Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Sain
  • 5 munud

Podlediad Sgwrs? Y gymuned LHDT

Diweddarwyd Dydd Mercher, 15 Mehefin 2022

Sut brofiad yw bod yn rhan o'r gymuned LHDT yn y brifysgol? Gwrandewch ar straeon dod allan, profiadau o homoffobia a gwneud ffrindiau newydd. 

Cefn y person yn dal baner LHDT

Podlediad yng nghwmni Trystan Ellis-Morris sy’n trafod iechyd meddwl a lles myfyrwyr o bob oed. Bydd Trystan yn cael cwmni Endaf Evans sy'n gwnselydd ym Mhrifysgol Bangor ynghyd a myfyrwyr a lleisiau cyfarwydd i drin a thrafod materion sydd o bwys iddyn nhw.

Y Gymuned LHDT sef yr acronym ar gyfer lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws yw’r pwnc y tro hwn. Mae Alys Hall o brifysgol Bangor, James Hope o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Ellis Jones - un o ffigyrau mwyaf adloniannol instagram a Tiktok yn ymuno a Trystan ac Endaf i rannu eu teimladau wrth dyfu i fyny yn hoyw neu’n ddeurywiol, eu profiad o homoffobia a’r ffordd ddaethant o hyd i gymuned newydd o bobol yn y brifysgol.



  • Pryd nes di sylweddoli dy fod yn uniaethu fel dy hoyw? (3.20) 
  • Pryd nes di ddod allan i dy rieni a sut ymateb ges di? (12.50) 
  • Cyngor Endaf ar symud o adre a byw yn annibynnol (18.30) 
  • Y profiad o orfod dod allan dro ar ôl tro (22.30) 
  • Ydi’r brifysgol yn gyfle i wneud ffrindiau newydd? (29.55) 

Cofiwch fynd i myf.cymru am fwy o gyngor a gwybodaeth.

Ariennir gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.


university ready - white back

Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?