Podlediad yng nghwmni Trystan Ellis-Morris sy’n trafod iechyd meddwl a lles myfyrwyr o bob oed. Bydd Trystan yn cael cwmni Endaf Evans sy'n gwnselydd ym Mhrifysgol Bangor ynghyd a myfyrwyr a lleisiau cyfarwydd i drin a thrafod materion sydd o bwys iddyn nhw.
Delwedd y corff a hunan ddelwedd yw’r pwnc y tro hwn ac mae dylanwad enwogion a’r cyfryngau cymdeithasol yn cael ei drafod mewn dyfnder.Yn cadw cwmni i Trystan ac Endaf mae’r dylanwadwyr Jess Davies a Mari Gwenllian ynghyd a Mari Jones sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Caerdydd, Mari Gwenllian (H.I.W.T.I.).- Mari Jones - dod yn ymwybodol o hunan ddelwedd a delwedd y corff? (3.19)
- Jess Davies - sut oeddet ti’n teimlo am dy gorff pan oeddet ti yn dy arddegau? (10.08)
- Mari Jones - dylanwad enwogion megis Kim Kardashian (11.56)
- Mari Gwenllian - y teimlad wrth bostio llun ar Instagram (21.00)
- Jess Davies - pwysau ar ddynion i gyrraedd nod sydd ddim yn realistig (28.32)
- Mari Gwenllian - pwysigrwydd edrych ar ol y corff a gwerffawrogi’r corff (40.10)
Cofiwch fynd i myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.
Ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr sain hon
Adolygwch yr sain hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Sain hon