Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sesiwn Blasu: Ieithoedd Modern - Diwylliant Ffrainc mewn Ffilm

Diweddarwyd Dydd Llun, 22 Mawrth 2021
Yn Diwylliant Ffrainc mewn Ffilm, mae Dr Marieke Mueller, Darlithydd mewn Ffrangeg yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth, yn trafod ffilm Céline Sciamma, ‘Bande de Filles/Girlhood’ (2014).

Mae'r sesiwn yn canolbwyntio ar gwestiynau am rywedd, amrywiaeth yn y diwydiant ffilm, a chynrychiolaeth newidiol y banlieue.

Bydd myfyrwyr sydd â diddordeb mewn graddau ieithoedd yn cael cipolwg ar y ffordd y gall ffilm roi syniad i ni o hanes a diwylliant gwlad.

Bydd y sesiwn yn cyd-fynd ag elfennau ffilm a diwylliant cyfoes y cwricwlwm Ffrangeg/ieithoedd.

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?