Mae ysgrifennu datganiad personol yn rhan o’r broses ymgeisio am le prifysgol. Mae’n rhoi cyfle i chi ddweud wrth diwtoriaid yn y brifysgol, yn eich geiriau eich hun, pam y byddech chi’n fyfyriwr da ar gyfer eu cwrs.
Byddwch yn bersonol
Dywedwch wrthynt amdanoch chi eich hun fel unigolyn, eich sgiliau, rhinweddau, profiad a llwyddiannau sy’n eich gwneud chi’n ymgeisydd addas.
Dangoswch eich angerdd
Dangoswch pa mor angerddol ydych chi’n teimlo am y pwnc. Trafodwch eich uchelgeisiau a’ch targedau gyrfa i’r dyfodol, a sut bydd y cwrs hwn yn eich helpu i gyflawni’r targedau hyn.
Sicrhewch eich bod chi’n sefyll allan
Mae eich datganiad personol yn gyfle i sefyll allan a bod yn wahanol i’r ymgeiswyr eraill, felly peidiwch â bod yn gyffredinol.
Cofiwch gynnwys eich profiad gwaith
Mae’r tiwtoriaid yn edrych am fwy na sgiliau academaidd yn unig. Nodwch unrhyw brofiad gwaith neu swyddi rhan amser er mwyn arddangos unrhyw sgiliau eraill rydych wedi’u datblygu.
Defnyddiwch wefan UCAS
Dysgwch am beth mae tiwtoriaid cyrsiau yn chwilio ar wefan UCAS, ac yna ystyriwch a yw eich sgiliau chi’n addas. Ceisiwch gynnwys eich sgiliau allweddol a’ch llwyddiannau sy’n cyfateb â gofynion y cwrs.
Gofynnwch am gymorth
Gall eich athro, tiwtor neu ymgynghorydd gyrfaoedd gynnig cyngor ac adborth gwerthfawr. Gall ffrindiau ac aelodau’r teulu â phrofiad helpu hefyd.
This resource was provided by the University of South Wales and is part of the University Ready hub.
Find more resources like this on the hub homepage.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon