Transcript
SCOTT STONHAM
Mae pob un ohonon ni wedi dod i'r arfer â gadael pethau ymlaen. Does gan lawer o bethau ddim defnydd enfawr pan fyddant yn gwneud dim. Bydd set deledu nodweddiadol, os oes gennych sgrin deledu gymharol fawr ac yn ei gadael ar y modd segur, yn defnyddio rhyw 0.7 watt o wneud dim byd. Nid yw hynny'n swm aruthrol, ond mae'n rhywfaint.
Bydd uned sain glyfar, fel yr un sydd gen i yn y fan yna, yn creu hyd at 3.8 watt rwy'n credu, a hynny'n gwneud dim, dim ond eistedd yna. Nawr, os ystyriwch chi fod hynny'n gwneud 3.8 watt o leiaf, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, a dydw i ddim yn ei ddefnyddio drwy'r amser. Rydw i ond yn ei ddefnyddio pan fyddaf yn effro. Mae'n swm enfawr o bŵer sy'n cael ei wastraffu am rywbeth sy'n eistedd yno'n gwneud dim byd.
Mae cymaint o bethau rydym wedi dod i'r arfer â'u gadael ymlaen naill ai oherwydd ei fod yn gyfleus neu nad oeddem wir yn sylweddoli bod angen iddo fod – mae ymlaen mewn gwirionedd. Er nad ydyn nhw'n gwneud unrhyw beth, mae gadael ein dyfeisiau yn y plwg, ein cyflenwadau pŵer ymlaen, yn cynhyrchu – maen nhw'n defnyddio egni. Felly, rydw i wedi cyrraedd y syniad yma – peidio â gadael ar y modd segur. Diffodd. Gadewch i ni roi cynnig ar wneud yn siŵr ein bod ni'n diffodd pethau cymaint ag y gallwn ni.
Mae rhywbeth arall syml iawn y gall pob un ohonom ei wneud hefyd, sef troi pethau i lawr. Rydw i nawr yn edrych ar y sgrin 4K sydd o'm blaen i. Mae'n allyrru disgleirdeb diofyn o 95%. Rydw i wedi'i droi i lawr i 55%. I mi, does dim gwahaniaeth. Rwy'n gallu ei ddefnyddio yn yr un ffordd yn union, hyd yn oed mewn golau haul llachar fel sydd gen i'r funud hon. Ond mae'r newid hwnnw rhwng 95% a 55% yn arbed 10 watt i mi am bob awr o ddefnydd. Felly mae hynny'n adio i fyny rywsut, a dim ond fi yw hwnnw. Os byddwn yn lluosi hynny â'r miloedd neu'r degau o filoedd o bobl, daw'r 10 watt hwnnw'n eithaf sylweddol fwyaf sydyn.
Ac rwy'n credu mai'r peth arall sy'n amlwg iawn - neu heb fod yn amlwg iawn, dylen i ddweud, yw'r modd tywyll. Wnes i byth ddeall yn llwyr effaith y modd tywyll, ond os oes gennych sgrin OLED ar eich ffôn neu os ydych chi ar eich gliniadur neu ar eich sgrin o'ch blaen, os ydych chi – os ydy un o'r picseli hynny'n ddu, mae wedi'i ddiffodd, nid yw'n defnyddio unrhyw bŵer. Felly, mewn gwirionedd, gallwch chi – ar fy ffôn yma, mae yna sgrin OLED. Os byddaf yn defnyddio'r modd tywyll drwy'r amser, gallaf gael bron i 30% yn fwy o fywyd allan o'r batri, sy'n golygu y bydd yn rhaid i mi ei wefru'n llai nag yr oedden i'n arfer ei wneud. Unwaith eto, peth bach, ond os byddwch yn lluosi hynny â degau neu filoedd mae'n effaith eithaf cronnol.
Mae wastad cwestiwn pam – os daw 80% o'n hallyriadau yn y pethau a brynwn a'r pethau a ddefnyddiwn, pam y mae angen i ni boeni cymaint am gwtogi ar yr egni a ddefnyddiwn wrth ddefnyddio gliniadur a diffodd pethau? Rwy'n credu mai stori am newid ymddygiad mewn ffordd ataliol yw hon mewn gwirionedd. Dim ond cyflymu y mae ein defnydd o'n technoleg yn ein bywydau digidol. Rydym yn gweld mwy a mwy o ffyrdd o ddefnyddio technoleg, mewn ffyrdd nad ydym erioed wedi meddwl amdanynt o'r blaen.
Wrth i ni symud ymlaen, rydym yn creu mwy a mwy o bethau er mwyn cyfleustra sydd ond yn creu haenau ar ben haenau o ddiogi ar ben pethau. Rydym yn sicr yn symud i'r cyfeiriad hwnnw gyda digidol hefyd. Wrth i bethau fynd yn gyfleus, rydym wedi mynd yn fwy diog rywsut i ddeall beth sy'n mynd ymlaen y tu cefn iddynt. Felly, yr hyn rwy'n gobeithio y gallwn ni ei wneud â'r holl waith hwn rydym yn ei drafod nawr, cyn i ni fynd rhy bell i lawr y ffordd lle nad yw'r 20% hwnnw yn 20 mwyach, yw'r 80 oherwydd rydym wedi datrys yr ochr gaffael oherwydd byddwn yn gwella yn hynny o beth. Ar ryw bwynt, bydd trobwynt lle byddwn yn defnyddio mwy a mwy a mwy a mwy a mwy, a'r egni hwnnw rydym yn ei ddefnyddio fydd y ffactor mwyaf yn yr hafaliad hwnnw.
Felly, cyn i ni gyrraedd y pwynt hwnnw, yr hyn rwy'n ceisio dweud yw gadewch i ni fod yn fwy ymwybodol. Gadewch i ni fod yn fwy ymwybodol o'r pethau rydym yn ei wneud a dechrau ymgorffori'r broses gwneud penderfyniadau a'r ymwybyddiaeth honno ym mhopeth rydym yn ei wneud. Felly, yn lle defnyddio, defnyddio, defnyddio, defnyddio, mae angen dechrau arafu pethau oherwydd, yn yr enghraifft honno am droi'r disgleirdeb i lawr ar y sgrin, doedd dim angen y sgrin ar 95% arnaf, mae'n gweithio'n berffaith ar 55%. Ond petawn i heb wneud hynny, byddwn wedi bod yn defnyddio'r sgrin ar 95% yn lle 55% am weddill fy mywyd. Felly, o ran atal pethau, dyna lle rydw i'n credu bod y sgwrs hon yn dechrau, mae'n ein helpu i atal senario ysgubol yn y dyfodol.