Felly, rydych yn mynd i'r brifysgol! Mae'n gyfle cyffrous, ond mae'n siŵr bod gennych gwestiynau am beth i'w ddisgwyl – yn enwedig yn ystod yr adegau ansicr hyn.
Dyna pam rydym wedi defnyddio cynnwys oddi wrth yr holl brifysgolion yng Nghymru, felly y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw clicio i gael manylion y cymorth a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i'ch helpu i wneud eich amser mewn addysg uwch yn fuddiol, yn hwyl ac yn ddiogel.
Barod ar gyfer Prifysgol yw eich hwb sy'n hawdd ei ddefnyddio, p'un a ydych ar fin symud ymlaen i addysg lefel prifysgol, neu'n cefnogi rhywun sy'n gwneud hynny - efallai fel rhiant, athro, gofalwr neu gynghorydd.
Gallwch chwilio yn ôl pwnc – fel sgiliau astudio, llesiant ac iechyd meddwl, neu fywyd myfyrwyr – yn ôl sefydliad, ac yn ôl maes pwnc, fel y gallwch fod yn siŵr o fynd yn syth i'r adnoddau sydd eu hangen arnoch.
Mae'n amherthnasol i ba brifysgol rydych chi'n mynd, neu hyd yn oed os gwnaethoch chi benderfynu eto. Gallwch ddefnyddio'r holl adnoddau ar ein hwb i ddarganfod mwy am fywyd prifysgol. Ewch ar daith o gwmpas i archwilio'r holl gefnogaeth wahanol sydd ar gael.
Mae symud ymlaen i'r brifysgol yn gam mawr, ond nid oes angen iddo fod yn gam brawychus. Bydd Barod ar gyfer Prifysgol yn eich helpu i baratoi ar gyfer y brifysgol yn hyderus, gan ateb eich cwestiynau a rhoi darlun cliriach i chi o sut olwg allai fod ar eich bywyd newydd mewn addysg uwch.
Mae Barod ar gyfer Prifysgol yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru gyda chyfraniadau gan:
Dysgwch fwy am brifysgolion Cymru a'r cymorth y gall eu rhoi i chi.
Mae'r adnodd hwn yn rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr fideo hon
Adolygwch yr fideo hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Fideo hon