Transcript
SOPHIE HOWE
Mae mor bwysig i ni fod yn meddwl am y mathau o sgiliau sy’n mynd i fod yn berthnasol i bobl fedru dod i mewn i fyd gwaith yn y dyfodol, ond hefyd i fyw bywydau da. Ac mae byd gwaith yn newid yn rhyfeddol. Rydym yn gwybod bod gennym nifer fawr o fylchau sgiliau mewn diwydiannau y bydd arnom angen eu cau i gyrraedd ein targedau hinsawdd, er enghraifft.
Rydym yn gwybod bod y digidol yn dod yn gynyddol bwysig. Ac eto, yn ein hysgolion efallai nad yw’r sgiliau digidol cystal ag y gallent fod. Rydym yn gwybod, yn gynyddol, nad yw dysgu ar y cof ac ailadrodd gwybodaeth y mathau o bethau y bydd ar bobl eu hangen yn y dyfodol. Mae awtomeiddio a deallusrwydd artiffisial yn perfformio’n well na phobl o ran gwybodaeth yn barod.
Felly’r pethau y bydd angen i ni ganolbwyntio arnynt yw’r sgiliau dynol hynny, y pethau na all robotiaid eu gwneud, cydweithio, cydweithredu, gwaith tîm, empathi, meddwl beirniadol. Ac mae hynny’n golygu bod rhaid i’n system addysg gyfan symud o’r fan lle mae wedi bod yn y gorffennol tuag at helpu pobl i ddatblygu’r setiau hynny o sgiliau. Mae hefyd yn golygu bod dysgu gydol oes yn mynd i orfod dod yn normal newydd os ydym ni i gyd yn mynd i ddal i gadw ar y blaen i’r newid yn natur technoleg a’r newid yn natur gwaith.
Felly mae arnom angen newid mawr yn y ffordd yr ydym yn meddwl am sgiliau yn y dyfodol os ydym yn mynd i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd. Rydym yn gwybod, ar draws y diwydiannau, o ran y swyddi sy’n mynd i fod yn hanfodol i gyflawni’r targedau datgarboneiddio rheiny, bod bylchau sgiliau anferth. Felly mae gennym fylchau o ran sgiliau i bobl sy’n gweithio ym myd natur, bylchau o ran sgiliau peirianwyr, y bobl sy’n mynd i osod ein seilwaith cerbydau trydan, y bobl sy’n mynd i ail-adeiladu ein rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus.
Ac mae fy ngwaith dadansoddi yn dangos bod posibilrwydd o greu tua 26,000 o swyddi newydd yn yr economi werdd yma yng Nghymru yn y ddwy flynedd nesaf. Ond mae angen i ni wneud hynny’n gyflym er mwyn gallu cyflawni ein targedau newid hinsawdd. Mae arnom hefyd angen ei wneud mewn ffordd bwrpasol oherwydd ar hyn o bryd, dynion gwyn yn bennaf yw’r bobl sy’n gweithio yn y diwydiannau hynny.
Ac mae risg, os na fyddwn yn canolbwyntio ar grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli sy’n cael eu targedu, menywod, pobl anabl, y rhai o gymunedau Du a lleiafrifoedd ethnig i’w cael i’r swyddi hynny, mae risg wirioneddol ein bod yn gwaethygu’r diffyg cyfartaledd yn y gweithle. Os cawn ni hyn yn iawn, fodd bynnag, mae cyfle gwirioneddol i ni daclo diffyg cyfartaledd gan hefyd wneud yr hyn sydd angen i ni ei wneud i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd.