2.1 Ymdrin â chydberthnasau anodd
Bydd ffrindiau'n dod yn bwysicach wrth i blentyn dyfu a bydd chwarae yn rhan bwysig o ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plentyn. Gellir defnyddio ffrindiau fel bwrdd seinio er mwyn i bobl ifanc werthuso'r pethau y maent yn eu hoffi a'r pethau nad ydynt yn eu hoffi a phrofi pwy maent am fod. Fodd bynnag, mae plant ag AAA yn tueddu i gael eu derbyn llai gan eu cyfoedion. Gall y gwrthodiad hwn beri straen i blant a phobl ifanc, yn enwedig pan fydd yn troi'n fwlio neu'n erledigaeth.
OpenLearn - Cefnogi datblygiad plant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
