin, neu olygfa ramantaidd, bod rhywbeth arall yn digwydd a gallu chwilio yn unol â hynny. Felly mae rhai o'r technolegau sy'n dod i'r amlwg o ran cynhyrchiant a swyddogaeth, maent yn mynd i drawsnewid y ffordd y caiff data eu defnyddio yn niwydiant y cyfryngau ac mae hynny'n gyffrous iawn.
BECKI VICKERSTAFF:
Os rydym yn meddwl y tu hwnt i'r sector addysg yn y lle cyntaf. Os edrychwn ar ein byd digidol yn unig, mae bron popeth y mae angen i ni ei wneud yn digwydd ar-lein os ydym yn meddwl am dalu treth car hyd yn oed, pethau felly. Mae hynny'n golygu bod angen i ni allu gwneud y pethau hyn ar-lein. Felly'r syniad cychwynnol hwnnw-- rhaid bod yn ymwybodol o'r dechnoleg briodol a'r technegau priodol er mwyn gallu-- eto, mae'n golygu ffynnu'n llwyddiannus mewn byd digidol ond hefyd mae bod yn ymwybodol o'n gallu digidol ein hunain yn bwysig iawn.
Ac rwy'n credu, gyda staff a myfyrwyr yn y lle cyntaf, mae consensws i raddau, os hoffech chi, fod gan fyfyrwyr sgiliau digidol naturiol pan fyddant yn dod i'r brifysgol, eu bod yn fodlon yn gwneud hyn. Ond p'un a yw hynny o reidrwydd yn wir, rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei ddeall yw'r defnydd cywir o'r technolegau digidol hyn a sut mae cefnogi staff a myfyrwyr. Felly rydym yn meddwl am anghenion digidol ein myfyrwyr a'n graddedigion hefyd. Pan fyddant yn mynd allan i'r gweithle, mae'r gweithle yn newid yn sylweddol ar hyn o bryd o ran y gofod digidol.
Felly mae angen i ni roi'r sgiliau digidol trosglwyddadwy hynny iddynt. Ac rwy'n meddwl gan fod technoleg yn datblygu mor gyflym, er enghraifft, yn sydyn, mae'n debyg bod pawb yn fwy ymwybodol o Teams a Zoom nag erioed o'r blaen. Felly mae wedi rhoi'r syniad i ni fod angen i ni allu addasu i gyd-fynd â hynny. Felly mae angen i ni wir ymgorffori dysgu gydol oes, ymgorffori'r lle i ehangu'r sgiliau hynny a gallu eu dysgu hefyd.
MYLES OGILVIE:
Dangosodd y pandemig yn glir fod meddalwedd yn galluogi pob sefydliad. Felly p'un a ydych chi'n dafarn neu'n brifysgol neu'n ysgol neu'n fusnes, mae meddalwedd yn gwneud gwahaniaeth rhwng eich gallu i oroesi neu fethu. Os ydych chi'n dafarn, mae gallu olrhain pobl yn ystod y pandemig i gasglu siopa o'r drws neu ryngweithio â'ch cwsmeriaid mewn rhyw ffordd. Yr un mor bwysig.
Felly'r syniad bod “meddalwedd yn bwyta'r byd” yw un o'r ymadroddion a gaiff eu defnyddio. Mae hyn wedi bod yn wir ers sawl blwyddyn. Rydym yn yr oes ddigidol ac, yn wahanol i'r oes masgynhyrchu pan oedd gwaith yn cael ei optimeiddio yn unol â chysondeb a safoni ac allbwn fesul munud, gyda meddalwedd, nid yw defnyddwyr yn gwybod beth sydd ei angen arnynt nes y byddant yn ei weld. Ac mae popeth yn wahanol ac mae angen dull optimeiddio gwahanol.
Sut mae trawsnewid digidol yn edrych yn y dyfodol? Mae rhai pethau allweddol i'w cadw mewn cof. Yn gyntaf, ym mhob rhan o'r diwydiant, rydym yn gweld sefydliadau ar ddechrau'r daith hon. Ac felly mae llawer o newid o'n blaenau. Ac ni fydd yn stopio. Nid yw fel bod cam terfynol y mae angen ei gyrraedd, ond mae newid allweddol yn digwydd ar hyn o bryd.
A drwy wneud y newidiadau hynny, byddem yn dweud yn gyntaf, fel arweinydd, fod angen i chi fod yn meddwl o ddifrif am y math o arweinyddiaeth sydd ar gael, cael eglurder o ran diben a herio eich hun o ran sut i ddangos tystiolaeth a chanfod llwyddiant. Mae angen i chi feddwl o ddifrif am strwythur eich sefydliad. Ydych chi wedi'ch optimeiddio ar gyfer llif gwerth, neu ydych chi mewn seilo sy'n seiliedig ar rolau o hyd? Ac mae angen meddwl o ddifrif am y system waith. Sut mae cyflawni'r weledigaeth o'r strategaeth i'r cam cyflwyno, sut mae ailflaenoriaethu'n rheolaidd yn seiliedig ar wybodaeth a gwersi a ddysgwyd a newid ffocws i'r peth cywir.
NATASHA DAVIES:
Felly rwy'n credu, fel busnesau, ond hefyd gan y llywodraeth, fod angen i ni fuddsoddi mewn sgiliau digidol sylfaenol heb os er mwyn gwneud yn siŵr bod gan bawb linell sylfaen dda. Rwy'n credu y bu'n rhaid i rai sefydliadau yn eithaf cyflym, yn ystod y pandemig, fabwysiadu dull gweithredu llawer mwy digidol yn gyntaf. Rydym wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n defnyddio systemau fel Teams, sy'n datblygu ac yn newid yn gyson wrth i nodweddion newydd gael eu cyflwyno i gefnogi cydweithio.
Felly rwy'n meddwl hefyd ei fod yn mynd y tu hwnt i'r sgiliau digidol sylfaenol a gwneud yn siŵr ein bod yn cefnogi staff, a'n gweithlu, a'n harweinwyr i fod yn hyderus wrth groesawu technoleg newydd a rhoi cynnig arni wrth iddi gael ei chyflwyno. Ni all hyn fod yn rhywbeth sefydlog. Felly mae angen i ni sicrhau ein bod yn creu diwylliant lle mae dysgu'n gyson yn gyffredin. Ac rwy'n gwneud yn siŵr bod mesurau cefnogi a hyfforddiant ar waith gennym, ac yn sicrhau bod pobl yn hyderus pan gaiff technoleg newydd ei chyflwyno neu wrth i'r dechnoleg rydym yn ei defnyddio bob dydd newid, oherwydd caiff y datblygiadau hyn eu cyflwyno mor gyflym, mae'n anodd dal i fyny weithiau.
Rwy'n meddwl y bydd angen i ni wneud yn siŵr bod gan arweinwyr, yn benodol, ddealltwriaeth dda o'r ffordd orau o ddefnyddio adnoddau digidol gwahanol i gefnogi ffyrdd hyblyg a chynhwysol o weithio. Nid oes un ateb digidol yn mynd i gynnig popeth sydd ei angen arnom. Felly bydd yn rhaid i'n harweinwyr fod yn hyderus iawn wrth wneud hynny a gallu arwain drwy esiampl yn hynny o beth, oherwydd os oes gennych arweinydd sy'n betrusgar iawn ynghylch technoleg newydd, mae hynny'n mynd i effeithio ar y ffordd y gall timau weithio.
ELISE LOCKYER:
O ran trawsnewid digidol, os gofynnwch i mi beth sy'n mynd i ddigwydd yn ystod y 5 neu'r 10 mlynedd nesaf, alla i ddim dweud wrthych chi. Ni allwn fod wedi dweud wrthych chi beth fyddai wedi digwydd cyn y pandemig. Felly'r sgiliau gorau y gall unrhyw unigolion eu cael mewn sefydliad neu wrth ddechrau swydd am y tro cyntaf yw'r dyhead i ddysgu'n gyson, tyfu, datblygu, gofyn cwestiynau, chwilfrydedd, a bod yn agored yn barhaus, gyda'r ysgogiad i ddysgu, tyfu a datblygu eu sgiliau.
Wrth gwrs, mae'r holl sgiliau digidol sylfaenol sydd gan blant heddiw, ac oedolion heddiw mewn amgylchedd gwaith proffesiynol, yn bwysig iawn, iawn. Ond y gallu a'r natur agored a'r ysgogiad i ddatblygu'r sgiliau hynny, dysgu mwy, addasu, tyfu, yw'r sgiliau meddal sy'n mynd i'ch galluogi i wella a gwthio eich hun a'ch busnesau ymlaen.