Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Sgiliau Academaidd – Darllen Beirniadol

Diweddarwyd Dydd Iau, 6 Mai 2021
Wrth ddarllen darn o waith academaidd, fel erthygl mewn cofnodlyfr neu bennod o lyfr, mae'n ddefnyddiol cymhwyso cyfres o gwestiynau ato. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn darllen yn feirniadol ac yn ddadansoddol yn eich ymchwil.

UR WGU Academic Skills - Critical Reading

Nodi'r hyn sy'n bwysig:

  • Beth yw'r prif syniadau, problemau, dadleuon, arsylwadau, canfyddiadau, casgliadau?
  • Pa dystiolaeth sydd ar gael?
  • Gwahaniaethu rhwng ysgrifennu beirniadol a mathau eraill o ysgrifennu (e.e. disgrifiadol); rhwng ffaith a barn; rhwng tuedd a rhesymau.

Gwerthuso eich canfyddiadau:

  • Archwilio'r dystiolaeth – a yw'n argyhoeddi?
  • Pa dybiaethau a chasgliadau a wneir?
  • A oes ymgysylltiad ag ymchwil berthnasol a chyfoes?
  • Pa mor briodol yw'r dulliau ymchwilio?
  • A oes llinell resymu gyson a rhesymegol?
  • A oes unrhyw ddiffygion yn y ddadl?
  • A ydych yn cytuno â'r hyn sy'n cael ei ddweud? Pam?
  • Sut mae iaith yn cael ei defnyddio (emosiynol, unochrog ac ati)?

Edrych y tu hwnt i'r hyn rydych yn ei ddarllen/clywed:

  • Pa farnau, dehongliadau a safbwyntiau eraill sydd ar gael? Beth yw'r dystiolaeth ar gyfer y rhain? Sut maent yn cymharu?
  • Sut mae eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth flaenorol yn uniaethu â'r syniadau, canfyddiadau, arsylwadau hyn, ac ati?
  • Beth yw goblygiadau'r hyn rydych yn ei ddarllen/clywed?

Mynegi eich safbwynt yn glir:

  • Pwyso a mesur ymchwil berthnasol yn y maes
  • Dod o hyd i resymau a thystiolaeth effeithiol ar gyfer eich barn
  • Llunio casgliadau ar sail eich rhesymeg
  • Egluro eich rhesymau gydag enghreifftiau effeithiol

 


Logo Prifysgol Wrecsam

Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Wrecsam ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.

Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.

 

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?