Cyflwyniad fel perfformiad
Mae rhoi cyflwyniad yn golygu cael pobl yn edrych arnoch chi. Mae cynulleidfa’n gwrando ar eich syniadau, ond mae’n ymateb hefyd i’r ffordd rydych chi’n defnyddio’ch llais a’ch corff. I wneud argraff, mae angen mwy na chyflwyniad sydd wedi’i ysgrifennu’n dda arnoch chi. Bydd gofyn i chi ei gyflwyno hefyd mewn ffordd fywiog, hyblyg a diddorol. Rydyn ni’n cynnig llawer o syniadau yma i'ch helpu i wneud eich arddull gyflwyno'n fwy egnïol.
I ddechrau, dychmygwch eich bod yn eistedd yn y gynulleidfa’n gwrando ar eich cyflwyniad. Beth sy’n debyg o:
- gydio yn eich sylw?
- ysgogi’ch dychymyg?
- ennyn eich hyder?
- a’ch helpu i ddeall?
Meddyliwch yn awr am ffyrdd o wneud y pethau yma.
Parhau i ddarllen ar wefan Prifysgol Bangor.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Bangor ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon