Yma fe welwch chwe rhestr chwarae i'ch cyfeirio at ystod eang o adnoddau ar-lein i'ch helpu drwy'r cyfnod hwn a thu hwnt.
Ym mhob un o'r rhestri chwarae, fe welwch wefannau hunan-gymorth, apiau, llinellau cymorth, a mwy sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a'ch lles.
Coronafeirws a’ch lles
Yn y rhestr chwarae hwn, cewch adnoddau sy’n darparu awgrymiadau defnyddiol, cyngor ac arweiniad ar y coronafeirws a ffyrdd y gallwch gefnogi eich iechyd meddwl. Os oes gennych chi gwestiynau am y feirws, y cyfyngiadau symud, neu ffyrdd o gadw’n iach, dyma’r lle i chi.
Argyfwng
Yn y rhestr chwarae hwn, mae yna wybodaeth am sut i fynd ati i gael y cymorth gorau i chi, waeth beth fydd e.
Gorbryder
Yn y rhestr chwarae hwn, cewch bob mathau o adnoddau ar-lein i’ch helpu pan fyddwch chi’n teimlo’n orbryderus neu dan straen. Gall hyn fod yn bersonol iawn, felly cymerwch eich amser i ddod o hyd i’r hyn sy’n gweddu orau i chi.
Cadw’n iach
Tra bo rhestrau chwarae eraill o’r pecyn cymorth iechyd meddwl hwn yn ymwneud â gofalu am eich lles meddyliol, bydd yr rhestr chwarae hwn yn eich helpu i ymarfer. Bydd defnyddio’r adnoddau hyn yn helpu i roi hwb i’ch ffitrwydd ac yn tanio’r ymennydd felly beth amdani?
Hwyliau isel
Yn y rhestr chwarae hwn, cewch adnoddau sy’n darparu cyngor, syniadau ac anogaeth i’ch helpu i ymateb i heriau bywyd. Does dim ots sut ydych chi’n teimlo, mae yna ffyrdd ar gael bob amser o ddiogelu a chryfhau eich iechyd meddwl.
Profedigaeth a cholled
Pan fo rhywun yn marw, gallwn deimlo pob math o emosiynau neu deimlo dim byd o gwbl. Mae yna lawer o bobl sy’n deall ac sydd am eich helpu, ac mae’r rhestr chwarae hwn yn llawn cyngor a chymorth a fydd yn gwneud yr union beth hwnnw.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Llywodraeth Cymru ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon