Cyfres o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yw Llais y Myfyrwyr.
Rhoddir pwyslais ar yr hyn sydd i ddisgwyl yn ystod eich cyfnod fel myfyriwr ynghyd ag ymdrin ag ystod eang o bynciau, gan ddarparu mewnwelediad clir i brofiad myfyrwyr yn Aberystwyth.
Byddwch yn clywed barn myfyrwyr presennol ac yn derbyn rhywfaint o gyngor defnyddiol ac awgrymiadau ar gyfer y dyfodol.
Llais y Myfyrwyr – Llety a Lleoliad
Bu'r weminar yma’n canolbwyntio ar y canlynol:
- Yr amrywiaeth o opsiynau llety sydd ar gael.
- Costau byw.
- Profiadau myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol.
- Ystyried costau byw Aberystwyth o gymharu â lleoliadau dinasoedd mawr.
- Harddwch naturiol Aber a thu hwnt.
- Pwysleisio’r ffaith bod y dref yn un cosmopolitaidd a chyfeillgar gyda nifer o aelodau staff y Brifysgol a’r myfyrwyr yn dod o dros 100 o wledydd.
- Weithgareddau i wneud y tu mewn a thu allan i Aberystwyth.
Gwyliwch ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Llais y Myfyrwyr – Chwaraeon a Chymdeithasau
Bu'r weminar hon yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Ysgoloriaethau Chwaraeon: Esbonio’r gwahanol fathau o Ysgoloriaethau Chwaraeon sydd ar gael.
- Ganolfan a’r Cyfleusterau Chwaraeon: Aelodaeth Blatinwm Am Ddim i’r Gampfa ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn llety’r Brifysgol.
- Clybiau Chwaraeon a Chymdeithasau: Cyflwyniad i’r gwahanol glybiau a chymdeithasau sydd ar gael.
- Crybwyll yr ystod eang o gymdeithasau sydd ar gael e.e; cymdeithasau academaidd, cymdeithasau sy’n seiliedig ar sgiliau ayyb.
Gwyliwch ar wefan Prifysgol Aberystwyth.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon