3.3 Bod yn eiriolwr
Mae'r 'awgrymiadau defnyddiol' a roddir yn yr adborth i'r gweithgaredd blaenorol yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gan blant lais a'u bod mor annibynnol â phosibl. Fodd bynnag, mae angen i blant ag AAA gael cymorth. Gall cynorthwyydd addysgu gynnig y cymorth hwn drwy weithredu fel eiriolwr dros y plentyn.
Beth yw eiriolaeth?
Mae eiriolaeth yn broses o helpu a galluogi pobl i:
- fynegi eu safbwyntiau
- cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau
- dysgu am opsiynau a gwneud penderfyniadau
- diogelu eu hawliau.
Fel cynorthwyydd addysgu, efallai y byddwch yn gweithredu fel eiriolwr dros blentyn drwy gynrychioli buddiannau'r plentyn a siarad ar ei ran. Gall hyn olygu rhoi gwybod i'r athro dosbarth sut mae plentyn yn teimlo ynghylch strategaeth addysgu benodol os na all y plentyn ddweud wrth yr athro ei hun: 'Mae Elisha yn cael trafferth... / yn anhapus ynghylch...'
Gan ganolbwyntio mwy ar hawliau plant, gellir eu hannog i hunaneirioli a siarad drostynt eu hunain a nodi eu hanghenion eu hunain.
OpenLearn - Cefnogi datblygiad plant
Except for third party materials and otherwise, this content is made available under a Creative Commons Attribution-NonCommercial-ShareAlike 4.0 Licence, full copyright detail can be found in the acknowledgements section. Please see full copyright statement for details.
