Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sesiwn Blasu: Mathemateg ac Ystadegau - Modelu a Phrofi Lledaeniad Clefyd mewn Poblogaeth

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2021
Mae'r Athro Simon Cox a Dr Kim Kenobi o Adran Fathemateg Prifysgol Aberystwyth yn rhannu'r sesiwn yn ddwy ran: (i) datblygu model mathemategol a defnyddio graffiau i ddadansoddi'r atebion, (II) dehongliad ystadegol – deall tebygolrwydd amodol mewn cyd-destun profi clefyd.

Mae myfyrwyr yn gweld sut y gellir defnyddio hafaliadau gwahaniaethol i fodelu sefyllfa go iawn, yn yr achos hwn lledaeniad clefyd mewn poblogaeth, a sut y gellir pennu nodweddion yr ateb ar ffurf graffiau heb orfod datrys yr hafaliad yn uniongyrchol.

Yn yr ail ran, rhoddir cyfle i fyfyrwyr feddwl yn feirniadol am sut y dehonglir canlyniadau prawf biolegol (er enghraifft prawf gwrthgyrff COVID-19). A yw canlyniad positif bob amser yn golygu bod gennych y clefyd? A ydych yn bendant yn glir o'r afiechyd os byddwch yn cael canlyniad negatif?

Mae'r cynnwys hwn ar gael yn Saesneg yn unig.

 

 

'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?