3.5 Gwasanaethau cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill

Fel cynorthwyydd addysgu, nid ydych ar eich pen eich hun yn helpu plant ag AAA. Mae amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithwyr proffesiynol hefyd yn rhan o'r broses hon. Efallai bod gennych gydberthynas waith uniongyrchol â'r rhain, neu eich bod mewn cysylltiad â nhw, neu efallai ddim, ond mae'n ddefnyddiol gwybod pwy ydynt.

Gweithgaredd 10

Dylech neilltuo tua 10 munud

Nodwch eich atebion i'r cwestiynau canlynol:

  • Pa wasanaethau neu weithwyr proffesiynol sy'n dod i mewn i ysgolion er mwyn gweithio gyda phlant ag AAA?
  • Beth rydych chi'n ei wybod am y gwasanaeth neu rôl y gweithiwr proffesiynol?
  • Sut y gallech gael gwybod mwy?
(A text entry box would appear here, but your browser does not support it.)

Comment

Mae'r Cydlynydd AAA yn eich lleoliad yn fan cychwyn da os nad ydych yn siŵr beth a gynigir yn eich lleoliad. Mae'r rhyngrwyd hefyd yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol, er bod angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio ffynhonnell ddibynadwy, fel gwefan sefydliad cenedlaethol, neu safle'r llywodraeth.

Os hoffech gael gwybod mwy, rydym yn awgrymu eich bod yn darllen y ddogfen adnoddau, Rhai o'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses o helpu plant ag AAA.