Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Gweithgaredd
  • 5 munud

Croeso i Dregyrfa – y pentref sector iechyd a gofal rhithiol

Diweddarwyd Dydd Gwener, 18 Tachwedd 2022

Mae GIG Cymru wedi lansio pentref rhithiol er mwyn arddangos yr ystod o gyfleoedd gyrfaol ac addysgol sydd ar gael yn y sector iechyd a gofal.

Mae Tregyrfa yma i'ch helpu i ddarganfod y cyfoeth o gyfleoedd gwaith sydd ar gael o fewn y sector gofal a Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol. Gyda dros 350 o rolau ar gael, mae GIG Cymru yn lle cyffrous i ddatblygu eich gyrfa, p'un a ydych yn 16 neu'n 60 oed.

Sgrinlun o bentref rhithiol Tregyrfa gyda chyfres o adeiladau ar ynys werdd arnofiol


Dysgwch sut beth yw gweithio yn y sectorau iechyd a gofal go iawn, ac ewch ati i baratoi ar gyfer eich camau nesaf.

Gallwch lywio drwy gyfres o adeiladau i ddysgu mwy am wahanol rolau iechyd a gofal, a pha addysg a hyfforddiant sy'n ofynnol ar eu cyfer. Ym mhob adeilad, gallwch:

  • Gael mynediad at adnoddau
  • Gwylio fideos
  • Darllen blogiau
  • Manteisio ar awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau

Mae'r llwyfan am ddim i'w defnyddio, ac mae'n gwbl ddwyieithog.

Ewch i ymweld â Thregyrfa i weld pa lwybr gyrfa hoffech chi ei grwydro.

Archwilio Dregyrfa



Logo NHS Wales

Darparwyd yr adnodd hwn gan GIG Cymru/Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?