Paratoi ar gyfer eich cyfweliad:
- Cadarnhewch y lleoliad a'r dyddiad gwnewch nodyn yn eich calendr/dyddiadur fel na fyddwch yn anghofio.
- Cynlluniwch eich taith – trefnwch eich taith ac unrhyw lety; edrychwch ar wefan y Brifysgol am fapiau a chyfarwyddiadau i'ch helpu i gynllunio'ch llwybr; a chadarnhewch amseroedd teithio, gan neilltuo amser ychwanegol rhag ofn y bydd unrhyw oedi.
- Ymchwiliwch yn drwyadl i'r cwrs, gan wneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o'r modiwlau, cyfleusterau academaidd y Brifysgol ac unrhyw gyfleoedd ychwanegol fel profiad a lleoliadau gwaith.
- Darllenwch eich datganiad personol gan y bydd y cyfwelwyr yn ei ddefnyddio fel sail i'w cwestiynau.
- Cynlluniwch rai atebion i gwestiynau cyffredin fel: pam rydych chi wedi dewis gwneud cais i'r brifysgol hon; pam rydych chi wedi dewis gwneud cais am y cwrs hwn; beth yw eich uchelgeisiau o ran gyrfa; pa brofiad neu waith gwirfoddol rydych chi wedi'i wneud; beth rydych chi'n ei fwynhau yn eich astudiaethau presennol. Efallai y bydd angen i chi ddangos ymwybyddiaeth o faterion cyfoes ac unrhyw waith darllen neu ymchwil ehangach rydych wedi ei wneud mewn perthynas â'r cwrs.
- Lluniwch restr o'r wybodaeth a'r sgiliau sydd gennych, ynghyd ag unrhyw enghreifftiau ategol o ran ble rydych wedi eu meithrin, gan y bydd hyn yn eich helpu i ymateb i gwestiynau.
- Paratowch eich cwestiynau eich hun, oherwydd er bod hwn yn gyfle i'r tiwtoriaid asesu eich addasrwydd chi ar gyfer y cwrs, mae'n gyfle i chi weld ai dyma'r Brifysgol a'r cwrs iawn i chi hefyd.
Noder: Gwnewch yn siŵr eich bod yn derbyn eich cyfweliad fel bod y Brifysgol yn gwybod y byddwch yn mynychu, ac os na fyddwch yn gallu mynychu ar y dyddiad dan sylw am unrhyw reswm, cysylltwch â'r Brifysgol cyn gynted â phosibl. Gall fod yn anodd aildrefnu amseroedd a dyddiadau, felly ceisiwch fynychu ar yr amser a glustnodwyd.
Beth i'w wneud y noson gynt:
- Bydd angen i chi wisgo'n drwsiadus. Ni fydd angen i chi wisgo siwt na ffrog, ond peidiwch â gwisgo jîns nac esgidiau ymarfer. Tynnwch eich gwisg allan yn barod a gwnewch yn siŵr ei bod yn lân ac wedi'i smwddio.
- Ail-ddarllenwch y llythyr gan y Brifysgol, a'ch nodiadau, a gwnewch yn siŵr bod gennych unrhyw waith papur ychwanegol y gofynnwyd amdani, e.e. portffolio, tystysgrifau ac ati.
- Gwnewch yn siŵr bod gennych y cwestiynau y byddech yn hoffi eu gofyn.
- Sicrhewch fod gennych fanylion cyswllt y Brifysgol rhag ofn y bydd unrhyw oedi/problemau annisgwyl.
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael noson dda o gwsg oherwydd byddwch am gyrraedd y cyfweliad yn teimlo'n ffres ac yn effro.
Ar y diwrnod:
- Gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar fel eich bod yn gallu dod o hyd i'r adran neu'r adeilad cywir mewn pryd, oherwydd mae'n bosibl mai hwn fydd eich tro cyntaf ar y campws.
- Dangoswch iaith corff dda, peidiwch ag eistedd yn llipa na dylyfu gên, eisteddwch i fyny, cadwch gyswllt llygad a chadwch yn effro.
- Ceisiwch feithrin cydberthynas dda a chadwch yn frwdfrydig ac yn gadarnhaol drwy'r amser.
- Cymerwch eich amser i ystyried eich ymatebion cyn ateb cwestiynau, a gofynnwch iddynt ailadrodd unrhyw gwestiynau nad ydych yn eu deall.
- Ymlaciwch a chofiwch wenu.
- Ac, yn bwysicaf oll, byddwch yn chi eich hun! Eich brwdfrydedd chi y mae'r Brifysgol am ei weld, felly dangoswch hynny.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Wrecsam ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon