Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo

Bioleg: Newid Hinsawdd a Chadwraeth

Diweddarwyd Dydd Llun, 30 Tachwedd 2020
Prif amcan y sesiwn hon yw trafod sut y gall gwaith ymchwil y mae gwyddonwyr yn ei wneud nawr helpu i fynd i'r afael â'r heriau cyfunol o newid hinsawdd a cholli cynefin.

Bydd y sesiwn yn amlinellu bygythiadau deuol newid hinsawdd a cholli cynefin a chaniatáu i fyfyrwyr drafod eu heffeithiau posibl.

Yna bydd y sesiwn yn symud ymlaen i edrych ar ddau brosiect ymchwil cymhwysol, sef ECHOES (wedi'i leoli yng Nghymru ac Iwerddon) a DGbarcoding (wedi'i leoli yn Sabah, Borneo). Nod cyffredinol y ddau brosiect yw darparu data a fydd yn helpu i liniau'r heriau hyn yn y dyfodol. Yna byddwn yn trafod cyfyngiadau'r gwaith ymchwil.

Bydd y myfyrwyr yn cael budd o ddysgu sut y cynhelir prosiectau gwyddoniaeth mewn sefyllfaoedd go iawn gan dimau amlddisgyblaethol.

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

Cyfres o weminarau: 'Heriau 2030'

Cyfres o weminarau sy'n edrych ar broblemau'r dyfodol o safbwynt amrywiaeth o bynciau fel Gwleidyddiaeth, Daearyddiaeth, Hanes a Busnes.

Mewn partneriaeth â Channel Talent, nod Prifysgol Aberystwyth yw rhoi cipolwg i chi ar ddulliau addysgu ac ymchwil darlithwyr wrth drafod y problemau y bydd y genhedlaeth nesaf o fyfyrwyr yn eu hwynebu yn ystod y degawd nesaf.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


UR Aber Uni Strip Logo

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?