Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys
  • Fideo
  • 5 munud

Sesiwn Blasu: Mathemateg - Algebra a Chalcwlws

Diweddarwyd Dydd Mawrth, 9 Mawrth 2021
Rhagflas o’r modiwl Algebra, sy’n eich cyflwyno i gysyniadau a dulliau sy’n treiddio trwy fathemateg a’r gwyddorau.

Trafodwn sylfeini mathemateg ei hun (beth yw rhif a sut gallwn eu cynrychioli?) ynghŷd â chyffwrdd ar resymeg a dulliau profi, polynomialau, rhifau cymhlyg a’u pwysigrwydd i fathemateg a’r byd o’n cwmpas.

Byddwn hefyd yn rhoi rhagflas o Galcwlws, sef yr offeryn mathemategol ar gyfer delio gyda chyfraddau newid (differu) a chroniad (integru). Cawn edrych ar hanes y pwnc a’r helynt dros pwy oedd dyfeisiwr calcwlws, cyn ystyried pam ei fod yn declyn mor bwysig mewn mathemateg a gwyddoniaeth yn ehangach. Byddwn yn ystyried hefyd sut y caiff ei ddefnyddio yn y byd o’n cwmpas, er enghraifft ar gyfer optimeiddio.

 

 

'Sesiynau Blasu' - Cyfres Weminarau

Mae'r gyfres hon o weminarau gan Brifysgol Aberystwyth yn arddangosfa wych a fydd yn trafod yr amrywiaeth sydd ar gael o fewn y pynciau a gynigir yn y Brifysgol.

Bydd y digwyddiadau hwyliog hyn yn cynnig y cyfle i fyfyrwyr tanio’u dychymyg wrth drafod materion cyfoes. Cynlluniwyd y sesiynau i gyfoethogi’u hastudiaethau cyfredol tra’n dod â’r cyfoeth o gyfleoedd academaidd sydd ar gael yn y brifysgol yn fyw.

Darllenwch fwy ar wefan Prifysgol Aberystwyth.

 


Logo Prifysgol Aberystwyth

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Aberystwyth ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?