Transcript
JESSICA LEIGH JONES
Term a ddeilliodd o'r Almaen yw Industry 4.0. Daeth yn wreiddiol o'r diwydiant gweithgynhyrchu. Ac mae'n disgrifio'r pedwerydd Chwyldro Diwydiannol. Nawr, roedd ystyr gwreiddiol Industry 4.0 yn ymwneud â thechnoleg i raddau helaeth, ac yn benodol sut y gellir dwyn technolegau ynghyd i gynyddu cynhyrchiant, cynyddu effeithlonrwydd, gwella ansawdd mewn sefydliad gweithgynhyrchu.
Nawr, mae'r diffiniad o Industry 4.0 wedi ehangu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Ac mae bellach yn rhychwantu bron pob diwydiant. Ac mae'n golygu trawsnewid digidol. Ond mae a wnelo llai â'r dechnoleg. Ie, mae technoleg yn rhan ohono. Mae robotiaid yn rhan ohono.
Mae awtomeiddio prosesau yn rhan ohono. Ond mewn gwirionedd, mae Industry 4.0 yn ymwneud yn fwy ag esblygiad mewn ymddygiad dynol. Mae'n disgrifio'r ffordd y mae ymddygiadau defnyddwyr wedi newid, y disgwyliad o gael gwasanaeth ar unwaith, er enghraifft. Ac felly, Industry 4.0 yw pa dechnegau, pa dechnolegau, pa adnoddau, pa ffyrdd o weithio y gallwn eu mabwysiadu i ddiwallu anghenion y defnyddiwr modern.