2.1 Rheoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth

Mae rheoli ymddygiad yn bwysig yn yr ystafell ddosbarth, yn bennaf am ei fod yn creu amgylchedd priodol ar gyfer dysgu. Os oes ffiniau clir, yna caiff plant eu galluogi i ddatblygu ymddygiad cadarnhaol, fel parch, tuag at ei gilydd. Mae rheoli ymddygiad hefyd yn cefnogi dysgu mewn amgylchedd diogel a digyffro.

Gweithgaredd 4

Dylech neilltuo tua 10 munud

Treuliwch ychydig funudau yn nodi'r ffyrdd y caiff ymddygiad plant ei reoli yn eich ysgol neu leoliad.

(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Comment

Efallai eich bod wedi sylwi ar bwyslais ar ymateb i ymddygiad y plentyn ar ôl iddo ddigwydd, neu efallai eich bod wedi sylwi ar enghreifftiau lle cafodd ymddygiad negyddol ei ragweld a bod y plant wedi cael eu cyfeirio tuag at ymddygiad mwy cadarnhaol.