Transcript

SAS AMOAH
Felly, credaf fod yna raglen neu ddwy y gwnaethom ddechrau defnyddio llawer mwy ohonynt yn ystod y pandemig, sef Teams a Zoom. Ond gwnaethom hefyd ddechrau gwneud llawer o bodlediadau ar-lein yn unig. Ac mewn gwirionedd, rwy'n credu ei bod hi wedi bod yn ddiddorol gweld aelodau o'm tîm, nid fi o reidrwydd, yn addasu i'r technolegau newydd hyn a gallu gweld academyddion a thrafodaethau ar-lein i greu cynnwys yr oedd ei angen ar gyfer ein gwefan. Felly, rwy'n credu mai'r hyn a fydd o gymorth mawr i mi mewn gwirionedd, fydd dechrau deall y mathau newydd hynny o dechnoleg pan ddaw hi i weld cyfryngau ar-lein mewn ffordd effeithiol, defnyddiol a chryno iawn, felly ie, rwy'n credu, cymryd llawer o'r sgiliau sydd gen i nawr a'u trosi i ofod ar-lein.
Rwy'n credu bod gen i syniad da o'r cyfrifoldebau sydd gennym yn gweithio ar-lein. Mae gennym gyrsiau seibrddiogelwch, yn ogystal â chyrsiau GDPR yn y Brifysgol Agored. Ac am fy mod i'n gweithio yn y gofod ar-lein gyda'r cyhoedd, rydym yn ofalus ein bod ni'n gwneud yn siŵr ein bod yn dilyn y rheolau a'r gweithdrefnau.
Ond yn ogystal â hynny, rydym yn eithaf ystyriol o lefelau hygyrchedd a beth yw'r rheolau a'r canllawiau. Mae gennym lawer o gyrsiau hyfforddiant y gallwn fynd arnynt fel rhan o'r Brifysgol Agored. Ond ceir hefyd is-grwpiau ychwanegol yn ein huned, sy'n tueddu i ganolbwyntio ar feysydd penodol. Felly, maent yn tueddu i gyfathrebu'n aml â ni ac yn rhoi diweddariadau i ni os oes angen rhai arnom.
Rwy'n credu bod gen i ddealltwriaeth dda pan ddaw hi i reoli fy sgiliau digidol a gofod digidol. Fodd bynnag, rwy'n credu bod angen dal ati i ddysgu drwy'r amser. Mae'r gofod digidol yn esblygu mor gyflym. A hyd yn oed os gwnaethoch gwrs y llynedd, gallai'r dirwedd fod wedi newid mor gyflym bod angen i chi ddiweddaru'r holl sgiliau yr oedd gennych. Felly, rwy'n credu fy mod i mewn man gweddol ddiogel ar hyn o bryd o ran fy ngwybodaeth, ond does dim amheuaeth, dylen i barhau i loywi fy hyfforddiant a bydd gen i gwrs newydd i'w wneud, mae'n siŵr.
Credaf y byddai'r Brifysgol Agored – efallai, yn arbennig oherwydd natur y ffordd y mae'r Brifysgol yn gweithio ac oherwydd mai sefydliad dysgu o bell ydyw – ond mwy na thebyg y byddai sefydliadau yn gyffredinol yn elwa ar wneud y math hwnnw o hyfforddiant a hyfforddiant sgiliau digidol yn orfodol. Allwch chi ddim wir â rhoi'r dewis i bobl fynd yn ôl ac ymlaen pan fo hynny'n rhan mor annatod o'r ffordd y mae pobl yn gweithio ac yn debygol o fod yn rhan bwysicach o'r ffordd y mae pobl yn gweithio wrth edrych ymlaen i'r dyfodol. Efallai mai un o'r prif bethau y gallai unrhyw sefydliad ei wneud yn syml, yw ei gwneud yn orfodol er mwyn sicrhau bod pobl yn cymryd rhan yn yr hyfforddiant oherwydd does dim dewis ganddynt.