Transcript
SCOTT STONHAM: Er mwyn gwneud rhai o'r newidiadau hyn, mae gwir angen i ni wthio'r newidiadau ymddygiad hyn, a rhyw fath o, cymell y newidiadau ymddygiad hyn. Ac yn y deyrnas ddigidol, mae yna rai pethau y gallwn edrych arnynt a'u cyfleu.
A dwi'n credu mai'r allwedd i wneud hyn i ddigwydd yw gwybod beth i'w fesur a gwybod beth i'w gyfleu. Ac yna ar ôl i ni fesur rhywbeth a chreu llinell sylfaen, gallwn wobrwyo ar gyfer gwelliant yn erbyn y llinell sylfaen honno. Ond yn gyntaf, mae angen i ni gael y llinell sylfaen honno.
Felly mae meysydd gwahanol y gallwn edrych arnynt. Gwnaethom gyffwrdd â rhai ohonynt yr adroddiad hefyd. Un enghraifft fyddai storio data. Mae'r storfa ddata allan o'r golwg, allan o'r meddwl, oni bai fod gennych y rhai hen ffasiwn. O, mae gen i un acw. Disgiau caled rydych chi'n eu plygio i mewn, dydych chi ddim wir yn meddwl am ble mae eich data'n cael eu storio. Ac rydyn ni'n meddwl, unwaith eto, bod digidol yn ddi-garbon. Dydy e ddim. Nid yw digidol yn ddi-garbon.
Mae ôl-troed carbon i storio data yn y cwmwl, eu hanfon i'r cwmwl, eu darllen yn ôl o'r cwmwl. Mewn gwirionedd, dwi'n credu mai Prifysgol Stanford ddywedodd y byddai 100 gigabeit o ddata yn creu rhyw 0.2 tunnell o allyriadau carbon y flwyddyn.
Mae llawer o ddarnau 100 gig o ddata'n eistedd o gwmpas yn gwneud dim byd. Mae yna ddarn o ymchwil arall. Dwi'n credu iddi ddod wrth Jessica, a dweud y gwir. Dywedon hwnnw y caiff 90% o ddata eu creu, a'u storio a byth eu defnyddio eto.
Felly, mae'r holl ddata hyn yn cael eu gadael ar hyd y lle. Nawr, o ran y darn mesur, gallen ni ddechrau drwy fesur faint o ddata sydd gan unigolion ar hyd y lle drwy gyfrifo pa mor aml y caiff y data hyn eu cyrchu a'u defnyddio a chanfod y darnau hynny o ddata sydd wedi bod yn sefyll yno am oesoedd ac nad oes neb wedi gwneud dim â nhw.
Ac yna gweld sut i gyfathrebu â'r bobl hynny. Sut maen nhw'n cael gwared arnynt mor syml? Sut maen nhw'n cael gwared arnynt? Gwnewch bethau'n syml.
Cyn gynted ag y gwnewch chi unrhyw beth mwy na dau gam, yna ni fydd pobl yn ei wneud. Felly, mae'n rhaid i chi wneud pethau'n syml, dau neu dri cham. Bydd yn cael ei wneud. Ond mae'n rhaid iddyn nhw wybod beth maen nhw'n mynd i'w wneud a pham maen nhw'n mynd i'w wneud.
Felly mesur, cyfathrebu a chymell yn seiliedig ar storio data. Gallai un arall olygu rhannu dogfennau a negeseuon e-bost enfawr, gan ymateb i'r holl bethau hyn. Mae'r data yno i ni eu dadansoddi. Mae yno'n sefyll yn ein systemau.
Mae angen i ni weld beth yw'r data a sut mae cyfleu hynny mewn ffordd sy'n galluogi pobl i wneud newidiadau syml. Gallai'r llall fod yn alwadau fideo hefyd. Gall cymell pobl i ddiffodd y fideo, hyd yn oed am bum munud o alwad un awr, wneud gwahaniaeth mawr.
Ac unwaith eto, gellir tracio hynny drwy'r systemau hefyd. Felly mesur, cyfathrebu a gwobrwyo ymddygiad da. Ond mae'n gofyn i ni allu gosod y llinellau sylfaen hynny. A dyna beth mae angen i ni weithio arno yn gyntaf.