Cyflwyniad a chanllawiau
Mae Cefnogi Datblygiad Plant yn gwrs rhagarweiniol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad plant, yn enwedig staff cymorth mewn ysgolion, megis cynorthwywyr addysgu. Mae'n adeiladu ar eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o blant, o'r blynyddoedd cynnar i adael yr ysgol. Cewch eich cyflwyno i rai syniadau craidd sy'n ymwneud â datblygu a dysgu, ymddygiad, anghenion arbennig ac anableddau.
Mae pob adran o'r cwrs yn cynnig cwisiau byr, rhyngweithiol er mwyn profi eich gwybodaeth.
Os byddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill bathodyn ar-lein a datganiad cyfranogi. Nid yw'r cyrsiau hyn yn arwain at unrhyw gredyd academaidd ffurfiol. Fodd bynnag, maent yn cynnig ffordd i chi helpu i ddatblygu o ddysgu anffurfiol i ddysgu ffurfiol.
OpenLearn - Cefnogi datblygiad plant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
