Mae pontio i’r brifysgol yn adeg gyffrous! Un o’r sgiliau allweddol yw dysgu gan ymchwil. Mae podlediadau ‘Archwilio Problemau Byd-eang’ yn ymwneud â sut mae ymchwil sy’n torri tir newydd yn helpu i fynd i’r afael â heriau byd-eang.
Mae pynciau’n cynnwys arloesedd ym maes iechyd, newid yn yr hinsawdd, ynni glân a thechnolegau digidol sy’n canolbwyntio ar bobl.
Mwy am y podlediad ar wefan Prifysgol Abertawe.
Clipiau
Pennod 1: Newid Hinsawdd: Darllen y gorffennol mewn data cylchoedd coed
Sut ydym ni'n gwybod os yw cynhesu byd-eang yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain yn anomaledd, neu'n rhan o gylch naturiol yn unig?
Gellir dyddio ar sail cylchoedd tyfiant coed mewn ffordd absoliwt, a'u defnyddio i fapio ar amserlen hanesyddol. Mae'r data hwn o gylchoedd coed yn dangos bod y newidiadau yn y tymheredd rydym ni wedi bod yn dyst iddynt yn yr ugeinfed ganrif a'r unfed ganrif ar hugain wedi bod yn ddigynsail o ran cyflymder, ac maent yn fyd-eang, sy'n awgrymu argyfwng hinsoddol gwirioneddol.
Mae'r Athro Mary Gagen, o Adran Ddaearyddiaeth Prifysgol Abertawe, yn mesur data cylchoedd tyfiant coed, sef 'gorsafoedd tywydd ledled y byd', i ddarganfod yr hyn sydd wedi digwydd ar draws y blaned dros y miloedd o flynyddoedd diweddaraf.
Pennod 2: A fydd cynrhon yn achub yr hil ddynol?
Mae'r byd yn colli'r frwydr yn erbyn bacteria ac yn rhedeg allan o wrthfiotigau effeithiol ... ond a oes modd i gynrhon achub yr hil ddynol?
Yn y bennod hon, mae'r Gwyddonydd Biofeddygol, yr Athro Yamni Nigam, yn trafod ei hymchwil i glwyfau ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Siarada Yamni am ddefnyddio cynrhon i frwydro yn erbyn yr argyfwng gwrthficrobaidd a gwella clwyfau heintiedig wrth weithio i oresgyn y “ffactor ych” sy'n gysylltiedig â'r pwerdai meddygol hen bryf annifyr hyn.
Pennod 3: A yw ‘tywyllwch digidol’ ar y gweill?
Sut mae ymagwedd at dechnoleg ddigidol sy’n rhoi’r pwyslais ar bobl yn helpu i fynd i’r afael â phroblemau byd-eang.
Mae’r cyfrifiadurwr, yr Athro Matt Jones, yn trafod ei ymchwil i seinyddion stryd yn India a sut mae gweithio gyda defnyddwyr newydd i ddylunio technoleg yn gwneud gwahaniaeth go iawn i’w bywydau.
Mae Matt hefyd yn siarad am ‘dywyllwch digidol’ yn nhermau preifatrwydd, deallusrwydd artiffisial, y dirywiad mewn cyfathrebu wyneb yn wyneb a sut gallwn ddefnyddio ymagwedd sy’n rhoi pwyslais ar bobl i oresgyn hyn.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Abertawe ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr sain hon
Adolygwch yr sain hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Sain hon