Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sesiwn Blasu: Biocemeg - Parasitiaid a Phrotein

Diweddarwyd Dydd Mercher, 10 Mawrth 2021
Mae Dr Russ Morphew, Uwch-ddarlithydd yn Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, yn cynnig cyfle i fyfyrwyr weld sut y gall biocemeg ein helpu i ddeall a gwella'r ffordd rydym yn rheoli parasitiaid heintus mewn pobl ac anifeiliaid.

Mae'r sesiwn yn cysylltu'n dda â moleciwlau biolegol a geneteg lefel 3 gan roi trosolwg o barasitiaid a llyngyr parasitig (helminths) yn benodol. Mae Russ yn archwilio sut y bydd edrych ar broteinau yn ein helpu i ddatblygu strategaethau rheoli newydd megis diagnosteg well, cyffuriau newydd a brechlynnau newydd.

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?