3.6 Darlleniadau ac adnoddau dewisol

Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn newid y system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:

http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/additional-learning-special-educational-needs/transformation-programme/?lang=cy

SNAP Cymru

Mae SNAP Cymru yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau neu y gall fod ganddynt anghenion addysgol arbennig neu anableddau.

http://www.snapcymru.org/

Yr Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant

Sefydliad yw'r Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant sy'n canolbwyntio ar ymgyrchu, gwneud gwaith ymchwil a rhoi gwybodaeth i lywodraethau, cyflogwyr a rhieni. Mae'n cynnwys llu o wybodaeth ar ei gwefan.

Rhai o'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses o helpu plant ag AAA.

Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS)

Elusen yn y DU sy'n rhoi gwybodaeth a chymorth. Mae hefyd yn ymgyrchu dros bobl ar y sbectrwm awtistig.

Young Minds

Elusen yn y DU sy'n canolbwyntio ar wella llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ei gwefan yn rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau i blant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol.