Gwneud gwaith ymchwil
Cofrestrwch ar gyfer Hwb UCAS ble gallwch ymchwilio amrywiaeth o gyrsiau prifysgol a dysgu pa brifysgolion sy’n cynnig y cwrs rydych chi’n ei ystyried.
Cymharu cyfleusterau
Cymharwch gyfleusterau prifysgolion gwahanol i wella’r broses chwilio. Ystyriwch gyfleusterau hamdden yn ogystal â chyfleusterau addysgu, a pha gyfleusterau yr hoffech eu cael yn y brifysgol.
Sgoriau’r cwrs
Edrychwch ar sgoriau’r cwrs i weld sut mae’r cwrs yn perfformio yn erbyn prifysgolion eraill.
Rhagor o fanylion am y cwrs
Pa fodiwlau fyddwch chi’n eu hastudio? A oes unrhyw gyfleoedd teithiau maes neu leoliad gwaith? A yw’r cwrs yn cynnwys achrediad? Pwy fydd yn eich addysgu? Ymchwiliwch fanylion y cwrs i weld a yw’n addas i’ch anghenion.
Ystyriwch y lleoliad
Ai fan hyn rydych chi eisiau bod yn treulio amser? Ystyriwch deithio.
Ewch i ddyddiau agored
Mae dyddiau agored yn ffordd ddefnyddiol o bennu naws campws y brifysgol, ei chyfleusterau a’r ardaloedd cyfagos. Cofiwch holi myfyrwyr a staff i’ch helpu i wneud eich penderfyniad.
Rhagolygon i’r dyfodol
Pa gyfleoedd cyflogaeth fydd ar gael i chi pan fyddwch chi’n graddio? Beth fyddai eich camau nesaf?
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol De Cymru ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon