Transcript

SCOTT STONHAM
Yn ddiweddar cefais wahoddiad gan Jisc i weithio gyda nhw ar adroddiad amserol a diddorol iawn ar olion troed carbon digidol. Roedd y cwmni am sbarduno'r drafodaeth. Tynnu llinell yn y tywod a dechrau siarad am olion troed carbon digidol. Mae yna-- rwy'n credu bod pob un ohonom yn sylweddoli bod llawer o sgyrsiau diddorol wedi bod-- dros yr ychydig ddegawdau diwethaf, os edrychwch chi'n ôl, mae ymchwil ardderchog eisoes wedi'i gwneud i ddeall yr ôl troed carbon a'r ffordd y mae ein bywydau technolegol a'n defnydd o adnoddau digidol yn defnyddio ynni.
Pan oeddem yn llunio'r adroddiad hwn, gwnaethom benderfynu canolbwyntio ar bedwar maes-- caffael, TG ar safleoedd, y cwmwl, a'r math o elfen o bell oherwydd bod gennych yr elfen gaffael, y TG ar y safle, technoleg cwmwl, yn ogystal â gweithio o bell. O ran yr elfen brynu, gwnaethom ymchwilio o ddifrif i effaith cwmpas 3 prynu'r cyfarpar rydym yn ei brynu, sut rydym yn ei ddefnyddio am fwy o amser, sut rydym yn cyflwyno athroniaeth ac arferion adnewyddu cyfarpar TG wedi'i ailweithgynhyrchu i'n hamgylcheddau er mwyn ein helpu i ymestyn oes yr asedau hyn fel nad oes rhaid i ni barhau i brynu pethau newydd.
Gwnaethom hefyd ystyried sut rydym yn gwneud yn siŵr ein bod yn rhoi'r polisïau cywir ar waith er mwyn sicrhau nad yw'r cyfarpar yn cael ei daflu neu'n cael ei anfon i safle tirlenwi neu ei doddi gan greu nwyon niweidiol ar ôl i ni orffen ei ddefnyddio. Mae llawer o ddulliau, awgrymiadau a thechnegau y gallwn eu hystyried yma, o ddeall sut rydych chi'n cyrraedd dealltwriaeth cwmpas 3 ar lefel cynnyrch, a all helpu unigolion i ymrwymo i newid yn llawer gwella na chymhelliant ariannol neu gost yn unig. Ac yna gwnaethom ystyried hefyd-- pan rydym yn meddwl am yr ochr ar y safle a'r ochr gaffael, sut mae gwneud yn siŵr bod gennym y llinellau sylfaen cywir i sicrhau ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir pan fyddwn yn prynu pethau? Gwnaethom siarad rywfaint am linellau sylfaen a mesur pethau. Ac mae'n bwysig i ni allu defnyddio'r llinell sylfaen honno, ond rwy'n deall y bydd y llinell sylfaen yn newid wrth i ni ddatblygu ein dealltwriaeth ymhellach.
Mae'r elfen gaffael yn bwysig iawn, oherwydd os edrychwn ar allyriadau carbon TG yn gyffredinol, mae 80% o'r allyriadau carbon wedi'u priodoli i'r hyn a elwir yn garbon ymgorfforedig a charbon cyfatebol o fewn y cynnyrch hwnnw. Felly mae hynny'n golygu'r allyriadau carbon a gynhyrchwyd drwy'r broses o weithgynhyrchu, adeiladu a dosbarthu eich cyfarpar.
Yna, wrth gwrs, mae gennych y broblem e-wastraff hefyd. Felly beth sy'n digwydd iddo unwaith y bydd wedi mynd? Ydych chi'n ei ailddefnyddio? Ydych chi'n ei ailgylchu? Ydych chi'n ei rannu i'w fwynau ac yn ailddefnyddio'r rheini? Mae hynny i gyd yn swm enfawr o gyfanswm ôl troed carbon darn o gyfarpar TG. Ar ben hynny, mae gennych yr ynni a'r allyriadau sy'n gysylltiedig â'r pethau sy'n digwydd pan fyddwch yn ei ddefnyddio. Ond mae hyn yn tueddu i fod yn 20%.
Felly os ydym yn chwilio am y maes mwyaf i ganolbwyntio arno, mae'n rhaid gwneud yn siŵr ein bod yn gwneud penderfyniadau doethach, mwy hirdymor am y pethau rydym yn eu prynu a beth sy'n digwydd iddynt ar ôl i ni orffen eu defnyddio. Ac, yn ddelfrydol, sut rydym yn gwneud yn siŵr bod yr amser-- y cyfnod defnyddiol yn hirach? Sut rydym yn gwneud hynny'n amser gwasanaeth hirach?
Felly, mae caffael yn bwysig iawn. Ond nid yw'r holl wybodaeth yno eto. Ac mae hyn yn un o'r pethau hynny sy'n ymwneud ag ansicrwydd gweithio mewn byd lle nad ydym yn gwybod popeth y mae angen i ni ei wybod. Felly dyma lle gallwn ni ddechrau edrych ar gwmpas 1, cwmpas 2, cwmpas 3, o fewn y protocol nwy tŷ gwydr hefyd. I grynhoi, cwmpas 1 yw'r ynni rydym yn ei brynu ac yn ei ddefnyddio, cwmpas 2 yw'r ynni a'r allyriadau sy'n gysylltiedig â rhedeg ein hadeiladau a'n fflyd, ac mae popeth arall yn mynd o'r cynhyrchion a'r gwasanaethau rydym yn eu prynu a'r allyriadau a gafodd eu creu wrth gynhyrchu a dosbarthu'r rheini i ble y caiff ein harian ei ddefnyddio yn y pensiynau a'n buddsoddiadau i'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio gan ddefnyddwyr terfynol ein cynhyrchion a'n staff a'n timau.
Mae 15 categori i gwmpas 3. Y gyfran fwyaf o'r holl allyriadau ar gyfer pob sefydliad yw hyn. O fewn y cwmpas 3 hwnnw, prynu gwasanaethau a nwyddau yw'r rhan helaeth ohono. Mae hynny'n rhyw 90% o gwmpas 3 y rhan fwyaf o bobl, 70 i 90%. Felly mae hynny'n rhywbeth y mae gan y gadwyn gyflenwi a chaffael reolaeth drosto. Yn yr adran ar y safle, gwnaethom ystyried pethau fel technoleg sylfaenol yn bennaf y byddech yn disgwyl i sefydliad TG fod yn gyfrifol amdani-- felly sgriniau gliniaduron, llygod, a phob math o bethau eraill.
Ond y peth arall y mae'n rhaid i ni feddwl amdano yw bod y byd TG yn ymestyn i'n hadeiladau a'n hystadau nawr hefyd. Mae popeth yn dod yn fwy clyfar, adeiladau clyfar, mae ein hadeiladu-- mae ein hadeiladau yn cael effaith enfawr ar yr amgylchedd, ond gallant gael effaith fwy cadarnhaol hefyd os ydym yn meddwl amdanynt yn ofalus.
Ac mae TG yn cael ei galluogi-- mae'n cael ei roi ar waith i alluogi hynny hefyd. Felly'r ochr ar y safle, nid yw'n ymwneud â gliniaduron a gweinyddion yn unig, mae'n ymwneud â phethau cysylltiedig eraill hefyd. Mae'r cwmwl yn faes diddorol oherwydd, eto, rydym yn meddwl am y cwmwl fel rhywbeth pell o'r golwg, pell o'r meddwl y rhan fwyaf o'r amser. Ond mae cost i storio data, mae cost i gael gafael ar ddata a'u prosesu. Ac nid yw hynny'n gost ariannol yn unig yn amlwg, mae cost o ran carbon hefyd.
Felly gwnaethom ystyried rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i helpu i ddeall beth yw'r costau hynny a rhai o'r pethau y gallwn eu gwneud i helpu i leihau'r costau hynny. Mae gan bob un ohonom raglenni sy'n rhedeg yn y cwmwl drwy'r amser nad oes eu hangen arnom drwy'r amser. Mae systemau Adnoddau Dynol yn rhedeg-- yn eistedd yno ar y gweinyddion ers nad oes eu hangen arnom os yw'r sefydliad ar wyliau neu y tu allan i'r tymor. Felly gallwn wneud pethau yn hynny o beth.
Mae yna-- gan yr holl brif weithgynhyrchwyr, darparwyr cwmwl, maent yn darparu eu cardiau sgorio eu hunain a'r dangosfyrddau carbon eu hunain hefyd. Felly gall deall eu bod nhw yno a gwybod sut i'w defnyddio helpu i godi ymwybyddiaeth. Rhan fawr o hyn hefyd yw tynnu'r data hynny a gwneud yn siŵr ein bod yn deall beth yw'r data hynny fel ein bod yn gwybod beth yw'r llinell sylfaen, ac eto, fel y gallwn ei gwella.
O'r safbwynt gweithio o bell, gwnaethom ystyried cost ynni. Sut rydym yn deall yr ynni sy'n cael ei ddefnyddio gan ein gweithlu? Sut rydym yn gwella'r mynediad at gyfarpar mewn ffordd sy'n golygu nad ydym yn ychwanegu at yr ôl troed carbon ar gyfer-- wn i ddim, os yw eich gliniadur yn torri, nid oes angen i chi fynd i mewn i'r swyddfa i gael un newydd. Sut mae datrys pethau mewn ffordd fwy clyfar?
Felly mae hynny i gyd yn yr adroddiad. Ac mae llawer o awgrymiadau a syniadau gwahanol o ran sut mae optimeiddio cyflymder ffaniau mewn canolfan ddata ar y safle i sut y gallech ddefnyddio plwg clyfar fel hyn i ddeall a gêmeiddio newid drwy adrannau gwahanol ond hefyd drwy weithio o bell a dysgu o bell.