Fel myfyriwr, byddwch chi’n cymryd nodiadau pan fyddwch chi’n:
- mynd i ddarlithoedd neu seminarau
- darllen deunydd i hwyluso’r gwaith o ysgrifennu traethodau, adroddiadau, traethodau hir a thraethodau ymchwil.
Mae ysgrifennu nodiadau’n sylfaenol i’r gweithgareddau yma.
Ond mae ysgrifennu nodiadau’n gallu bod yn her wirioneddol mewn rhai sefyllfaoedd, er enghraifft:
- os yw cynnwys y ddarlith yn ffeithiol ar y cyfan ac rydych chi’n awyddus i gofnodi’r holl ffeithiau ond mae’r darlithydd yn siarad yn gyflym iawn;
- os ydych chi’n ysgrifennu nodiadau ar bentwr o waith darllen cefndirol, ond dydych chi ddim yn siŵr beth i’w wneud gyda’r holl nodiadau;
- os ydych chi’n ysgrifennu llawer o nodiadau ar gyfer darn ysgrifenedig, ond yn poeni am osgoi llên-ladrad trwy ddamwain. Efallai eich bod wedi anghofio pa syniadau oedd yn perthyn i chi a pha rai a gawsoch chi o ffynonellau sy’n bod eisoes;
- os ydych chi’n eich gweld eich hun yn araf yn darllen dogfennau academaidd. Efallai eich bod yn colli ystyr cyffredinol erthygl am eich bod yn treulio gormod o amser yn ysgrifennu nodiadau manwl wrth ddarllen drwyddi.
Parhau i ddarllen ar wefan Prifysgol Bangor.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Bangor ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon