I greu traethawd o safon mae angen i chi ddangos eich gallu:
- i ddeall yr union dasg mae’r teitl yn ei gosod;
- i adnabod y deunyddiau priodol i’w darllen;
- i ddeall ac i bwyso a mesur y deunydd hwnnw;
- i ddewis y deunydd mwyaf perthnasol i gyfeirio ato yn eich traethawd;
- i gyfuno’n effeithiol y deunydd o’ch gwahanol ffynonellau;
- i gydnabod pob un o’r ffynonellau’n gywir;
- i ffurfio dadl effeithiol;
- ac i ddod i gasgliad cadarn.
Mae’n debyg mai'r galw am ddefnyddio dewis mor eang o sgiliau academaidd yw’r prif reswm dros weld tiwtoriaid yn ffafrio traethodau fel fformat aseiniadau.
Mae’r terfyn geiriau’n ychwanegu at yr her drwy fynnu bod y myfyriwr yn rhoi tystiolaeth o’r holl sgiliau yma heb ysgrifennu mwy na nifer gymharol fach o eiriau. Mae gallu creu darn clir a chryno o waith ysgrifenedig heb ddefnyddio gormod o eiriau’n sgìl bwysig ynddi’i hun. A bydd yn sgìl ddefnyddiol mewn sawl agwedd ar fywyd y tu hwnt i waliau’r brifysgol.
Parhau i ddarllen ar wefan Prifysgol Bangor.
Darparwyd yr adnodd hwn gan Brifysgol Bangor ac mae'n rhan o'r hwb Barod ar gyfer Prifysgol.
Gallwch ddod o hyd i fwy o adnoddau fel hyn ar hafan yr hwb.
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon