1.1 Diffinio termau

Mae'r gweithgaredd cyntaf yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich dealltwriaeth o rywfaint o'r derminoleg a ddefnyddir wrth ddisgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Cymerwyd yr holl ddiffiniadau o wefannau Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) neu'r British Council.

Gweithgaredd 1

Dylech neilltuo tua 10 munud

Cyfatebwch y termau canlynol â'u diffiniad cywir.

Dyslecsia

Anhawster dysgu penodol sy'n effeithio ar ddatblygiad sgiliau sy'n ymwneud â llythrennedd ac iaith yn bennaf (NAS)

ADHD

Cyflwr sy'n gwneud person yn ddi-hid, yn fympwyol ac yn orfywiog (NAS)

Dyspracsia

Anaeddfedrwydd yn y ffordd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth sy'n arwain at broblemau gydag amgyffred, iaith a meddwl (NAS)

Awtistiaeth

Term cyffredinol a ddefnyddir i gyfeirio at bob cyflwr ar y sbectrwm awtistig (NAS)

Dysgwr SIY

Unrhyw un sydd wedi cael ei amlygu i iaith heblaw am Saesneg yn ystod plentyndod cynnar (y British Council)

Syndrom Asperger

Bydd person sydd â'r cyflwr hwn yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a dychymyg cymdeithasol (NAS)

Using the following two lists, match each numbered item with the correct letter.

  1. Dyslecsia

  2. ADHD

  3. Dyspracsia

  4. Awtistiaeth

  5. Dysgwr SIY

  6. Syndrom Asperger

  1. Anhawster dysgu penodol sy'n effeithio ar ddatblygiad sgiliau sy'n ymwneud â llythrennedd ac iaith yn bennaf (NAS)

  2. Cyflwr sy'n gwneud person yn ddi-hid, yn fympwyol ac yn orfywiog (NAS)

  3. Anaeddfedrwydd yn y ffordd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth sy'n arwain at broblemau gydag amgyffred, iaith a meddwl (NAS)

  4. Term cyffredinol a ddefnyddir i gyfeirio at bob cyflwr ar y sbectrwm awtistig (NAS)

  5. Unrhyw un sydd wedi cael ei amlygu i iaith heblaw am Saesneg yn ystod plentyndod cynnar (y British Council)

  6. Bydd person sydd â'r cyflwr hwn yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a dychymyg cymdeithasol (NAS)

The correct answers are:
  • 1 =
  • 2 =
  • 3 =
  • 4 =
  • 5 =
  • 6 =

Mae gan blant anghenion addysgol arbennig os oes ganddynt anhawster dysgu, sy'n gofyn am i ddarpariaeth addysgol arbennig gael ei threfnu ar eu cyfer.

Mae Côd Ymarfer AAA Cymru yn rhoi cyngor ymarferol i Awdurdodau Addysg Lleol, ysgolion a gynhelir, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac eraill ar gyflawni eu dyletswyddau statudol er mwyn nodi, asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig plant.

Mae'r côd ymarfer yn rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir a lleoliadau blynyddoedd cynnar.

Mae'n eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, i nodi, asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA). Daeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2002 ac mae ar gael i'w ddarllen ar wefan Llywodraeth Cymru:

http://gov.wales/docs/dcells/publications/131016-sen-code-of-practice-for-wales-en.pdf

Mae'r rhan nesaf hon yn egluro'r pedwar maes sy'n gysylltiedig ag anghenion addysgol arbennig a'r diffiniad cyfreithiol o 'anabledd'.