<?xml version="1.0" encoding="UTF-8"?>
<Item xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" Autonumber="false" id="X-nnco-TA_1-welsh" TextType="CompleteItem" SchemaVersion="2.0" PageStartNumber="0" Template="Generic_A4_Unnumbered" Module="default" DiscussionAlias="Discussion" ExportedEquationLocation="" SessionAlias="" SecondColour="None" ThirdColour="None" FourthColour="None" Logo="colour" ReferenceStyle="OU Harvard" Rendering="OpenLearn" xsi:noNamespaceSchemaLocation="http://www.open.edu/openlearn/ocw/mod/oucontent/schemas/v2_0/OUIntermediateSchema.xsd" x_oucontentversion="2019111900">
<meta name="vle:osep" content="false"/>
<meta name="equations" content="mathjax"/>
<CourseCode>ALT_1</CourseCode>
<CourseTitle>Cefnogi datblygiad plant</CourseTitle>
<ItemTitle>Cefnogi datblygiad plant</ItemTitle>
<FrontMatter>
<Imprint>
<Standard>
<GeneralInfo>
<Paragraph>Y cwrs am ddim hwn</Paragraph>
<Paragraph>Gall y fersiwn hon o'r cynnwys gynnwys fideo, delweddau a chynnwys rhyngweithiol nad yw o bosibl wedi'i optimeiddio ar gyfer eich dyfais. </Paragraph>
<Paragraph>Gallwch fanteisio ar y cwrs am ddim hwn fel y cafodd ei gynllunio'n wreiddiol ar OpenLearn, cartref dysgu am ddim Y Brifysgol Agored.  </Paragraph>
<Paragraph>Yno, byddwch yn gallu dilyn eich hynt drwy eich cofnod gweithgarwch, y gallwch ei ddefnyddio i arddangos eich dysgu.</Paragraph>
</GeneralInfo>
<AddressLine/>
<AddressLine/>
<FirstPublished>
<Paragraph/>
</FirstPublished>
<Copyright>
<Paragraph>Hawlfraint (h) 2020 Y Brifysgol Agored</Paragraph>
</Copyright>
<Rights>
<Paragraph/>
<Paragraph>Eiddo deallusol </Paragraph>
<Paragraph>Oni nodir fel arall, caiff yr adnodd hwn ei ryddhau o dan delerau Trwydded Creative Commons v4.0 http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/4.0/deed.en_GB. O fewn honno, mae'r Brifysgol Agored yn dehongli'r drwydded hon fel a ganlyn: www.open.edu/openlearn/about-openlearn/frequently-asked-questions-on-openlearn. Caiff hawlfraint neu hawliau sy'n syrthio y tu allan i delerau Trwydded Creative Commons eu cadw neu eu rheoli gan Y Brifysgol Agored. Darllenwch y testun cyfan cyn defnyddio unrhyw ran o'r cynnwys. </Paragraph>
<Paragraph>Credwn mai'r prif rwystr sy'n atal pobl rhag manteisio ar brofiadau addysgol o ansawdd uchel yw cost, a dyna pam ein bod yn ceisio cyhoeddi cymaint o gynnwys am ddim â phosibl o dan drwydded agored. Os bydd yn anodd rhyddhau cynnwys o dan drwydded Creative Commons yn ôl ein dymuniad (e.e. am na allwn ei fforddio neu am na allwn gael cliriant na dod o hyd i opsiynau amgen), byddwn yn dal i ryddhau'r deunydd am ddim o dan drwydded defnyddiwr terfynol personol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae hyn am mai'r un cynnig o ansawdd uchel fydd y profiad dysgu bob amser a dylai hynny fod yn rhywbeth cadarnhaol – hyd yn oed os yw'r drwydded yn wahanol i drwydded Creative Commons ar adegau. </Paragraph>
<Paragraph>Wrth ddefnyddio'r cynnwys, rhaid i chi ein priodoli ni (Y Brifysgol Agored) ac unrhyw awdur a nodwyd yn unol â thelerau Trwydded Creative Commons. </Paragraph>
<Paragraph>Defnyddir yr adran Cydnabyddiaethau i restru, ymhlith pethau eraill, gynnwys trwyddedig gan drydydd partïon (Perchenogol) nad yw'n ddarostyngedig i drwyddedu Creative Commons. Rhaid defnyddio cynnwys perchenogol fel y mae ac mewn cyd-destun â'r cynnwys bob amser. </Paragraph>
<Paragraph>Defnyddir yr adran Cydnabyddiaethau hefyd i dynnu eich sylw at unrhyw Gyfyngiadau Arbennig eraill a all fod yn gymwys i'r cynnwys. Er enghraifft, gall fod adegau pan na fydd trwydded Sharealike Anfasnachol Creative Commons yn gymwys i unrhyw ran o'r cynnwys hyd yn oed oes yw'n eiddo i ni (Y Brifysgol Agored). Yn yr achosion hyn, oni nodir fel arall, gellir defnyddio'r cynnwys at ddefnydd personol ac anfasnachol. </Paragraph>
<Paragraph>Rydym hefyd wedi nodi bod deunydd arall a gaiff ei gynnwys yn y cynnwys nad yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons yn Berchenogol. Mae hyn yn cynnwys logos Y Brifysgol Agored, enwau masnachu a gall gwmpasu delweddau ffotograffig a fideo penodol a recordiadau sain ac unrhyw ddeunydd arall y tynnir eich sylw ato. </Paragraph>
<Paragraph>Gall defnydd anawdurdodedig o unrhyw ran o'r cynnwys fod yn gyfystyr â thorri'r telerau ac amodau a/neu gyfreithiau eiddo deallusol.</Paragraph>
<Paragraph>Cadwn yr hawl i newid neu addasu unrhyw delerau ac amodau neu eu dirwyn i ben a nodir yma heb rybudd.</Paragraph>
<Paragraph>Cedwir neu rheolir pob hawl na chaiff ei chynnwys o fewn telerau trwydded Creative Commons gan Y Brifysgol Agored.</Paragraph>
<Paragraph>Pennaeth Eiddo Deallusol, Y Brifysgol Agored</Paragraph>
</Rights>
<Edited>
<Paragraph/>
</Edited>
<Printed>
<Paragraph/>
</Printed>
<Edition/>
</Standard>
</Imprint>
<Introduction>
<Paragraph>Mae Cefnogi Datblygiad Plant yn gwrs rhagarweiniol ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad plant, yn enwedig staff cymorth mewn ysgolion, megis cynorthwywyr addysgu. Mae'n adeiladu ar eich gwybodaeth a'ch sgiliau i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o blant, o'r blynyddoedd cynnar i adael yr ysgol. Cewch eich cyflwyno i rai syniadau craidd sy'n ymwneud â datblygu a dysgu, ymddygiad, anghenion arbennig ac anableddau. </Paragraph>
<Paragraph>Mae pob adran o'r cwrs yn cynnig cwisiau byr, rhyngweithiol er mwyn profi eich gwybodaeth.  </Paragraph>
<Paragraph>Os byddwch yn cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill bathodyn ar-lein a datganiad cyfranogi. Nid yw'r cyrsiau hyn yn arwain at unrhyw gredyd academaidd ffurfiol. Fodd bynnag, maent yn cynnig ffordd i chi helpu i ddatblygu o ddysgu anffurfiol i ddysgu ffurfiol. </Paragraph>
</Introduction>
<Covers>
<Cover template="false" type="ebook" src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/cover_welsh.jpg"/>
</Covers>
</FrontMatter>
<Unit id="cyflwyniad">
<UnitTitle>Cyflwyniad a chanllawiau</UnitTitle>
<Session>
<Paragraph>Gallwch lawrlwytho'r adran hon o'r cwrs er mwyn astudio all-lein. Ymysg y fformatau amgen a gynigir a fydd yn cefnogi astudio all-lein orau mae fersiynau Word, PDF ac ebook/Kindle o'r deunyddiau. Mae'r fformatau amgen eraill (SCORM, RSS, IMS, HTML ac XML) yn ddefnyddiol i'r sawl sydd am allforio'r cwrs i'w gynnal ar system rheoli dysgu arall. </Paragraph>
<Paragraph>Er y gallwch ddefnyddio'r fformatau amgen all-lein er cyfleustra i chi, bydd angen i chi weithio drwy'r fersiwn ar-lein o'r cwrs er mwyn sicrhau ymarferoldeb llawn (fel defnyddio dolenni, defnyddio'r deunyddiau sain a fideo, a chwblhau'r cwisiau). Defnyddiwch y lawrlwythiadau fel adnoddau cyfleus ar gyfer astudio'r deunyddiau pan na fyddwch ar y rhyngrwyd ac yna dychwelwch at y fersiwn ar-lein er mwyn sicrhau y gallwch gwblhau pob gweithgaredd sy'n arwain at ennill y bathodyn. </Paragraph>
<Paragraph>Er mwyn gallu defnyddio holl swyddogaethau'r cwrs ar-lein, rydym yn argymell eich bod yn defnyddio porwyr diweddaraf y rhyngrwyd fel Internet Explorer 9 ac uwch a Google Chrome fersiwn 49 ac uwch. </Paragraph>
<Paragraph>Os cewch anhawster wrth ffrydio'r cynnwys clyweledol, defnyddiwch y trawsgrifiadau sydd ar gael.</Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Mae pum adran i'r cwrs hwn, gyda phob un yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar gefnogi datblygiad plant.</Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Mae Datblygu a rheoli cydberthnasau yn edrych ar gamau datblygiad plentyn drwy ddefnyddio astudiaethau achos a chyflwyniad i theori datblygiad plentyn. Mae'n ystyried rolau'r teulu, yn ogystal â gweithwyr cymorth, mewn perthynas â'r datblygiad hwn. </ListItem>
<ListItem>Mae Annog darllen yn ystyried sut mae plant yn dysgu sut i ddarllen a datblygu sgiliau llythrennedd o'r adeg pan fyddant yn fabanod hyd at pan fyddant yn yr ysgol uwchradd. </ListItem>
<ListItem>Mae Rheoli ymddygiad yn edrych ar achosion posibl ymddygiad plant a phobl ifanc a rhai strategaethau cyffredin ar gyfer rheoli ymddygiad.  </ListItem>
<ListItem>Mae Anghenion arbennig yn edrych ar beth yw ystyr anghenion addysgol arbennig (AAA) a rôl cynorthwywyr addysgu wrth helpu plant sydd ag AAA. Yn y dyfodol, bydd hyn yn newid o AAA i ADY (Anghenion Dysgu Ychwanegol) </ListItem>
<ListItem>Mae Cynllun datblygu proffesiynol (CDP) yn edrych ar bwysigrwydd myfyrio ar eich ymarfer eich hun a gall llunio CDP eich helpu i feddwl am eich datblygiad personol a datblygiad eich gyrfa. </ListItem>
</NumberedList>
<Paragraph>Gyda'i gilydd, maent yn creu amser astudio o tua 15 awr. Mae pob adran yn cynnwys cymysgedd o ddeunydd darllen, clipiau fideo, gweithgareddau a chwisiau a fydd yn eich helpu i ymgysylltu â chynnwys y cwrs. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd adran arall, Datblygu'r hyn rwyf wedi'i dysgu ymhellach, yn eich galluogi i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn. Mae hefyd yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol, sydd hefyd yn ymwneud â'r broses o ddatblygu eich dysgu a'ch rhagolygon gyrfa. </Paragraph>
<Paragraph>Ar ôl i chi astudio adran, gofynnir i chi gwblhau cwis ar-lein byr sy'n cynnwys hyd at bum cwestiwn fesul adran. Bydd hyn yn eich helpu i brofi a sefydlu eich dysgu. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Cefnogi datblygiad plant wedi'i gynllunio i'ch galluogi i ddefnyddio'r adnoddau fel y mynnwch, gan astudio fesul tipyn er mwyn cyd-fynd â'ch gwaith a'ch ymrwymiadau mewn bywyd. Os byddwch yn dewis cwblhau pob adran o Cefnogi datblygiad plant a chasglu'r bathodyn, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi sy'n cydnabod eich cyflawniad. Efallai y bydd hyn yn ddefnyddiol i'w ddangos i'ch cyflogwr fel tystiolaeth o'ch dysgu. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ennill eich bathodynnau, darllenwch Beth yw bathodyn?</Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Gwe-lywio'r wefan</Heading>
<Paragraph>Gallwch ganfod eich ffordd o amgylch y cwrs hwn drwy glicio ar y dolenni. Mae'r hafan yn cynnwys dolenni i'r holl adrannau, cwisiau ac adnoddau perthnasol. Pan fyddwch mewn adran, bydd y ddewislen ar yr ochr chwith yn cynnwys dolenni i bynciau'r adran honno a'r cwis cysylltiedig. Mae'r ddewislen hefyd yn cynnwys dolenni i adrannau eraill o Cefnogi datblygiad plant ac i'r adran adnoddau. </Paragraph>
<Paragraph>Os nad ydych yn siŵr, symudwch eich llygoden dros un o'r dolenni yn y ddewislen a chlicio arni. Dyma'r ffordd hawsaf o symud o dudalen i dudalen. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Nesaf: … ’ ar waelod pob tudalen o destun. Peidiwch â phoeni am dorri dolen na difrodi'r we-dudalen – ni fydd hynny'n digwydd. Rhowch gynnig arni cyn gynted â phosibl cyn i chi ddechrau astudio. </Paragraph>
</InternalSection>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Nawr, bydd Jennifer Colloby, un o gyfranwyr y cwrs hwn, yn rhoi ychydig o gefndir i chi am y rheswm pam y gallech fod am astudio'r cwrs hwn. .</Paragraph>
<MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_ta_intro_video.mp4" type="video" x_manifest="nnco_ta_intro_video_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="21007b94" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="ad9c5ab0">
<Transcript>
<Paragraph>Helo. Fy enw yw Jennifer Colloby ac rwy'n aelod o'r tîm a ddatblygodd y cwrs hwn.</Paragraph>
<Paragraph>Croeso i Cefnogi datblygiad plant. Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn cael cyflwyniad i rai o'r gwobrau a'r heriau a wynebir gan gynorthwywyr addysgu a chydweithwyr eraill sy'n gweithio gyda phlant mewn ysgolion. Os byddwch yn cwblhau'r asesiad byr ar ddiwedd pob adran, byddwch yn gallu casglu bathodyn adran. Rhoddir y bathodynnau rhithwir hyn i gydnabod yr hyn rydych wedi'i ddysgu a gallwch eu harddangos ar eich proffiliau cyfryngau cymdeithasol – er enghraifft, ar LinkedIn a Facebook. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Cefnogi datblygiad plant yn cynnwys pum adran. Mae'r adrannau y byddwch yn eu hastudio yn seiliedig ar themâu a damcaniaethau cyffredin sy'n rhoi cipolwg ar y ffordd orau o gefnogi datblygiad plant. </Paragraph>
<Paragraph>Yn Adran 1 byddwch yn archwilio datblygiad cydberthnasau plant yn y teulu ac yn yr ysgol.  </Paragraph>
<Paragraph>Nod Adran 2 yw eich cyflwyno i rai agweddau ar ddatblygiad plentyn mewn perthynas â'r broses o ddatblygu sgilau llythrennedd a darllen. </Paragraph>
<Paragraph>Yn Adran 3, byddwch yn darganfod bod rheoli ymddygiad yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth yn helpu plant i ymddwyn mewn ffyrdd sy'n eu helpu i gymryd rhan yn llwyddiannus mewn gwersi, fel y gallant ddysgu a chyflawni eu potensial. </Paragraph>
<Paragraph>Yn Adran 4, byddwch yn ystyried y mathau o gymorth y gellir eu defnyddio ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig pan fyddant yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Adran 5 yn canolbwyntio ar drafodaeth gyda Katie, sy'n gynorthwyydd addysgu, a byddwch yn gweld beth sy'n rhoi boddhad i Katie yn ei swydd a sut mae'n gweld ei gyrfa'n datblygu. Yn yr adran hon, byddwch yn cael amser i fyfyrio ar eich sefyllfa bresennol, a chreu cynllun ar gyfer eich datblygiad personol eich hun. </Paragraph>
<Paragraph>Ar ddiwedd y pum adran, ceir gwybodaeth am 'Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach'. Bydd y rhain yn eich cyfeirio at wefannau ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â datblygiad parhaus eich dysgu eich hun. </Paragraph>
<Paragraph>Gallwch astudio pob un o'r pum adran ar wahân ac mewn unrhyw drefn, a chasglu bathodynnau rhithwir wrth i chi weithio. Mae'r cwrs yn hyblyg ac nid oes unrhyw derfyn amser ar gyfer ei gwblhau. Mae hyn yn golygu y gallwch astudio ar eich cyflymder eich hun ac ar yr adegau mwyaf cyfleus i chi. Rydym yn argymell y dylech geisio ymgymryd â phob un o'r adrannau, gan y bydd hyn yn eich galluogi i gael datganiad cyfranogi sy'n cydnabod y deilliannau dysgu a gyflawnwyd gennych. Gallwch ddangos y datganiad hwn i'ch cyflogwr wedyn fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i astudio a'i ddysgu ar y cwrs. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r cwrs yn cynnwys nifer o weithgareddau dan arweiniad a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar eich ymarfer eich hun, a chyfres o gwisiau rhyngweithiol ar ddiwedd Adrannau 1–4 a fydd yn rhoi cyfle i chi ennill eich bathodyn ar gyfer yr adrannau hynny. </Paragraph>
<Paragraph>Gall fod sawl rheswm pam eich bod wedi dewis astudio'r cwrs hwn. Gallai fod er mwyn helpu eich datblygiad proffesiynol drwy wella eich sgiliau sylfaenol, neu'n syml er eich budd personol ac er mwyn datblygu eich hyder fel dysgwr. </Paragraph>
<Paragraph>Nid yw'n hanfodol eich bod yn cael eich cyflogi fel cynorthwyydd addysgu er mwyn astudio'r cwrs hwn. Gallech fod wedi dod ar draws y cwrs hwn fel rhan o'ch taith i ddysgu mwy am ddatblygiad plant – efallai eich bod yn rhiant neu efallai eich bod yn ystyried symud i yrfa yn gweithio gyda phlant. Beth bynnag fo'ch rheswm, bydd astudio'r cwrs hwn yn rhoi cipolwg i chi ar y ffyrdd amrywiol y gallwch gefnogi datblygiad plant. </Paragraph>
<Paragraph>Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cwrs hwn, a phob lwc i chi wrth ddatblygu eich gyrfa yn y dyfodol.</Paragraph>
</Transcript>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_ta_intro_video_still.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_ta_intro_video_still.jpg" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="7b3801d0" x_imagesrc="nnco_ta_intro_video_still.jpg" x_imagewidth="320" x_imageheight="176"/>
</MediaContent>
<Paragraph>Os ydych eisoes yn gynorthwyydd addysgu, bydd yn ddefnyddiol i chi ystyried sut mae eich rôl a'ch profiad yn cyd-fynd â'r pynciau a gwmpesir yn y cwrs. Bydd y gweithgareddau wedi'u llywio drwy gydol y cwrs hwn yn eich helpu i ddysgu a myfyrio ar eich rôl eich hun. Os oes gennych rôl cynorthwyydd addysgu gyflogedig, bydd cwblhau Cefnogi datblygiad plant yn eich galluogi i ddangos eich dealltwriaeth o ddatblygiad plentyn i'ch cyflogwr. Gallai eich cyflogwr hefyd ofyn i chi astudio'r cwrs hwn fel rhan o'ch rhaglen sefydlu ar gyfer rôl newydd, neu ar gyfer eich datblygiad proffesiynol. </Paragraph>
<Box>
<Paragraph>Drwy gydol y cwrs, bydd gweithgareddau a fydd yn gofyn i chi ysgrifennu eich meddyliau a'ch teimladau yn seiliedig ar y materion sy'n cael eu trafod. Gofynnir rhai cwestiynau syml a fydd yn eich annog i feddwl mewn ffordd benodol. Byddai'n ddefnyddiol i chi dreulio rhywfaint o amser yn ystyried yr hyn rydych wedi'i ddysgu ym mhob adran, a'r cysylltiad rhyngddo â'ch rôl bresennol. </Paragraph>
<Paragraph>Nid prawf yw'r gweithgareddau hyn. Bwriedir iddynt eich helpu i fyfyrio'n fanylach ar yr hyn rydych wedi'i ddarllen. Darperir y gofodau ar gyfer y gweithgareddau hyn at eich defnydd eich hun er mwyn eich helpu i nodi'r hyn rydych wedi'i ddysgu, hyd yn oed os nad ydych wedi dod ar eu traws yn rhinwedd eich rôl eto. Ni fydd neb arall yn gweld yr hyn y byddwch yn ei ysgrifennu yma. Y nod yw eich helpu i fod yn fwy myfyriol a dwyn agweddau ar eich profiadau personol a'ch profiadau proffesiynol ynghyd er mwyn i chi allu eu hadolygu a dysgu ohonynt. </Paragraph>
</Box>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>wedi cael cipolwg ar safbwyntiau amrywiol plant o'r blynyddoedd cynnar drwodd i'r ysgol uwchradd </ListItem>
<ListItem>yn gallu myfyrio ar brofiad ac ymarfer personol, nodi cryfderau a gwendidau, a chymhwyso hyn at y materion y dewch ar eu traws yn eich ymarfer </ListItem>
<ListItem>deall sut mae rhai damcaniaethau yn ceisio egluro datblygiad plentyn</ListItem>
<ListItem>gallu myfyrio ar werth gwaith cynorthwywyr addysgu, y sgiliau cymorth cysylltiedig, a meddwl am eich rôl yn y dyfodol. </ListItem>
</BulletedList>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Treuliwch amser yn ystyried eich anghenion dysgu presennol a'ch cyfleoedd drwy gyflawni Gweithgaredd 1 isod.</Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 1</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Isod, ceir dolen i holiadur byr sy'n eich annog i ystyried y canlynol: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Beth yw eich blaenoriaethau presennol ar gyfer dysgu?</ListItem>
<ListItem>Sut mae astudio cwrs ar-lein byr yn cyd-fynd â'ch ffordd o fyw bob dydd? </ListItem>
<ListItem>Pa nodau rydych chi'n gobeithio eu cyflawni drwy astudio'r cwrs hwn?</ListItem>
<ListItem>Holiadur am eich dysgu (1)</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Erbyn diwedd y cwrs, gobeithio y byddwch yn gallu myfyrio ar eich atebion.  </Paragraph>
<Paragraph>Gobeithio y byddwch yn mwynhau'r cwrs!</Paragraph>
</Question>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ysgrifennwyd y cwrs hwn sydd am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Gwnaed cyfraniadau gan Katie Harrison (athro ac aelod o Undeb ATL). </Paragraph>
<Paragraph>Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0.</Paragraph>
<Paragraph>Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn. </Paragraph>
<Paragraph>Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Fideo</Heading>
<Paragraph>Fideo rhagarweiniol y cwrs (h) Y Brifysgol Agored </Paragraph>
</InternalSection>
</Session>
</Unit>
<Unit id="datblygu">
<UnitID/>
<UnitTitle>Datblygu a rheoli cydberthnasau</UnitTitle>
<Session>
<Paragraph>Byddwch yn dechrau drwy archwilio cydberthnasau yn y blynyddoedd cynnar o safbwynt teulu astudiaeth achos. Mae'r cyfrif yn nodi nifer o ffactorau posibl sy'n effeithio ar gydberthnasau plant. Gwnewch nodyn o'r ffactorau hyn wrth i chi ddarllen yr astudiaeth achos, ond cofiwch y gallai fod gennych safbwyntiau eraill oherwydd eich diddordebau gwahanol, eich gwybodaeth a'ch profiadau blaenorol. </Paragraph>
<CaseStudy>
<Heading>Astudiaeth achos: Ffurfio perthnasoedd cynnar</Heading>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec1_f01.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec1_f01.jpg" width="100%" webthumbnail="true" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="a6267783" x_imagesrc="nnco_sec1_f01.jpg" x_imagewidth="504" x_imageheight="484" x_smallsrc="nnco_sec1_f01.small.jpg" x_smallfullsrc="\\dog\PrintLive\Corporate\OLCymru Transfer\CYM-SCD-E1\assets\nnco_sec1_f01.small.jpg" x_smallwidth="250" x_smallheight="240"/>
<Caption>Ffigur 1 Meithrin cydberthnasau cynnar </Caption>
<Description>Dyma gyfosodiad o luniau o'r teulu. Mae un llun yn dangos cwpl ifanc a'u dau blentyn. Mae'r unigolion yn y llun wedi'u labelu â'r enwau 'Siân, 24', 'Dafydd, 25', 'Mali, 9 mis' a 'Tomos, 4'. Wrth ymyl hwn, mae llun o fenyw hŷn yn gwenu. Mae'n cynnwys y label 'Ceri, 49'. </Description>
<Paragraph>Mae Siân wedi penderfynu mynd yn ôl i'r gwaith yn llawn amser gan fod Tomos yn symud o'r cyfnod cyn-ysgol i ysgol brif ffrwd. Mae Mali wedi bod yn fabi yr oedd angen rhoi llawer o sylw iddi ac mae Siân yn poeni ynghylch sut y bydd yn ymdopi â'r ffaith ei bod i ffwrdd oddi wrth 'Mami' ac yn mynd i ofal dydd. </Paragraph>
<Paragraph>Roedd Tomos yn fabi hawdd iawn – yn llonydd a thawel. Fel plentyn bach, byddai'n aml yn ei fyd bach ei hun ac ni fyddai'n rhyngweithio â phlant eraill. Priodolodd rhieni Tomos ei ymddygiad i'r ffaith bod ganddo bersonoliaeth swil, ac, yn ddistaw bach, roeddent yn falch o'u bachgen bach ufudd. Yn ystod archwiliad iechyd arferol, cafodd Tomos ddiagnosis o nam ar ei glyw a thros y flwyddyn ddiwethaf mae wedi cael sawl prawf meddygol. Mae bellach yn gweld therapydd lleferydd ac iaith yn rheolaidd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Mali wedi bod yn fabi anoddach sydd angen mwy o sylw, a bu'n dioddef o golig nes oedd yn bedwar mis oed. Cafodd Siân anhawster yn meithrin cydberthynas â hi ac mae'n meddwl tybed a fydd unrhyw effeithiau hirdymor ar ei chydberthynas â'i merch, neu ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol Mali. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec1_f02.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec1_f02.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="986bd899" x_imagesrc="nnco_sec1_f02.jpg" x_imagewidth="477" x_imageheight="382"/>
<Caption>Ffigur 2 Cydberthnasau cynnar Tomos a Mali </Caption>
<Description>Mae Tomos a'i chwaer fach, Mali, yn mwynhau amser gydag aelodau gwahanol o'u teulu. Mae Tomos yn chwarae pêl-droed gyda'i dad, Dafydd. Mae Tomos yn adeiladu tŵr o frics gyda Mali ac mae'n chwythu swigod gyda'i nain, Ceri. Mae'r ddau blentyn yn cael cwtch yn y gwely gyda'u rhieni, Siân a Dafydd. </Description>
<Paragraph>Fel babi, roedd Tomos yn hapus i orwedd yn dawel yn ei grud, neu ddiddanu ei hun pan oedd yn hŷn, ac nid oedd yn ymddangos bod angen llawer o sylw arno. O ganlyniad, gallodd Siân weithio'n rhan amser. Rhyngddynt, gallodd Siân, Ceri a Dafydd ofalu am Tomos heb iddo orfod mynd i ofal dydd nes iddo ddechrau yn y grŵp cyn-ysgol pan oedd yn 3 oed. Fodd bynnag, gan gydbwyso amser gwaith a theulu, nid oedd yn hawdd iddynt fynd â Tomos allan i gwrdd â babanod a phlant bach eraill. Pan aeth Siân a Dafydd i gyfarfod rhieni gyda'r grŵp cyn-ysgol er mwyn trafod ei gyfnod pontio i'r ysgol, nid oeddent yn synnu i glywed nad oes ganddo ffrind arbennig, a'i fod yn ddigon hapus yn chwarae ar ei ben ei hun. </Paragraph>
<Paragraph>Gan fod gan Tomos nam ar ei glyw, cafodd ei atgyfeirio at therapydd lleferydd ac iaith. Roedd hyn yn ergyd fawr i'r rhieni a chawsant drafferth addasu. Fodd bynnag, roeddent yn benderfynol o wneud popeth a allent i'w helpu. Maent yn treulio llawer o amser yn gwneud yr ymarferion a gweithgareddau a awgrymir gan y gweithwyr proffesiynol y maent yn eu gweld. Nid yw Tomos bob amser am wneud y rhain, ac mae Siân a Dafydd weithiau yn gorfod ei berswadio i wneud yr hyn maent am iddo ei wneud. Mae Tomos yn cynhyrfu ac, ar adegau, mae Ceri yn camu i mewn ac yn gadael i Tomos gael ei ffordd heb wneud yr hyn y gofynnwyd iddo ei wneud. Mae hyn wedi arwain at wrthdaro rhwng yr oedolion yn y tŷ ers peth amser. </Paragraph>
<Paragraph>Pan aned Mali rai misoedd ar ôl diagnosis Tomos, cafodd Siân, yn enwedig, drafferth ymdopi â gofynion gwahanol y ddau blentyn. Mae Mali wedi bod yn hollol wahanol i Tomos fel babi. Cafodd golig ac roedd yn crïo drwy'r adeg, ac yn deffro'n aml yn ystod y misoedd cynnar. Roedd Dafydd yn gweithio llawer o sifftiau nos fel y gallai fod o gwmpas yn ystod y dydd er mwyn mynd â Tomos i'r grŵp cyn-ysgol a rhoi egwyl i Siân, ond roedd hyn yn golygu bod y ddau ohonynt yn flinedig iawn. Er bod Ceri wedi ceisio aros yn y cefndir pan oedd Tomos yn fabi er mwyn rhoi'r rhyddid i Siân a Dafydd ddatblygu eu sgiliau rhianta eu hunain, mae wedi cymryd mwy o ran ym magwraeth Mali. </Paragraph>
<Paragraph>Ers pan oedd Mali yn fabi bach iawn, roedd yn casáu cael ei rhoi i lawr a byddai'n sgrechian neu'n crïo oni bai ei bod yn cael ei dal neu'n cysgu. Roedd y ffaith bod angen llawer o sylw arni yn waith blinedig iawn i'r teulu. Treuliodd Ceri, a oedd yn gwneud llawer o'r gofalu ar y dechrau, sawl awr yn magu Mali yn ei breichiau er mwyn ceisio ei thawelu, pan oedd Siân yn brysur gyda Tomos. Mae gan Mali gysylltiad agos iawn â'i 'Nain' bellach. Mae wrth ei bodd yn cael cwtch gan Ceri wrth wrando ar stori ac yn aml bydd yn dewis mynd ati hi pan fydd wedi brifo. Yn ddiweddar, pan syrthiodd wrth chwarae yn yr ardd, er bod Siân yn agosach ati, dewisodd Mali fynd at ei nain i gael cysur yn hytrach nag at ei mam. Roedd hyn yn peri gofid i Siân a gwnaeth iddi sylweddoli bod angen iddi dreulio mwy o amser gyda Mali a gweithio i feithrin eu cydberthynas. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'n ymddangos bod cydberthynas Mali â Siân yn ymddangos yn llai sicr na'i chydberthynas â Ceri. Er ei bod yn ymddangos yn ddigon hapus i fod gyda Siân yn ôl pob golwg, ceir awgrymiadau bach ei bod yn fwy sicr o'i chydberthynas â Ceri; er enghraifft, y ffaith ei bod yn setlo'n haws i Ceri pan fydd yn crïo. Mae Siân yn ddiolchgar i Ceri am helpu gyda Mali, ond mae wedi dechrau poeni ei bod yn yr ail safle i Nain yn llygaid ei merch. Cafodd Tomos drafferth addasu i rannu ei rieni â Mali pan gafodd ei geni, ond mae wrth ei fodd â'i chwaer fach erbyn hyn, ac mae'n hoffi chwarae gyda hi, er ei bod yn mynd dan ei groen weithiau hefyd – yn enwedig pan fydd yn ceisio mynd â'i hoff degan deinosor! </Paragraph>
</CaseStudy>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 1</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud </Timing>
<Question>
<Paragraph>Ailddarllenwch yr astudiaeth achos a gwnewch nodyn o'r canlynol: </Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Pa ffactorau a all fod wedi effeithio ar gydberthnasau Tomos a Mali gyda'u rhieni a'u nain?</ListItem>
<ListItem>Pa resymau posibl sydd dros y posibilrwydd nad yw Mali wedi meithrin cydberthynas agos â'i mam?</ListItem>
</NumberedList>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr1"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae'r cyfrif yn nodi rhai ffactorau posibl a all effeithio ar gydberthnasau'r plant. Isod, mae rhai o'r ffactorau y gallech fod wedi'u nodi, ond gallech fod wedi nodi rhai gwahanol. Gall eich atebion adlewyrchu eich profiadau gwahanol, eich diddordebau a'ch gwybodaeth flaenorol. </Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Cafodd Tomos ddiagnosis bod ganddo nam ar ei glyw pan oedd Siân yn disgwyl Mali. Bu'n rhaid i Siân dreulio llawer o amser yn mynd â Tomos i apwyntiadau a chynnal gweithgareddau ag ef er mwyn ei helpu i ddatblygu ei iaith. Yn naturiol, bydd hyn wedi effeithio ar gydberthynas Tomos â'i rieni a'i nain wrth i bawb ymdopi â gofynion dull ymyrryd cynnar y bu'n rhaid i'r teulu ymdopi ag ef. </ListItem>
<ListItem>Efallai fod ymddygiad Tomos a'i ddiagnosis dilynol, a bywydau prysur ei rieni, wedi effeithio ar ba mor hawdd yr oedd yn gallu meithrin cydberthnasau â phlant eraill, er ei bod yn ymddangos ei fod yn meithrin cydberthynas iach â'i chwaer. </ListItem>
<ListItem>Mae gan Mali gydberthynas agos, ddiogel, â'i nain gan ei bod wedi gwneud llawer o'r gofalu cynnar pan oedd Siân yn brysur gyda Tomos. Cafodd Siân drafferth creu cysylltiad â Mali pan gafodd ei geni, o bosibl am ei bod yn canolbwyntio ar Tomos ond hefyd am fod Mali yn fabi 'anodd'. Ceir awgrym nad yw Mali yn siŵr bod ei mam yn ei charu ac efallai bod ganddi gydberthynas lai diogel â hi, a chafwyd tystiolaeth o hynny pan aeth Mali at ei nain pan gafodd ei hanafu. </ListItem>
</NumberedList>
</Discussion>
</Activity>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco-welsh_sec1_f03.jpg" width="100%" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco-welsh_sec1_f03.jpg" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="5118624b" x_imagesrc="nnco-welsh_sec1_f03.jpg" x_imagewidth="500" x_imageheight="499"/>
<Caption>Ffigur 3 Y cylch consentrig</Caption>
<Description>The concentric ring diagram shows the people involved in Thomas’s life. Thomas is in the centre and the closer they are to him on the diagram, the closer he feels to them. Not all the people on the diagram are family members. Others, such as his speech therapist, play an important role in his life too. </Description>
<Paragraph>Mae Ffigur 3 yn dangos un ffordd o gynrychioli'r amrywiaeth o bobl wahanol y mae Tomos yn dod i gysylltiad â nhw yn rheolaidd a pha mor agos y mae'n teimlo atynt. Wnaethoch chi sylwi ar unrhyw beth o ran y bobl y soniwyd amdanynt? Yn yr astudiaeth achos hon (ond nid gyda phob teulu) yr aelodau o'r teulu yw'r agosaf. Ar ôl hynny, efallai mai gweithwyr allweddol mewn ysgolion fel therapyddion lleferydd yw'r agosaf. Wrth i blant ddatblygu, mae cyfoedion yn dod yn bwysicach iddynt. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 2</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Meddyliwch yn ôl i'ch plentyndod cynnar a cheisiwch gofio gyda phwy yr oeddech yn agos pan oeddech yr un oed â Tomos a Mali. Edrychwch ar luniau o'ch plentyndod cynnar neu siaradwch ag aelodau o'r teulu. Os byddai'n well gennych, cynhaliwch y gweithgaredd hwn o safbwynt eich plant eich hun, neu blant rydych yn eu hadnabod yn dda. </Paragraph>
<Paragraph>Gwnewch ddiagram tebyg i Ffigur 3 er mwyn rhoi cynrychiolaeth weledol o'r wybodaeth neu gwnewch nodiadau am y canlynol, gan roi rhesymau dros eich atebion os gallwch: </Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Pwy oeddech chi'n agos atynt?</ListItem>
<ListItem>Ydych chi'n dal i fod yn agos atynt nawr?</ListItem>
</NumberedList>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr2"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Efallai eich bod wedi synnu at yr amrywiaeth o bobl y gwnaethoch nodi eich bod yn teimlo'n agos atynt, a chreu cysylltiad cryf â nhw. Efallai eich bod wedi nodi modrybedd ac ewythrod, neiniau a theidiau, llys riant, gofalwr maeth neu rywun nad yw'n perthyn i chi a fu'n gofalu amdanoch, fel gwarchodwr neu ffrind i'r teulu. </Paragraph>
<Paragraph>I'r rhan fwyaf o blant ifanc, mae rhieni a theulu agos yn bwysig. Gall oedolion a phlant eraill fod yn bwysig hefyd, ond nid ydynt bob amser yn cael y gydnabyddiaeth y maent yn ei haeddu am y rhan y maent yn ei chwarae ym mywydau plant.  </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Box>
<Paragraph>Mae rhai pobl yn meddwl bod y theori yn anodd, er ei fod yn bwysig er mwyn deall datblygiad plentyn. Nid oes rhaid i chi dreulio llawer o amser ar y theori ar y cam hwn o'ch astudiaethau. Mae'r dolenni allanol yn opsiynol ac nid ydynt wedi'u cynnwys yn yr amser astudio ar gyfer yr adran hon. </Paragraph>
</Box>
<Paragraph>Roedd gan Mali lai o ymlyniad i Siân, ei mam, nag yr hoffai Siân oherwydd ymlyniad agos Mali i'w nain. Ymlyniad yw cysylltiadau emosiynol rhwng plentyn ifanc a'r bobl sy'n ymwneud fwyaf ag ef. Mae dibynadwyedd a chysondeb y gofal a gaiff babi yn briodol i'w anghenion yn effeithio ar ba mor ddiogel y mae'n teimlo yn ei ymlyniadau; os bydd yn teimlo'n ddiogel, mae'n debygol y caiff cysylltiad cadarn ei greu gyda'r person sy'n rhoi'r gofal hwnnw. Fodd bynnag, gall anghysondeb a natur anrhagweladwy cydberthynas wneud i blentyn deimlo'n ansicr iawn, a bydd hyn yn cael effaith negyddol ar ba mor dda y caiff cysylltiad ei greu. </Paragraph>
<Paragraph>Erbyn i fabi gyrraedd 6 i 12 mis oed, gall feithrin cydberthynas emosiynol gadarn (ymlyniad) ag eraill a phan fydd ymlyniad wedi'i greu, bydd y babi'n mynd yn wyliadwrus o ddieithriaid a bydd yn gofidio os caiff ei wahanu oddi wrth y person/pobl y mae ganddo ymlyniad iddynt. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Theori ymlyniad a'r Prawf Sefyllfa Ryfedd</Heading>
<Paragraph>Defnyddiwyd y Prawf Sefyllfa Ryfedd gan seicolegwyr plant yng Ngorllewin Ewrop ac UDA ers sawl blwyddyn er mwyn asesu ansawdd cydberthnasau ymlyniad ymysg plant ifanc. Gwnaed hyn fel arfer gyda mamau yn brif ofalwyr. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 3</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Gwyliwch y clip fideo hwn o'r Prawf Sefyllfa Ryfedd a gynhelir ar Lisa, sy'n fabi, gan seicolegydd. Mae'r clip fideo yn dangos bod gan Lisa gydberthynas agos â'i mam. </Paragraph>
<MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/youtube:QTsewNrHUHU" type="embed" x_manifest="QTsewNrHUHU_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="da39a3ee">
<Transcript>
<Heading>Y Sefyllfa Ryfedd – Mary Ainsworth </Heading>
<Speaker>Adroddwr</Speaker>
<Remark>Ond a ellir trosi elfennau hanfodol bywyd yn y cartref yn lleoliad labordy safonol ar gyfer astudiaeth wyddonol dan reolaeth?</Remark>
<Remark>Ar ôl cynnal arsylwadau helaeth ar rieni a phlant gartref, lluniodd un o fyfyrwyr Bowlby – Mary Ainsworth – weithdrefn o'r enw 'y Sefyllfa Ryfedd', sy'n rhoi'r plentyn dan rywfaint o straen. Erbyn hyn, dyma'r ffordd fwyaf safonol o asesu ansawdd ymlyniad plentyn at ei ofalwr. </Remark>
<Remark>Yma, mae'r ymchwilwyr yn cofnodi sut mae Lisa, sy'n 14 mis oed, yn ymateb yn y lleoliad deniadol ond anghyfarwydd hwn. Sut y bydd yn ymateb i ddieithryn? Beth fydd yn digwydd pan fydd ei mam yn gadael yr ystafell – a phan fydd yn dychwelyd? </Remark>
<Remark>Mae ganddynt ddiddordeb arbennig yn ymddygiad Lisa pan fydd ei mam yn dychwelyd – mae seicolegwyr yn galw hyn yn 'aduniad'. </Remark>
<Speaker>Ymchwilydd</Speaker>
<Remark>Y peth pwysicaf yw chwilio am y math o gydbwysedd y mae plentyn yn ei daro rhwng angen am ymlyniad ac ar y llaw arall, yr awydd i archwilio'r deunydd chwarae. </Remark>
<Speaker>Adroddwr</Speaker>
<Remark>Pan fydd Lisa wedi setlo i lawr i chwarae, bydd dieithryn yn dod i mewn i'r ystafell ac yn eistedd yn y gadair gan ddarllen cylchgrawn. </Remark>
<Remark>Ar ôl munud neu ddau bydd y dieithryn yn ceisio rhyngweithio â Lisa.  </Remark>
<Remark>Yn fuan wedyn, bydd Lisbeth yn cael arwydd i adael yr ystafell. [Lisa yn dechrau crïo] </Remark>
<Remark>Mae'r dieithryn yn ceisio cysuro Lisa – ond yn ofer.  </Remark>
<Remark>Daw Lisbeth yn ôl i mewn i'r ystafell ac mae'r camera yn cofnodi ymateb Lisa.</Remark>
<Remark>Nawr, mae rhan gyntaf y weithdrefn drosodd ac mae Lisbeth yn setlo Lisa i lawr eto. Mae'r dieithryn yn eu gadael gyda'i gilydd eto. </Remark>
<Remark>Yn fuan wedyn, mae Lisbeth yn gadael hefyd. Mae Lisa ar ei phen ei hun – mae'n amlwg ei bod yn gofidio.  </Remark>
<Remark>Unwaith eto, mae ymdrechion y dieithryn i gysuro Lisa yn ofer. </Remark>
<Remark>Ond mae Lisbeth yn llwyddo i'w thawelu ar unwaith bron, ac yn fuan wedyn mae'r arsylwad yn dod i ben.</Remark>
<Remark>Dangosodd Lisa arwyddion allanol o'r hyn a elwir yn ymlyniad diogel.</Remark>
</Transcript>
</MediaContent>
</Question>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae'r Prawf Sefyllfa Ryfedd wedi cael ei feirniadu am sawl rheswm – er enghraifft, ni ellir ei hailadrodd yn hawdd. Cynhaliwyd y gwaith ymchwil yn bennaf ar blant o Orllewin Ewrop ac America, felly mae'r dehongliadau o ystyr cydberthnasau diogel yn benodol iawn i ddiwylliannau Ewropeaidd-Americanaidd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae cymdeithasau a grwpiau ethnig/diwylliannol lle na chaiff babanod eu hannog i ddarganfod, chwarae i ffwrdd oddi wrth eu teulu nac i ddangos chwilfrydedd, felly ni fyddent yn ymddwyn yn y ffordd hon pan oeddent yn ifanc (Cole, 1998). Wrth asesu diogelwch eu cydberthnasau, felly, gellir asesu'n anghywir nad yw'r babanod hyn yn teimlo’n ddiogel. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
</InternalSection>
<SubSection>
<Paragraph>Seicolegydd o'r enw Mary Ainsworth (1913–1999) a ddyfeisiodd y Prawf Sefyllfa Ryfedd, ond mae'r prawf wedi'i gysylltu'n agos â'r ddamcaniaeth ymlyniad. Mae damcaniaeth ymlyniad wedi dod yn gyffredin iawn mewn seicoleg ac yn gysylltiedig iawn â gwaith John Bowlby (1907–1990), a wnaeth waith ar ymlyniad yn y 1940au a'r 50au. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec1_f04.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec1_f04.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="01fd2b9f" x_imagesrc="nnco_sec1_f04.jpg" x_imagewidth="289" x_imageheight="384"/>
<Caption>Ffigur 4 John Bowlby</Caption>
<Description>Llun o ddyn canol oed hŷn sy'n gwisgo siaced frethyn a siwmper wlân yn edrych yn gyfeillgar ond yn syn. </Description>
<Paragraph>Mae gwaith ymchwil diweddar wedi dangos, yn ogystal â gallu meithrin ymlyniadau lluosog, bod babanod yn aml yn gallu meithrin cydberthnasau gwell yn y dyfodol os byddant yn creu mwy nag un ymlyniad sylfaenol (David, 2004). Nid oes raid i'r ymlyniadau sylfaenol hyn fod gyda rhieni'r plentyn. Weithiau, bydd plant yn creu ymlyniad sylfaenol i'w perthynas agos, fel mam-gu neu dad-cu, neu ffigur rhiant, fel gofalwr maeth hirdymor. Cofiwch yn nheulu'r astudiaeth achos fod Mali yn agosach i'w nain, Ceri, a oedd yn gofalu amdani tra bod ei mam, Siân, yn gweithio. </Paragraph>
</SubSection>
<SubSection>
<Paragraph>Mae'r ffordd y mae plant yn dysgu ac yn datblygu yn faes anferth o seicoleg ddatblygiadol ac mae safbwyntiau gwahanol yn sail i'r profiadau y caiff plant eu hamlygu iddynt. Mae dau ddamcaniaethwr yn benodol wedi bod yn ddylanwadol o ran datblygiad plant, sef, Jean Piaget (1896–1980) a Lev Vygotsky (1896–1934). </Paragraph>
<Paragraph>Roedd damcaniaeth Piaget yn dadlau bod datblygiad yn digwydd yn bennaf drwy ffactorau mewnol i'r plentyn a gaiff eu creu yn fiolegol a bod pob plentyn yn mynd drwy gamau datblygu tua'r un pryd. Peidiwch â phoeni gormod am y pedwar cam gwahanol (er y gallech fod am roi cynnig ar Gwestiwn 1 y cwis ar y pwynt hwn). Y camau hyn (Ffigur 5) yw: </Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Synhwyraidd-weithredol (0–2 oed)</ListItem>
<ListItem>Cynweithredol (2– 7 oed) </ListItem>
<ListItem>Gweithredu diriaethol (7–11 oed)</ListItem>
<ListItem>Gweithredu ffurfiol (11–15 oed) </ListItem>
</NumberedList>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco-welsh_sec1_f05_resized.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco-welsh_sec1_f05_resized.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="09614c4c" x_imagesrc="nnco-welsh_sec1_f05_resized.jpg" x_imagewidth="512" x_imageheight="298"/>
<Caption>Ffigur 5 Camau datblygu gwybyddol Piaget </Caption>
<Description>Ar frig y ddelwedd mae blwch yn cynnwys y geiriau: Camau datblygu gwybyddol Piaget. O'r blwch hwn ceir pedair saeth yn arwain at bedwar blwch yn cynnwys y testun canlynol. O'r chwith i'r dde: blwch 1: Synhwyraidd-weithredol (0–2 oed); blwch 2, Cynweithredol (2–7 oed); blwch 3, Gweithredu pendant (7–11 oed); blwch 4, Gweithredu ffurfiol (glasoed–oedolion). O dan bob blwch mae llun o blentyn. O dan flwch 1, plentyn yn cropian; blwch 2, plentyn tua 6 oed; blwch 3, plentyn 10 oed; blwch 4, person ifanc yn ei arddegau. </Description>
<Paragraph>Mae'r rhain yn gamau cymhleth o ddatblygiad gwybyddol ac os byddwch yn dewis astudio datblygiad plentyn yn fanylach, byddwch yn dysgu mwy amdanynt. Isod ceir crynodeb o brif nodweddion pob cam datblygu. Roedd Piaget yn dadlau bod pob plentyn yn dilyn y camau hyn yn eu trefn. </Paragraph>
<Quote>
<Paragraph>Cam 1: Synhwyraidd-weithredol (0–2 oed). Mae'r plentyn yn dysgu drwy wneud ac mae hyn yn cynnwys edrych, cyffwrdd a sugno. Mae ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o gydberthnasau achos ac effaith. Mae sefydlogrwydd gwrthrych yn ymddangos oddeutu 9 mis. </Paragraph>
<Paragraph>Cam 2: Cynweithredol (2–oed). Mae'r plentyn yn defnyddio iaith a symbolau, yn cynnwys llythrennau a rhifau. Mae myfïaeth yn amlwg. Mae sgwrsio yn nodi diwedd y cyfnod cynweithredol a dechrau gweithredoedd diriaethol. </Paragraph>
<Paragraph>Cam 3: Gweithredu diriaethol (7–11 oed). Gall y plentyn ddatblygu sgiliau cadwraeth, trefnu cyfresol a dealltwriaeth fwy aeddfed o gydberthnasau achos ac effaith. </Paragraph>
<Paragraph>Cam 4: Gweithredu ffurfiol (glasoed–oedolion). Gall yr unigolyn ddangos meddwl haniaethol yn cynnwys rhesymeg, rhesymu diddwythol, cymharu a dosbarthu. </Paragraph>
<SourceReference>(addaswyd o CliffsNotes, 2015) </SourceReference>
</Quote>
<Paragraph>Mewn cyferbyniad â chamau datblygu Piaget sy'n seiliedig ar fioleg, roedd Lev Vygotsky, y Rwsiad, yn ystyried bod ffactorau amgylcheddol, fel datblygiad cymdeithasol plentyn, yn bwysicach o ran ysgogi a chefnogi datblygiad. Gelwir hyn yn ddamcaniaeth lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Dafydd a Siân wedi dod yn ymwybodol drwy astudiaethau Siân bod damcaniaeth Vygotsky yn sail i'r hyn a wnânt wrth weithio gartref gyda Tomos ar yr ymarferion a bennwyd gan y therapydd lleferydd ac iaith. </Paragraph>
<Paragraph>I roi un enghraifft, gall Tomos wneud y synau 'sss' a 'shh' ond mae'n drysu rhyngddynt, felly mae'r therapydd lleferydd wedi gofyn iddynt fodelu'r synau y maent am i Tomos ei wneud drwy roi cwlwm tafod: 'Smelly shoes and socks shock sisters' ac yna ei annog i'w copïo. </Paragraph>
<Paragraph>O fewn dim ond ychydig ddiwrnodau, mae ei ynganu wedi gwella ac mae Tomos wedi gweld bod y gweithgaredd – y profiad dysgu – yn hwyl, mae'n debyg am ei fod yn meddwl ei fod yn ddoniol, cael chwaer i'w dychryn ag esgidiau a hosanau drewllyd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Vygotsky, fel Piaget, wedi dadlau bod plant yn dysgu drwy chwarae. Fodd bynnag, pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu â phlant eraill drwy chwarae. Gall Siân a Dafydd weld y graddau y mae Mali wedi elwa ar gael Tomos yno i wylio a dysgu ganddo. </Paragraph>
<Paragraph>Er eu bod yn gwybod bod rhesymau posibl eraill dros y gwahaniaethau rhwng y ddau blentyn, maent wedi sylwi bod Mali wedi cyrraedd y cerrig milltir o gropian a cheisio bwydo ei hun, er enghraifft, yn gynt o lawer na Tomos. Maent hefyd wedi sylwi bod Tomos yn ceisio dysgu pethau iddi, fel sut i bentyrru'r brics o'i throli brics, nawr bod ganddi lawer mwy o reolaeth dros yr hyn y gall ei wneud gyda'i chorff. </Paragraph>
</SubSection>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Mae rhieni'n chwarae rôl hanfodol yn natblygiad eu plant ac, yng nghymdeithas heddiw, mae cynifer o ddulliau gwahanol o rianta ag sydd o fathau o deulu. Os ydych yn rhiant, efallai eich bod wedi meddwl yn ddwys ynghylch penderfyniadau a wnaethoch a'r effaith a gawsant ar eich plentyn. O fewn teuluoedd, gall eich dull o rianta fod yn wahanol i ddull eich partner, neu eich rhieni eich hun. Er mwyn i ymarferwyr fod yn fyfyriol, mae'n bwysig eu bod yn meddwl am eu dull eu hunain o rianta neu o ryngweithio gyda phlant. </Paragraph>
<Paragraph>Wrth ddarllen am gydberthynas gynnar Tomos a Mali yn 'Pwysigrwydd y blynyddoedd cynnar', efallai y byddwch yn cofio bod gan Ceri, y nain, ffordd fwy ymlacedig o drin y plant. Fel sy'n gyffredin gyda neiniau a theidiau, roedd Ceri yn defnyddio dull gweithredu 'meddal', sef 'does dim rhaid i chi ei wneud os nad ydych yn dymuno', ond roedd Siân a Dafydd yn ceisio sefydlu dull gweithredu mwy disgybledig. </Paragraph>
<Paragraph>Mae seicolegwyr datblygiadol wedi cymryd diddordeb ers tro yn y ffordd y mae dulliau rhianta yn effeithio ar ddatblygiad plentyn. Mae'n anodd iawn dod o hyd i gysylltiadau achos ac effaith gwirioneddol rhwng camau gweithredu penodol rhieni ac ymddygiad plant yn ddiweddarach. Gall rhai plant a gaiff eu magu mewn amgylcheddau hynod wahanol dyfu i fyny a chael personoliaethau tebyg iawn. Neu, gall plant sy'n rhannu cartref ac sy'n cael eu magu yn yr un amgylchedd dyfu i fyny a chael personoliaethau gwahanol iawn. Er gwaethaf yr heriau hyn, mae ymchwilwyr wedi datgelu cysylltiadau pendant rhwng dulliau rhianta a'r effeithiau a gaiff y dulliau hyn ar blant. </Paragraph>
<Paragraph>Ar ddechrau'r 1960au, cynhaliodd y seicolegydd Diana Baumrind astudiaeth ar fwy na 100 o blant cyn oedran ysgol. Nododd bedwar dimensiwn pwysig o rianta:  </Paragraph>
<Quote>
<BulletedList>
<ListItem>strategaethau disgyblu</ListItem>
<ListItem>cynhesrwydd a magwraeth</ListItem>
<ListItem>dulliau cyfathrebu</ListItem>
<ListItem>disgwyliadau o ran aeddfedrwydd a rheolaeth. </ListItem>
</BulletedList>
<SourceReference>(Baumrind, 1967)</SourceReference>
</Quote>
<Paragraph>Yn seiliedig ar y dimensiynau hyn, awgrymodd Baumrind bod y rhan fwyaf o rieni'n defnyddio un o dri dull rhianta, fel y dangosir yn Nhabl 1. </Paragraph>
<TableHead>Tabl 1 Dulliau rhianta yn seiliedig ar bedwar dimensiwn Baumrind o rianta   </TableHead>
Dull rhianta
Ymddygiad rhianta
Effaith bosibl ar y plentyn
Ymadroddion y gallai rhiant eu defnyddio
Awdurdodus
<Paragraph>Disgyblaeth lem </Paragraph><Paragraph>Disgwylir i'r plentyn ddilyn rheolau </Paragraph><Paragraph>Dim cyfle i'r plentyn drafod</Paragraph>
<Paragraph>Anfodlon </Paragraph><Paragraph>Tawedog </Paragraph><Paragraph>Drwgdybus </Paragraph><Paragraph>Gwrthryfelgar (wrth iddo fynd yn hŷn)</Paragraph>
<Paragraph>‘Na, elli di ddim …’</Paragraph><Paragraph>'Am fy mod i'n dweud, dyna pam'</Paragraph><Paragraph>'Gwna fe – NAWR!'</Paragraph>
Goddefol
<Paragraph>Rhoi rhai gorchmynion a chael rhai rheolau neu ffiniau</Paragraph><Paragraph>Gallant gymryd amser i egluro eu penderfyniadau i'r plentyn </Paragraph><Paragraph>Gadael i'r plentyn reoli ei ymddygiad ei hun </Paragraph><Paragraph>Bod yn ffrind yn hytrach na rhiant i'r plentyn</Paragraph>
<Paragraph>Gall yr effaith fod yn gadarnhaol ac yn negyddol</Paragraph><Paragraph>Ansicr</Paragraph><Paragraph>Awdurdodol a hunanganolog</Paragraph><Paragraph>Diffyg cyfrifoldeb personol</Paragraph><Paragraph>Sgiliau cymdeithasol gwell </Paragraph><Paragraph>Credu ynddo'i hun </Paragraph>
<Paragraph>‘Ti biau'r dewis. Os mai dyna wyt ti wir am ei wneud, wedyn …’ </Paragraph><Paragraph>'Y rheswm pam rwyf am i ti ... yw ...'</Paragraph><Paragraph>‘Wel, os nad wyt ti'n teimlo fel gwneud …’ </Paragraph>
Awdurdodol
<Paragraph>Cymryd rheolaeth dros ymddygiad ei blentyn ond hefyd ei annog i fod yn unigolyn</Paragraph><Paragraph>Gwrando ar yr hyn sydd gan y plentyn i'w ddweud </Paragraph><Paragraph>Gosod safonau clir a chosbau di-gosb </Paragraph>
<Paragraph>Lefelau uchel o hunan-barch </Paragraph><Paragraph>Cyflawni'n well yn yr ysgol </Paragraph><Paragraph>Annibynnol </Paragraph><Paragraph>Bod yn gymdeithasol fedrus </Paragraph>
<Paragraph>'Dyma fy marn i ... ond beth yw dy farn di?' </Paragraph><Paragraph>'Mae'n ddrwg gen i, ond gwnaethon ni gytuno ...' </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 4</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Edrychwch eto ar dri dull rhianta Baumrind (Tabl 1) ac yna ystyriwch ddulliau rhianta Dafydd, Siân a Ceri, y nain. Pa ddull rhianta a ddefnyddiodd bob person? </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr3"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae gan y nain, Ceri, ddull mwy goddefol o rianta, ond mae Dafydd a Siân yn daer yn hytrach nag yn awdurdodus. Nid yw'r un ohonynt yn ddisgyblwyr llym, nac yn oddefol – nid ydynt yn gadael i'w plant osod eu ffiniau eu hunain na rheoli eu hymddygiad eu hunain.  </Paragraph>
<Paragraph>Ym mhedwar dimensiwn Baumrind o arddulliau rhianta, byddai'n well gan y rhan fwyaf o rieni heddiw fod yn daer nac yn awdurdodus. Wrth drafod damcaniaeth ymlyniad, gwelsoch pa mor bwysig yw cydberthynas plentyn â'i rieni yn ystod y blynyddoedd cynnar a sut y gall hyn effeithio ar ddatblygiad y plentyn yn y dyfodol. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Fel cynorthwyydd addysgu, neu weithiwr cymorth dysgu, mae angen i chi gydnabod pwysigrwydd rhieni fel partneriaid. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, ewch i Rhieni fel partneriaid (cwrs OpenLearn). Yma, byddwch yn gweld y gall partneriaeth fod ar sawl ffurf. Byddwch yn gweld nad yw'r gydberthynas rhwng rhieni ac ymarferwyr yn syml bob amser a bod rhai rhieni yn betrusgar neu y gall gweithwyr proffesiynol fod yn amddiffynnol pan gânt eu herio. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 5</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Darllenwch Adran 1.2.3 o'r cwrs Rhieni fel partneriaid a cheisiwch gael gwybod pam bod cydweithio mor bwysig. </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr4"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae cydweithredu â rhieni yn bwysig i hunaniaeth, hunan-barch a lles seicolegol plant. Mae hyn ynddo'i hun yn rheswm cymhellol ar gyfer partneriaeth agos. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ystyr 'pontio' yw trosglwyddo o un lle, cyflwr, ffurf, cam neu weithgaredd, i un arall. Mae pob un ohonom yn profi gwahanol fathau o gyfnodau pontio bob dydd a thrwy gydol ein bywydau. Gwahaniaethodd Vogler et al. (2008) rhwng cyfnodau pontio llorweddol a fertigol drwy eu cysylltu â gweithgareddau penodol. Mae cyfnodau pontio llorweddol yn digwydd bob dydd neu'n rheolaidd, ac, fel arfer, maent yn cyfeirio at symud neu newid mewn trefn. Mae cyfnodau pontio llorweddol yn disgrifio gweithgareddau fel plant yn mynd o'r ystafell ddosbarth i'r iard chwarae (symud) neu'n cymryd rhan yn y mabolgampau blynyddol (newid mewn trefn). </Paragraph>
<Paragraph>I'r gwrthwyneb, mae cyfnodau pontio fertigol yn llawer mwy arwyddocaol ac maent yn gysylltiedig â digwyddiadau penodol nad ydynt yn digwydd yn rheolaidd. Disgrifir dechrau yn yr ysgol fel cyfnod pontio fertigol ac, yn ddiddorol, yn aml, byddwn yn trafod plant yn symud 'i fyny' o'r cylch meithrin i'r ysgol gynradd ac yn symud 'i fyny' o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae rôl rhieni yn arbennig o bwysig yn y cyfnodau pontio fertigol y mae plant yn eu profi wrth symud 'i fyny' o un ysgol i un arall, ynghyd â rôl athrawon a chynorthwywyr addysgu. </Paragraph>
<Quote>
<Paragraph>‘Eto, yn aml, y cynorthwyydd addysgu sy'n gorfod delio ag ofnau plentyn am hyn gan fod ganddo fwy o amser i allu eistedd a thrafod ei bryderon ag ef.' </Paragraph>
<SourceReference>(Katie Harrison, Cynorthwyydd Addysgu, 2015)</SourceReference>
</Quote>
<Paragraph>Mae Vogler et al. (2008) yn trafod trydydd math o gyfnod pontio o'r enw cyfnod pontio sy'n gysylltiedig ag addysg. Mae hyn yn cyfeirio at y newidiadau llai ffurfiol ym mywydau ac arferion plant sy'n digwydd y tu allan i leoliadau sefydliadol. Gall y newidiadau hyn ddigwydd mewn bywyd bob dydd y tu allan i'r ysgol ond gallant effeithio ar fywydau a llesiant plant a'u llywio; byddai ysgariad yn enghraifft o'r math hwn o newid oherwydd efallai bod yn rhaid i'r plentyn symud o fyw gydag un rhiant i fyw gydag un arall. Ar gyfer llawer o blant heddiw, gall cyfansoddiad eu bywyd teuluol newid sawl gwaith drwy gydol eu plentyndod ac efallai y byddant yn cael cyfnodau pontio pan fyddant yn symud rhwng cartrefi wrth ymweld â rhieni a byw gyda llys frodyr a chwiorydd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae amseriad cyfnodau pontio fertigol, fel dechrau yn yr ysgol yn 5 oed a symud i fyny i'r ysgol uwchradd yn 11 oed, yn seiliedig ar ddatblygiad plant a chawsant eu dylanwadu'n benodol gan waith Jean Piaget. Gwnaeth ei gred fod pob plentyn, ar yr un pryd fwy neu lai, yn mynd drwy bedwar cam datblygu gwybyddol ddylanwadu'n gryf ar gysyniadau o pryd roedd plant yn 'barod ar gyfer yr ysgol' er enghraifft, ac felly llywiodd amseriad cyfnodau pontio fertigol yn y system addysg yn Lloegr. </Paragraph>
<Paragraph>Mae cyfnodau pontio yn digwydd i bob un ohonom drwy gydol ein bywydau. Mae rhai yn gyffredin i'r rhan fwyaf ohonom, fel dechrau yn yr ysgol neu ddod yn rhiant. Mae cyfnodau pontio arwyddocaol fel y rhain fel cerrig milltir yn ein bywydau – rydym yn pasio drwyddynt ac yn edrych yn ôl arnynt. Pan edrychwn yn ôl arnynt, byddwn yn cofio sut roeddem yn teimlo ar y pryd a gall hyn effeithio ar sut rydym yn teimlo amdanom ein hunain a'n gallu i ymdopi â sefyllfaoedd newydd, fel dechrau mewn swydd newydd neu ddod yn aelod o grŵp cymunedol lleol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'n debyg bod pob un ohonom yn cofio ein diwrnod cyntaf yn yr ysgol gynradd yn glir. Mae'r astudiaeth achos isod yn eich cyflwyno i Lowri a'i hatgofion o'i diwrnod cyntaf yn yr ysgol. </Paragraph>
<CaseStudy>
<Heading>Astudiaeth achos: diwrnod cyntaf Lowri yn yr ysgol gynradd</Heading>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec1_f06.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec1_f06.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="32d801ca" x_imagesrc="nnco_sec1_f06.jpg" x_imagewidth="250" x_imageheight="388"/>
<Caption>Ffigur 6 Lowri yn ei gwisg ysgol newydd </Caption>
<Description>Dyma gartŵn o Lowri yn ei gwisg ysgol: blaser glas, crys gwyn, tei streipiog coch a melyn, sgert lwyd, hosanau llwyd ac esgidiau du. Mae'n gafael mewn gwarbac glas a melyn. </Description>
<Paragraph>Mae Lowri yn 11 oed. Mae'n edrych yn ôl ar ei phrofiadau o'i chyfnod pontio pwysig cyntaf o'r cartref i'r ysgol. Roedd hwn yn gyfnod pontio llorweddol i ddechrau, gan ei fod yn cynnwys symud ffisegol yn llythrennol o un lle i'r llall. Ond roedd hefyd yn gyfnod pontio fertigol, gan ei fod yn cynnwys newid profiad, symud ‘i fyny' i'r ysgol gynradd. </Paragraph>
<Paragraph>Yn Ffigur 7, mae Lowri yn cofio ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol a'r teimladau a gafodd ynghylch cael ei gadael mewn lleoliad dieithr. Chwaraeodd ei hathro rôl bwysig wrth wneud y cyfnod pontio yn haws i Lowri. Mae'r ffaith ei bod yn cofio'r diwrnod yn fanwl yn dangos pa mor gofiadwy oedd y profiad i blentyn bach 4 oed. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec1_f07.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec1_f07.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="9125eb6c" x_imagesrc="nnco_sec1_f07.jpg" x_imagewidth="512" x_imageheight="649"/>
<Caption>Ffigur 7 Stori Lowri </Caption>
<Description><Paragraph>Dyma ran o stori a ysgrifennwyd gan Lowri. Mae'n darllen fel a ganlyn:  </Paragraph><Paragraph>Lowri Williams Fy niwrnod cyntaf yn yr ysgol </Paragraph><Paragraph>Roeddwn yn 4 oed pan aeth fy mam â fi i’r ysgol, ac roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn ac eisiau mynd adref. Enw fy athrawes oedd Mrs Littlewood. Roedd ganddi wallt byr brown ac roedd yn edrych yn gyfeillgar. Dywedodd “Lowri, eistedd yma gyda Cara”. Eisteddais gyda fy ffrind, Cara, ac rwy’n dal i fod yn ffrindiau gyda hi. </Paragraph><Paragraph> Rwy’n dal i gofio’r wers gyntaf, sef celf, ac roedd yn rhaid i ni dynnu llun o’n hunain. Yn fy llun i, rwy’n gwisgo fy ngwisg ysgol am y tro cyntaf. Yn sydyn, roedd yn amser cinio a gwnes i fwyta fy mhecyn bwyd yn yr ystafell ddosbarth. Pan ddechreuais i yn yr ysgol, doedd dim cinio ysgol, ond o flwyddyn 1 ymlaen, roedd cinio ysgol ar gael. </Paragraph></Description>
</CaseStudy>
<Paragraph>I blant bach, mae'n debyg y bydd y cyfnod pontio fertigol o'r cartref i'r ysgol hefyd yn golygu newid gofalwr, fel newid o fam i athro. I blant hŷn, bydd symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd hefyd yn golygu newid arferion, fel gorfod symud o amgylch yr ysgol i fynd i ystafelloedd dosbarth gwahanol ar gyfer yr holl bynciau gwahanol a gaiff eu hastudio. I lawer o blant, gall symud i ysgol uwchradd olygu newid grŵp ffrindiau hefyd, oherwydd, yn aml, caiff plant eu hanfon i ysgolion gwahanol yn dibynnu ar ddalgylchoedd neu ddewis rhieni. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Gweithgaredd 6 yn gofyn i chi nodi cyfnodau pontio yn eich bywyd cynnar a myfyrio arnynt.</Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 6</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Multipart>
<Part>
<Heading>Rhan 1</Heading>
<Question>
<Paragraph>Y tri math o gyfnod pontio yw: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>cyfnodau pontio llorweddol</ListItem>
<ListItem>cyfnodau pontio fertigol</ListItem>
<ListItem>cyfnodau pontio sy'n gysylltiedig ag addysg.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gan ystyried y rhain, meddyliwch am eich plentyndod a nodwch yr adegau pan wnaethoch wynebu'r cyfnodau pontio hyn. Gwnewch nodyn o'r cyfnodau pontio a gafodd yr effaith fwyaf ar eich bywyd, gan sicrhau eich bod yn cynnwys eich oedran ar adeg y cyfnod pontio. </Paragraph>
<Paragraph>Cyfnodau pontio llorweddol</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr5"/>
</Interaction>
</Part>
<Part>
<Question>
<Paragraph>Cyfnodau pontio fertigol</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr6"/>
</Interaction>
</Part>
<Part>
<Question>
<Paragraph>Cyfnodau pontio sy'n gysylltiedig ag addysg</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr7"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae'n fwyaf tebygol y byddwch wedi nodi'r cyfnod pontio o ddechrau yn yr ysgol neu o adael yr ysgol. Efallai eich bod wedi nodi pan wnaethoch chi symud tŷ neu symud i wlad newydd fel cyfnod pontio llorweddol. Efallai bod dechrau yn y Cubs neu'r Brownies, neu adael y clybiau hyn, wedi rhoi atgofion cryf i chi o gyfnod pontio fertigol. </Paragraph>
</Discussion>
</Part>
<Part>
<Heading>Rhan 2</Heading>
<Question>
<Paragraph>Dewiswch un cyfnod pontio fertigol i fyfyrio arno. Nodwch bobl eraill fel oedolion, brodyr a chwiorydd neu ffrindiau a fu o gymorth i chi yn ystod y cyfnod pontio hwn.  </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Sut oeddech chi'n teimlo cyn ac ar ôl y cyfnod pontio?</ListItem>
<ListItem>Pa rôl (cadarnhaol neu negyddol) a chwaraeodd pobl eraill?</ListItem>
<ListItem>Sut y gellid bod wedi gwella'r profiad?</ListItem>
</BulletedList>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr8"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Pa eiriau a ddefnyddiwyd gennych er mwyn disgrifio sut roeddech yn teimlo: llawn cyffro, nerfus, ofnus neu gyfuniad o'r rhain? Mae plant heddiw yn dal i brofi'r emosiynau hyn wrth iddynt nesáu at gyfnodau pontio yn eu bywydau a mynd drwyddynt. </Paragraph>
<Paragraph>A lwyddoch i gofio a gwneud nodyn o'r bobl a wnaeth eich helpu drwy'r newidiadau hyn? Weithiau, efallai mai plentyn arall, brawd neu chwaer hŷn neu ffrind gydag ymagwedd gadarnhaol at fywyd oedd y person hwn. </Paragraph>
<Paragraph>Mae cynorthwywyr addysgu yn chwarae rôl allweddol yn helpu plant i setlo mewn lleoliad newydd, wrth iddynt bontio o un ysgol i un arall. </Paragraph>
</Discussion>
</Part>
</Multipart>
</Activity>
<Paragraph>Mae storio Lowri yn parhau.</Paragraph>
<CaseStudy>
<Heading>Astudiaeth achos: Cyfnod pontio Lowri o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd</Heading>
<Paragraph>Nawr bod Lowri yn 11 oed, mae ar fin cael cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd. Mae'n edrych ymlaen ond mae hefyd braidd yn bryderus. Aeth Lowri a'i mam, Carys, i'r digwyddiad gwybodaeth a gynhaliwyd yn ysgol Lowri. Yn ogystal ag athrawon a chynorthwywyr addysgu o'r ysgol gynradd, roedd y pennaeth gofal bugeiliol a phennaeth blwyddyn 7 o'r ysgol uwchradd yno hefyd. </Paragraph>
<Paragraph>Daeth yn amlwg bod cynorthwywyr addysgu yn yr ysgol gynradd yn cymryd rhan bwysig yn y broses o helpu disgyblion blwyddyn 6 a'u rhieni/gofalwyr yn ystod y cyfnod pontio. Mae gan lawer o blant gydberthnasau llai ffurfiol â'u cynorthwyydd addysgu o gymharu â'u hathro ac, yn aml, maent yn ei chael yn haws mynd atyn nhw na'r athro dosbarth pan fydd ganddynt bryder neu gwestiwn. </Paragraph>
<Paragraph>Gwelodd Lowri fod yr ysgol yn cydnabod bod y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd yn garreg filltir fawr i ddisgyblion a'u rhieni. Felly mae'r ysgol yn defnyddio cynorthwywyr addysgu er mwyn gweithio ochr yn ochr â staff addysg mewn rôl gefnogol er mwyn sicrhau y rhoddir y wybodaeth gywir o ran y cyfnod pontio a hefyd er mwyn cynnig cymorth unigol i ddisgyblion yn ôl yr angen. </Paragraph>
<Paragraph>Mae gan Lowri gydberthynas dda â'r cynorthwyydd addysgu sy'n ei helpu yn ei dosbarth a rhoddodd hyn gysur iddi. Roedd Carys yn falch o weld y byddai'r cynorthwywyr addysgu hefyd yn rhoi cymorth i rieni/gofalwyr ar gais ond y byddent yn trosglwyddo pryderon i'r athro pe bai angen. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec1_f08.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec1_f08.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="91056c00" x_imagesrc="nnco_sec1_f08.jpg" x_imagewidth="444" x_imageheight="321"/>
<Caption>Ffigur 8 Lowri a Carys yn y digwyddiad gwybodaeth </Caption>
<Description><Paragraph>Dyma gartŵn o Lowri a Carys yn sefyll yn siarad ag athro gwrywaidd mewn noson wybodaeth. Yn y cefndir, mae sawl arddangosiad mawr gyda'r penawdau 'Mathemateg', 'Ieithoedd', a 'Celf a Dylunio'. </Paragraph></Description>
<Paragraph>Gwelodd Lowri fod ei hysgol uwchradd newydd yn bwriadu cynnal noson agored llawn gwybodaeth i ddisgyblion a'u rhieni/gofalwyr cyn y cyfnod pontio, ac y byddai staff o'r ysgol uwchradd yn dod i ymweld â disgyblion yn ystod diwrnod yr ysgol gynradd. Byddai'r staff a fyddai'n ymweld yn athrawon blwyddyn 7 felly byddai cyfarfod cyntaf Lowri â'i hathro dosbarth newydd mewn amgylchedd cyfarwydd. Teimlai Lowri y byddai'n gallu gofyn unrhyw gwestiynau o 'ddiogelwch' ei hystafell ddosbarth ei hun gyda'i hathro a'i chynorthwyydd addysgu yn bresennol. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd disgyblion hefyd yn mynd i'r ysgol uwchradd ar ddau ymweliad yn ystod y diwrnod ysgol a bydd cynorthwyydd addysgu Lowri wrth law i gynnig help llaw i unrhyw ddisgybl ond yn enwedig y rheini sy'n ymddangos yn nerfus neu'n bryderus. Bydd staff yr ysgol gynradd yn cyfathrebu â'u cydweithwyr yn yr ysgol uwchradd a'r rhieni/gofalwyr yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod y cyfnod pontio mor ddidrafferth â phosibl. </Paragraph>
<Paragraph>Roedd yn gysur i Carys wybod bod disgyblion yn cael eu gwahodd i ymweld â'r ysgol uwchradd am ddiwrnod ychwanegol er mwyn eu helpu i ymgyfarwyddo a gwneud y cyfnod pontio'n haws – mae hyn yn rhoi ychydig mwy o amser i staff yr ysgol uwchradd ddod i'w hadnabod ac i'r disgyblion deimlo'n gyfforddus ynghylch y newidiadau sydd ar droed. </Paragraph>
</CaseStudy>
<Paragraph>Mae'n gymharol gyffredin i blant boeni am y cyfnod pontio i'r ysgol uwchradd. Mae rhai plant yn mynd drwy'r cyfnod pontio hwn 'ar eu pen eu hunain' heb help eu ffrindiau na'u rhieni. Gall plant boeni ynghylch yr hyn y mae mynd i'r ysgol uwchradd yn ei olygu. Byddant yn meddwl a fydd y gwaith ysgol yn llawer anoddach a ph'un a fyddant yn gallu ymdopi. Mae'n bwysig i'r ysgolion a'r athrawon gydnabod y pryderon hyn a helpu'r plant cyn ac ar ôl y cyfnod pontio. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd llawer o ysgolion uwchradd yn cynnwys gweithgareddau chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol yn ystod yr wythnosau cynnar pan fydd disgyblion newydd yn ymuno a bydd llawer o blant yn cael budd o hyn. Pan fyddant wedi setlo, bydd plant blwyddyn 7 yn eithaf hoff o gael eu trin yn fwy fel oedolyn ac yn llai fel plentyn yn amgylchedd yr ysgol uwchradd. Mae'n ymddangos bod cymorth gan rieni/gofalwyr, disgyblion eraill, athrawon a rhaglen o weithgareddau cymdeithasol benodedig yn ffactorau allweddol ar gyfer cyfnod pontio llwyddiannus.  </Paragraph>
<Paragraph>Mae'n ymddangos bod y rolau a chwaraeir gan oedolion a chyfoedion yn ddylanwadol o ran creu cyfnod pontio llwyddiannus. Yn gynharach yn yr adran hon, cawsoch eich cyflwyno i syniadau Lev Vygotsky a ymchwiliodd i bwysigrwydd rhyngweithio neu gymorth cymdeithasol gyda rhieni neu ofalwyr ac aeth ymlaen i ddisgrifio hyn o fewn lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol yn rhoi pwyslais sylweddol ar sut mae'r diwylliant rydym yn byw ynddo a'r bobl rydym yn rhyngweithio â nhw (ein hamgylchedd) yn dylanwadu ar sut rydym yn dysgu, yn ymddwyn ac yn addasu i sefyllfaoedd newydd. Barn Vygotsky oedd bod plant yn ymgysylltu'n weithredol â'u hamgylchedd eu hunain a thrwy hynny yn dysgu sut i addasu i sefyllfaoedd newydd. </Paragraph>
<Paragraph>Disgrifiodd Vogler et al. (2008) sut y gellir deall cyfnodau pontio fel eiliadau allweddol ym mhroses dysgu cymdeithasol-ddiwylliannol lle mae plant yn newid eu hymddygiad yn ôl dealltwriaeth newydd sy'n cael ei meithrin drwy ryngweithio cymdeithasol â'u hamgylchedd. Yr hyn sy'n bwysig yma yw'r mater allweddol o sicrhau bod plant yn ymgysylltu neu'n rhyngweithio â'i gilydd. Drwy wneud hynny, mae'n awgrymu proses ddwyffordd a'r ffaith bod plant yn barod i addasu i'r sefyllfa newydd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae paratoi plant i fod yn barod ar gyfer hyn yn rôl bwysig i ysgolion yn ogystal â rhieni. Mae'r rhan fwyaf o blant yn ymgymryd â'r broses bontio hon yn llwyddiannus. Ond beth sy'n digwydd i blant swil ac amharod iawn, a'r rhai y mae'r ysgol yn newydd iddynt, yn ogystal â'r diwylliant lle y cynhelir yr addysg? </Paragraph>
<Paragraph>Mae symud i'r ysgol uwchradd yn golygu nifer o newidiadau i bob plentyn a, heb os, gall y cyfnod pontio hwn fod yn llawn straen i blant a'u rhieni. O safbwynt plentyn, gall symud o'r ysgol gynradd olygu colli grwpiau o ffrindiau, canfod eu ffordd o amgylch ysgol mwy o faint a'r ffaith nad hwy yw'r hynaf yn eu hysgol mwyach.  </Paragraph>
<Paragraph>I'r rhan fwyaf o blant, ar ôl treulio dwy i dair wythnos yn eu hamgylchedd newydd, byddant yn setlo'n well ac yn fwy hyderus ynghylch bywyd mewn ysgol uwchradd. I rai plant, gall gymryd dau i dri thymor neu hwy iddynt setlo mewn ysgol uwchradd! </Paragraph>
<Paragraph>Felly beth sy'n wahanol am ysgol uwchradd a pha anawsterau all godi yn ystod y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd? Mae Tabl 2 yn nodi rhai o'r prif wahaniaethau rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd a pham y gall y cyfnod pontio hwn fod yn anodd i rai plant. </Paragraph>
<TableHead>Tabl 2 Gwahaniaethau ac anawsterau yn y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd</TableHead>
Gwahaniaethau rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd
Anawsterau yn y cyfnod pontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd
Athrawon pwnc benodol yn lle athrawon dosbarth
Dysgu llawer o enwau athrawon, eu disgwyliadau a'u dulliau addysgu
Y disgyblion yn defnyddio locer yn lle cael desg
Llai o oruchwylio disgyblion amser egwyl gan athrawon
Teithio'n annibynnol i'r ysgol
Canfod eu ffordd o amgylch ysgol fwy o lawer
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 7</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Ar ôl edrych ar Dabl 2, ceisiwch feddwl am fwy o wahaniaethau ac anawsterau. Gallech ddefnyddio eich profiad eich hun o symud i'r ysgol uwchradd neu brofiad eich mab neu ferch neu berthynas arall.  </Paragraph>
<Paragraph>Gwnewch nodiadau cyn darllen ein sylwadau.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr9"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Nid yw pob plentyn yn symud ar yr un pryd i ysgolion uwchradd. Mae rhai awdurdodau lleol yn gweithredu system ysgol ganol y mae plant yn ei mynychu yn 10 oed, ond gall y cyfnod pontio o'r ysgol gynradd fod yn llawn straen i blant, ni waeth sut y caiff yr ysgolion eu rheoli o fewn awdurdodau lleol. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd plant sydd wedi arfer â bod ymysg yr hynaf yn eu hysgol gynradd bellach yn 'bysgod bach mewn pwll mawr'. Mae gorfod cofio mynd â llyfrau i wersi a chyflwyno gwaith cartref, efallai ar silffoedd wrth ymyl yr ystafell staff, i gyd yn bethau y mae'n rhaid i newydd-ddyfodiaid i ysgol uwchradd ddysgu dod i arfer â nhw. Efallai y byddant yn cael eu rhoi mewn dosbarthiadau wedi'u 'ffrydio' neu eu 'setio' ac felly ni fydd ganddynt yr un grŵp o ffrindiau dosbarth bob amser. Ac mae cwrdd â disgybl chweched dosbarth tal, aeddfed a all fod yn swyddog dosbarth arnynt yn golygu dod i delerau â'u 'lle' yn eu hamgylchedd newydd. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Bydd y rhan fwyaf o gyfnodau pontio yn mynd rhagddynt yn ddisylw ond gall rhai effeithio'n sylweddol ar fywydau plant ac oedolion. Mae'r adran hon wedi diffinio tri math o gyfnod pontio ac wedi ystyried cyfnod pontio fertigol yn benodol. Mae wedi edrych ar y ffordd orau o gefnogi cyfnodau pontio plant o'r cartref i'r ysgol a rhwng ysgolion ac wedi nodi ffactorau allweddol. Mae wedi lleoli'r broses o symud o ysgol gynradd i ysgol uwchradd o fewn cyd-destun cymdeithasol-ddiwylliannol drwy gydnabod dylanwad rhieni, gofalwyr ac unigolion arwyddocaol eraill, fel cynorthwywyr addysgu, ar allu plentyn i ymdopi â newid. Mae'r cyfnod pontio o blentyndod i fod yn oedolyn yn un y mae pob un ohonom yn ei wynebu a gellir cysylltu blynyddoedd glaslencyndod â chyfnodau pontio eraill i waith, coleg neu brifysgol. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<BulletedList>
<ListItem>Rhai cysyniadau a damcaniaethau pwysig yn natblygiad plant. Gan ddechrau o'r blynyddoedd cynnar, gwnaethoch edrych ar bwysigrwydd ymlyniad diogel. Yn y Prawf Sefyllfa Ryfedd, gwnaethoch weld ei bod yn bosibl nad yw rhai plant yn creu ymlyniad diogel am fod pethau wedi tarfu ar eu bywydau. Dilynwyd y Prawf Sefyllfa Ryfedd gan gyflwyniad byr i John Bowlby ar ddamcaniaeth ymlyniad. </ListItem>
<ListItem>Safbwyntiau Jean Piaget. Roedd yn credu y gall plant fynd drwy bedwar cam datblygu ac mae hyn yn seiliedig ar fioleg. I'r gwrthwyneb, datblygodd y seicolegydd o Rwsia, Lev Vygotsky ddamcaniaeth lluniadaeth gymdeithasol neu ddamcaniaeth gymdeithasol-ddiwylliannol, a oedd yn dadlau bod ffactorau cymdeithasol ac amgylcheddol yn bwysicach na bioleg yn natblygiad plentyn. </ListItem>
<ListItem>Pwysigrwydd rhieni fel partneriaid, yn ogystal â dulliau gwahanol o rianta, drwy waith Diana Baumrind. Mae cynorthwywyr addysgu yn cydnabod pwysigrwydd gweithio'n agos gyda rhieni ac y gall y gydberthynas hon fod ar sawl ffurf ac y gall fod yn heriol yn ogystal â chefnogol. </ListItem>
<ListItem>Cyfnodau pontio a sut y gall cyfnodau llorweddol, cyfnodau fertigol a chyfnodau sy'n gysylltiedig ag addysg ein helpu i ddeall pwysigrwydd y symudiadau hyn o un lleoliad i un arall. Gwnaethoch hefyd edrych ar rai o'r materion a wynebir gan blant sy'n mynd drwy'r cyfnodau pontio hyn. </ListItem>
</BulletedList>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Da iawn; rydych bellach wedi cyrraedd diwedd Adran 1 o Cefnogi datblygiad plant, ac mae'n bryd rhoi cynnig ar y cwestiynau asesu. Mae hyn wedi'i gynllunio i fod yn weithgaredd llawn hwyl er mwyn helpu i atgyfnerthu eich dysgu. </Paragraph>
<Paragraph>Dim ond pum cwestiwn a geir, ac os byddwch yn cael o leiaf bedwar ateb yn gywir byddwch yn pasio'r cwis. </Paragraph>
<Box type="style2">
<BulletedList>
<ListItem>Hoffwn roi cynnig ar Gwis Adran 1. </ListItem>
</BulletedList>
</Box>
<Paragraph>Os ydych yn astudio'r cwrs hwn gan ddefnyddio un o'r fformatau amgen, nodwch y bydd angen i chi fynd ar-lein er mwyn rhoi cynnig ar y cwis hwn. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Baumrind, D. (1967) ‘Child-care practices anteceding three patterns of preschool behavior’, Genetic Psychology Monographs, cyf. 75, tt. 43–88. </Paragraph>
<Paragraph>CliffsNotes (2015) Piaget’s Model of Cognitive Development [ar-lein]. Ar gael yn http://www.cliffsnotes.com/study-guides/sociology/socialization/piagets-model-of-cognitive-development (cyrchwyd 29 Ionawr 2016]) </Paragraph>
<Paragraph>Cole, M. (1998) ‘Culture in development’ yn Woodhead, M., Faulkner, D. a Routledge mewn cydweithrediad â'r Brifysgol Agored. </Paragraph>
<Paragraph>David, T. (2004) ‘Young children’s social and emotional development’ yn Maynard, T. a Tomos, N. (gol) An Introduction to Early Childhood Studies, Llundain, Sage Publications Ltd. </Paragraph>
<Paragraph>Vogler, P., Crivello, G. a Woodhead, M. (2008) Early Childhood Transitions Research: A Review of Concepts, Theory and Practice, Yr Hag, Sefydliad Bernard van Leer. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ysgrifennwyd y cwrs hwn am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Gwnaed cyfraniadau gan Katie Harrison (athro ac aelod o Undeb ATL). </Paragraph>
<Paragraph>Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchnogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn: </Paragraph>
<Paragraph>Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf. </Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 1: © Agelika Schwarz/iStockphoto.com; © Elena Ellisseeva/iStockphoto.com </Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 2: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 3: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 4: © ddim yn hysbys</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 5: O'r chwith i'r dde: © PeopleImages/iStockphoto.com, Shapecharge/iStockphoto.com, ImagePhotography/iStockphoto.com, Sebra 1/iStockphoto.com </Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 6: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 7: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 8: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Gweithgaredd 3</Paragraph>
<Paragraph>Y Sefyllfa Ryfedd - trawsgrifiad Mary Ainsworth: https://www.youtube.com/watch?v=QTsewNrHUHU#t=16 thibs44</Paragraph>
</Session>
</Unit>
<Unit id="annog">
<UnitID/>
<UnitTitle>Annog Darllen</UnitTitle>
<Session>
<Paragraph>Er mwyn deall sgiliau llythrennedd, dylech ystyried sut mae babanod yn dysgu sut i gyfathrebu.</Paragraph>
<Paragraph>'Edrych arnaf i yn dy gopïo di'</Paragraph>
<Paragraph>O'r adeg y caf fy ngeni, bydda i'n gwneud cyswllt llygad ac yn copïo dy fynegiant. Dyma un o'r ffyrdd cyntaf y bydda i'n dysgu sut i gyfathrebu.</Paragraph>
<Paragraph>'Fy ngwên gyntaf'</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydda i tua chwe wythnos oed, efallai y bydda i'n gwenu am y tro cyntaf.</Paragraph>
<Paragraph>'Fy chwerthiniad cyntaf'</Paragraph>
<Paragraph>Rhwng tri a chwe mis oed, mae'n siŵr y bydda i'n dechrau chwerthin. Bydd clywed fy chwerthiniad heintus yn ein helpu i greu cysylltiad hyd yn oed yn well a bydd siarad a rhyngweithio â mi yn rhoi mwy o bleser.</Paragraph>
<Paragraph>‘Mam, edrych arnaf i!’</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydda i tua chwe mis oed, bydda i'n dechrau defnyddio synau i gael dy sylw; drwy gŵan neu chwerthin.</Paragraph>
<Paragraph>‘Ma ma ma, Da da da’</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydda i'n tua wyth mis oed, mae'n siŵr y bydda i'n dechrau preblan. Y synau ailadroddus y bydda i'n eu gwneud yw fy ymgais gyntaf ar siarad ac maent yn rhoi cyfle i mi ymarfer fy ngheg.</Paragraph>
<Paragraph>'A wnest ti ddweud fy enw?'</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydda i tua wyth neu naw mis oed, bydda i'n dechrau adnabod fy enw ac ymateb iddo.</Paragraph>
<Paragraph>'Fy ngair cyntaf!'</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydda i tua 12 mis oed, efallai y bydda i'n dweud fy ngair cyntaf. A phan fydda i tua 13 mis oed, efallai y bydda i'n defnyddio hyd at chwe gair.</Paragraph>
<Paragraph>'Rwyf wedi cyrraedd 50 o eiriau!'</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydda i tua 18 mis oed, bydda i wedi ehangu fy ngeirfa i tua 50 o eiriau. Mae hon yn adeg yn fy mywyd lle mae'n bosibl y byddwch yn sylwi ar gynnydd mawr yn fy ngeirfa; mae'n amser cyffrous i mi wrth i mi ychwanegu mwy a mwy at fy ngeirfa.</Paragraph>
<Paragraph>'Fy mrawddeg gyntaf!'</Paragraph>
<Paragraph>Ar ryw adeg rhwng 18 a 24 mis oed, bydda i'n llunio fy mrawddeg gyntaf. Efallai na fydd yn gywir yn ramadegol nac yn hawdd ei deall, ond mae'n rhan bwysig o'm datblygiad iaith. Cofiwch ddal ati i ddarllen, siarad a rhyngweithio â'ch plentyn oherwydd bydd hyn yn ei helpu i barhau i ehangu ei eirfa a'i ddealltwriaeth o ramadeg, geiriau ac iaith.</Paragraph>
<Paragraph>(Addaswyd o Words for Life, nd)</Paragraph>
<Paragraph>Mae astudiaethau wedi nodi pum ffordd benodol y mae rhieni yn siarad â'u plant. Y rhain a gafodd yr effaith fwyaf cadarnhaol ar ddatblygiad y plant, a'u gallu geiriol hirdymor:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>siarad, defnyddio geirfa eang yn gyffredinol fel rhan o fywyd bob dydd</ListItem>
<ListItem>ceisio bod yn ddymunol, canmol a chydnabod a rhai gorchmynion negyddol</ListItem>
<ListItem>dweud pethau wrth y plant, gan ddefnyddio iaith sy'n cynnwys llawer o wybodaeth</ListItem>
<ListItem>rhoi dewisiadau i'r plant, gan ofyn am eu barn yn hytrach na dim ond dweud wrthynt beth i'w wneud</ListItem>
<ListItem>gwrando, gan ymateb iddynt yn hytrach nag anwybyddu'r hyn y maent yn ei ddweud neu roi gorchmynion.</ListItem>
</BulletedList>
<language xml:lang="cy">Os byddwch yn siarad â phlant mewn ffordd galonogol, hyddysg a chadarnhaol, byddwch yn eu helpu i ddatblygu sgiliau hollbwysig siarad a gwrando. Y sgiliau hyn sy'n helpu'r plant i ddatblygu iaith a dysgu sut i ddarllen.</language>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio bod codi safonau llythrennedd yn un o'i phrif flaenoriaethau. Amlygodd adroddiad 'Barod i Ddarllen' y ffaith fod plant tlotaf Cymru sy'n dechrau ysgol gynradd eisoes ar ei hôl hi o ran sgiliau iaith. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Activity 3</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Multipart>
<Part>
<Question>
<Paragraph>Darllenwch y dyfyniad a addaswyd isod o'r TES (Times Educational Supplement) ar-lein ynghylch y 'bwlch darllen' mewn ysgolion cynradd ac yna atebwch y cwestiynau sy'n dilyn. Ymgyrch i ddod â'r bwlch darllen 'gwarthus' mewn ysgolion cynradd i ben</Paragraph>
</Question>
</Part>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec2_f02.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec2_f02.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="56c597b5" x_imagesrc="nnco_sec2_f02.jpg" x_imagewidth="460" x_imageheight="288"/>
<Caption>Ffigur 2 Plentyn yn darllen llyfr</Caption>
<Part>
<Question>
<Paragraph>Bydd tua 1.5 miliwn o blant yn y DU yn gadael yr ysgol gynradd yn cael trafferth darllen erbyn 2025 oni chymerir camau gweithredu brys, yn ôl ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw gan grŵp ymgyrchu a sefydlwyd i ddileu anllythrennedd.</Paragraph>
<Paragraph>Mae'r ymchwil yn dangos bod y DU yn cymharu'n anffafriol â gwledydd eraill yn Ewrop o ran gallu i ddarllen. Cyfeiriwyd at yr anghydraddoldeb hwn mewn gallu i ddarllen fel y 'bwlch darllen'.</Paragraph>
<Paragraph>Gallai economi'r DU fod £32bn yn waeth ei byd os na chaiff camau gweithredu eu cymryd i sicrhau bod plant 11 oed yn gadael yr ysgol gynradd yn ddarllenwyr mwy galluog.</Paragraph>
<Paragraph>Mae un o bob pedwar plentyn sy'n cael ei fagu mewn tlodi yn gadael yr ysgol gynradd yn methu â darllen yn dda.</Paragraph>
<Paragraph>'Ym Mhrydain, mae addysg gynradd i blant wedi bod yn orfodol ers o leiaf 150 mlynedd,' meddai'r Fonesig Julia Cleverdon, cadeirydd ymgyrch Darllena. Datblyga.</Paragraph>
<Paragraph>'Er hyn, mae'n gywilyddus bod miloedd o blant yn gadael yr ysgol gynradd bob blwyddyn yn methu â darllen yn ddigon da i fwynhau darllen a gwneud hynny er pleser, er gwaethaf ymdrechion gorau athrawon ledled y DU.</Paragraph>
</Question>
<Discussion>
<BulletedList>
<ListItem>Beth yw ystyr 'y bwlch darllen', yn eich barn chi’?</ListItem>
<ListItem>Pam mae'r DU ar safle mor isel yn y tablau cynghrair rhyngwladol, yn eich barn chi?</ListItem>
</BulletedList>
</Discussion>
</Part>
</Multipart>
</Activity>
<Paragraph>O'r dyfyniad o'r TES rydych newydd ei ddarllen, mae'n ymddangos bod y 'bwlch darllen' yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas. Mae'r rhesymau dros hyn yn gymhleth, ond gallant gynnwys ffactorau fel:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>mynediad cyfyngedig at lyfrau yn y teulu </ListItem>
<ListItem> rhieni heb yr amser na'r adnoddau i ddarllen i blant. </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Os byddwn yn ymwybodol bod problem, gallwn gydweithio er mwyn mynd i'r afael â'r her.</Paragraph>
<Paragraph>Mae hyn yn golygu cael rhieni, cynorthwywyr addysgu, athrawon a'r holl staff cymorth eraill i gydweithio a rhannu eu harbenigedd – hynny yw,  chi.</Paragraph>
<Paragraph>Dyma ddwy enghraifft o gydweithredu'n gadarnhaol:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Ymgyrch Darllena. Datblyga., sydd â'r nod o sicrhau y bydd pob plentyn a gaiff ei eni heddiw yn darllen yn dda erbyn iddo gyrraedd 11 oed yn 2025 ac mae gan gynorthwywyr addysgu rôl allweddol i'w chwarae yn hyn o beth.</ListItem>
<ListItem>Ymgyrchoedd darllen a gynigir gan Gyngor Llyfrau Cymru http://www.cllc.org.uk/ymgyrchoedd-campaigns/reading-darllendiablo.lang=cym</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gallwn annog plant i ddarllen er mwyn adlewyrchu'r byd llawn technoleg gwybodaeth a chyfathrebu a geir heddiw.</Paragraph>
<Paragraph>Mae technolegau digidol newydd wedi cyflwyno cyfleoedd cyffrous i blant o bob oed, a gellir lawrlwytho llyfrau digidol o apiau ar gyfrifiaduron a llechi. </Paragraph>
<Paragraph>Gall apiau cyffrous ysgogi rhieni a phlant i ryngweithio wrth ddarllen a rhannu llyfrau ar-lein. Fodd bynnag, nid yw pawb yn cydnabod buddiannau'r technolegau newydd hyn ac mae gan rai rhieni bryderon bod eu plentyn yn treulio gormod o amser ar gyfrifiadur yn lle darllen llyfr traddodiadol.</Paragraph>
<Paragraph>Fodd bynnag, ceir tystiolaeth bod llyfrau digidol yn cynnig ffyrdd amgen o ryngweithio ac ymgysylltu â phlant, rhieni ac athrawon, er bod peth dryswch ynghylch y rôl y gall llyfrau digidol ei chwarae wrth ddatblygu llythrennedd.</Paragraph>
<Paragraph>Nid yw llyfrau digidol bob amser yn cynnwys geirfa a gramadeg cyfoethog llyfrau wedi'u hargraffu, ac nid yw rhieni yn defnyddio cymaint o strategaethau darllen defnyddiol wrth rannu llyfrau digidol ond maent yn canolbwyntio mwy ar sgiliau TG. Er hyn, maent yn cynnig ffordd amgen gyffrous o ryngweithio ac ymgysylltu â darllenwyr, athrawon a rhieni. Gweler, er enghraifft:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Nosy Crow</ListItem>
<ListItem>The World of Mr Glue</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Os oes gennych ddiddordeb yn y trafodaethau ynghylch plant a thechnolegau digidol a ph'un a ydynt yn beth da neu ddrwg, edrychwch ar  Childhood in the Digital Age, modiwl am ddim gan Y Brifysgol Agored ar FutureLearn (www.futurelearn.com).</Paragraph>
<Paragraph>Mae gallu gwneud cysylltiadau rhwng eich astudiaethau, eich profiadau eich hun a beth rydych yn ei wneud yn yr ystafell ddosbarth yn rhan bwysig o ddod yn ymarferydd myfyriol ac o ddatblygu eich sgiliau proffesiynol. </Paragraph>
<Paragraph>Ceir rhagor o wybodaeth ar y cwrs OpenLearn am ddim ‘Learning to teach; becoming a reflective practitioner’.</Paragraph>
<Paragraph>http://www.open.edu/openlearn/education/learning-teach-becoming-reflective-practitioner/content-section-0?active-tab=description-tab</Paragraph>
<Paragraph>Mae'r gweithgaredd nesaf yn gofyn i chi ystyried sut beth yw bod yn blentyn sy'n dysgu sut i ddarllen.</Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 5</Heading>
<Question>
<Paragraph>Meddyliwch yn ôl i pan oeddech yn blentyn a sut y gwnaethoch chi ddysgu sut i ddarllen.</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Sut y cawsoch eich annog i ddarllen?</ListItem>
<ListItem>A oeddech yn mwynhau darllen neu a oeddech yn ei chael hi'n anodd?</ListItem>
<ListItem>Pa fathau o lyfrau oeddech chi'n eu hoffi neu nad oeddech chi'n eu hoffi?</ListItem>
<ListItem>Allwch chi gofio beth oedd eich hoff lyfr?</ListItem>
<ListItem>Ai dim ond llyfrau oeddech chi'n eu darllen?</ListItem>
<ListItem>A yw merched yn darllen mwy na bechgyn yn eich barn chi?</ListItem>
<ListItem>A yw bechgyn yn darllen llyfrau gwahanol i ferched?</ListItem>
</BulletedList>
</Question>
</Activity>
<Paragraph>Bydd gan bawb eu hatebion eu hunain i'r cwestiynau hyn. Gall eich profiad eich hun o ddysgu sut i ddarllen effeithio ar sut rydych yn annog y plant yn eich gofal i ddarllen.</Paragraph>
<Paragraph>Yn yr astudiaeth achos ganlynol, mae Dewi a Harri yn efeilliaid 8 oed bywiog, ac mae ganddynt chwaer hŷn, Lowri. </Paragraph>
<Paragraph>Mae hi'n 11 oed ac yn ddarllenwraig frwd. Mae Carys, eu mam, yn awyddus i annog yr efeilliaid i ddarllen, ac mae'n gwybod pa mor bwysig ydyw i eistedd a darllen gyda nhw. Mae'n haws dweud na gwneud, nid dim ond y diffyg amser, ond hefyd am fod yr efeilliaid yn wahanol iawn.</Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Astudiaeth achos: Dewi a Harri yn dysgu sut i ddarllen</Heading>
<Paragraph>Pan fydd mewn hwyliau da, bydd Harri wrth ei fodd yn eistedd wrth ymyl Carys ac yn edrych ar lyfrau. Mae'n dechrau darllen yn eithaf rhugl ac mae'n mwynhau sillafu geiriau anghyfarwydd, fel y mae wedi cael ei addysgu i wneud yn yr ysgol. Ei hoff lyfr yw  Captain Underpants am ei fod yn gwneud iddo chwerthin. Mae hon yn adeg arbennig i'r ddau ohonynt ond mae Carys yn teimlo'n euog am Dewi am nad yw'n cael yr un sylw.</Paragraph>
<Paragraph>Mae Dewi yn gyndyn i ddarllen ac nid yw'n ymddangos bod ganddo lawer o ddiddordeb mewn llyfrau. Mae'n dweud bod darllen yn 'ddiflas' ac nid yw byth yn awyddus i ddadbacio ei gofnod darllen.</Paragraph>
<Paragraph>Mae athrawes y bechgyn, Miss Evans, wedi sicrhau Carys bod Dewi yn mwynhau amser cylch, sydd yn aml yn canolbwyntio ar ddarllen a llythrennedd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae llawer o ysgolion cynradd yn defnyddio amser cylch lle mae'r ffocws yn fwy ar y plant na'r cwricwlwm. Bydd y dosbarth yn eistedd gyda'r athro mewn cylch a chaiff 'gemau' eu defnyddio er mwyn ennyn sgiliau cydweithredu, gwrando a siarad.</Paragraph>
<Paragraph>Ceir rhai rheolau cyffredinol ar gyfer amser cylch; er enghraifft:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Mae gan bawb yr hawl i gael ei glywed a dyletswydd i wrando.</ListItem>
<ListItem>Ni ddylai neb gael ei fychanu. I ddechrau, gellid cael rheol y dylai pob datganiad fod yn gadarnhaol.</ListItem>
<ListItem>Mae gan bawb yr hawl i ddewis peidio â chyfrannu.</ListItem>
<ListItem>Dylai popeth a ddywedir fod yn gyfrinachol oni chytunir fel arall.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Mae'n ffordd dda o ddatblygu cydberthnasau rhwng cyfoedion yn y dosbarth. Yn aml iawn, bydd cynorthwyydd addysgu hefyd yn cymryd rhan yn y gweithgaredd hwn a bydd yn rhoi esiampl o sgiliau gwrando i'r plant. Yn aml, bydd cynorthwywyr addysgu yn gosod eu hunain wrth ymyl neu'n agos at blant y gall fod angen iddynt gael cymorth ychwanegol i gael budd o amser cylch.</Paragraph>
</InternalSection>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec2_f03.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec2_f03.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="abf2ccc3" x_imagesrc="nnco_sec2_f03.jpg" x_imagewidth="450" x_imageheight="351"/>
<Caption>Ffigur 3 Dewi a Harri yn edrych ar lyfrau</Caption>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec2_f04.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec2_f04.jpg" width="100%" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="301b02dc" x_imagesrc="nnco_sec2_f04.jpg" x_imagewidth="464" x_imageheight="348"/>
<Caption>Ffigur 4 Amser cylch</Caption>
<Paragraph>Mae Miss Evans yn defnyddio'r amser hwn i annog y plant i siarad am lyfrau y maent wedi'u darllen. Mae'r plant hefyd yn gwrando ar ei gilydd yn darllen yn y dosbarth, a elwir yn darllen gyda chyfoedion. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r gweithgareddau hyn wedi gwneud darllen yn fwy o weithgarwch cymdeithasol ac mae cyfoedion Dewi yn dechrau dylanwadu ar ei ddiddordeb mewn darllen. Mae Miss Evans hefyd wedi dweud wrth Carys fod a wnelo darllen â mwy na llyfrau a gall Dewi ddatblygu ei sgiliau darllen cystal ar y cyfrifiadur, gan ei bod yn ymddangos ei fod yn cael mwy o fwynhad o hynny.</Paragraph>
<Paragraph>Mae athro Dewi yn hyderus y bydd ei ddarllen yn datblygu oherwydd y rhyngweithio cymdeithasol â'i ffrindiau yn y dosbarth ac yn ystod amser cylch.</Paragraph>
<Paragraph>Mae Carys yn poeni ynghylch y gwahaniaeth rhwng datblygiad a chynnydd academaidd Harri a Dewi. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Carys yn credu mai trwy ddealltwriaeth ddofn o anghenion a diddordebau Dewi y mae Miss Evans wedi gallu gwneud gwyrthiau. Ers bod yn ei dosbarth, mae agwedd Dewi tuag at fod yn yr ysgol yn llawer gwell. Gellir priodoli hyn hefyd i'r cymorth ychwanegol a gaiff Dewi yn yr ysgol er mwyn datblygu ei sgiliau darllen a'i ddiddordebau. Gwnaeth yr ysgol gynnwys Carys mewn trafodaethau am ddatblygiad parhaus Dewi gan godi pryderon y gallai fod ganddo anghenion addysgol arbennig.</Paragraph>
<Paragraph>Mae anghenion addysgol arbennig yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu a gall hyn gynnwys ei ddarllen a'i ysgrifennu – er enghraifft, os oes ganddo ddyslecsia. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Adran 4 o'r cwrs hwn yn edrych ar anghenion addysgol arbennig (AAA) ac anableddau. Efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi astudio’r adran honno.</Paragraph>
<Paragraph>Edrychwch eto ar y nodiadau a wnaethoch ar eich profiad eich hun o ddarllen.</Paragraph>
<Paragraph>Un o'r cwestiynau oedd 'A yw merched yn darllen mwy na bechgyn, yn eich barn chi?'. Mae eich profiadau chi eich hun yn sylfaen dda ar gyfer deall plant, ond mae'n bwysig osgoi cyffredinoli. </Paragraph>
<Paragraph>Mae llawer wedi'i ysgrifennu ynghylch 'y bwlch rhwng y rhywiau' mewn addysg gynradd. Mae rhyw yn cwmpasu'r amrywiaeth o nodweddion sy'n gysylltiedig â'r gwahaniaethau cymdeithasol rhwng dynion a merched. Ceir tystiolaeth o waith ymchwil sy'n ategu'r farn bod gwahaniaeth rhwng cyflawniad mewn bechgyn a merched. </Paragraph>
<Paragraph>Mae bechgyn yr ystyrir eu bod yn ddarllenwyr gwan yn treulio llai o amser yn darllen neu'n osgoi darllen, gan sicrhau eu bod yn cynnal credadwyedd ymysg eu cyfoedion. Mae merched yn hapus i gael eu gweld yn darllen llyfrau haws a chael help gan ddarllenwyr profiadol. Drwy dreulio llai o amser yn darllen, mae bechgyn ar ei hôl hi o gymharu â'u cyfoedion, felly mae'r broblem yn gwaethygu.</Paragraph>
<Paragraph>Mae rhai merched yn dewis deunydd darllen mwy heriol i'w hunain. Ymysg y llyfrau cyfoes ar gyfer merched yn y blynyddoedd cynradd uchaf mae cyfres Tracy Beaker gan Jacqueline Wilson. Mae'r rhain, ynghyd â'r llu o straeon fampirod, fel y Twilight Saga gan Stephanie Meyer, yn denu cynulleidfa o ddarllenwyr galluog cyn cyrraedd y glasoed. Mae merched hefyd yn fwy parod i rannu a thrafod llyfrau, yn aml gan greu grwpiau darllen yn debyg i'r rhai sy'n boblogaidd ymysg oedolion.</Paragraph>
<Paragraph>Gydag ymwybyddiaeth gynyddol o'r gwahaniaethau rhwng y rhywiau, gwnaed ymdrechion i unioni'r fantol. Er enghraifft, roedd cyfres deledu ar y BBC yn 2010, Extraordinary School for Boys, yn archwilio ffyrdd gwahanol o annog bechgyn 11 oed mewn ysgol gynradd i ddysgu drwy ddefnyddio cysyniadau risg ac antur.</Paragraph>
<Paragraph>Drwy fynd â'r bechgyn allan o'r ystafell ddosbarth a'u hannog i ddysgu drwy weithgareddau corfforol, roedd y gyfres yn ceisio manteisio ar y math hwnnw o ddysgu a'i sianelu i gyfeiriad dysgu mewn ystafell ddosbarth. Arweiniwyd hyn gan Gareth Malone, a oedd hefyd yn herio'r rhagfarn 'nad yw bechgyn yn canu' (The Choir: Boys Don’t Sing, a ddarlledwyd yn 2008). Dywedodd Gareth 'Os yw'r ysgol yn teimlo fel lle y gall bechgyn gymryd risgiau a gwthio eu hunain a herio eu hunain go iawn, yna bydd ganddynt fwy o ddiddordeb’.</Paragraph>
<Paragraph>Caiff strategaethau amrywiol eu hawgrymu er mwyn ceisio lleihau'r bwlch mewn llythrennedd rhwng bechgyn a merched, ac yn benodol er mwyn ysbrydoli bechgyn i ddarllen ac ysgrifennu.</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>rhoi ymdeimlad penodol o ddiben i fechgyn ym mhob gwers a'u hannog i gydweithredu.</ListItem>
<ListItem>gofyn i'r disgyblion ddarllen llyfr ac yna ysgrifennu adolygiad ohono er mwyn argymell y llyfr i blentyn iau. Mae hyn yn eu hysbrydoli i ddewis llyfrau priodol ar gyfer plant eraill, i'w darllen yn ofalus ac ysgrifennu adolygiadau gofalus. Gallant hefyd ddefnyddio eu sgiliau TGCh a chelf i gyflwyno eu hadolygiadau mewn ffordd effeithiol. Gallai hyn hefyd helpu i wella eu sgiliau llythrennedd eu hunain.</ListItem>
<ListItem>defnyddio deunydd darllen o ansawdd da, sy'n eu hysbrydoli, yn ystod sesiynau darllen dan arweiniad a gwersi llythrennedd. Mae ansawdd y testunau'n bwysig er mwyn rhoi enghreifftiau da o ysgrifennu, ond mae hefyd angen i'r deunydd pwnc ddal sylw'r bechgyn, e.e. straeon arswyd, neu straeon antur, yn enwedig rhai lle mae'r prif gymeriad yn fachgen.</ListItem>
<ListItem>annog y bechgyn i ddarllen unrhyw beth y mae ganddynt ddiddordeb ynddo i ddechrau, boed hynny'n gylchgronau, straeon, comics neu gyfarwyddiadau ar gyfer gemau. Yn raddol, byddant yn dewis llyfrau sydd o ddiddordeb iddynt.</ListItem>
<ListItem>cyflwyno ysgogiad i ysbrydoli'r bechgyn, fel clipiau ffilm, er mwyn cynnig deunydd pwnc ar gyfer gwers. Mae'r defnydd o chwarae rôl a gweithgareddau drama yn ychwanegu at y diddordeb ac yn helpu i gymell y bechgyn i barhau i ddarllen, er mwyn cael gwybod beth sy'n gwybod nesaf yn y stori ac i fod ag awydd i ysgrifennu eu fersiynau eu hunain o olygfeydd o'r stori.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Myfyriwch ar eich ymarfer eich hun a nodwch strategaethau gwahanol sy'n gweithio'n dda i chi. Beth yw eich profiadau o'r bwlch rhwng y rhywiau?</Paragraph>
<Paragraph>Os ydych yn gynorthwyydd addysgu mewn ysgol uwchradd, meddyliwch pa ddeunyddiau cymorth y gellid eu haddasu ar gyfer eich sefyllfa eich hun. Er enghraifft:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem><Paragraph>Dysgwch fwy am y mentrau Stori Sydyn. Cyfres o lyfrau byr yw Stori Sydyn gan awduron poblogaidd ac enwogion. Nid ydynt yn cynnwys mwy na 128 o dudalennau, ac maent wedi'u cynllunio i annog pobl ifanc ac oedolion nad ydynt yn darllen yn aml, neu sy'n cael trafferth darllen, i fwynhau darllen.</Paragraph><Paragraph>http://www.readingwales.org.uk/ên/quick-reads/ </Paragraph><Paragraph>http://www.readingwales.org.uk/cy/stori-sydyn/</Paragraph></ListItem>
<ListItem><Paragraph>Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cynnig cyfle gwych i athrawon a staff cymorth dysgu gael y wybodaeth ddiweddaraf am lyfrau adnoddau newydd yn yr iaith Gymraeg ac am Gymru i ategu'r Cwricwlwm Cenedlaethol.</Paragraph><Paragraph>http://www.cllc.org.uk/gwasanaethau-services/plant-children/ysgolion-schoolsdiablo.lang=cym</Paragraph></ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Os nad ydych yn gweithio mewn ysgol uwchradd ond eich bod yn adnabod plant ar y cam hwn, ceisiwch ddysgu mwy am yr hyn maent yn ei ddarllen mewn perthynas â phwnc penodol a sut mae geirfa neu eiriau allweddol yn wahanol i iaith bob dydd. Gallai un enghraifft o ddaearyddiaeth gynnwys y geiriau canlynol: globaleiddio, trefol a gwledig, tafod, rhewlif, erydiad pridd, datgoedwigo.</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Sut mae eich ysgol yn helpu gyda llythrennedd yn y cwricwlwm uwchradd?</ListItem>
<ListItem>Pa eiriau sy'n gysylltiedig â phwnc ysgol uwchradd sy'n wahanol i'r hyn a ddefnyddir bob dydd?</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Bydd eich ateb yn dibynnu ar eich lleoliad, ac ar b'un a oes gan eich ysgol bolisi ar waith i annog darllen a llythrennedd. Beth bynnag fo'r polisi, ni ddylai hynny eich rhwystro rhag bod yn greadigol ac annog syniadau newydd mewn llythrennedd i blant.</Paragraph>
<Paragraph>Beth rydych wedi'i ddysgu yn yr adran hon:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Agweddau ar ddarllen a llythrennedd ar dri cham datblygu gwahanol. Yn y blynyddoedd cynnar, sut mae babanod yn dysgu rhyngweithio â'u rhieni neu ofalwyr wrth ddechrau cyfathrebu. </ListItem>
<ListItem>Materion yn ymwneud â darllen a llythrennedd yn yr ysgol gynradd. </ListItem>
<ListItem>Heriau darllen a llythrennedd sy'n parhau ar lefel uwchradd.</ListItem>
<ListItem>Mae'r 'bwlch darllen' yn gysylltiedig ag anghydraddoldebau mewn cymdeithas, ac mae mesurau'n cael eu gweithredu er mwyn ei oresgyn. Y 'bwlch rhwng y rhywiau' yw pan fydd gwahaniaethau rhwng bechgyn a merched o ran sut maent yn ymdrin â darllen a llythrennedd.</ListItem>
<ListItem>Ystyriwch sut mae'r pynciau yn yr adran hon yn ymwneud â'ch ymarfer eich hun: sut mae gwneud cysylltiadau rhwng eich profiad eich hun, eich astudiaethau a'r lleoliad rydych yn gweithio ynddo, yn eich helpu i ddod yn ymarferydd myfyriol. </ListItem>
</BulletedList>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Da iawn; rydych bellach wedi cyrraedd diwedd Adran 2 o Cefnogi datblygiad plant, ac mae'n bryd rhoi cynnig ar y cwestiynau asesu. Mae hyn wedi'i gynllunio i fod yn weithgaredd llawn hwyl er mwyn helpu i atgyfnerthu eich dysgu.</Paragraph>
<Paragraph>Dim ond pum cwestiwn a geir, ac os byddwch yn cael o leiaf bedwar ateb yn gywir byddwch yn pasio'r cwis.</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Hoffwn roi cynnig ar Gwis Adran 2.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Os ydych yn astudio'r cwrs hwn gan ddefnyddio un o'r fformatau amgen, nodwch y bydd angen i chi fynd ar-lein er mwyn rhoi cynnig ar y cwis hwn.</Paragraph>
<Paragraph>Nawr, gallwch ddewis symud ymlaen i Adran 3, Rheoli ymddygiad, neu fynd i un o'r adrannau eraill.</Paragraph>
<Paragraph>Os byddwch o'r farn eich bod bellach wedi cael beth sydd ei angen arnoch o'r cwrs ac nad ydych am roi cynnig ar y cwis, ewch i'r adran Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach. Yno, gallwch fyfyrio ar yr hyn rydych wedi'i ddysgu a chael awgrymiadau o gyfleoedd dysgu pellach.</Paragraph>
</Session>
</Unit>
<Unit id="rheoli">
<UnitID/>
<UnitTitle>Rheoli ymddygiad</UnitTitle>
<Session>
<Paragraph>Mae Jon Richards, pennaeth addysg UNISON (a ddyfynnir yn Bennet, 2015a), yn nodi rhai gwirioneddau syml am ymddygiad plant:</Paragraph>
<Quote>
<BulletedList>
<ListItem>Mae pawb yn profi ymddygiad anodd yn yr ysgol</ListItem>
<ListItem>Gall plant, fel pawb, fod yn hunanol, yn greulon, yn garedig ac yn anhygoel</ListItem>
<ListItem>Nid eich bai chi ydyw os byddant yn camymddwyn, ond mae gennych gyfrifoldeb i weithredu os bydd hynny'n digwydd</ListItem>
<ListItem>Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn hapus i ddilyn rheolau sy'n deg, yn gyson ac yn gymesur</ListItem>
<ListItem>Mae'n well gan bron bob myfyriwr fod mewn ysgol lle mae'r oedolion yn cymryd ymddygiad o ddifrif. </ListItem>
</BulletedList>
<SourceReference>(Bennett, 2015a)</SourceReference>
</Quote>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 1</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Rhestrwch bum ymddygiad annymunol gan blant yn eich lleoliad.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr10"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Efallai y byddwch wedi nodi rhai o'r ymddygiadau canlynol neu bob un ohonynt:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>difrodi eiddo</ListItem>
<ListItem>dweud celwydd</ListItem>
<ListItem>gwneud synau gwirion neu chwarae'r ffŵl</ListItem>
<ListItem>defnyddio iaith ddifrïol</ListItem>
<ListItem>ateb staff yn ôl</ListItem>
<ListItem>peidio â gwrando</ListItem>
<ListItem>rhedeg dan do, yn hytrach na cherdded. </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gall rhywbeth sy'n annymunol i un person fod yn dderbyniol i rywun arall. Felly, efallai eich bod wedi cael eich synnu gan rai o'r ymddygiadau ar ein rhestr. Efallai yr hoffech fyfyrio ar pam y gellid ystyried bod yr ymddygiadau hyn yn annymunol. </Paragraph>
<Paragraph>Maent yn debygol o fod yn ymddygiadau y mae'n hawdd eu hystyried yn annymunol am eu bod yn peryglu diogelwch plentyn, neu am eu bod yn aflonyddgar ac yn effeithio ar allu plentyn i ddysgu neu ryngweithio ag eraill. </Paragraph>
<Paragraph>Wrth i chi weithio drwy'r adran hon ar reoli ymddygiad, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi edrych yn ôl ar yr ymatebion a roddwyd gennych a myfyrio ar sut y gellid rheoli'r ymddygiadau hyn mewn lleoliad ysgol. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Fel cynorthwyydd addysgu, gall deall beth sy'n gwneud i blant ymddwyn yn y ffordd a wnânt eich helpu i gefnogi'r athro yn yr ystafell ddosbarth. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Ffigur 1 yn awgrymu bod achosion sylfaenol ymddygiad yn aml yn gymhleth ac yn amlochrog. Efallai na fydd y plentyn ei hun yn gwybod pam ei fod yn ei chael hi'n anodd gwneud yr hyn y gofynnwyd iddo ei wneud, ac efallai na fydd yr oedolion yn ei fywyd yn gwybod chwaith. Mae gwrando ar blant a'u helpu i ddeall eu teimladau a siarad amdanynt, yn ogystal â cheisio gweld pethau o safbwynt y plentyn, yn sgiliau hanfodol y mae angen i lawer o oedolion eu dysgu neu eu hailddysgu. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco-welsh_sec3_f01.png" width="100%" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco-welsh_sec3_f01.png" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="f0e9dc10" x_imagesrc="nnco-welsh_sec3_f01.png" x_imagewidth="349" x_imageheight="439"/>
<Caption>Ffigur 1 Golwg ryngweithiol ar ymddygiad </Caption>
<Description><Paragraph>Diagram yw hwn sy'n dangos cartŵn o fachgen ifanc wedi'i amgylchynu gan labeli gwahanol. Gan ddarllen yn glocwedd o'r brig, y labeli yw: </Paragraph><BulletedList><ListItem>Disgwyliadau</ListItem><ListItem>Anghenion corfforol/synhwyraidd</ListItem><ListItem>Hyder</ListItem><ListItem>Dealltwriaeth</ListItem><ListItem>Dirboenwyr emosiynol</ListItem><ListItem>Cydberthnasau</ListItem><ListItem>Hunansyniad</ListItem><ListItem>Sgiliau/Galluoedd</ListItem><ListItem>Sylw</ListItem><ListItem>Cyfleoedd</ListItem><ListItem>Hunan-barch</ListItem><ListItem>Galwadau</ListItem><ListItem>Profiad blaenorol</ListItem><ListItem>Lefelau datblygiad</ListItem><ListItem>Teulu</ListItem><ListItem>Personoliaeth</ListItem></BulletedList></Description>
<Paragraph>Mae'r gweithgaredd nesaf yn disgrifio senario i'ch helpu i fyfyrio ar y rhesymau pam y gall plentyn fod yn ymddwyn mewn ffordd annymunol. </Paragraph>
<Activity id="act2">
<Heading>Gweithgaredd 2</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Multipart>
<Part>
<Heading>Rhan 1</Heading>
<Question>
<Paragraph>Darllenwch yr astudiaeth achos ganlynol am Kyle. Darllenwch hi unwaith yr holl ffordd drwodd er mwyn i chi ddod yn gyfarwydd â sefyllfa Kyle. </Paragraph>
<Quote>
<Heading>Astudiaeth achos: ymddygiad Kyle</Heading>
<Paragraph>Roedd Kyle yn gwybod na ddylai ddefnyddio ei ffôn symudol yn ystod gwersi. Er hyn, dyna ble'r oedd am 3.30yh, ar ddiwedd y diwrnod ysgol, yn cerdded i lawr y coridor i'r ystafell lle byddai'n cael ei gadw ar ôl yr ysgol unwaith eto. Nid ef oedd ar fai ei fod wedi cyrraedd yn hwyr i'r wers, ac roedd yn teimlo dicter yn cronni tuag at yr athro a wnaeth sylw deifiol ynghylch yr amser y sleifiodd Kyle i mewn i'r ystafell, gan geisio peidio tynnu sylw ato'i hun. </Paragraph>
<Paragraph>Byddai'n hoffi gweld sut y byddai'r athro hwnnw'n ymdopi ar ôl noson ddi-gwsg gyda'i chwaer fach yn sgrechian a'i fam yn ffraeo gyda'i chariad diweddaraf. Pan wawriodd y bore o'r diwedd, doedd dim arwydd o'i wisg ysgol yn nryswch y pentwr o ddillad glân ac, o edrych yn yr oergell wag, gwyddai Kyle na fyddai'n cael brecwast chwaith. </Paragraph>
<Paragraph>Pan gyrhaeddodd yr ysgol, roedd y gwaith ar gyfer y wers wedi cael ei rannu'n barod, a syllodd Kyle ar y daflen waith o'i flaen heb ei deall, gan ofyn iddo'i hun yn dawel pam ar y ddaear yr oedd angen iddo wybod beth yw 2n + 3y. Edrychodd ar yr athro, ac ystyriodd ofyn am help, ond roedd yr athro gyda rhywun arall ar y pryd. </Paragraph>
<Paragraph>Gan lithro i lawr yn ei sedd, tynnodd Kyle ei ffôn symudol allan o'i boced a dechreuodd anfon neges destun. Torrodd gwaedd yr athro ar ei draws a rhuthrodd draw at Kyle a mynnu ei fod yn rhoi ei ffôn i gadw a pharhau â'r gwaith. Rhoddodd Kyle ei ffôn yn ôl yn ei boced yn anfodlon, a throi ei sylw'n ôl at y daflen waith, heb ddeall dim mwy nag o'r blaen, a bellach roedd y disgwyliad y byddai'n gorfod aros ar ôl yr ysgol eto yn gysgod uwch ei ben. </Paragraph>
<SourceReference>(Oxley, 2015)</SourceReference>
</Quote>
</Question>
</Part>
<Part>
<Heading>Rhan 2</Heading>
<Question>
<Paragraph>Nawr, darllenwch yr astudiaeth achos am yr ail dro, a nodwch:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Eich syniadau ynghylch pam y gallai Kyle fod wedi bod yn anfon neges destun yn y dosbarth.</ListItem>
<ListItem>Beth oedd yr hyn a oedd yn ysgogi ymddygiad Kyle?</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Sut y gellid bod wedi delio â'r sefyllfa yn wahanol? </language></Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr11"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Efallai eich bod yn teimlo y gellid cyfiawnhau ymddygiad Kyle ac nad oedd yn syndod bod Kyle wedi dechrau anfon neges destun. Efallai bod anfon neges destun o leiaf yn rhoi rhywbeth iddo ei wneud yn y wers? Efallai eich bod wedi ystyried ei fod yn anfon neges destun am fod y gweithgarwch mathemateg yn rhywbeth diystyr yn ei farn ef a'i fod yn dangos ei fod eisoes wedi rhoi'r gorau i ganolbwyntio ar y wers neu ar yr athro. </Paragraph>
<Paragraph>Gallai'r ffactorau ysgogi ar gyfer ymddygiad Kyle fod wedi deillio o'r diffyg ymgysylltu cadarnhaol gan yr athro, neu o ganlyniad i amgylchiadau cartref Kyle a'r ffaith ei fod wedi cyrraedd y dosbarth yn hwyr. </Paragraph>
<Paragraph>Efallai y gallai'r athro a Kyle fod wedi delio â phethau'n wahanol. Gallai'r athro neu'r cynorthwyydd addysgu fod wedi cael gair tawel gyda Kyle er mwyn gweld pam roedd yn hwyr, yn hytrach na bod yr athro wedi gwneud sylw coeglyd. Neu efallai eich bod wedi ystyried y dylai Kyle fod wedi bod yn fwy rhagweithiol wrth geisio help? </Paragraph>
</Discussion>
</Part>
</Multipart>
</Activity>
<Paragraph>Roedd Rudolph Dreikurs (1897–1972), seiciatrydd plant ac addysgwr, yn credu bod pob bod dynol, fel bodau cymdeithasol, yn awyddus i berthyn a chael eu derbyn gan eraill. Nododd bedwar nod ar gyfer camymddwyn: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>sylw</ListItem>
<ListItem>pŵer</ListItem>
<ListItem>dial</ListItem>
<ListItem>dangos annigonolrwydd.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Fel cynorthwyydd addysgu, gall datblygu dealltwriaeth o pam y gallai plant fod yn ymddwyn yn y ffordd â wnânt eich helpu i fod yn fwy gwrthrychol a thawel wrth ymateb i ymddygiad annymunol. Mae Tabl 1 yn cynnig rhesymau posibl dros ymddygiad plant a sut y gallwch deimlo ac ymateb. Mae hefyd yn awgrymu ffyrdd amgen y gallech ddelio â'r sefyllfa. </Paragraph>
<TableHead>Tabl 1 Nodau camymddwyn</TableHead>
Cred ddiffygiol y plentyn
Nod y plentyn
Teimlad ac ymateb yr oedolyn
Ymateb y plentyn i ymdrechion yr oedolyn i'w geryddu
Opsiynau amgen i oedolion
Rwyf ond yn perthyn pan fyddaf yn cael sylw neu help.
Sylw
<Paragraph>Teimlad: Dig.</Paragraph><Paragraph>Ymateb: Tueddiad i atgoffa a chymell.</Paragraph>
<Paragraph>Atal y camymddygiad dros dro.</Paragraph><Paragraph>Ailddechrau'r un ymddygiad yn ddiweddarach neu'n tarfu mewn ffordd arall.</Paragraph>
Anwybyddu camymddygiad lle bo'n bosibl. Rhoi sylw am ymddygiad cadarnhaol pan nad yw'r plentyn yn ceisio ei gael. Osgoi helpu'n ormodol. Sylweddoli bod atgoffa, cosbi, gwobrwyo, cymell a helpu yn enghreifftiau o sylw gormodol.
Rwyf ond yn perthyn pan fyddaf yn rheoli sefyllfa, neu'n profi na all neb fy rheoli i!
Pŵer
<Paragraph>Teimlad: Dig; gwyllt; fel petai bygythiad i awdurdod rhywun.</Paragraph><Paragraph>Ymateb: Tueddiad i ymladd neu ildio.</Paragraph>
Bydd camymddygiad gweithredol, neu ymosodol goddefol yn gwaethygu, neu bydd y plentyn yn ildio mewn 'cydsyniad herfeiddiol'.
Tynnu'n ôl o wrthdaro. Helpu'r plentyn i weld sut i ddefnyddio pŵer yn adeiladol drwy apelio am help y plentyn a sicrhau cydweithrediad. Sylweddoli bod brwydro neu ildio ond yn cynyddu dyhead y plentyn am bŵer.
Rwyf ond yn perthyn drwy frifo eraill fel rydw i'n cael fy mrifo. Ni all neb fy ngharu.
Dial
<Paragraph>Teimlad: Dolurus iawn.</Paragraph><Paragraph>Ymateb: Tueddiad i ddial a thalu'r pwyth yn ôl.</Paragraph>
Ceisio dial ymhellach drwy gamymddwyn yn waeth neu ddewis arf arall.
Osgoi cael ei frifo. Osgoi cosb a dial. Meithrin cydberthynas llawn ymddiriedaeth; darbwyllo plentyn bod rhywun yn ei garu.
Rwyf ond yn perthyn drwy ddarbwyllo eraill na ddylent ddisgwyl dim gen i; rwy'n analluog; rwy'n ddiymadferth.
Dangos annigonolrwydd
<Paragraph>Teimlad: Anobaith; enbydrwydd – 'rwy'n rhoi'r ffidil yn y to'.</Paragraph><Paragraph>Ymateb: Tueddiad i gytuno â'r plentyn na ellir gwneud dim.</Paragraph>
<Paragraph>Ymateb yn oddefol neu fethu ag ymateb i beth bynnag a wneir.</Paragraph><Paragraph>Dangos dim gwelliant.</Paragraph>
Rhoi'r gorau i bob beirniadaeth. Annog unrhyw ymgais gadarnhaol ni waeth pa mor fach ydyw; canolbwyntio ar asedau. Yn anad dim, peidio â thosturio, a dal ati.
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 3 </Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Dychwelwch at hanes ymddygiad Kyle yng <CrossRef idref="act2">Ngweithgaredd 2</CrossRef> a defnyddiwch y nodau camymddwyn a roddwyd yn Nhabl 1 i ystyried pam y gallai fod wedi ymddwyn fel y gwnaeth. Ysgrifennwch syniadau yn y blwch. </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr12"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Efallai mai'r peth cyntaf y gwnaethoch feddwl amdano oedd bod ymddygiad Kyle yn awgrymu ei fod am gael sylw. Efallai ei fod yn dibynnu ar eich barn ynghylch pam y gwnaeth 'lithro i lawr yn ei sedd'. A ydych yn credu bod Kyle yn ceisio bod yn anweledig? Neu a oeddech o'r farn mai gweithred herfeiddiol oedd hon yn gysylltiedig â phŵer, gyda Kyle yn dangos yn fwriadol nad oedd ots ganddo am farn yr athro, neu am yr hyn y dylai fod yn ei wneud? </Paragraph>
<Paragraph>Neu, efallai eich bod o'r farn bod ymddygiad Kyle yn dangos annigonolrwydd, a'i fod yn ymateb yn oddefol i'r gorchymyn y dylai roi ei ffôn i gadw. Fodd bynnag, os felly, mae 'cred ddiffygiol' Kyle ei fod ond yn perthyn drwy ddarbwyllo eraill i beidio â disgwyl dim ganddo a'i fod yn ddiymadferth yn golygu y bydd yn annhebygol y bydd unrhyw arwyddion o welliant yn ei waith ysgol. Pe byddai'r athro wedi ymateb yn wahanol, gallai barn Kyle newid gan arwain at ganlyniadau mwy cadarnhaol. </Paragraph>
<Paragraph>Nid yw penderfynu ar nodau camymddwyn yn dasg hawdd gan fod ein gwerthoedd, ein cred a'n safbwyntiau ein hunain yn dylanwadu ar sut rydym yn ymateb i ymddygiadau gwahanol, ac i blant gwahanol. Fel y cyfryw, nid oes ateb cywir nac anghywir. Efallai na fydd Kyle hyd yn oed yn gwybod pam y gwnaeth ymddwyn fel hynny, a gallai fod angen ymyrraeth gan y gwasanaethau cymorth er mwyn ei helpu i reoli ei ymddygiad. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Cafwyd sawl dull o reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Yn dibynnu ar eich cefndir diwylliannol, eich oedran, lleoliad addysgol neu hyd yn oed eich dewis o ddeunydd darllen, efallai eich bod wedi dod ar draws rhai o'r dulliau a ddangosir yn Ffigur 2 neu bob un ohonynt. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco-welsh_sec3_f02.png" width="100%" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco-welsh_sec3_f02.png" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="bc761927" x_imagesrc="nnco-welsh_sec3_f02.png" x_imagewidth="422" x_imageheight="334"/>
<Caption>Ffigur 2 Enghreifftiau o ddulliau o reoli ymddygiad </Caption>
<Description>Cartŵn yn dangos, o'r chwith i'r dde: reolau dosbarth, ffon, merch yn dal ei llaw i fyny i geisio cael sylw'r athro, bachgen gyda chap twpsyn ar ei ben, a phlentyn yn eistedd wedi croesi ei goesau gyda'i ddwylo ar ei ben. </Description>
<Paragraph>Yn sicr, ni fyddai pob un o'r rhain yn cael eu caniatáu yn hinsawdd heddiw o hawliau plant a'n gwybodaeth am seicoleg plant. Fodd bynnag, nid oes un dull cytûn o reoli ymddygiad ac mae dulliau gwahanol yn gweithio gyda phlant gwahanol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae rheoli ymddygiad yn bwysig yn yr ystafell ddosbarth, yn bennaf am ei fod yn creu amgylchedd priodol ar gyfer dysgu. Os oes ffiniau clir, yna caiff plant eu galluogi i ddatblygu ymddygiad cadarnhaol, fel parch, tuag at ei gilydd. Mae rheoli ymddygiad hefyd yn cefnogi dysgu mewn amgylchedd diogel a digyffro. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 4</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Treuliwch ychydig funudau yn nodi'r ffyrdd y caiff ymddygiad plant ei reoli yn eich ysgol neu leoliad.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr13"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Efallai eich bod wedi sylwi ar bwyslais ar ymateb i ymddygiad y plentyn ar ôl iddo ddigwydd, neu efallai eich bod wedi sylwi ar enghreifftiau lle cafodd ymddygiad negyddol ei ragweld a bod y plant wedi cael eu cyfeirio tuag at ymddygiad mwy cadarnhaol. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Un ffordd y caiff ymddygiad cadarnhaol ei annog, yn enwedig ymysg plant ifanc, yw drwy ddefnyddio siartiau gwobrwyo. Defnyddir rhyw fath o system o gosbau a gwobrau yn gyffredin mewn ysgolion uwchradd, er efallai nad ydynt yn defnyddio siartiau gwobrwyo sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ond yn hytrach yn canolbwyntio mwy ar wobrwyo grwpiau. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r erthygl yn y blwch isod yn drosolwg byr o'r system wobrwyo, a hoffem i chi ei darllen cyn gwneud y gweithgaredd nesaf. </Paragraph>
<Box>
<Heading>Siartiau gwobrwyo ac ymddygiadaeth  </Heading>
<Paragraph>Mae'r defnydd o siartiau gwobrwyo neu systemau gwobrwyo tebyg yn gyffredin, yn enwedig gyda phlant ifanc, nid yn unig gartref ond hefyd mewn ysgolion a chan weithwyr cymdeithasol sy'n gweithio gyda phlant sydd ag anghenion emosiynol neu ymddygiadol penodol. Mae'r ddamcaniaeth sy'n sail i ddulliau o'r fath yn deillio o gangen o seicoleg o'r enw 'ymddygiadaeth'. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco-welsh_sec3_f03.png" width="100%" webthumbnail="true" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco-welsh_sec3_f03.png" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="6b5c5485" x_imagesrc="nnco-welsh_sec3_f03.png" x_imagewidth="643" x_imageheight="538" x_smallsrc="nnco-welsh_sec3_f03.small.png" x_smallfullsrc="\\dog\PrintLive\Corporate\OLCymru Transfer\CYM-SCD-E1\assets\nnco-welsh_sec3_f03.small.png" x_smallwidth="400" x_smallheight="335"/>
<Caption>Ffigur 3 Enghraifft o siart gwobrwyo </Caption>
<Description><Paragraph>Dyma lun o siart gwobrwyo deinosor. Yn y gornel uchaf ar y dde mae deinosor, ac wrth ei ymyl mae 10 o olion traed wedi'u rhifo. Ar yr ochr chwith mae aderyn yn eistedd mewn coeden gyda swigen siarad sy'n dweud 'Rhowch sticer ar y siart bob tro y byddwch yn ...'. Yn y gornel waelod ar y dde mae llyffant, gyda swigen siarad sy'n dweud 'Pan fydd yr olion traed yn cyrraedd y deinosor, fy ngwobr fydd ...'. </Paragraph></Description>
<Paragraph>Dros y 30 mlynedd diwethaf, mae ymddygiadaeth wedi cymryd sawl ffurf ond, yn syml, mae'n seiliedig ar y syniad y gellir newid ymddygiad plant (ac oedolion) drwy ddysgu a chysylltu. Os bydd plentyn yn cysylltu ymddygiad penodol â chanlyniadau gwael, bydd yn ei osgoi. Os bydd yn ei gysylltu â chanlyniadau da, bydd yn ei ailadrodd. </Paragraph>
<Paragraph>Gallai 'cosbau' gynnwys peidio â chael sylw oedolyn dros dro neu gael ei allgáu o weithgareddau grŵp am gyfnod byr, a elwir weithiau yn 'amser tawelu'. Mae 'gwobrau' yn canolbwyntio ar fwy na 'chosbau', yn enwedig gyda phlant iau, a defnyddir gwobrau er mwyn annog ymddygiad dymunol ac osgoi ymddygiad annymunol. </Paragraph>
<Paragraph>Cafwyd mwy o feirniadaeth o strategaethau ymddygiad gyda phlant, yn bennaf ar y sail, os ydynt yn gweithio o gwbwl, bod y buddiannau neu'r newidiadau mewn ymddygiad yn fyrhoedlog. Cafwyd beirniadaeth hefyd oherwydd y ffaith bod un person (yr oedolyn) yn aml yn dylanwadu ar ymddygiad person arall, y plentyn, neu'n ei orfodi i wneud rhywbeth. </Paragraph>
<Paragraph>Fodd bynnag, pan fydd y plentyn yn rhan o drafodaethau am ymddygiad, gall y rhyngweithio hwn rhwng y rhiant a'r plentyn arwain at newid cadarnhaol yn y pen draw. Gellir sicrhau gostyngiad mewn tensiwn teuluol pan gaiff ffocws y rhieni ei ailgyfeirio at annog cyflawniadau cadarnhaol yn hytrach na mynd yn flin. </Paragraph>
<SubHeading>Ffurfiau gwahanol ar siartiau gwobrwyo neu systemau gwobrwyo</SubHeading>
<Paragraph>Gall y rhain gymryd ffurfiau gwahanol a gallai fod ganddynt enwau gwahanol. Gallant fod wedi'u hanelu at unigolion, fel drwy system goleuadau traffig, neu at y dosbarth cyfan, fel drwy system pwyntiau balchder sy'n ennill gwobr i'r dosbarth cyfan. Fodd bynnag, maent wedi'u 'pecynnu', mae pob un ohonynt yn golygu bod yn rhaid i blant 'ennill' rhywbeth maent am ei gael, fel 'amser euraidd' neu sticer. </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_sec3_f04.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_sec3_f04.jpg" width="100%" webthumbnail="true" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="5732e79e" x_imagesrc="nnco_sec3_f04.jpg" x_imagewidth="640" x_imageheight="312" x_smallsrc="nnco_sec3_f04.small.jpg" x_smallfullsrc="\\dog\PrintLive\Corporate\OLCymru Transfer\CYM-SCD-E1\assets\nnco_sec3_f04.small.jpg" x_smallwidth="451" x_smallheight="220"/>
<Caption>Ffigur 4 System pwyntiau balchder </Caption>
<Description><Paragraph>Dyma lun o siart wal 'system pwyntiau balchder' ar wal frics o dan do. Ar ochr dde'r siart wal mae dwy golofn o betryalau gwyn, gyda 'Pwyntiau Balchder' wedi'i ysgrifennu uwch law iddynt. Mae'r golofn gyntaf yn cynnwys pum petryal o feintiau tebyg gyda dwy lythyren ym mhob un: RG, RF, 1P, 1W a 2B. Mae'r ail golofn yn cynnwys chwe phetryal o feintiau tebyg gyda dwy lythyren ym mhob un: 3T, 3CT, 4L, 4P, 5E a 6B. </Paragraph><Paragraph>I'r chwith o'r petryalau, yng nghanol y bwrdd, mae label gyda'r geiriau 'cyfanswm cyfredol' wedi'u hysgrifennu arno. O dan y label mae dalen wen o bapur gyda phedwar sgwâr lliw wedi'u trefnu i wneud un sgwâr mwy. Mae pob sgwâr yn cynnwys rhif sy'n rhoi'r cyfanswm cyfredol ar gyfer pob 'tŷ'. </Paragraph><Paragraph>Ar ochr chwith y bwrdd mae pedwar siâp tŷ lliw. Mae'r rhain wedi'u trefnu mewn sgwâr gyda thŷ gwyrdd a choch ar y rhes uchaf, a thŷ melyn a glas ar y gwaelod. Mae dalen o bapur ar ochr dde pob tŷ gyda rhestr o enwau a rhifau wrth ymyl yr enwau. Uwchlaw'r pedwar tŷ mae label sy'n darllen 'pwyntiau'r tîm'. </Paragraph><Paragraph>Yng nghanol y siart wal ar y brig mae'r gair 'balchder' wedi'i ysgrifennu mewn geiriau coch a gwyn.   </Paragraph></Description>
<Paragraph>Er efallai na chaiff siartiau gwobrwyo eu defnyddio mewn ysgolion uwchradd, mae'n arferol cael system o gosbau a gwobrau (yr Adran Addysg, 2012). Mewn rhai ysgolion, bydd plant yn ennill pwyntiau teilyngdod, ac yna byddant yn mewngofnodi ar-lein ac yn cynilo er mwyn ennill gwobrau sy'n amrywio o bethau sylfaenol fel deunydd papur i rywbeth mwy fel tocynnau sinema. </Paragraph>
<Paragraph>Ni fydd rhai ysgolion uwchradd yn defnyddio gwobrau personol. Gall plant gofnodi pwyntiau y byddant yn eu hennill ond mae pob pwynt yn werth swm – 1c efallai. Ar ddiwedd y flwyddyn neu'r tymor, caiff y pwyntiau eu cyfnewid yn arian parod a bydd yr arian yn mynd i elusen y flwyddyn yr ysgol. </Paragraph>
<Paragraph>Gellir defnyddio colli braint neu gyfle fel 'anogaeth' i gyflawni ymddygiad dymunol drwy gosbi ymddygiad annymunol.  </Paragraph>
<SubHeading>Ai siartiau gwobrwyo ac 'amser tawelu' yw diwedd y stori?</SubHeading>
<Paragraph>Er bod gweithwyr proffesiynol (a rhieni) weithiau yn ystyried bod strategaethau fel siartiau gwobrwyo ac 'amser tawelu' yn effeithiol wrth reoli rhai ymddygiadau gyda rhai plant, mae'r buddiannau yn gyfyngedig a byrhoedlog fel arfer a gallant wneud niwed hirdymor i hunangymhelliant unigolyn (Kohn, 1999). </Paragraph>
<Paragraph>Yn aml iawn, mae'n anodd gorfodi'r siart, ac efallai y bydd angen cymell plant i wneud beth bynnag y cytunwyd arno er mwyn cael y sticer, neu eitem ddiriaethol arall sy'n dangos cynnydd tuag at y nod. Wrth i amser fynd heibio, gall y plentyn ddiflasu a chael ei siomi nad yw'n cyflawni'r wobr yr oedd yn gweithio tuag ati.  </Paragraph>
<Paragraph>Weithiau, nid yw systemau gwobrwyo yn gweithio am nad yw'r plentyn am gael ei ddewis fel rhywun sy'n wahanol mewn rhyw ffordd i'w gyfoedion. Hefyd, efallai na fydd rhai plant hŷn yn cofnodi eu pwyntiau am fod y gwobrau'n cael eu cyflwyno yn y gwasanaeth a bydd rhai plant yn meddwl eu bod yn 'rhy cŵl' neu'n teimlo cywilydd am eu bod yn cael sylw, ni waeth pa mor gadarnhaol ydyw. </Paragraph>
</Box>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 5</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Ar ôl darllen yr erthygl ar siartiau gwobrwyo, meddyliwch am y pwyntiau canlynol:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>A ydych yn meddwl bod siartiau gwobrwyo yn annog ymddygiad cadarnhaol?</ListItem>
<ListItem>Beth yw'r anawsterau wrth ddefnyddio siartiau gwobrwyo?</ListItem>
<ListItem>Os byddwch yn defnyddio siartiau gwobrwyo fel system ar gyfer gwobrwyo ymddygiad dymunol, a oes unrhyw newidiadau y gallech eu hawgrymu ar ôl darllen yr erthygl hon? </ListItem>
<ListItem>Os nad ydych yn defnyddio siartiau gwobrwyo, a allai fod lle iddynt yn eich ysgol neu leoliad?</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gwnewch nodiadau cyn darllen ein sylwadau.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr14"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Bydd eich atebion i'r pwyntiau bwled yn unigryw. Bydd eich profiadau a'ch safbwyntiau eich hun ar b'un a ddylid rheoli ymddygiad yn effeithio ar eich myfyrdodau ynghylch effeithiolrwydd siartiau gwobrwyo, a ph'un a allai fod lle iddynt yn eich lleoliad. </Paragraph>
<Paragraph>Wrth feddwl am yr anawsterau o ran defnyddio siartiau gwobrwyo, efallai y byddwch am gyfeirio'n ôl at nodau camymddwyn Dreikurs yn Nhabl 1 ac ymddygiad Kyle (Gweithgaredd 3). Ystyriwch – os yw Kyle yn ceisio cael sylw drwy wneud rhywbeth y mae'n gwybod na ddylai ei wneud (h.y. defnyddio ei ffôn mewn gwersi) – p'un a ddylai allu profi canlyniadau rhesymol ei ymddygiad. Un mater i feddwl amdano yw p'un a yw hyn yn briodol pan allai canlyniadau rhesymegol ymddygiad Kyle gael effaith negyddol ar ei addysg a'i siawns o gael cyflogaeth yn y dyfodol. Sut y gellid cyflawni hunangymhelliant? </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Er mwyn sicrhau bod nodau'n gyraeddadwy, mae angen i chi gael disgwyliadau clir o ran sut rydych am i'r plant ymddwyn a chynllun ar gyfer sut i roi'r nod cytûn ar waith. Un ffordd o wneud hyn yw defnyddio targedau CAMPUS. Bydd targedau CAMPUS yn eich helpu i ystyried ac egluro cynlluniau a phennu nodau, a bydd yn ei gwneud yn haws i wybod beth a gyflawnwyd dros amser. </Paragraph>
<Paragraph>Defnyddiwch dargedau CAMPUS: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Cyraeddadwy: A yw hynny'n bosibl? Ydi (yn dibynnu ar oedran y plentyn a'r materion sy'n arwain at yr ymddygiad). </ListItem>
<ListItem>Amserol: Pryd rydych yn bwriadu dechrau? </ListItem>
<ListItem>Mesuradwy: Beth fyddai'n ganlyniad da? </ListItem>
<ListItem>Penodol: Beth yn union yw'r broblem? </ListItem>
<ListItem>Uchelgeisiol </ListItem>
<ListItem>Synhwyrol: A yw'n synhwyrol disgwyl y canlyniad hwn o ystyried y sefyllfa yn yr ystafell ddosbarth? A oes newidiadau y gellid eu gwneud i'r amgylchedd er mwyn gwneud yr ymddygiad dymunol yn fwy tebygol? </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Yna ychwanegwch PC:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Pendant: Eglurwch i'r plant beth fydd yn digwydd o hyn ymlaen a beth a ddisgwylir. </ListItem>
<ListItem>Cytûn: Sicrhewch fod y plant yn cytuno. A yw hynny'n swnio'n iawn i chi? A ydym am wneud hynny? </ListItem>
<ListItem>Cytunwch ar y wobr.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Er mwyn annog harmoni yn yr ystafell ddosbarth a chreu amgylchedd dysgu addas, mae'n ddefnyddiol meddwl am ffyrdd o leihau cyfleoedd i'r plant ymroi i ymddygiad negyddol neu aflonyddgar. Mae Gweithgaredd 6 yn eich annog i feddwl am ffyrdd o drefnu'r lle dysgu er mwyn helpu plant i ganolbwyntio ar ddysgu yn hytrach na bod yn aflonyddgar. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 6</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 25 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Gwyliwch y clip fideo, 'Dyna natur bechgyn' [Trawsgrifiad], i gyd i ddechrau. Yna nodwch sut mae amgylchedd yr ystafell ddosbarth rydych yn gweithio ynddo wedi'i drefnu cyn gwylio'r clip am yr eildro. Os nad ydych yn gweithio mewn ysgol ar hyn o bryd, meddyliwch am sut mae'r amgylchedd wedi'i drefnu mewn lleoliad addysg rydych yn ei adnabod. </Paragraph>
<Paragraph>Gwnewch nodiadau ar y canlynol cyn darllen ein sylwadau:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Sut mae'r ffordd y mae'r amgylchedd dysgu wedi'i drefnu yn y clip yn lleihau'r cyfleoedd ar gyfer ymddygiad negyddol? </ListItem>
<ListItem>Sut mae'r amgylchedd dysgu rydych yn gweithio ynddo yn helpu wrth reoli ymddygiad?</ListItem>
<ListItem>A oes unrhyw welliannau y gellid eu gwneud yn eich lleoliad?</ListItem>
</BulletedList>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr15"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Efallai y byddwch yn cytuno neu'n anghytuno bod popeth a nodir yn y clip fideo yn wir, fel 'fel arfer, mae merched yn clywed 2–4 gwaith yn well na bechgyn' neu bod gan 'fechgyn synnwyr digrifwch unigryw'. Er y gall rhyw plentyn effeithio ar sut mae'n ymgysylltu â'r amgylchedd dysgu, mae plant yn unigolion ac nid ydynt bob amser yn ymddwyn mewn ffordd 'nodweddiadol' neu ystrydebol. Mae aeddfedrwydd, profiad bywyd, personoliaeth a llawer o ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar sut mae plentyn yn ymateb mewn sefyllfa benodol. </Paragraph>
<Paragraph>Er hyn, mae'n bwysig ystyried sut y gall oedolion ddefnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o ffactorau sy'n ysgogi ymddygiad er mwyn creu amgylchedd sy'n cefnogi pob plentyn i ymddwyn yn 'briodol'. </Paragraph>
<Paragraph>Gallai rhai o'r enghreifftiau y gallech fod wedi sylwi arnynt o'r clip fideo er mwyn lleihau'r cyfleoedd i ymddwyn yn negyddol gynnwys:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>darparu lle digon mawr i chwarae ynddo</ListItem>
<ListItem>mynd â gweithgareddau i'r awyr agored</ListItem>
<ListItem>defnyddio clustffonau er mwyn lleihau ymyriadau</ListItem>
<ListItem>rhybuddio am newid gweithgarwch.</ListItem>
</BulletedList>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae Tom Bennett, awdur Managing Difficult Behaviour in Schools (2015a), yn credu bod deg peth y dylai pob athro fod yn ei wneud er mwyn sicrhau trefn yn yr ystafell ddosbarth. </Paragraph>
<Quote>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Peidiwch â thybio bod y disgyblion yn gwybod sut rydych am iddynt ymddwyn.</ListItem>
<ListItem>Lluniwch gynllun seddi.</ListItem>
<ListItem>Byddwch yn deg, yn gyson ac yn gymesur.</ListItem>
<ListItem>Dysgwch enwau'r disgyblion.</ListItem>
<ListItem>Dilynwch drywydd materion.</ListItem>
<ListItem>Peidiwch â gweithredu ar eich pen eich hun – defnyddiwch eich rheolwr llinell os bydd angen.</ListItem>
<ListItem>Peidiwch â chynhyrfu.</ListItem>
<ListItem>Dylech gynnwys y rhieni.</ListItem>
<ListItem>Byddwch yn barod ac yn drefnus ar gyfer gwersi.</ListItem>
<ListItem>Byddwch yn athro, nid yn gyfaill.</ListItem>
</NumberedList>
<SourceReference>(Addaswyd o Bennett, 2015b)</SourceReference>
</Quote>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 7</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Ailddarllenwch ddeg awgrym defnyddiol Tom Bennett (2015b) ar gyfer cynnal disgyblaeth yn yr ystafell ddosbarth. Dyma'r pethau y dylai pob aelod o staff fod yn ei wneud er mwyn sicrhau trefn yn yr ystafell ddosbarth. </language></Paragraph>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Yna gwyliwch glip fideo ar reoli aflonyddwch lefel isel. Gwyliwch y clip fideo yn ei gyfanrwydd unwaith heb oedi na chymryd nodiadau. </language></Paragraph>
<MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/low-level_disruption.mp4" type="video" x_manifest="low-level_disruption_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="21007b94" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="3bfa2aba">
<Transcript>
<Heading>Ymyrraeth lefel isel </Heading>
<Paragraph>Siaradwr: Tom Bennett, cynghorydd ymddygiad TES</Paragraph>
<Paragraph>Fel athro, bydd angen i chi wynebu ymyrraeth lefel isel yn llawer amlach nag ymyrraeth lefel uchel. </Paragraph>
<Paragraph>Yr hyn y mae'r rhan fwyaf o athrawon yn fwyaf ofnus yn ei gylch yw ymyrraeth lefel uchel wrth gwrs. Y rhai sy'n ceisio cydymdeimlad, y rhai sy'n ddigywilydd, sy'n rhegi, sy'n dreisgar, ac ati. Mae hynny yn digwydd, yn enwedig mewn rhai ysgolion, ond camymddwyn lefel isel yw'r math mwyaf cyffredin o gamymddwyn y bydd yn rhaid i chi ddod ar ei draws o bell ffordd. </Paragraph>
<Paragraph>Caiff ei alw'n gamymddwyn lefel isel, ond mae'n cael effaith lefel uchel iawn ar eich gwersi. Mae camymddwyn lefel isel yn cael effaith wael iawn ar eich gwersi. Mae'n eich blino. Mae'n erydu eich addysgu fesul tipyn. A'r peth gwaethaf amdano yw, weithiau fyddwch chi ddim hyd yn oed yn sylwi ar yr effaith a gaiff ar eich gwers. </Paragraph>
<Paragraph>Beth yw ystyr camymddwyn lefel isel? Pethau fel sgwrsio, pasio nodiadau. Pethau fel edrych allan drwy'r ffenestr pan ddylech fod yn gweithio. Pethau fel galw allan yn lle rhoi llaw i fyny. Pethau fel codi o'r gadair. Chwarae gyda'r llenni ac ati efallai pan na fyddwch wedi gofyn iddynt wneud hynny. Yr holl bethau y mae'n rhaid i chi roi terfyn arnynt a'u hunioni. Mae gwneud hynny'n amharu ar eich gwers. Mae'n amharu ar y llif ac, wrth gwrs, mae'n gwastraffu amser pawb arall yn yr ystafell. A dyna pam y mae ymddygiad lefel isel yn gyrydol iawn, fel asid, i'ch addysgu. </Paragraph>
<Paragraph>Os byddwch erioed yn ffilmio un o'ch gwersi lle rydych yn cael llawer o gamymddwyn lefel isel, yr hyn a welwch yw bod traean o'ch gwers yn cael ei threulio yn dweud wrth bobl am roi'r gorau i wneud pethau na ddylent fod yn ei wneud, a dweud y drefn wrthynt. Yn ddelfrydol, dylech fod yn osgoi hynny. </Paragraph>
<Paragraph>Felly sut rydych chi'n osgoi hynny? Nid oes ateb cyflym a syml i hyn, ond mae esboniad syml ynghylch beth y mae'n rhaid i chi ei wneud. A'r hyn y mae angen i chi ei wneud yw sefydlu ffiniau clir iawn gyda'r dosbarth o'r cychwyn cyntaf. A rhoi gwybod iddynt y byddwch chi'n rheoli'r ffiniau hynny. </Paragraph>
<Paragraph>A'r tro cyntaf y bydd disgyblion yn dechrau croesi'r ffiniau hynny, er enghraifft, drwy siarad drostoch, siarad dros eu cyfoedion, pasio nodiadau, ac ati, bydd angen i chi dynnu sylw at hynny fel mater o bwys. Rhoi rhybudd iddynt. Ac yna rhoi gwybod iddynt y bydd rhywbeth yn digwydd yn sgil hynny. </Paragraph>
<Paragraph>Beth y gallwch ei wneud hefyd yw, heb ddweud gair, anwybyddu'r camymddwyn lefel isel er mwyn sicrhau bod y wers yn parhau i lifo. Mae hynny'n strategaeth. Nid wyf yn golygu anwybyddu'r camymddwyn. Yr hyn rwy'n ei olygu yw dychwelyd at y camymddwyn a sut rydych am ddelio ag ef pan fyddwch chi'n barod, nid pan fyddan nhw am i chi fod yn barod. </Paragraph>
<Paragraph>Felly os bydd rhywun yn siglo ar ei gadair neu'n pasio nodiadau ac ati, ac rwyf yng nghanol dweud wrth y dosbarth beth yw'r dasg, weithiau ni fyddaf yn rhoi'r gorau i'r hyn rwy'n ei wneud. Byddaf yn gorffen egluro wrth y dosbarth ac yna, pan fyddaf wedi gwneud hynny, byddaf yn mynd at y disgybl ac yn dweud, iawn, mae angen i ni gael sgwrs y tu allan. Neu, mae angen i mi dy weld ar ôl y wers. Neu, dyma dy rybudd olaf di, ddylet ti ddim bod yn gwneud hynny. Felly gwnewch bethau yn eich amser chi, nid yn eu hamser nhw. Fel arall, bydd y camymddwyn lefel isel yn dechrau dylanwadu ar sut rydych yn gweithredu mewn ystafell ddosbarth. </Paragraph>
<Paragraph>Ac un o'r pethau pwysicaf y gallwch ei wneud mewn ystafell ddosbarth yw dangos eich bod mewn rheolaeth o'ch hun. Wedi'r cyfan, allwch chi ddim rheoli neb arall, ond gallwch reoli eich hun. A thrwy osod yr esiampl honno, a thrwy wefru eich ffiniau gyda chosbau a chanmoliaeth, gallwch arwain y disgyblion at y math hwnnw o ymddygiad. </Paragraph>
<Paragraph>Mae honno'n broses araf. Mae'n rhaid i chi osod y safon yn uchel iawn i ddechrau. A rhaid i chi reoli'r safon honno yn eithaf dwys. A bydd yn cymryd llawer o amser. Nid oes ffordd o amgylch hyn. </Paragraph>
<Paragraph>Ni allwch reoli'r math hwn o beth heb siarad gyda llawer o blant ar ôl gwersi a siarad â llawer o rieni. Ond, os byddwch yn gwneud hynny, a'ch bod yn ei wneud yn llym ar ddechrau eich gyrfa gyda grŵp o blant, bydd yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol. Ar un olwg, mae'n fuddsoddiad yn eich dyfodol chi, a, gorau oll, yn eu haddysg nhw.  </Paragraph>
<Paragraph>A dyna sut rwyf yn delio ag ymyrraeth lefel isel. </Paragraph>
</Transcript>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/low-level_disruption_still.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/low-level_disruption_still.jpg" alt="video still" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="c2135648" x_imagesrc="low-level_disruption_still.jpg" x_imagewidth="463" x_imageheight="260"/>
</MediaContent>
<Paragraph>Nawr gwyliwch y clip fideo am yr eildro gan ystyried y cwestiynau canlynol:  </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem><language xml:lang="cy">Sut y gallech chi, fel cynorthwyydd addysgu, helpu'r athro i reoli aflonyddwch lefel isel?</language></ListItem>
<ListItem><language xml:lang="cy">Pa mor hyderus ydych chi'n teimlo yn helpu'r athro gyda hyn?</language></ListItem>
<ListItem><language xml:lang="cy">Beth fyddai'n eich helpu chi i wella eich hyder?</language></ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Os nad ydych yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu ar hyn o bryd, dychmygwch sefyllfa lle mae aflonyddwch lefel isel yn digwydd a chymhwyswch y cwestiynau at hyn. </Paragraph>
<Paragraph>Gwnewch eich nodiadau cyn darllen ein sylwadau.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr16"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Mae Tom Bennett yn siarad am effeithiau cyrydol mân gamymddwyn ymysg plant, fel siarad neu basio nodiadau, neu fod rhywbeth yn tynnu eu sylw. Fel cynorthwyydd addysgu, rydych mewn sefyllfa dda i helpu'r athro i reoli'r math hwn o ymddygiad. Efallai y gwnaethoch nodi sut y gallech, yn dyner, atgoffa plant i wrando, neu ganmol plentyn am ymddwyn yn briodol. Yn aml, bydd canolbwyntio eich sylwadau ar ymddygiad priodol yn arwain at gywiro ymddygiad amhriodol eraill, heb fod angen dweud dim wrth y plant hynny. </Paragraph>
<Paragraph>Nododd Tom Bennett bod rheoli ymyrraeth lefel isel yn rhywbeth sy'n cymryd amser, ac nad oes 'ateb cyflym'. Yn yr un modd, mae meithrin sgiliau a gwybodaeth – a hyder – i reoli ymddygiad plentyn yn effeithiol yn rhywbeth sy'n cymryd amser. Bydd siarad â'r athro dosbarth neu â'ch mentor, neu â'r aelod o staff sy'n gyfrifol am reoli ymddygiad yn yr ysgol, yn eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a'ch sgiliau o ran rheoli ymddygiad. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae'r mwyafrif o blant yn ymateb yn gymharol dda i system o wobrwyon a chosbau. Fodd bynnag, mae systemau o'r fath yn defnyddio ysgogiadau anghynhenid, wedi'u hanelu'n benodol at reoli ymddygiad a sicrhau cydymffurfiaeth â'r hyn y mae'r athro neu'r ysgol am iddo ddigwydd. Mae ystadegau'n dangos nad yw defnyddio ysgogiad anghynhenid yn effeithiol ar gyfer pob myfyriwr (yr Adran Addysg, 2013). </Paragraph>
<Paragraph>Yn ddelfrydol, dylid ysgogi plant i ddysgu mewn modd cynhenid, fel eu bod yn gwneud rhywbeth, fel darllen, er ei fwyn ei hun ac am eu bod am wneud hynny, nid dim ond er mwyn cael eu gwobrwyo (Kohn, 1999). </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 8</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Darllenwch y dyfyniad a olygwyd isod ar opsiynau amgen i egwyddorion ymddygiadol cosbau a gwobrau a'r defnydd o arfer adferol.  </Paragraph>
<Quote>
<Heading>Lleisiau newydd: A oes angen i ysgolion gael gwersi ar ysgogiad?</Heading>
<Paragraph>Mae opsiynau amgen i egwyddorion ymddygiadol cosbau a gwobrau. Un o'r rhain yw arfer adferol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae arfer adferol yn deillio o'r system cyfiawnder troseddol, lle y dangoswyd ei fod yn fwy effeithiol ac yn llai costus na dulliau cosbol traddodiadol (Flanagan, 2014), ac mae'n seiliedig ar feithrin a chynnal cydberthnasau, adfer unrhyw niwed a achosir, a chydweithredu ar y ffordd ymlaen (Thorsborne a Blood, 2013). Mae'r dull gweithredu hwn yn galw am ymrwymiad a chefnogaeth gan bob aelod o staff yr ysgol ac i ddechrau byddai'n fwy llafurus na pharhau â system o gosbau a gwobrau. Ond yn y tymor hir byddai'r dull hwn yn llawer mwy buddiol i'r bobl ifanc dan sylw gan eu bod yn cael y cyfle i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i ymateb mewn modd ymaddasol i heriau bywyd a datblygu ymwybyddiaeth emosiynol ac empathi. Mae ysgolion sydd wedi rhoi'r dull gweithredu hwn ar waith wedi gweld gwelliannau o ran mesurau cymdeithasol ac economaidd fel gostyngiad yn nifer y disgyblion sy'n cael eu gwahardd o'r ysgol, gostyngiad yn nifer yr absenoldebau mynych, a chynnydd o ran cyflawniad mewn Saesneg a mathemateg (Flanagan, 2014; Thorsborne a Blood, 2013). </Paragraph>
<Paragraph>Egwyddor sylfaenol y dull gweithredu yw bod staff yr ysgol yn cydweithio â'r bobl ifanc er mwyn datblygu problemau ymddygiad heriol, yn hytrach na gorfodi atebion arnynt. Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dewis ac annibyniaeth yn elfennau allweddol wrth feithrin cymhelliant cynhenid (Ryan a Deci, 2000). Mae galluogi pobl ifanc i fod yn rhan o benderfyniadau ynghylch beth sy'n digwydd iddynt yn yr ysgol yn ffordd effeithiol o ymgysylltu â myfyrwyr ac addysgu sgiliau gwneud penderfyniadau gwerthfawr iddynt. </Paragraph>
<SubHeading>Cyfeiriadau</SubHeading>
<Paragraph>Flanagan, H. (2014, Gorffennaf). Restorative approaches. Cyflwyniad mewn digwyddiad hyfforddiant ar gyfer Cyngor Sir Swydd Caergrawnt, Over, Swydd Gaergrawnt, y DU. </Paragraph>
<Paragraph>Ryan, R. a Deci, E. (2000). Intrinsic and extrinsic motivations. Contemporary Educational Psychology, 25(1), 54–67. </Paragraph>
<Paragraph>Thorsborne, M. a Blood, P. (2013). Implementing restorative practices in schools. Llundain: Jessica Kingsley Publishers. </Paragraph>
<SourceReference>(Addaswyd o Oxley, 2015)  </SourceReference>
</Quote>
<Paragraph>Nawr atebwch y cwestiynau canlynol:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Beth yw eich ymateb cychwynnol i'r dull hwn?</ListItem>
<ListItem>Yn eich rôl fel cynorthwyydd addysgu, sut y gallech gefnogi'r broses o roi'r dull hwn ar waith?</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gwnewch nodiadau cyn darllen ein sylwadau.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr17"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Un elfen allweddol o arfer adferol yw meithrin cydberthnasau. Drwy weithio'n agos gyda phlant – yn aml ar sail unigol – efallai eich bod o'r farn eich bod eisoes yn meithrin cydberthnasau â phlant a'u bod hefyd yn cael cyfle i siarad â chi a'ch bod chi'n gwrando arnynt. O ganlyniad, efallai eich bod wedi cael ymateb cadarnhaol i'r dull gweithredu hwn. </Paragraph>
<Paragraph>Fel arall, efallai eich bod wedi meddwl ei fod yn 'syniad da', ond y byddai'n cymryd gormod o amser i'w roi ar waith. Hefyd, yn dibynnu ar eich safbwyntiau, gallech fod yn gyfforddus neu'n anghyfforddus â'r syniad o gydweithredu â'r plant er mwyn datrys problemau. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Os oes gennych amser ac os hoffech archwilio'r pwnc hwn ymhellach, edrychwch ar yr adnoddau isod.</Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Nid yw systemau gwobrwyo yn gweithio!</Heading>
<Paragraph>Mae'r erthyglau canlynol o'r farn nad yw systemau gwobrwyo yn gweithio. Wrth i chi eu darllen, meddyliwch am ba mor argyhoeddiadol y mae eu dadleuon yn swnio, a myfyriwch ar eich safbwyntiau eich hun ar systemau gwobrwyo. </Paragraph>
<Paragraph>Mann, S. (2013) ‘Why “100% attendance awards” at school don’t work’, Huffington Post, 10 Mehefin [ar-lein]. Ar gael yn http://www.huffingtonpost.co.uk/sandi-mann/why-100-attendance-awards_b_3414693.html (cyrchwyd 17 Rhagfyr 2015). </Paragraph>
<Paragraph>Paton, G. (2009) ‘Classroom rewards “do not work”’, The Telegraph, 13 Tachwedd 2009. Ar gael yn http://www.telegraph.co.uk/education/6563040/Classroom-rewards-do-not-work-work.html (cyrchwyd 17 Rhagfyr 2015). </Paragraph>
<Paragraph>Dull un ysgol o reoli ymddygiad disgyblion</Paragraph>
<Paragraph>Os ydych am archwilio sut mae un ysgol benodol yn rheoli ymddygiad disgyblion, edrychwch ar y wybodaeth ar eu gwefan. </Paragraph>
<Paragraph>Fideos TES ar reoli ymddygiad</Paragraph>
<Paragraph>Gellir gweld y gyfres gyfan o fideos ar reoli ymddygiad gan Tom Bennett ar wefan TES. Er eu bod wedi'u hanelu at athrawon, gall yr awgrymiadau a roddwyd gan Tom Bennett eich helpu i ddeall y dulliau y gall athro eu defnyddio a'ch galluogi i roi cymorth effeithiol wrth reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. </Paragraph>
</InternalSection>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Mae sawl rheswm dros broblemau ymddygiad ymysg plant. Yn y pwnc hwn, rydym wedi dewis canolbwyntio ar broblemau iechyd meddwl fel achos o ymddygiad a allai godi pryderon. </Paragraph>
<Paragraph>Mae un o bob 10 plentyn a pherson ifanc 5 i 16 oed wedi cael diagnosis clinigol o anhwylder iechyd meddwl ac mae gan tua un o bob saith ohonynt broblemau llai difrifol (yr Adran Iechyd, 2013). Mae adroddiadau gan sefydliadau ac elusennau sy'n gweithio gyda phlant yn awgrymu nad yw'r ystadegau hyn wedi newid yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae pwysigrwydd lles ac iechyd meddwl yn cael ei gydnabod fwyfwy. Oherwydd hyn, penododd llywodraeth y DU yr eiriolwr iechyd meddwl cyntaf erioed ar gyfer ysgolion yn 2015 er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth a lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl pobl ifanc (yr Adran Addysg, 2015). </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r ffocws hwn ar les plant wedi arwain at lu o adroddiadau gan y llywodraeth ar y pwnc. Mae un o'r rhain, Adroddiad Allen, Early Intervention:The Next Steps, yn dyfynnu Coleg Brenhinol y Seiciatryddion gan nodi: </Paragraph>
<Quote>
<Paragraph>Bydd mynd i'r afael â phroblemau iechyd meddwl yn gynnar mewn bywyd yn gwella cyrhaeddiad addysgol, cyfleoedd cyflogaeth ac iechyd corfforol, ac yn lleihau lefelau o gamddefnyddio sylweddau, hunan-niwed a hunanladdiad, yn ogystal â gwrthdaro teuluol ac amddifadedd cymdeithasol. Yn gyffredinol, bydd yn cynyddu disgwyliad oes, cynhyrchiant economaidd, swyddogaeth gymdeithasol ac ansawdd bywyd. Bydd hefyd yn arwain at fudd i bob cenhedlaeth. </Paragraph>
<SourceReference>(Allen, 2011)</SourceReference>
</Quote>
<Paragraph>Mae'n ddefnyddiol ar y cam hwn i ystyried beth yw ystyr y term 'iechyd meddwl'. Yn 2014, diffiniodd Sefydliad Iechyd y Byd iechyd meddwl fel 'a state of wellbeing in which an individual realises his or her own abilities [and] can cope with the normal stresses of life'. Gall iechyd meddwl gwael fod yn gysylltiedig â newid, sefyllfaoedd llawn straen neu ffordd o fyw, yn ogystal â chwmpasu ffactorau seicolegol neu fiolegol. Mae'r term 'lles emosiynol' yn gyfystyr â lles meddwl (yr Adran Iechyd, 2011) a dyma'r term a ddefnyddir amlaf ym maes darpariaeth gofal plant gan ymarferwyr ac mewn dogfennau polisi gofal plant. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Deddf Plant 2004 yn nodi'r cyfrifoldebau sydd gan awdurdodau lleol a'u partneriaid i gydweithredu er mwyn hyrwyddo lles plant (mae hyn yn cynnwys eu hiechyd meddwl a'u lles emosiynol yn benodol). </Paragraph>
<Paragraph>Gall salwch meddwl ddigwydd am bob math o resymau. Weithiau, gall digwyddiad trawmatig neu un sy'n llawn straen – marwolaeth aelod agos o'r teulu, er enghraifft – ysgogi salwch meddwl. Fodd bynnag, yn aml, bydd iechyd meddwl gwael yn deillio o gyfuniad o ffactorau, neu bydd iechyd meddwl yn dirywio dros gyfnod o amser, efallai oherwydd bwlio hirfaith. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 9</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Nodwch y digwyddiadau neu'r sefyllfaoedd a allai ysgogi problemau iechyd meddwl neu les emosiynol ymysg plant. Rydym wedi dechrau yn y blwch isod. </Paragraph>
<Paragraph>Pan fyddwch wedi gorffen eich rhestr, darllenwch ein sylwadau.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr18"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Elusen yn y DU yw Young Minds sydd wedi ymrwymo i wella lles emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Canfu Young Minds (2014) mai'r materion oedd yn peri'r mwyaf o bryder i blant o oedran ysgol oedd: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>ofn methu</ListItem>
<ListItem>bwlio</ListItem>
<ListItem>delwedd o'r corff</ListItem>
<ListItem>yr amgylchedd ar-lein</ListItem>
<ListItem>pwysau rhywiol</ListItem>
<ListItem>siawns o gael cyflogaeth. </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Fodd bynnag, nid oes achos nac ysgogiad clir bob amser dros faterion; ac mae'n bwysig cofio bod plant yn ymateb mewn ffyrdd gwahanol i heriau yn eu bywydau, fel anawsterau gyda chydberthynas deuluol, pwysau arholiad, neu gyfnodau pontio. </Paragraph>
<Paragraph>Ni fyddai'r hyn sy'n digwydd yn eu bywydau yn cael effaith amlwg ar rai plant, ond gallai eraill ddangos symptomau neu ymddygiadau sy'n peri pryder i rieni ac oedolion eraill y dônt ar eu traws. Gall y symptomau neu'r ymddygiadau hyn fod yn rhai byrdymor ac yn ddim i boeni yn eu cylch neu gallant fod yn arwydd o broblem iechyd meddwl. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae mwy o ysgolion yn ychwanegu iechyd emosiynol at bolisïau ac yn rhoi hyfforddiant i staff ar y pwnc hwn. Gall fod yn gymharol hawdd dweud pan fydd plentyn yn sâl yn gorfforol – efallai y bydd ei dymheredd yn uwch na'r arfer, neu efallai y bydd ganddo smotiau, er enghraifft. Fodd bynnag, gall fod yn llawer anoddach adnabod salwch meddwl, neu ddiffyg lles emosiynol. Yn ogystal â'r ffocws ar deimladau a'r gallu i ymdopi â straen a 'digwyddiadau' bywyd, mae'r symptomau yn llawer llai amlwg, yn enwedig yn y camau cynnar. </Paragraph>
<Paragraph>Un anhwylder meddwl cyffredin yw gorbryder. Gall amrywiaeth o bethau ysgogi gorbryder ac fel cynorthwyydd addysgu, dylai fod gennych ddealltwriaeth o sut i gefnogi plant pan fyddant yn orbryderus. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Gorbryder a phanig – arwyddion a symptomau</Heading>
<Paragraph>Gall gorbryder achosi symptomau corfforol ac emosiynol. Mae hyn yn golygu y gall effeithio ar sut mae person yn teimlo yn ei gorff a hefyd ar ei iechyd. Dyma rai o'r symptomau: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>teimlo'n ofnus</ListItem>
<ListItem>teimlo allan o wynt, yn chwyslyd, neu gwyno am 'bili-pala' neu boen yn y frest neu'r stumog</ListItem>
<ListItem>teimlo dan straen, yn anesmwyth, defnyddio'r tŷ bach yn aml.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gall y symptomau hyn fynd a dod. Ni all plant ifanc ddweud wrthych eu bod yn orbryderus. Byddant yn mynd yn flin, yn ddagreuol ac angen sylw, yn cael trafferth cysgu, a gallant ddeffro yn ystod y nos neu gael hunllefau. Gall gorbryder hyd yn oed achosi plentyn i gael cur pen, poen yn ei fol neu deimlo'n sâl. </Paragraph>
<CaseStudy>
<Heading>Astudiaeth achos: Gorbryder</Heading>
<Paragraph>'Wn i ddim amdanoch chi, ond rydw i bob amser wedi bod yn un am boeni, fel fy mam-gu. Bob blwyddyn, byddem yn cynllunio ein taith deuluol i India a byddai'n dechrau ... poeni am y daith ar yr awyren ... poeni am fynd yn sâl ... a chyn i'r awyren godi byddai fy stumog yn troi, byddai fy nwylo yn chwyslyd a byddwn yn teimlo na allwn anadlu. Weithiau, byddwn yn teimlo fy nghalon yn curo a byddwn yn meddwl fy mod yn marw neu'n mynd yn "wallgof". </Paragraph>
<Paragraph>Y llynedd, cyn fy arholiadau, gwaethygodd y sefyllfa. Roeddwn wedi bod dan lawer o bwysau yn yr ysgol ac mae pawb yn fy nheulu bob amser wedi gwneud yn dda a mynd ymlaen i'r brifysgol, felly gwyddwn y byddai'n rhaid i mi astudio'n galed iawn. Aeth pethau cynddrwg fel na allwn ganolbwyntio. Roeddwn yn teimlo'n grynedig ac yn nerfus yn yr ysgol a hyd yn oed yn dechrau crïo bron bob dydd. Doeddwn i ddim yn cysgu'n dda am fy mod mor nerfus ac roeddwn yn teimlo gormod o gywilydd i ddweud wrth fy rhieni. </Paragraph>
<Paragraph>Yn y diwedd, gwnes i siarad yn agored gyda nyrs yr ysgol a dyna oedd y peth gorau i mi erioed ei wneud. Cysylltodd hi â mam, ac ar ôl gweld y meddyg teulu, es i weld tîm o arbenigwyr yn yr ysbyty. </Paragraph>
<Paragraph>Peidiwch â phoeni ... doeddwn i ddim am gael fy ystyried yn "ferch sy'n gweld y seiciatrydd" chwaith, ond nid dyna sut oedd pethau. Gall y tîm gynnwys pob math o bobl fel meddygon, nyrsys, seicolegwyr a gweithwyr cymdeithasol. Gwnaethant dawelu fy meddwl a'm helpu i a'm teulu i weld bod fy symptomau yn rhai go iawn (yn union fel pan mae gennych asthma). Es ymlaen i gael therapi siarad o'r enw therapi gwybyddol ymddygiadol. Mae hyn yn cynnwys nifer o sesiynau wythnosol gyda'r therapydd. Doedd dim angen i mi gymryd meddyginiaeth hyd yn oed. Er y byddaf wastad yn poeni, rwy'n teimlo'n llawer gwell, ac rwyf hyd yn oed yn edrych ymlaen at y trip eleni i India.' </Paragraph>
<Reference>(Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, 2015)</Reference>
</CaseStudy>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 10</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Ar ôl darllen y disgrifiad uchod o'r symptomau arferol a ddangosir gan blant sydd â gorbryder, meddyliwch am sut y gallech chi fel cynorthwyydd addysgu helpu plentyn sydd â gorbryder. Gwnewch nodiadau ac yna darllenwch ein sylwadau. </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr19"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Wrth feddwl am ymddygiad plentyn, mae angen i chi greu darlun yn hytrach na chanolbwyntio ar ymddygiad penodol. Hefyd, meddyliwch am amlder neu ddwyster yr ymddygiad a ph'un a oes unrhyw resymau amlwg dros yr ymddygiad. </Paragraph>
<Paragraph>Efallai eich bod wedi ystyried p'un a wnaeth yr ymddygiad effeithio ar les y plentyn. Er enghraifft, efallai y bydd plentyn sy'n hoffi cael llawer o sylw ac sy'n amharod i adael i'w riant neu ofalwr ei adael yn ei chael hi'n anodd meithrin cydberthnasau neu gyfeillgarwch ag eraill. Neu efallai y bydd yn ei chael hi'n anodd cymryd rhan mewn sefyllfaoedd cymdeithasol arferol, a fyddai'n effeithio ar ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae rhai ymddygiadau'n briodol ar adegau neu gamau datblygu penodol, ond gallent olygu problem mewn plentyn hŷn. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
</InternalSection>
<Paragraph>Mae gwrando ar blant yn thema allweddol mewn gwasanaethau ar gyfer plant ifanc. Mae hefyd yn elfen bwysig o unrhyw ymyrraeth i helpu plant â phroblemau iechyd meddwl gan ei fod yn rhoi cyfle i'r plant deimlo bod eu teimladau'n bwysig ac, felly, yn gwella eu hunan-barch. Mae hefyd yn galluogi'r oedolion dan sylw i feithrin dealltwriaeth o'r problemau sydd gan y plentyn. </Paragraph>
<Paragraph>Weithiau, efallai na fydd plant yn gallu mynegi eu hunain yn glir, neu efallai y byddant yn ei chael hi'n anodd siarad am sut maent yn teimlo. Efallai y byddant yn cael budd o sesiynau therapi proffesiynol er mwyn eu helpu i archwilio eu teimladau a gweithio drwy'r heriau i'w lles emosiynol. </Paragraph>
<Paragraph>Gellir cynnig sawl math o therapi, o therapïau siarad confensiynol, fel therapi gwybyddol ymddygiadol, i therapïau sy'n galluogi plant i fynegi eu teimladau drwy chwarae neu gelf. </Paragraph>
<Paragraph>Un ffordd o gael plant i fod yn agored a thrafod eu pryderon a chael gwybod sut maent yn teimlo yw rhannu llyfrau gyda nhw sy'n deimlo gyda 'phroblemau'. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 11</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 45 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Edrychwch drwy'r llyfrau ar wefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion a gwefan Little Parachutes. </Paragraph>
<Paragraph>Yna, edrychwch drwy'r llyfrau yn llyfrgell eich ysgol neu eich llyfrgell leol a nodwch ddau lyfr y gellid eu defnyddio i helpu plant ag anawsterau, ofnau neu bryderon a allai fod ganddynt. Ysgrifennwch rai llinellau i ddweud sut y gellid defnyddio'r llyfrau a ddewiswyd gennych. Mae gennym rai enghreifftiau isod: </Paragraph>
<Quote>
<Paragraph>Cyfres Everyone Has Feelings gan Picture Window Books  </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r llyfrau hyn yn cynnwys teitlau fel Everyone Feels Angry Sometimes gan Carl Mercer ac Everyone Feels Sad Sometimes gan Marcie Aboff. Mae pob llyfr yn canolbwyntio ar un teimlad ac ar sefyllfa sy'n gysylltiedig â'r teimlad hwnnw. Mae'r llyfrau yn helpu plant i weld bod ateb ac y gallant oresgyn y ffordd maent yn teimlo. </Paragraph>
<Paragraph>Michael Rosen's Sad Book gan Michael Rosen, lluniau gan Quentin Blake. ISBN: 0744598982, Walker Books </Paragraph>
<Paragraph>Mae Michael Rosen yn rhannu ei deimladau trist am ei fab, a fu farw, ac mae'n ysgrifennu ynghylch sut y ceisiodd ymdopi â'r digwyddiad trist hwn yn ei fywyd. </Paragraph>
<Paragraph>Misery Moo gan Jeanne Willis, lluniau gan Tony Ross. ISBN: 1842705261, Anderson </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r stori hon am fuwch sydd mor drist fel bod Lamb yn cael trafferth codi ei chalon. Ond, yn y diwedd, mae Cow yn sylweddoli pa mor bwysig yw cael ffrindiau ac edrych am y gorau, nid y gwaethaf, mewn pethau. </Paragraph>
<Paragraph>Voices in the Park gan Anthony Browne. ISBN: 0552545643, Corgi </Paragraph>
<Paragraph>Gellir defnyddio'r lluniau i drafod teimladau gyda phlant a phobl ifanc wrth i daith i'r parc gael ei archwilio drwy lygaid pedwar cymeriad gwahanol. </Paragraph>
<Paragraph>Beegu gan Alexis Deacon. ISBN: 0099417448, Red Fox</Paragraph>
<Paragraph>Mae Beegu yn dod o'r gofod ac mae'r stori hon yn archwilio sut deimlad yw cael eich anwybyddu a'ch gwrthod gan oedolion. Prin yw'r geiriau ond mae'r lluniau yn cyfleu ei neges ac yn rhoi digon o destun trafod. </Paragraph>
<Paragraph>Reading Lights Llyfr comig i blant –4–7 oed a'u hathrawon a'u rhieni. Ar gael o'r Comic Company neu Goleg Brenhinol y Seiciatryddion. Pedwar llyfr llawn lliw sy'n mynd i'r afael â sut beth yw bod yn wahanol, a rhoi fframwaith i'w ddefnyddio gan rieni, gweithwyr cymdeithasol ac athrawon i helpu plant. </Paragraph>
<SubHeading>Llyfrau i blant hŷn eu darllen eu hunain</SubHeading>
<Paragraph>Mae nifer o awduron plant sydd wedi ysgrifennu llyfrau ffuglennol ar broblemau bywyd go iawn i blant. Gall darllen y straeon hyn helpu plant i weithio drwy eu problemau bywyd go iawn eu hunain ac ymdopi â nhw. </Paragraph>
<Paragraph>Ymhlith yr awduron mae:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem><language xml:lang="cy">Jacqueline Wilson</language></ListItem>
<ListItem><language xml:lang="cy">Morris Gleitzman </language></ListItem>
<ListItem><language xml:lang="cy">Lemony Snicket</language></ListItem>
</BulletedList>
</Quote>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="fr20"/>
</Interaction>
<Discussion>
<Paragraph>Gellid defnyddio llawer o lyfrau ar gyfer plant fel sail ar gyfer trafodaeth am deimladau ac er mwyn helpu plentyn i ddeall yr heriau yn ei fywyd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae gwefan Little Parachutes yn cynnwys amrywiaeth o lyfrau perthnasol ar gyfer plant iau ynghyd â gwybodaeth sy'n ymwneud ag ofnau a phryderon, y gellid lawrlwytho rhai ohonynt. Efallai eich bod hefyd wedi gweld bod gwefannau cymorth cenedlaethol fel Mind a Chymdeithas Genedlaethol Awstistiaeth, hefyd yn cynnig rhestrau darllen a llyfrynnau defnyddiol. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd adeiladu eich rhestr adnoddau eich hun a'i diweddaru yn eich helpu i gynnig awgrymiadau amserol i blant hŷn a chyfleoedd darllen i blant iau. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Os oes gennych amser ac os hoffech archwilio'r pwnc hwn ymhellach, edrychwch ar yr adnoddau isod.</Paragraph>
<Paragraph>CAMHS Inside Out: A Young Person’s Guide to Child and Adolescent Mental Health Services</Paragraph>
<Paragraph>Llyfryn i unrhyw berson ifanc sydd am wybod mwy am beth i'w ddisgwyl gan Wasanaethau Cymunedol Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed. </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Addysg (2015) Mental Health and Behaviour in Schools: Departmental Advice for School Staff</Paragraph>
<Paragraph>Mae'r adnodd hwn yn cynnwys gwybodaeth am hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol, nodi, ymyriadau, ffeithiau am broblemau iechyd meddwl ymysg plant a phobl ifanc, mathau o anghenion iechyd meddwl a ffynonellau cymorth a gwybodaeth. </Paragraph>
<Paragraph>Awgrymiadau gwrando i ymarferwyr: Yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd a Participation Works</Paragraph>
<Paragraph>Adnodd addysgol am ddim yw MindEd ar iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae'n cynnig amrywiaeth eang o sesiynau e-ddysgu am ddim, ac un o'r rhain yw 'y plentyn ymosodol/anodd'. Mae'r sesiwn benodol hon yn rhoi cyfle i chi adnabod arwyddion a symptomau, ac achosion posibl ymddygiad ymosodol a gwrthgymdeithasol ac ystyried sut y dylid mynd i'r afael ag ymddygiad o'r fath. </Paragraph>
<Paragraph>Y Gymdeithas ABGI (gyda chefnogaeth yr Adran Addysg) (2015) Preparing to Teach about Mental Health and Emotional Wellbeing. </Paragraph>
<Paragraph>Er bod yr adnodd hwn wedi'i anelu'n bennaf at athrawon sy'n cynllunio rhaglen o wersi, ceir gwybodaeth ddefnyddiol iawn am amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl fel anhwylderau bwyta, gorbryder a hunan-niweidio. Mae'r cynnwys rhestrau llyfrau a ffynonellau cymorth ar-lein tuag at ddiwedd y ddogfen hon. </Paragraph>
<Paragraph>Y Sefydliad Ymddygiad Heriol</Paragraph>
<Paragraph>Mae'n rhoi taflenni gwybodaeth am ddim y gellir eu lawrlwytho sy'n canolbwyntio ar ymddygiad heriol a phlant ac oedolion ag anghenion addysgol arbennig ac anabledd. </Paragraph>
<Paragraph>Mae gwefan y Sefydliad Iechyd Meddwl yn cynnwys disgrifiadau o'r symptomau nodweddiadol a ddangosir gan blant sydd ag anhwylderau iechyd meddwl gwahanol. Os byddwch yn ymweld â'u rhestr Mental Health A-Z gallwch chwilio am broblemau iechyd meddwl, problemau nodweddiadol ac opsiynau o ran triniaethau. </Paragraph>
<Paragraph>Mae gwefan Coleg Brenhinol y Seiciatryddion yn cynnwys llu o wybodaeth ddarllenadwy sy'n seiliedig ar dystiolaeth am broblemau iechyd meddwl. Mae'r Mynegai Gwybodaeth i Rieni a Phobl Ifanc yn fan cychwyn da ar gyfer cael gwybod am wybodaeth sy'n berthnasol i'ch rôl fel cynorthwyydd addysgu. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<BulletedList>
<ListItem>I feddwl am rywfaint o'r ymddygiadau annymunol y gall plant a phobl ifanc eu harddangos yn yr ystafell ddosbarth, a'r rhesymau posibl dros yr ymddygiad hwn. Gwnaethoch ddechrau drwy nodi eich enghreifftiau eich hun o ymddygiadau annymunol, cyn meddwl am yr hyn sy'n gwneud ymddygiad yn annymunol. Yna, aethoch ymlaen i ystyried pedwar nod Rudolph Dreikurs o gamymddwyn a defnyddio astudiaethau achos i herio eich ffordd o feddwl ynghylch sut y gallech ymdopi â senarios bywyd go iawn. </ListItem>
<ListItem>Dulliau o reoli ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth. Un o rolau allweddol y cynorthwyydd addysgu yw helpu'r athro a galluogi'r plant i ymddiddori mewn dysgu. Cyflwynwyd dau ddull gweithredu gwahanol iawn ar gyfer hyrwyddo ymddygiad cadarnhaol yn yr ystafell ddosbarth; siartiau gwobrwyo a thargedau CAMPUS, ac arfer adferol. </ListItem>
<ListItem>Bod llawer o resymau dros broblemau ymddygiad ymysg plant, a bod problemau iechyd meddwl yn un ohonynt. Gwnaeth astudiaeth achos yn canolbwyntio ar orbryder eich cymell i feddwl am symptomau ymddygiadol a all fod yn achos pryder a chyflwynodd bwysigrwydd gwrando ar blant. </ListItem>
<ListItem>Ble i ddod o hyd i ragor o adnoddau. Mae rheoli ymddygiad yn bwnc eang ac felly mae'r adran hon yn cynnwys cyfeiriadau at wefannau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio pan fydd eu hangen arnoch. </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau'r amrywiaeth o weithgareddau yn yr adran hon a'u bod wedi codi eich ymwybyddiaeth o gymhlethdod rheoli ymddygiad plant a phobl ifanc. Rydym hefyd yn gobeithio eu bod wedi eich cyflwyno i rai syniadau ac arferion a all fod yn newydd i chi. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Da iawn; rydych bellach wedi cyrraedd diwedd Adran 3 o Cefnogi datblygiad plant, ac mae'n bryd rhoi cynnig ar y cwestiynau asesu. Mae wedi'i gynllunio i fod yn weithgaredd llawn hwyl er mwyn helpu i atgyfnerthu eich dysgu. </Paragraph>
<Paragraph>Dim ond pum cwestiwn a geir, ac os byddwch yn cael o leiaf bedwar ateb yn gywir byddwch yn pasio'r cwis. </Paragraph>
<Box type="style2">
<BulletedList>
<ListItem>Hoffwn roi cynnig ar Gwis Adran 3 er mwyn ennill fy mathodyn. </ListItem>
</BulletedList>
</Box>
<Paragraph>Os ydych yn astudio'r cwrs hwn gan ddefnyddio un o'r fformatau amgen, nodwch y bydd angen i chi fynd ar-lein er mwyn rhoi cynnig ar y cwis hwn. </Paragraph>
<InternalSection id="whatnext">
<Heading>Rwyf wedi gorffen yr adran hon. Beth nesaf?</Heading>
<Paragraph>Nawr, gallwch ddewis symud ymlaen i Adran 4, Anghenion arbennig, neu fynd i un o'r adrannau eraill. </Paragraph>
<Paragraph>Os byddwch o'r farn eich bod bellach wedi cael beth sydd ei angen arnoch o'r cwrs ac nad ydych am roi cynnig ar y cwis, ewch i'r adran Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach. Yno, gallwch fyfyrio ar beth rydych wedi'i ddysgu a chael awgrymiadau o gyfleoedd dysgu pellach. </Paragraph>
</InternalSection>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Allen, G. (2011) Early Intervention: The Next Steps, Llundain, Swyddfa'r Cabinet. Hefyd ar gael ar-lein yn https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/284086/early-intervention-next-steps2.pdf (cyrchwyd 23 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Bennett, T. (2015a) Managing Difficult Behaviour in Schools: A Practical Guide by Tom Bennett, Llundain, UNSAIN. Hefyd ar gael ar-lein yn https://www.unison.org.uk/content/uploads/2015/04/On-line-Catalogue22970.pdf (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Bennett, T. (2015b) ‘New behaviour tsar Tom Bennett’s top ten tips for maintaining classroom discipline’, TES (Times Educational Supplement), 17 Mehefin [ar-lein]. Ar gael yn https://www.tes.com/news/school-news/breaking-views/new-behaviour-tsar-tom-bennetts-top-ten-tips-maintaining-classroom (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Addysg (2012) Pupil Behaviour in Schools in England, Adroddiad Ymchwil DFE-RR218, Llundain, yr Adran Addysg. Hefyd ar gael ar-lein yn https://www.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/184078/DFE-RR218.pdf (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Addysg (2013) Permanent and Fixed-period Exclusions in England: 2011 to 2012 [ar-lein]. Ar gael yn https://www.gov.uk/government/statistics/permanent-and-fixed-period-exclusions-from-schools-in-england-2011-to-2012-academic-year (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Addysg (2015) ‘First ever mental health champion for schools unveiled’, Datganiad i'r wasg [ar-lein]. Ar gael yn https://www.gov.uk/government/news/first-ever-mental-health-champion-for-schools-unveiled (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Addysg (2016) Behaviour and Discipline in Schools: Guidance for Headteachers and Staff [ar-lein]. Ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/behaviour-and-discipline-in-schools (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Iechyd (2011) No Health Without Mental Health, Llundain, yr Adran Iechyd. Hefyd ar gael ar-lein yn http://mhfe.org.uk/sites/default/files/dh_124006%202.2.11%20dhmhstrategy_0.pdf (cyrchwyd 23 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Yr Adran Iechyd (2013) Chief Medical Officer’s Annual Report 2012: Our Children Deserve Better: Prevention Pays [ar-lein]. Ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/chief-medical-officers-annual-report-2012-our-children-deserve-better-prevention-pays (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Kohn, A. (1999) Punished by Rewards: The Trouble with Gold Stars, Incentive Plans, A’s, Praise and Other Bribes, Efrog Newydd, Houghton Mifflin. </Paragraph>
<Paragraph>Netmums (2011) Improving Behaviour with Reward Charts [ar-lein]. Ar gael yn: http://www.netmums.com/preschooler/improving-behaviour-with-reward-charts (cyrchwyd 23 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Oxley, L. (2015) ‘New voices: do schools need lessons on motivation?’, The Psychologist, cyf. 28, tt. 722–23 [ar-lein]. Ar gael yn http://thepsychologist.bps.org.uk/volume-28/september-2015/new-voices-do-schools-need-lessons-motivation (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (2014) ‘Worries and anxieties – helping children to cope: information for parents, carers and anyone who works with young people’ [ar-lein]. Ar gael yn http://rcpsych.ac.uk/healthadvice/parentsandyouthinfo/parentscarers/worriesandanxieties.aspx (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Sefydliad Iechyd y Byd (2014) Mental Health: A State of Well-being [ar-lein]. Ar gael yn http://www.who.int/features/factfiles/mental_health/en/ (cyrchwyd 23 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Young Minds VS (2014) Party Conference Report [ar-lein]. Ar gael yn http://www.youngminds.org.uk/assets/0001/5757/YM_Vs_Party_Conference_Report.pdf (cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ysgrifennwyd y cwrs hwn sydd am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Gwnaed cyfraniadau gan Katie Harrison (athro ac aelod o Undeb ATL). </Paragraph>
<Paragraph>Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn.</Paragraph>
<Paragraph>Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf. </Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 1: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 2: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 3: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 4: drwy garedigrwydd Kate Harrison (Cynorthwyydd Addysgu)</Paragraph>
<SubSection>
<Paragraph>Trawsgrifiad Dyna natur bechgyn: Prifysgol Talaith Georgia yn ITunesU </Paragraph>
</SubSection>
<SubSection>
<Paragraph>Fideo TES https://www.tes.com/teaching-resource/low-level-disruption-6344146https://creativecommons.org/licenses/by-sa/2.0/</Paragraph>
</SubSection>
</Session>
</Unit>
<Unit id="anghenion">
<UnitID/>
<UnitTitle>Anghenion arbennig</UnitTitle>
<Session>
<Paragraph>Mae termau fel dyslecsia, awtistiaeth, dyspracsia, syndrom Asperger, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) a Saesneg fel iaith ychwanegol (SIY) yn cael eu defnyddio'n gyffredin. Fodd bynnag, beth yw eu hystyr? Sut y gallwn ddiffinio plentyn sydd ag awtistiaeth, neu SIY, er enghraifft? Beth y gall y plant hyn ei wneud, a beth maent yn ei chael yn anodd? Pa gymorth fydd ei angen ar y plant hyn er mwyn iddynt fanteisio ar y cwricwlwm neu agweddau eraill ar ddarpariaeth ysgol? </Paragraph>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco-welsh_sec4_f02.png" width="100%" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco-welsh_sec4_f02.png" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="2491e0ba" x_imagesrc="nnco-welsh_sec4_f02.png" x_imagewidth="510" x_imageheight="350"/>
<Caption>Ffigur 2 Pa rai o'r plant hyn sydd ag angen addysgol arbennig neu anabledd? </Caption>
<Description>Llun o grŵp o bump o blant. Mae gan bob plentyn swigen siarad sy'n cynnwys un gair neu derm a marc cwestiwn, wrth ei ben. Yng nghefn ochr chwith y llun mae merch gyda gwallt golau, yn gwenu. Mae swigen siarad wrth ei phen yn dweud 'SIY?'. Ar ochr dde'r ferch hon mae merch gyda gwallt tywyll, yn gwenu. Mae ei swigen siarad yn dweud 'Dyspracsig?'. O flaen y ddwy ferch hyn, i'r chwith, mae bachgen gyda gwallt byr tywyll a chrys glas. Mae'n gwenu ac mae ganddo swigen siarad sy'n dweud 'Syndrom Asperger?'. Wrth ymyl y bachgen hwn, yng nghanol y rhes waelod, mae bachgen gyda gwallt tywyll cyrliog a chrys coch. Mae ei swigen siarad yn dweud 'Awtistig?'. Ar ochr dde bellaf y llun mae merch gyda gwallt hir a chrys-t gwyrdd. Mae hi hefyd yn gwenu ac mae ganddi swigen siarad sy'n dweud 'Dyslecsig?'. </Description>
<Paragraph>Mae'r gweithgaredd cyntaf yn rhoi'r cyfle i chi brofi eich dealltwriaeth o rywfaint o'r derminoleg a ddefnyddir wrth ddisgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Cymerwyd yr holl ddiffiniadau o wefannau Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS) neu'r British Council. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 1</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Cyfatebwch y termau canlynol â'u diffiniad cywir.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<Matching>
<Option>
<Paragraph>Dyslecsia</Paragraph>
</Option>
<Match x_letter="a">
<Paragraph>Anhawster dysgu penodol sy'n effeithio ar ddatblygiad sgiliau sy'n ymwneud â llythrennedd ac iaith yn bennaf (NAS)</Paragraph>
</Match>
<Option>
<Paragraph>ADHD</Paragraph>
</Option>
<Match x_letter="f">
<Paragraph>Cyflwr sy'n gwneud person yn ddi-hid, yn fympwyol ac yn orfywiog (NAS)</Paragraph>
</Match>
<Option>
<Paragraph>Dyspracsia</Paragraph>
</Option>
<Match x_letter="b">
<Paragraph>Anaeddfedrwydd yn y ffordd y mae'r ymennydd yn prosesu gwybodaeth sy'n arwain at broblemau gydag amgyffred, iaith a meddwl (NAS)</Paragraph>
</Match>
<Option>
<Paragraph>Awtistiaeth</Paragraph>
</Option>
<Match x_letter="e">
<Paragraph>Term cyffredinol a ddefnyddir i gyfeirio at bob cyflwr ar y sbectrwm awtistig (NAS)</Paragraph>
</Match>
<Option>
<Paragraph>Dysgwr SIY</Paragraph>
</Option>
<Match x_letter="c">
<Paragraph>Unrhyw un sydd wedi cael ei amlygu i iaith heblaw am Saesneg yn ystod plentyndod cynnar (y British Council)</Paragraph>
</Match>
<Option>
<Paragraph>Syndrom Asperger</Paragraph>
</Option>
<Match x_letter="d">
<Paragraph>Bydd person sydd â'r cyflwr hwn yn cael anawsterau gyda chyfathrebu cymdeithasol, rhyngweithio cymdeithasol a dychymyg cymdeithasol (NAS)</Paragraph>
</Match>
</Matching>
</Interaction>
</Activity>
<Paragraph>Mae gan blant anghenion addysgol arbennig os oes ganddynt anhawster dysgu, sy'n gofyn am i ddarpariaeth addysgol arbennig gael ei threfnu ar eu cyfer. </Paragraph>
<Paragraph>Mae Côd Ymarfer AAA Cymru yn rhoi cyngor ymarferol i Awdurdodau Addysg Lleol, ysgolion a gynhelir, lleoliadau blynyddoedd cynnar ac eraill ar gyflawni eu dyletswyddau statudol er mwyn nodi, asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig plant. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r côd ymarfer yn rhoi cyngor ymarferol i awdurdodau lleol, ysgolion a gynhelir a lleoliadau blynyddoedd cynnar<language xml:lang="cy">. </language></Paragraph>
<Paragraph>Mae'n eu helpu i gyflawni eu dyletswyddau statudol, i nodi, asesu a gwneud darpariaeth ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA). Daeth yn weithredol ar 1 Ebrill 2002 ac mae ar gael i'w ddarllen ar wefan Llywodraeth Cymru:</Paragraph>
<Paragraph><language xml:lang="cy">http://gov.wales/docs/dcells/publications/131016-sen-code-of-practice-for-wales-en.pdf</language></Paragraph>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Mae'r rhan nesaf hon yn egluro'r pedwar maes sy'n gysylltiedig ag anghenion addysgol arbennig a'r diffiniad cyfreithiol o 'anabledd'.</language></Paragraph>
<SubSection>
<Quote>
<Paragraph>Mae gan blant a phobl ifanc ag AAA anawsterau dysgu neu anableddau sy'n ei gwneud yn anoddach iddynt ddysgu o gymharu â'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc o'r un oed. Efallai y bydd angen i'r plant a phobl ifanc hyn gael help ychwanegol neu wahanol i'r hyn a roddir i eraill. </Paragraph>
<Paragraph>Os nad Cymraeg neu Saesneg yw iaith gyntaf eich plentyn, a yw hynny'n golygu bod ganddo anhawster dysgu? Mae'r gyfraith yn dweud nad oes gan blant a phobl ifanc anawsterau dysgu dim ond am nad Cymraeg neu Saesneg yw eu hiaith gyntaf, er, wrth gwrs, efallai y bydd gan rai o'r plant a phobl ifanc hyn anawsterau dysgu hefyd. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd gan lawer o blant a phobl ifanc AAA o ryw fath ar ryw adeg yn ystod eu haddysg. Gall darparwyr blynyddoedd cynnar (er enghraifft, meithrinfeydd neu warchodwyr plant), ysgolion prif ffrwd, colegau a sefydliadau eraill helpu'r rhan fwyaf o blant a phobl ifanc i lwyddo drwy wneud rhai newidiadau i'w hymarfer neu gymorth ychwanegol. Ond bydd angen i rai plant a phobl ifanc gael help ychwanegol ar gyfer rhywfaint o'u hamser mewn addysg a hyfforddiant neu ar gyfer eu holl amser mewn addysg a hyfforddiant. </Paragraph>
<Paragraph>Efallai y bydd angen i blant a phobl ifanc ag AAA gael help ychwanegol oherwydd amrywiaeth o anghenion. </Paragraph>
<Paragraph>Cyfathrebu a rhyngweithio – er enghraifft, pan fydd gan blant a phobl ifanc anawsterau lleferydd, iaith a chyfathrebu sy'n ei gwneud yn anodd iddynt wneud synnwyr o iaith neu ddeall sut i gyfathrebu'n effeithiol ac yn briodol ag eraill </Paragraph>
<Paragraph>Gwybyddiaeth a dysgu – er enghraifft, pan fydd plant a phobl ifanc yn dysgu ar gyflymder arafach nag eraill o'r un oedran â nhw, pan fyddant yn cael anhawster deall rhannau o'r cwricwlwm, yn cael anawsterau gyda sgiliau trefnu a chofio, neu anhawster penodol sy'n effeithio ar ran benodol o'u perfformiad dysgu fel llythrennedd neu rifedd </Paragraph>
<Paragraph>Anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac iechyd meddwl – er enghraifft, pan fydd plant a phobl ifanc yn cael anhawster wrth reoli eu cydberthnasau â phobl eraill, pan fyddant yn mynd i'w cragen, neu os byddant yn ymddwyn mewn ffyrdd a all eu hatal nhw a phlant eraill rhag dysgu, neu sy'n cael effaith ar eu hiechyd a'u llesiant </Paragraph>
<Paragraph>Anghenion synhwyraidd a/neu gorfforol – er enghraifft, plant a phobl ifanc sydd â nam ar eu golwg a/neu eu clyw, neu angen corfforol sy'n golygu bod yn rhaid iddynt gael cymorth parhaus a chyfarpar ychwanegol </Paragraph>
<Paragraph>Efallai bod gan rai plant a phobl ifanc AAA sy'n cwmpasu mwy nag un o'r meysydd hyn. </Paragraph>
<Paragraph>Anableddau</Paragraph>
<Paragraph>Gall fod gan lawer o blant a phobl ifanc sydd ag AAA anabledd hefyd. Caiff anabledd ei ddisgrifio yn y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010) fel nam corfforol neu feddyliol sy'n cael effaith andwyol sylweddol a hirdymor (blwyddyn neu fwy) ar ei allu i gyflawni gweithgareddau bob dydd arferol. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, namau synhwyraidd fel y rhai sy'n effeithio ar olwg a chlyw, a chyflyrau iechyd hirdymor fel asthma, diabetes neu epilepsi. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn nodi'r canlynol mewn perthynas â darparwyr blynyddoedd cynnar, ysgolion, colegau, lleoliadau addysgol eraill ac awdurdodau lleol: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>ni ddylent wahaniaethu'n uniongyrchol nac yn anuniongyrchol yn erbyn plant a phobl ifanc anabl, aflonyddu arnynt na'u herlid </ListItem>
<ListItem>rhaid iddynt wneud addasiadau rhesymol,  yn cynnwys darparu gwasanaethau cymorth ategol (er enghraifft, arwyddion cyffyrddol neu ddolenni sain), fel nad yw plant anabl a phobl ifanc dan anfantais o gymharu â phlant a phobl ifanc eraill. Gelwir y ddyletswydd hon yn 'rhagflaenol' – mae angen i bobl feddwl ymlaen llaw ynghylch beth y gallai fod ei angen ar blant a phobl ifanc anabl </ListItem>
</BulletedList>
<SourceReference>(Yr Adran Addysg, 2014b)</SourceReference>
</Quote>
</SubSection>
<Paragraph>Yn unol ag Adran 19 o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014, rhaid i wasanaethau plant, fel ysgolion, ystyried y canlynol: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>safbwyntiau, dymuniadau a theimladau'r plentyn neu berson ifanc, a rhieni’r plentyn </ListItem>
<ListItem>pa mor bwysig ydyw bod y plentyn neu berson ifanc, a rhieni'r plentyn, yn cymryd cymaint o ran â phosibl mewn penderfyniadau, a'u bod yn cael y wybodaeth a'r cymorth sy'n angenrheidiol i'w galluogi i gymryd rhan yn y penderfyniadau hynny </ListItem>
<ListItem>yr angen i helpu'r plentyn neu'r person ifanc, a rhieni'r plentyn, er mwyn hwyluso datblygiad y person neu berson ifanc a'i helpu i gyflawni'r deilliannau addysgol a'r canlyniadau eraill gorau posibl, gan ei baratoi'n effeithiol ar gyfer bod yn oedolyn. </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gall fod yn heriol rhoi'r egwyddorion hyn ar waith ar gyfer pob plentyn (a'i rieni). Fodd bynnag, mae a wnelo cynhwysiant mewn perthynas ag addysg â chynyddu cyfranogiad ar gyfer pob plentyn ac oedolyn, ac â helpu ysgolion i fod yn ymatebol i amrywiaeth (Booth ac Ainscow, 2011). </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r Index for Inclusion (Booth ac Ainscow, 2011) yn adnodd ymarferol ar gyfer hunanwerthusiad a gwelliant, gan ganolbwyntio ar bob agwedd ar gynhwysiant. Mae wedi'i anelu at helpu'r sawl sy'n gweithio mewn amrywiaeth o wasanaethau plant i ddod o hyd i'w 'camau nesaf' eu hunain er mwyn sicrhau eu bod yn cymryd mwy o ran yn chwarae a dysgu'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gweithio gyda nhw. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 3</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Multipart>
<Part>
<Heading>Rhan 1</Heading>
<Question>
<Paragraph>Nawr, hoffem i chi ystyried pa mor gynhwysol yw eich ymarfer. Mae'r dolenni isod yn arwain at holiaduron er mwyn eich helpu i wneud hyn. Gallwch ddewis gwneud y gweithgaredd hwn naill ai o safbwynt eich ymarfer eich hun (Opsiwn 1) neu o safbwynt ymarfer eich ysgol (Opsiwn 2). </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Opsiwn 1: Eich ymarfer eich hun</ListItem>
</BulletedList>
<BulletedList>
<ListItem>Opsiwn 2: Ymarfer eich ysgol</ListItem>
</BulletedList>
</Question>
</Part>
<Part>
<Heading>Rhan 2</Heading>
<Question>
<Paragraph>Ar ôl cwblhau'r holiadur, myfyriwch ar eich atebion.</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Pa mor gynhwysol yw eich ymarfer neu leoliad yn eich barn chi? </ListItem>
<ListItem>A ellid gwella unrhyw agweddau ar eich ymarfer neu leoliad? Os felly, beth y gellid ei wneud yn lle hynny, a sut y gallech fynd ati i weithredu'r newid hwn? </ListItem>
<ListItem>Â phwy y byddai angen i chi siarad?</ListItem>
<ListItem>A oes angen rhagor o wybodaeth arnoch er mwyn gwneud y newid? </ListItem>
</BulletedList>
</Question>
<Discussion>
<Paragraph>Os gwnaethoch ateb 'weithiau' neu 'na' i unrhyw un o'r datganiadau yn yr holiadur, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi drafod eich ymatebion â'r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig (Cydlynydd AAA) yn eich lleoliad ac ystyried sut y gellid sicrhau bod eich ymarfer chi neu eich ysgol yn fwy cynhwysol. </Paragraph>
</Discussion>
</Part>
</Multipart>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Gall pob plentyn wynebu problemau sy'n effeithio ar ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol, neu ddatblygiad academaidd, ar ryw adeg yn ei yrfa yn yr ysgol. Gall hyn fod am bob math o resymau. Er enghraifft, gall plant ifanc iawn ei chael hi'n anodd gwahanu oddi wrth eu rhieni a setlo i fywyd yn yr ysgol, neu efallai y bydd personoliaeth plentyn yn effeithio ar ba mor hawdd (neu anodd) y bydd yn ei chael i wneud ffrindiau. </Paragraph>
<Paragraph>Efallai y bydd plant sydd ar y sbectrwm awtistig yn ei chael hi'n anodd ymateb i arwyddion cymdeithasol a llafar, ac efallai nad ydynt yn deall beth sy'n briodol o ran ymddygiad cymdeithasol. Gall y ddau beth hyn ddylanwadu ar sut mae plant eraill yn ymateb i blentyn sydd ag AAA, ac i'r gwrthwyneb. </Paragraph>
<Paragraph>Yn y pwnc hwn, rydym yn canolbwyntio ar fwlio ac erledigaeth fel problem sy'n aml yn berthnasol iawn i blant ag AAA. Er bod plant ag AAA yn amrywio'n fawr iawn, mae rhai themâu cyffredin a all effeithio ar ba mor dda y mae'r plentyn yn ymdopi yn yr ysgol, a pha mor debygol ydyw y bydd yn cael ei fwlio. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 4 </Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Rhestrwch dair her y gall plant ag AAA eu hwynebu yn yr ysgol a sut y gall y rhain effeithio ar y plentyn ac ar ei ddatblygiad, gan arwain at fwlio neu erledigaeth. Rydym wedi rhoi un her i chi i gychwyn. </Paragraph>
<Paragraph>Defnyddiwch y blwch ymateb am ddim i restru'r tair her rydych yn eu nodi a sut y gallai pob her effeithio ar y plentyn a'i ddatblygiad gan arwain at fwlio neu erledigaeth. </Paragraph>
<TableHead>Tabl 1 Heriau y gallai plant ag AAA eu hwynebu yn yr ysgol</TableHead>
Her neu broblem
Sut y gallai effeithio ar y plentyn a'i ddatblygiad, gan arwain at fwlio neu erledigaeth
Nid yw'n arddangos ymddygiad sy'n briodol i'w oedran
<Paragraph>Cydberthnasau. Efallai y bydd plant eraill yn ei chael hi'n anodd uniaethu â'r plentyn ag AAA. </Paragraph><Paragraph>Efallai y bydd yn rhaid tynnu'r plentyn o'r sefyllfa os bydd ei ymddygiad yn tarfu ar eraill. </Paragraph><Paragraph>Efallai bod y plant eraill yn ystyried bod y plentyn yn anaeddfed ac yn tynnu ei goes neu'n ei wawdio o ganlyniad i hynny.</Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="s4fr3"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Dengys tystiolaeth bod plant a phobl ifanc ag AAA yn llawer mwy tebygol o gael eu bwlio neu eu herlid na'r rhai nad oes ganddynt AAA (Y Gynghrair Gwrthfwlio, 2015a). Mae llawer o blant ag AAA yn cael trafferth cyfathrebu'n effeithiol â phlant eraill yn eu dosbarth; gall hyn, yn ei dro, effeithio ar eu gallu i feithrin cydberthnasau â'u cyfoedion, neu weithio mewn grwpiau bach ar dasg. Hefyd, gall anawsterau cyfathrebu olygu bod y plentyn yn ei chael hi'n anodd deall beth sy'n ofynnol ganddo, neu ystyr y dasg, a gall hyn beri rhwystredigaeth i blant eraill ac yn golygu eu bod yn fwy tebygol o fod yn negyddol tuag at y plentyn ag AAA. </Paragraph>
<Paragraph>Am ragor o wybodaeth am faterion a all arwain at fwlio neu erledigaeth, edrychwch ar y ddogfen Preventing bullying gan Y Gynghrair Gwrthfwlio, sydd hefyd ar gael yn y rhestr darllen pellach ar ddiwedd y pwnc hwn. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Bydd ffrindiau'n dod yn bwysicach wrth i blentyn dyfu a bydd chwarae yn rhan bwysig o ddatblygiad personol, cymdeithasol ac emosiynol plentyn. Gellir defnyddio ffrindiau fel bwrdd seinio er mwyn i bobl ifanc werthuso'r pethau y maent yn eu hoffi a'r pethau nad ydynt yn eu hoffi a phrofi pwy maent am fod. Fodd bynnag, mae plant ag AAA yn tueddu i gael eu derbyn llai gan eu cyfoedion. Gall y gwrthodiad hwn beri straen i blant a phobl ifanc, yn enwedig pan fydd yn troi'n fwlio neu'n erledigaeth. </Paragraph>
<SubSection>
<Paragraph>Beth yw bwlio? Diffiniad yr Adran Addysg yw'r un canlynol (2011):</Paragraph>
<Quote>
<Paragraph>Ystyr bwlio yw ymddygiad gan unigolyn neu grŵp, a gaiff ei ailadrodd dros amser, sy'n brifo unigolyn neu grŵp arall yn gorfforol neu'n emosiynol, a hynny'n fwriadol. </Paragraph>
</Quote>
<Paragraph>Y geiriau a'r ymadroddion allweddol i'w nodi yn y diffiniad hwn yw:</Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>ymddygiad gan unigolyn neu grŵp</ListItem>
<ListItem>ailadroddwyd</ListItem>
<ListItem>brifo unigolyn neu grŵp arall yn fwriadol</ListItem>
<ListItem>yn gorfforol</ListItem>
<ListItem>yn emosiynol.</ListItem>
</NumberedList>
<Paragraph>Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod plant ag AAA yn wynebu risg benodol o gael plant eraill yn galw enwau arnynt, yn eu gwawdio ac yn eu gwrthod neu eu hallgáu. Gall y rhain gael effaith ddirfawr ar hunan-barch plentyn.  </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 5  </Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Gan ddefnyddio'r pum gair ac ymadrodd allweddol uchod, gwnewch nodiadau ar sut mae stori Jax yn cyfateb i'r diffiniad o fwlio.</Paragraph>
<Quote>
<Heading>Astudiaeth achos: Jax, 14 oed</Heading>
<Paragraph>'Wn i ddim a yw erioed wedi digwydd i chi? Dechreuodd pan ddaeth Justine i mewn i'n dosbarth. Dywedodd Justine ei bod am fod yn ffrind i mi. Roedd yn iawn ar y dechrau ond yna dechreuodd hi a rhai o'r plant eraill yn y dosbarth chwerthin am ben pethau a wyddwn i ddim beth oedd yn ddoniol. Roedd ganddynt gyfrinachau yr oeddent yn gwrthod eu rhannu â mi. Gwnaethon nhw ddechrau dwyn fy mhethau ac esgus fy mod wedi eu colli nhw. Gwnes fy ngorau i ymuno â nhw a gwneud fel yr oedden nhw'n ei ddweud, ond yna byddent yn mynd i ffwrdd hebddo i. </Paragraph>
<Paragraph>Byddent yn esgus fy helpu gyda'm gwaith, ond yna byddent yn sgriblan arno neu'n chwerthin pan fyddwn yn ei gael yn ôl gyda llawer o gywiriadau. Gwnaethon nhw ddechrau anfon negeseuon testun cas ata i. Gwnaethon nhw droi pawb yn fy erbyn i. Doeddwn i ddim am ddweud wrthi hi – ond daeth fy Mam i wybod pan ddywedais wrthi hi am ei bod wedi dod o hyd i mi yn crïo yn fy ystafell. </Paragraph>
<Paragraph>Byddwn i'n gwrthod mynd i'r ysgol. Aeth Mam i'r ysgol a siaradodd â Miss Ratcliffe ond dywedodd nad oedden nhw, yr athrawon, wedi gweld dim ac na allen nhw wneud dim yn ei gylch. Roeddwn yn teimlo'n isel iawn. Aeth fy Mam i'r ysgol a gwylltiodd am fy mod yn colli cymaint o ysgol. Gwnaethon nhw gasglu pawb at ei gilydd a newid fy nosbarth. Cefais i fentor newydd hefyd. Mae pethau'n well nawr, ond dydw i dal ddim yn siarad â Justine – doedd hi ddim yn ffrind go iawn.' </Paragraph>
<SourceReference>(Addaswyd o Bond et al., 2001)  </SourceReference>
</Quote>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="s4fr4"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<BulletedList>
<ListItem>Ymddygiad gan unigolyn neu grŵp -– y bwli yn stori Jax oedd Justine.</ListItem>
<ListItem>Ailadroddwyd – digwyddodd yr ymddygiadau ar fwy nag un achlysur. Chwarddodd Justine ac eraill am ben Jax, gan ddwyn ei phethau, lledaenu sïon amdani, anfon negeseuon testun cas a throi pobl eraill yn ei herbyn. </ListItem>
<ListItem>Brifo unigolyn arall neu grŵp yn fwriadol – parhaodd Justine a'r plant eraill â'u gweithredoedd er ei bod yn debygol eu bod yn gwybod eu bod yn peri loes. </ListItem>
<ListItem>Ffisegol – bu Justine a'r plant eraill yn dwyn pethau, sy'n weithred ffisegol. Roedd Jax yn gwrthod mynd i'r ysgol yn ganlyniad ffisegol a achoswyd gan emosiwn. </ListItem>
<ListItem>Emosiynol – roedd Jax wedi cynhyrfu'n llwyr. Mae'n disgrifio sut y daeth ei mam o hyd iddi'n crïo ac nad oedd am ddweud wrth ei mam beth oedd yn digwydd yn yr ysgol. </ListItem>
</BulletedList>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae'n amlwg y gall bwlio achosi llawer o straen a phryder i blant a phobl ifanc, yn cynnwys plant a phobl ifanc ag AAA. Roedd canlyniad llwyddiannus i Jax. Cafodd gefnogaeth gan yr ysgol drwy ei symud i ddosbarth arall a rhoi mentor iddi siarad ag ef. </Paragraph>
<Paragraph>Gall pobl ifanc sy'n cael eu bwlio ddechrau teimlo'n isel a dechrau meddwl am hunanladdiad neu geisio gwneud hynny. Mae stori Jax yn enghraifft o fwlio y byddai llawer ohonom yn ystyried ei fod yn nodweddiadol; gallai plant a phobl ifanc ystyried ei fod yn enghraifft o heidio yn erbyn rhywun arall ac yn aml nid ydynt yn sylweddoli y gallai gweithgarwch o'r fath arwain at ganlyniad difrifol. </Paragraph>
</SubSection>
<SubSection>
<Paragraph>Mae'r twf mewn safleoedd rhwydweithio cymdeithasol a thechnolegau fel ffonau symudol wedi arwain at fath o fwlio a elwir yn 'seiberfwlio'. Caiff y defnydd o'r rhyngrwyd fel cyfrwng ar gyfer bwlio ei gydnabod yn eang bellach ac yn aml mae ysgolion yn cynnwys seiberfwlio yn eu polisïau ar fwlio. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 6 </Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Gwyliwch y fideo YouTube hwn, Let's fight it together, lle mae person ifanc yn disgrifio sut beth yw bod yn destun seiberfwlio. </Paragraph>
<MediaContent type="embed" src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/youtube:dubA2vhIlrg" x_manifest="dubA2vhIlrg_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="da39a3ee">
<Transcript>
<Paragraph>[Yn agos i Joe, bachgen o tua 14 oed mewn gwisg ysgol, yn eistedd yn yr hyn sy'n edrych fel ystafell wely, yn siarad â chamera]</Paragraph>
<Speaker>Joe</Speaker>
<Remark>Um ... hi, Joe fy enw. Nid oes gen i unrhyw un i siarad â nhw felly ... Roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dweud fy stori fel hyn. Pan ddechreuais i gyd, rydw i'n ceisio ei chwerthin i ffwrdd ... ond dim ond aeth ymlaen</Remark>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn cerdded i lawr stryd, yn gosod clustffonau</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Ffreutur ysgol: Mae grŵp o bedwar merch a bechgyn yn eistedd ar fwrdd - mae Joe yn ymuno â nhw ac yn rhannu ei glustffonau gydag un ferch (Merch A). Mae'r hwyliau'n hapus.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe yn cerdded i'r ystafell ddosbarth gyda disgyblion eraill.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Ystafell Ddosbarth: Mae'r athro'n gofyn cwestiwn ac mae Joe yn ateb yn gywir. Mae merch A o'r olygfa flaenorol sy'n eistedd y tu ôl iddo yn tynnu sylw ffug.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Disgyblion sy'n gadael yr ysgol ar ddiwedd y dydd. Daw Joe allan gyda Merch A y tu ôl iddo. Mae'n ymddangos i ddweud rhywbeth sy'n brifo iddo ac yn cerdded i ffwrdd. Mae Joe yn edrych yn drist ac yn feddylgar, yna mae'n cerdded arno.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn ymuno â grŵp o ffrindiau, gan gynnwys Girl A. Mae'n anwybyddu iddo. Mae'n cerdded i ffwrdd. Maent yn edrych a chwerthin. Merch arall dwylo Girl A ffôn symudol. Mae hi'n dechrau testun.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Bws ysgol. Mae Joe yn cael neges destun 'CHI LITTLE KISSASS!'. Mae'n edrych yn poeni.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe yn cyrraedd cartref. Clywir rhybudd neges destun arall.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Y tu mewn i dŷ Joe. Mae'n dawelu ei fam ac y tu ôl i'w gefn yn dileu'r neges destun.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Diwrnod ysgol arall - mae Joe yn edrych trwy ffenestr a gall weld ei ffrindiau, gan gynnwys Merch A. Maent yn ei ddal drosodd ac yn cymryd llun ohono ar gamera ffôn.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn cael bws ysgol gyda disgyblion eraill.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae llaw yn deialu rhif ar ffôn talu.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn ateb ei ffôn.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae nifer o ffrindiau Joe, gan gynnwys Girl A yn gweiddi arno i lawr y ffôn.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn cerdded i ffwrdd o'r bws ysgol.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe yn ei ystafell wely yn gwneud gwaith cartref. Mae'n derbyn neges e-bost / neges syth sy'n dweud 'FFYWCH HEFYD'. Mae'n ateb 'dat hu'. Mae'n derbyn yr ymatebion 'EICH GWEITH NOSWCH' a 'CHIWCHU!'</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn ateb 'ydy hi u Kim?'</Paragraph>
<Paragraph>Mae'n derbyn ateb, 'TOMORROW YDYCH YN GWNEUD ALLAN. U GONNA GET MWYN. GWELL YN GWELER AM YSGOLION PET '.</Paragraph>
<Paragraph>Mam Mam yn taro ar y drws. Mae'n cau'r sgrin yn gyflym. Mae hi'n edrych yn bryderus.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Y bore arall, mae Joe yn gadael i'r ysgol. Testun arall yn rhybuddio. Mae Joe yn darllen y testun, gan edrych yn fwy a mwy o bryder.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe yn eistedd ar ei ben ei hun ar gamau ysgol. Mae athro yn eistedd wrth ei dro yn ymddangos i ofyn a yw'n iawn. Mae'n nodio ei ben. Mae hi'n codi ac yn gadael.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Montage o Joe yn cerdded i lawr y stryd, mewn coridor ysgol, stryd arall. Mae criwiau Joe yn cael mwy a mwy ofidus.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe yn ei ystafell wely. Mae'n derbyn neges e-bost / neges syth gan anfonwr anhysbys gyda chyswllt gwefan. Mae'n ei glicio ac mae'n ei gymryd i dudalen we o'r enw joeisaloser.co.uk. Mae'n dangos darlun o Joe gyda thafod hirgais a llun o'r athro o'r ystafell ddosbarth. Rydym yn gweld awgrymiadau bod cynnwys y wefan yn ymwneud â Joe yn treulio'i amser yn gwylio ei athrawon, yn chwarae gemau cyfrifiadurol ac nad oes ganddo ffrindiau. Mae Joe yn sefyll i fyny ac yn mynd ac yn eistedd ar ei wely, yn ei dwylo.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mae Joe yn mynd ar fws yr ysgol, sy'n llawn disgyblion yn chwerthin ac yn tynnu sylw ato, gan sôn am 'golli'. Mae'n cerdded i fyny'r bws. Nid yw un bachgen yn santio ac yn edrych ar Joe gydag awgrym o empathi. Mae Joe yn eistedd.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Ystafell wely Joe. Mae'n newid ar gamera fideo ac yn siarad ynddo:</Paragraph>
<Paragraph>'Wel dyna hi. Ni allaf ei gymryd mwyach. '</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Mam Joe yn edrych ar y fideo ar y camera. Rydym yn clywed Joe ar y camera yn siarad: 'Roeddwn i'n meddwl eu bod i fod yn fy ffrindiau ond maen nhw i gyd yn chwerthin arnaf. Mae'n rhaid i mi eu rhoi i gymryd sylw. '</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Capsiwn 'Mae seiber-fwlio yn fwlio. Mae'n adfeilio bywydau. '</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Ystafell Ddosbarth. Mae'r camera yn paratoi o gwmpas yr ystafell ond nid yw Joe yno.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe's mam cerdded i fyny'r llwybr i'r ysgol.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Athro yn sylwi ar Joe's mam.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Swyddfa, efallai y pennaeth. Mae Joe's mam a Joe yn eistedd gyferbyn â rhywun arall (efallai y pennaeth). Mae mamau Joe's yn pasio papurau ar draws y ddesg, sy'n ymddangos fel argraffiadau o'r negeseuon e-bost / negeseuon. Ymddengys i'r pennaeth ofyn cwestiwn i Joe y mae ef yn ei nodi.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Yn agos i fyny un o fwlis Joe yn yr ystafell ddosbarth - mae'n edrych i fyny ac yn tapio Girl A sy'n eistedd wrth ei gilydd, ar y llaw. Maent yn edrych allan o'r ffenestr i weld swyddog heddlu yn cerdded i fyny'r llwybr i'r ysgol. Mae merch A yn edrych yn poeni.</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Capsiwn 'Seiberfwlio. Gadewch i ni ymladd â'i gilydd. '</Paragraph>
<Paragraph>[torrwch i]</Paragraph>
<Paragraph>Joe yn gadael ystafell ddosbarth gyda'r bachgen o'r bws nad oedd yn sant. Mae'n edrych yn hapus.</Paragraph>
<Paragraph>[Cwympo]</Paragraph>
<Paragraph>[Cwympo ar logos i'r Adran Plant, Ysgolion a Theuluoedd a Childnet International.]</Paragraph>
</Transcript>
</MediaContent>
<Paragraph>Wrth i chi wylio, meddyliwch am y ddau gwestiwn canlynol a nodwch eich ymatebion:</Paragraph>
<Paragraph>1. Pa ddigwyddiad a arweiniodd at Joe yn cael ei fwlio?</Paragraph>
<Paragraph>2. Pa ddulliau a ddefnyddiodd gyfoedion Joe i'w fwlio? </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="s4fr5"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Yr hyn a ymddangosodd i sbarduno'r bwlio oedd Joe yn ateb cwestiwn yn y dosbarth. Efallai na fydd rhai o'i ffrindiau / cyfoedion wedi deall y cwestiwn ac efallai'n dychrynllyd amdano neu ganmoliaeth yr athro.</ListItem>
<ListItem>Anfonodd y bwlis negeseuon trwy negeseuon testun, ffôn ac e-bost. Roeddent hefyd yn defnyddio safle rhwydweithio i bostio delweddau anffafriol.</ListItem>
</NumberedList>
<Paragraph>Mae seiberfwlio yn ei eithafol wedi bod yn gysylltiedig â nifer o hunanladdiadau ymhlith pobl ifanc. Nid yw'r DU wedi ei eithrio rhag hyn ac mae'r llywodraeth wedi cynhyrchu ffilmiau byr fel y fideo uchod i greu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o natur a chanlyniadau seiber-fwlio.</Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae gwefan Childline yn adnodd i bobl ifanc sy'n poeni amdanynt eu hunain neu am rywun arall sy'n cael ei fwlio. Mae hefyd yn adnodd defnyddiol i rieni/gofalwyr ac oedolion eraill sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi wneud nodyn o'r ddolen hon ar gyfer y dyfodol. </Paragraph>
<Paragraph>Os oes gennych ddiddordeb mewn archwilio bwlio plant sydd ag AAA, mae'r Gynghrair Gwrthfwlio yn cynnal hyfforddiant ar-lein am ddim y gallwch weithio drwyddo ar eich cyflymder eich hun. Bydd pob pwnc yn cymryd tua hanner awr i chi ei gwblhau a gallwch ddewis y pynciau y mae gennych ddiddordeb ynddynt. </Paragraph>
<Paragraph>Ceir rhagor o fanylion am yr hyfforddiant ar-lein am ddim ar gyfer gweithwyr proffesiynol ar wefan y Gynghrair Gwrthfwlio. Bydd angen i chi gofrestru i fanteisio ar yr hyfforddiant, ond gallwch wneud hynny am ddim. Gallwch gofrestru/mewngofnodi ar gyfer yr hyfforddiant drwy'r ddolen fewngofnodi: https://antibullyingalliance.learnupon.com/users/sign_in. </Paragraph>
</SubSection>
<Paragraph>Os oes gennych amser ac os hoffech archwilio'r pwnc hwn ymhellach, edrychwch ar yr adnoddau isod.</Paragraph>
<Paragraph>Y Gynghrair Gwrthfwlio (2015b) Preventing Bullying:A Guide for Teaching Assistants. SEN and Disability: Developing Effective Anti-Bullying Practice. Ar gael yn https://www.anti-bullyingalliance.org.uk/sites/default/files/field/attachment/Preventing-bullying-a-guide-for-teaching-assistants-FINAL.pdf. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r canllaw hwn yn seiliedig ar safbwyntiau plant a phobl ifanc, sy'n cael cymorth gan gynorthwywyr addysgu, am fwlio. Mae wedi'i gynllunio i roi cyngor i gynorthwywyr addysgu ar atal plant a phobl ifanc anabl a'r sawl sydd ag anghenion addysgol arbennig (AAA) rhag cael eu bwlio. </Paragraph>
<Paragraph>Y Gynghrair Gwrthfwlio (2014) Tackling Disablist Language-based Bullying in School: A Teacher’s Guide. Ar gael yn https://www.anti-bullyingalliance.org.uk/sites/default/files/field/attachment/tackling-disablist-language-based-bullying-in-school-final.pdf. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r canllaw hwn yn mynd i'r afael ag achosion o alw enwau ac iaith ddifrïol sy'n gwahaniaethu ar sail anabledd, yn archwilio hynny, ei darddiad a sut y caiff ei gynrychioli yn yr iaith, ac yn trafod strategaethau llwyddiannus, gweithgareddau defnyddiol, astudiaethau achos ac adnoddau. Mae'r ddogfen hon yn ddefnyddiol ar gyfer pob aelod o staff addysgu, yn cynnwys cynorthwywyr addysgu. </Paragraph>
<Paragraph>Contact a Family (2014) Dealing with Bullying. Ar gael yn https://www.youtube.com/playlist?list=PLWq2B0oT01K2HjIiEKy9ArDb-2ohF5CXY. </Paragraph>
<Paragraph>Cyfres o bodlediadau gyda chyngor a gwybodaeth ymarferol ar gyfer rhieni neu ofalwyr plant ag AAA sy'n cael eu bwlio yn yr ysgol. </Paragraph>
<Paragraph>Meddwl yn Gadarnhaol: Iechyd a Llesiant Emosiynol mewn Ysgolion a Lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, Llywodraeth Cymru</Paragraph>
<Paragraph>http://learning.gov.wales/resources/browse-all/thinkingpositively/?skip=1&lang=cy</Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Yn y pwnc blaenorol buoch yn edrych ar gydberthnasau, gan ganolbwyntio'n benodol ar fwlio. Prif rôl cynorthwyydd addysgu yw helpu plant i fanteisio ar y cwricwlwm, yn yr ystafell ddosbarth neu y tu allan. Er mwyn gwneud hyn yn effeithiol, bydd cynorthwyydd addysgu yn ymgysylltu â phlentyn mewn modd cyfannol. Er mwyn cefnogi dysgu a datblygiad plentyn, mae'n bwysig cefnogi ei ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol. Hefyd, mae'n hanfodol helpu'r plentyn i ddatblygu ei sgiliau cymdeithasol a'i gymwyseddau, a chyfathrebu'n effeithiol gan ddefnyddio iaith briodol. </language></Paragraph>
<Paragraph>Gall fod yn hawdd iawn helpu plentyn yn y ffordd 'anghywir' – ffordd nad yw'n ddefnyddiol – heb sylweddoli hynny. Felly, mae'n bwysig gwybod pryd i roi cymorth a phryd i gamu'n ôl. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r gweithgaredd canlynol yn canolbwyntio ar ffyrdd cyffredin o ymateb i blant ag AAA, a strategaethau a roddir ar waith yn aml er mwyn helpu plentyn ag AAA. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 7  </Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Ystyriwch y canlyniadau cadarnhaol neu negyddol posibl i'r plentyn o fabwysiadu strategaeth gymorth benodol, neu ddisgwyliad. Yna cwblhewch Dabl 2, a ddarparwyd fel dogfen Word wedi'i llenwi'n rhannol. </Paragraph>
<TableHead>Tabl 2</TableHead>
Strategaethau a/neu ddisgwyliadau o ran ymddygiadau
Canlyniadau cadarnhaol
Canlyniadau negyddol
Cydymffurfiaeth – disgwyl i'r plant fod yn oddefol a gwneud beth mae'r oedolyn yn dweud wrthynt i'w wneud
Dim angen trafod ag eraill er mwyn cwblhau tasg; dysgu normau disgwyliedig o ran ymddygiad
Peidio â datblygu sgiliau rhyngbersonol sy'n ymwneud â thrafod; dim ymgysylltiad â safbwyntiau pobl eraill
Goramddiffyn
Gall swildod a diffyg gallu cymdeithasol waethygu os na chaiff ei amlygu i sefyllfaoedd cymdeithasol
Tynnu o'r ystafell ddosbarth i gael sesiynau cymorth ychwanegol
Cymorth unigol yn yr ystafell ddosbarth
Dim angen gofyn am help, a all dynnu sylw cyfoedion at analluoedd plentyn
Disgwyliadau gwahanol o ran ymddygiad i blentyn ag AAA o gymharu â phlant eraill yn y dosbarth
Unrhyw strategaeth/disgwyliad arall a ddefnyddir yn eich lleoliad
</Question>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae Tabl 3 yn awgrymu canlyniadau cadarnhaol a negyddol ar gyfer pob strategaeth neu ddisgwyliad o ran ymddygiad. Ond nid y rhain yw'r unig ganlyniadau posibl. </Paragraph>
<TableHead>Tabl 3</TableHead>
Strategaethau a/neu ddisgwyliadau o ran ymddygiadau
Canlyniadau cadarnhaol
Canlyniadau negyddol
Cydymffurfiaeth – disgwyl i'r plant fod yn oddefol a gwneud beth mae'r oedolyn yn dweud wrthynt i'w wneud
Dim angen trafod ag eraill er mwyn cwblhau tasg; dysgu normau disgwyliedig o ran ymddygiad
Peidio â datblygu sgiliau rhyngbersonol sy'n ymwneud â thrafod; dim ymgysylltiad â safbwyntiau pobl eraill
Goramddiffyn
Ddim yn cael eu hamlygu i sefyllfaoedd na allant ymdopi â nhw neu nad oes ganddynt y sgiliau ar eu cyfer eto
Gall swildod a diffyg gallu cymdeithasol waethygu os na chaiff ei amlygu i sefyllfaoedd cymdeithasol
Tynnu o'r ystafell ddosbarth i gael sesiynau cymorth ychwanegol
Rhoi'r cyfle i'r plentyn feithrin ei hyder
Peidio â datblygu sgiliau rhyngbersonol nac ymgysylltu â safbwyntiau eraill
Cymorth unigol yn yr ystafell ddosbarth
Dim angen gofyn am help, a all dynnu sylw cyfoedion at analluoedd plentyn
Posibilrwydd o ddatblygu gorddibyniaeth ar gymorth
Disgwyliadau gwahanol o ran ymddygiad i blentyn ag AAA o gymharu â phlant eraill yn y dosbarth
Ni chaiff plentyn ei roi mewn sefyllfa na all ymdopi â hi, fel eistedd yn llonydd am yr un cyfnod ag eraill ar gyfer stori
Gall plant eraill fynd yn ddig
Unrhyw strategaeth/disgwyliad arall a ddefnyddir yn eich lleoliad
<Paragraph>Mae cymorth cymdeithasol drwy gyfeillgarwch a chydberthnasau â chyfoedion yn bwysig iawn, ond mae llawer o ffactorau sy'n effeithio ar hyn ar gyfer plant a phobl ifanc anabl. Ymhlith y rhain mae: </Paragraph>
<Quote>
<BulletedList>
<ListItem>treulio llawer o amser â staff </ListItem>
<ListItem>cael ei addysgu ar wahân i'w grŵp o gyfoedion neu gael cymorth gan Gynorthwyydd Cymorth Dysgu yn y dosbarth </ListItem>
<ListItem>diffyg cyfleoedd cymdeithasol (neu gymorth i fanteisio ar gyfleoedd cymdeithasol) i feithrin a chynnal cyfeillgarwch. </ListItem>
</BulletedList>
<SourceReference>(McLaughlin et al., 2012)</SourceReference>
</Quote>
<Paragraph>Dylid hefyd ystyried y materion canlynol:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Gall canlyniadau cadarnhaol neu negyddol hefyd ddibynnu ar amgylchiadau'r plentyn unigol, ei bersonoliaeth ac ati. </ListItem>
<ListItem>Gall ffactorau, fel y rhai a nodwyd gan McLaughlin et al. (2012) ynysu pobl ifanc anabl a'i gwneud yn anoddach iddynt ddatblygu cyfeillgarwch a chydberthnasau â'u cyfoedion (Y Gynghrair Gwrthfwlio, 2015b). </ListItem>
<ListItem>Yn dibynnu ar anabledd neu gyflwr y plentyn, efallai y bydd yn anodd iddo wybod sut i ymddwyn mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Un ffordd y gellir helpu plant yw drwy eu haddysgu sut i ymddwyn. </ListItem>
<ListItem>Fel arfer, caiff disgwyliadau cymdeithasol neu'r ffordd briodol i ymateb wrth ryngweithio ag eraill eu dysgu drwy esiampl, ond mae angen i blant ag anawsterau cyfathrebu a/neu broblemau ymddygiad gael cyfarwyddiadau pendant weithiau. </ListItem>
</BulletedList>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Defnyddir straeon cymdeithasol i helpu plant ar y sbectrwm awtistig i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth briodol er mwyn ymdopi â sefyllfaoedd cymdeithasol bob dydd fel amser egwyl neu gymryd tro. Maent yn galluogi'r plentyn i ymarfer gweithgareddau, deall awgrymiadau cymdeithasol a meithrin ymwybyddiaeth o'r rheolau cymdeithasol sy'n bodoli mewn sefyllfaoedd gwahanol. </Paragraph>
<Paragraph>Stori fer, ddisgrifiadol, yw stori gymdeithasol, gan ddefnyddio iaith syml a lluniau yn aml iawn. Ei nod yw rhoi gwybodaeth gywir mewn perthynas â sefyllfaoedd cymdeithasol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae 'Awgrymiadau o straeon cymdeithasol a sampl' yn rhoi mwy o wybodaeth, a all eich ysbrydoli i roi cynnig ar greu stori i'w rhannu gyda'r plant rydych yn gweithio gyda nhw. </Paragraph>
<Box>
<Quote>
<Heading>AWGRYMIADAU O STRAEON CYMDEITHASOL A SAMPL</Heading>
<Paragraph>Isod ceir enghraifft o stori gymdeithasol yn egluro pryd mae'n briodol i redeg.</Paragraph>
<Paragraph>Rhedeg</Paragraph>
<Paragraph>Rwy'n hoffi rhedeg.Mae'n hwyl mynd yn gyflym.</Paragraph>
<Paragraph>Mae'n iawn i redeg pan rwy'n chwarae y tu allan.</Paragraph>
<Paragraph>Gallaf redeg pan rwyf ar yr iard.</Paragraph>
<Paragraph>Weithiau, rwy'n teimlo fel rhedeg, ond mae'n beryglus rhedeg pan fyddaf dan do.</Paragraph>
<Paragraph>Gallai rhedeg dan do fy anafu i neu bobl eraill.</Paragraph>
<Paragraph>Pan fydd pobl dan do, maent yn cerdded.</Paragraph>
<Paragraph>Mae cerdded dan do yn ddiogel.</Paragraph>
<Paragraph>Byddaf yn ceisio cerdded dan do a byddaf ond yn rhedeg pan fyddaf y tu allan ar yr iard.</Paragraph>
<Paragraph>Mae fy athrawon a'm rhieni yn hapus pan fyddaf yn cofio cerdded dan do.</Paragraph>
<SubHeading>Ysgrifennu Stori Gymdeithasol</SubHeading>
<Paragraph>Dylech ddechrau drwy arsylwi ar y plentyn yn y sefyllfa rydych yn mynd i'r afael â hi. Ceisiwch gymryd safbwynt y plentyn a chynnwys agweddau ar ei deimladau neu ei safbwyntiau yn y stori. Hefyd, dylech gynnwys achosion arferol yn y sefyllfa gymdeithasol a safbwynt eraill ynghyd ag ystyried amrywiadau posibl. </Paragraph>
<Paragraph>Defnyddir tri math o frawddegau wrth ysgrifennu straeon cymdeithasol:</Paragraph>
<NumberedList class="decimal">
<ListItem>Brawddegau disgrifiadol: diffinio digwyddiadau a ragwelir mewn modd gwrthrychol pan fydd sefyllfa'n codi, pwy sy'n rhan o'r sefyllfa, beth maent yn ei wneud a pham. (e.e. Pan fydd pobl dan do, maent yn cerdded.) </ListItem>
<ListItem>Brawddegau persbectif: disgrifio statws mewnol y person neu'r personau dan sylw, eu meddyliau, teimladau neu hwyliau. (e.e. Gallai rhedeg dan do fy anafu i neu bobl eraill.) </ListItem>
<ListItem>Brawddegau cyfeiriol: datganiadau unigol o ymatebion dymunol a nodir mewn modd cadarnhaol. Gallant ddechrau gyda 'Gallaf geisio...' neu 'Byddaf yn gweithio ar...' Ceisiwch osgoi brawddegau sy'n dechrau gyda 'Peidiwch' neu ddatganiadau diffiniol. (e.e. byddaf yn ceisio cerdded dan do.) </ListItem>
</NumberedList>
<Paragraph>Dylai stori gymdeithasol gynnwys 3 i 5 o frawddegau disgrifiadol a brawddegau persbectif am bob brawddeg gyfeiriol. Dylech osgoi defnyddio gormod o frawddegau disgrifiadol. Cânt eu colli heb gyd-destun digonol. Ysgrifennwch yn y person cyntaf ac ar lefel sgiliau datblygiadol y plentyn. Dylech hefyd gofio defnyddio lluniau sy'n cyd-fynd â lefel sgiliau datblygiadol y plentyn er mwyn ategu'r testun. </Paragraph>
<Paragraph>Cyfeiriad:</Paragraph>
<Paragraph>Broek, E., Cain, S.L., Dutkiewicz, M., Fleck, L., Grey, B., Grey, C., et al. (1994). The Original Social Story Book. Arlington, TX: Future Education. www.thegraycenter.org </Paragraph>
<SourceReference>(Ffynhonnell: Technical Assistance Center on Social Emotional Intervention for Young Children, 2012)</SourceReference>
</Quote>
</Box>
<Paragraph>Gall y strategaethau a ddefnyddir gan gynorthwywyr addysgu i helpu plant ag AAA gael effaith ddirfawr ar ddatblygiad cymdeithasol ac emosiynol y plentyn. Felly, mae'n bwysig bod gan gynorthwywyr addysgu ddealltwriaeth o effaith bosibl eu gweithredoedd. Mae myfyrio ar eich ymarfer eich hun ac yna trafod eich meddyliau a'ch syniadau â chydweithwyr eraill yn ffordd dda o ddatblygu eich ymwybyddiaeth o'r hyn rydych yn ei wneud. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 8</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Bydd y ddolen isod yn eich arwain at gwestiynau a fydd yn eich helpu i fyfyrio ar y strategaethau a ddefnyddir gennych wrth weithio'n uniongyrchol â phlant ag AAA yn yr ystafell ddosbarth. </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Strategaethau ystafell ddosbarth ar waith</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Efallai y gallwch ofyn i gydweithiwr eich arsylwi am gyfnod byr a rhoi adborth i chi ar eich perfformiad. Gall hyn dynnu eich sylw at bethau rydych yn eu gwneud yn ddiarwybod i chi. </Paragraph>
</Question>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Gall rhoi llais i blentyn ag AAA a chael ei farn ar faterion helpu drwy beidio â gwneud rhagdybiaethau ynghylch beth mae'r plentyn yn ei hoffi neu beth nad yw'n ei hoffi, a beth mae am ei gael. Hefyd, bydd helpu'r plentyn i feithrin cyfeillgarwch a chydberthnasau â chyfoedion, a rhoi cyfleoedd cymdeithasol iddo yn ei helpu i ddatblygu annibyniaeth ar gyfer y dyfodol a hunanddelwedd gadarnhaol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r 'awgrymiadau defnyddiol' canlynol gan bobl ifanc anabl yn dangos beth sy'n bwysig iddynt: </Paragraph>
<Quote>
<BulletedList>
<ListItem>Cymorth achlysurol: rhoi cymorth i ni pan fydd ei angen arnom ond symud i ffwrdd pan fyddwn yn iawn.</ListItem>
<ListItem>Ein hannog i fod yn annibynnol. Sicrhau ein bod yn cael amser gyda'n cyfoedion pan fo'n bosibl. </ListItem>
<ListItem>Gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn grwpiau bach, yn hytrach nag yn unigol, lle y bo'n bosibl. </ListItem>
<ListItem>Gadael i ni ddweud pan fydd angen cymorth arnom neu pan fyddwn am gael cymorth, yn hytrach na bod gyda ni drwy'r amser.</ListItem>
</BulletedList>
<SourceReference>(Y Gynghrair Gwrthfwlio, 2015b)</SourceReference>
</Quote>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae'r 'awgrymiadau defnyddiol' a roddir yn yr adborth i'r gweithgaredd blaenorol yn dangos pa mor bwysig yw sicrhau bod gan blant lais a'u bod mor annibynnol â phosibl. Fodd bynnag, mae angen i blant ag AAA gael cymorth. Gall cynorthwyydd addysgu gynnig y cymorth hwn drwy weithredu fel eiriolwr dros y plentyn. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Beth yw eiriolaeth? </Heading>
<Paragraph>Mae eiriolaeth yn broses o helpu a galluogi pobl i: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>fynegi eu safbwyntiau</ListItem>
<ListItem>cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau</ListItem>
<ListItem>dysgu am opsiynau a gwneud penderfyniadau</ListItem>
<ListItem>diogelu eu hawliau.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Fel cynorthwyydd addysgu, efallai y byddwch yn gweithredu fel eiriolwr dros blentyn drwy gynrychioli buddiannau'r plentyn a siarad ar ei ran. Gall hyn olygu rhoi gwybod i'r athro dosbarth sut mae plentyn yn teimlo ynghylch strategaeth addysgu benodol os na all y plentyn ddweud wrth yr athro ei hun: 'Mae Elisha yn cael trafferth... / yn anhapus ynghylch...' </language></Paragraph>
<Paragraph><language xml:lang="cy">Gan ganolbwyntio mwy ar hawliau plant, gellir eu hannog i hunaneirioli a siarad drostynt eu hunain a nodi eu hanghenion eu hunain. </language></Paragraph>
</InternalSection>
<Paragraph>Un rôl allweddol ar gyfer cynorthwyydd addysgu sy'n gweithio gyda phlant ag AAA yw sicrhau bod y cwricwlwm yn hygyrch i'r plentyn. Gall hyn gynnwys meddwl ynghylch sut y gallwch: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>wneud y cwricwlwm haniaethol yn fwy real i'r plentyn drwy ei gysylltu â'i brofiadau bob dydd</ListItem>
<ListItem>defnyddio amrywiaeth o arddulliau addysgu, ac ystyried arddull dysgu plentyn</ListItem>
<ListItem>cynnig cyfleoedd i drafod y dasg</ListItem>
<ListItem>Cefnogi dysgu'r plentyn drwy osod her sydd ychydig y tu hwnt i'r hyn y gall y plentyn ei wneud yn hawdd ei hun, ac yna rhoi awgrymiadau, gofyn cwestiynau neu fodelu'r camau sy'n rhan o'r dasg </ListItem>
<ListItem>defnyddio cymorth gweledol</ListItem>
<ListItem>defnyddio strategaethau eraill.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Hefyd, gall gymryd peth amser i blentyn ddeall pwnc penodol, neu efallai na fydd plentyn penodol yn deall y ffordd y mae athro yn egluro rhywbeth oherwydd anabledd dysgu penodol y plentyn. Gall hyn greu heriau i chi fel cynorthwyydd addysgu wrth geisio dod o hyd i ffyrdd gwahanol o esbonio neu helpu plentyn. </Paragraph>
<Paragraph>Fel cynorthwyydd addysgu, gall fod yn ddefnyddiol creu cronfa o syniadau y gallwch eu defnyddio i helpu plant gwahanol, ar amrywiaeth o dasgau dysgu. Mae llawer o'r strategaethau a ddefnyddir i helpu plant yn gyffredinol, yn yr ystyr eu bod yn ymwneud ag egwyddorion cyffredinol cymorth. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r gweithgaredd canlynol yn eich cyflwyno i un wefan sy'n cynnwys amrywiaeth o syniadau i'w haddasu.</Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 9 </Heading>
<Timing>Caniatewch tua 20 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Ewch i wefan y British Council EAL Nexus: Effective Teaching of EAL Learners. </Paragraph>
<Paragraph>Darllenwch y rhestr gryno o rai o nodweddion allweddol addysgeg SIY. Dewiswch un nodwedd – er enghraifft, 'make the abstract curriculum more concrete' – a chliciwch ar y ddolen i'r dudalen Great Ideas. </Paragraph>
<Paragraph>Pan fyddwch wedi darllen y syniadau, nodwch sut y gallwch, fel rhan o'ch rôl fel cynorthwyydd addysgu, ddefnyddio un neu fwy o'r syniadau hyn gyda phlant ag AAA. </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="s4fr6"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Gobeithio eich bod wedi dysgu strategaethau newydd i'ch helpu yn eich rôl.</Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Fel cynorthwyydd addysgu, nid ydych ar eich pen eich hun yn helpu plant ag AAA. Mae amrywiaeth eang o wasanaethau a gweithwyr proffesiynol hefyd yn rhan o'r broses hon. Efallai bod gennych gydberthynas waith uniongyrchol â'r rhain, neu eich bod mewn cysylltiad â nhw, neu efallai ddim, ond mae'n ddefnyddiol gwybod pwy ydynt. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 10</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 10 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Nodwch eich atebion i'r cwestiynau canlynol:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Pa wasanaethau neu weithwyr proffesiynol sy'n dod i mewn i ysgolion er mwyn gweithio gyda phlant ag AAA? </ListItem>
<ListItem>Beth rydych chi'n ei wybod am y gwasanaeth neu rôl y gweithiwr proffesiynol?</ListItem>
<ListItem>Sut y gallech gael gwybod mwy?</ListItem>
</BulletedList>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="s4fr7"/>
</Interaction>
<Discussion type="Comment">
<Paragraph>Mae'r Cydlynydd AAA yn eich lleoliad yn fan cychwyn da os nad ydych yn siŵr beth a gynigir yn eich lleoliad. Mae'r rhyngrwyd hefyd yn ffynhonnell wybodaeth ddefnyddiol, er bod angen i chi sicrhau eich bod yn defnyddio ffynhonnell ddibynadwy, fel gwefan sefydliad cenedlaethol, neu safle'r llywodraeth. </Paragraph>
<Paragraph>Os hoffech gael gwybod mwy, rydym yn awgrymu eich bod yn darllen y ddogfen adnoddau, Rhai o'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses o helpu plant ag AAA. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Llywodraeth Cymru</Paragraph>
<Paragraph>Mae Llywodraeth Cymru yn newid y system gymorth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gallwch ddarllen mwy am hyn yma:</Paragraph>
<Paragraph>http://gov.wales/topics/educationandskills/schoolshome/additional-learning-special-educational-needs/transformation-programme/?lang=cy</Paragraph>
<Paragraph>SNAP Cymru</Paragraph>
<Paragraph>Mae SNAP Cymru yn rhoi gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni, plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig neu anableddau neu y gall fod ganddynt anghenion addysgol arbennig neu anableddau.</Paragraph>
<Paragraph>http://www.snapcymru.org/</Paragraph>
<Paragraph>Yr Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant</Paragraph>
<Paragraph>Sefydliad yw'r Ymddiriedolaeth Teuluoedd a Gofal Plant sy'n canolbwyntio ar ymgyrchu, gwneud gwaith ymchwil a rhoi gwybodaeth i lywodraethau, cyflogwyr a rhieni. Mae'n cynnwys llu o wybodaeth ar ei gwefan. </Paragraph>
<Paragraph>Rhai o'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'r broses o helpu plant ag AAA.</Paragraph>
<Paragraph>Y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth (NAS)</Paragraph>
<Paragraph>Elusen yn y DU sy'n rhoi gwybodaeth a chymorth. Mae hefyd yn ymgyrchu dros bobl ar y sbectrwm awtistig.</Paragraph>
<Paragraph>Young Minds</Paragraph>
<Paragraph>Elusen yn y DU sy'n canolbwyntio ar wella llesiant emosiynol ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Mae ei gwefan yn rhoi amrywiaeth eang o wybodaeth ac adnoddau i blant a phobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<BulletedList>
<ListItem>Terminoleg a ddefnyddir yn gyffredin mewn ysgolion a gwasanaethau i blant a phobl ifanc ar gyfer disgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Buoch yn ystyried beth sy'n diffinio plant ag AAA, beth mae polisïau'n ei ddweud am y cymorth y dylid ei roi i blant ag AAA, ac yn myfyrio ar natur gynhwysol eich ymarfer. </ListItem>
<ListItem>Nodi rhai o'r problemau ar gyfer plant ag AAA mewn perthynas â'u datblygiad cymdeithasol ac emosiynol a sut maent yn rheoli cydberthnasau. Drwy straeon Jax a Joe, cawsoch eich herio i feddwl am erledigaeth a bwlio yn y byd go iawn (annigidol), ac yn yr amgylchedd ar-lein. </ListItem>
<ListItem>Rhai o'r ffyrdd defnyddiol a'r ffyrdd a allai fod yn annefnyddiol o helpu plant ag AAA. Cawsoch eich cyflwyno i strategaethau fel straeon cymdeithasol a bod yn eiriolwr. Cawsoch eich annog i fyfyrio ar strategaethau cymorth cyffredin a ddefnyddir yn yr ystafell ddosbarth. </ListItem>
<ListItem>Ble i ddod o hyd i ragor o adnoddau. Mae anghenion arbennig yn bwnc eang ac felly mae'r adran hon yn cynnwys cyfeiriadau at wefannau ac adnoddau y gallwch eu defnyddio pan fydd eu hangen arnoch. </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Mae pob plentyn yn unigolyn a dim ond crafu'r wyneb a wnaed yn yr adran hon mewn perthynas â helpu plant ag AAA. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio ei bod wedi codi eich ymwybyddiaeth o faterion, ac wedi eich cyflwyno i rai syniadau ac arferion a all fod yn newydd i chi. Mae'r rhestr darllen pellach a'r adnoddau yno i chi eu defnyddio er mwyn gwella eich gwybodaeth, felly cymerwch olwg arnynt pan fydd gennych yr amser neu'r angen i wneud hynny. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Da iawn; rydych bellach wedi cyrraedd diwedd Adran 4 o Cefnogi datblygiad plant, ac mae'n bryd rhoi cynnig ar y cwestiynau asesu. Mae wedi'i gynllunio i fod yn weithgaredd llawn hwyl er mwyn helpu i atgyfnerthu eich dysgu. </Paragraph>
<Paragraph>Dim ond pum cwestiwn a geir, ac os byddwch yn cael o leiaf bedwar ateb yn gywir byddwch yn pasio'r cwis. </Paragraph>
<Box resource1="none" type="style2">
<BulletedList>
<ListItem>Hoffwn roi cynnig ar Gwis Adran 4. </ListItem>
</BulletedList>
</Box>
<Paragraph>Os ydych yn astudio'r cwrs hwn gan ddefnyddio un o'r fformatau amgen, nodwch y bydd angen i chi fynd ar-lein er mwyn rhoi cynnig ar y cwis hwn. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Y Gynghrair Gwrthfwlio (2015a) Cyberbullying and Children and Young People with SEN and Disabilities: Guidance for Teachers and Other Professionals: SEN and Disability: Developing Effective Anti-Bullying Practice [ar-lein]. Ar gael yn http://www.anti-bullyingalliance.org.uk/media/7441/cyberbullying-and-SEN-module-final.pdf (cyrchwyd 6 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Y Gynghrair Gwrthfwlio (2015b) Preventing Bullying:A Guide for Teaching Assistants. SEN and Disability: Developing Effective Anti-Bullying Practice [ar-lein]. Ar gael yn http://anti-bullyingalliance.org.uk/media/14670/Preventing-bullying-a-guide-for-teaching-assistants-FINAL.pdf (cyrchwyd 6 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Bond, L., Carlin, J.B., Thomas, L., Rubin, K. a Patton, G. (2001) ‘Does bullying cause emotional problems? A prospective study of young teenagers’, British Medical Journal, cyf. 323, tt. 480–4. </Paragraph>
<Paragraph>Booth, T. ac Ainscow, M. (2011) Index for Inclusion: Developing Learning and Participation in Schools (3ydd argraffiad), Bryste, Y Ganolfan ar gyfer Astudiaethau ar Addysg Gynhwysol. Hefyd ar gael ar-lein yn http://www.eenet.org.uk/resources/docs/Index%20EY%20English.pdf(cyrchwyd 8 Chwefror 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Cymdeithas Dyslecsia Prydain (nd) SEN Code of Practice [ar-lein]. Ar gael yn http://www.bdadyslexia.org.uk/parent/code-of-practice</Paragraph>
<Paragraph>(cyrchwyd 13 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>McLaughlin, C., Byers, R. ac Oliver, C. (2012) Perspectives on Bullying and Difference: Supporting Young People with Special Educational Needs and/or Disabilities in School, Llundain, Y Ganolfan Blant Genedlaethol. </Paragraph>
<Paragraph>Y Ganolfan Cymorth Technegol ar Ymyrraeth Emosiynol Gymdeithasol ar gyfer Plant Ifanc (2012) Social Story Tips and Examples [ar-lein]. Ar gael yn http://challengingbehavior.fmhi.usf.edu/explore/pbs_docs/social_story_tips.pdf (cyrchwyd 8 Chwefror 2016). </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ysgrifennwyd y cwrs hwn sydd am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Gwnaed cyfraniadau gan Katie Harrison (athro ac aelod o Undeb ATL) a Ceri Phillips (Y Brifysgol Agored). </Paragraph>
<Paragraph>Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn.</Paragraph>
<Paragraph>Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf. </Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 1: © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 2: Cydnabyddiaeth: Christopher Futcher/iStockphoto.com (modelau at ddibenion enghreifftiol yn unig) </Paragraph>
<Paragraph>Ffigur 3: Fuse/Getty Images (model at ddibenion enghreifftiol yn unig)</Paragraph>
<Paragraph>Gweithgaredd 6</Paragraph>
<Paragraph>Trawsysgrif o'r fideo, Let’s fight it together, Childnet http://www.childnet.com/</Paragraph>
</Session>
</Unit>
<Unit id="cynllun">
<UnitID/>
<UnitTitle>Cynllun datblygu proffesiynol</UnitTitle>
<Session>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 1</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Gwyliwch a gwrandewch ar drafodaeth y grŵp â Katie am ei chymhellion, dyheadau a'i phrofiadau fel Cynorthwyydd Addysg Lefel Uwch. </Paragraph>
<MediaContent src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_ta_1_s5_panel_discussion.mp4" type="video" x_manifest="nnco_ta_1_s5_panel_discussion_1_server_manifest.xml" x_filefolderhash="21007b94" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="727fdb9e">
<Transcript>
<Heading>Cyfweliad â Katie Harrison</Heading>
<Paragraph>Siaradwyr: </Paragraph>
<Paragraph>Katie Harrison (Cynorthwyydd Addysgu)</Paragraph>
<Paragraph>Eddie Tunnah (Rheolwr Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd)</Paragraph>
<Paragraph>Isobel Shelton (Awdur y Cwrs)</Paragraph>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Allwch chi ddweud wrthym pam y daethoch yn gynorthwyydd addysgu?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Daeth yn gynorthwyydd addysgu oherwydd roeddwn bob amser yn gwybod fy mod eisiau gweithio mewn ysgolion. Fe wnes i brofiad gwaith mewn ysgol pan oeddwn yn yr ysgol uwchradd ac roedd yn ymddangos yn iawn yn iawn. Ac yna sylweddolais mai cynorthwyydd addysgu oedd y swydd orau i mi. Fe wnes i feddwl am addysgu, ond cefais swydd fel cynorthwy-ydd dysgu, ac fe wnes i ei fwynhau, ond fe wnes i - fe wnaethwn wedyn symud ymlaen i fod yn gynorthwy-ydd dysgu lefel uwch sy'n golygu bod weithiau'n cymryd dosbarthiadau cyfan - felly mae hynny'n eithaf braf. Felly, rydych chi'n cael y cyfrifoldeb ychwanegol weithiau ond heb reidrwydd yr holl bwysau sy'n dod ag addysgu.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>Allwch chi ddweud mwy wrthyf am ba hyd y buoch yn y rôl cyn i chi fynd am y swydd Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch, a beth fu'n rhaid i chi ei wneud i sicrhau bod hynny'n digwydd? </Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Roeddwn i yn y rôl cynorthwy-ydd addysgu ers tua dwy flynedd ac yna penderfynais y byddwn i'n rhoi cynnig arni. Felly fe gymerodd fi tua chwe mis a bu'n rhaid i mi - mae yna ddau ddiwrnod paratoi lle rydych chi'n gweithio yn yr ystafell ddosbarth, gan ddysgu mwy am y rôl a'r hyn y mae angen i chi ei wneud. Ac yna mae'n waith cwrs yn seiliedig ar weithgaredd, felly o fewn yr ysgol byddwn yn gweithio gyda dosbarthiadau a grwpiau cyfan, ac yn gosod fy ngweithgareddau fy hun ac yna yn amlwg ysgrifennwch sut aeth hynny a sut y gallwn wella. Ac yna roedd rhywun yn dod i mewn i asesu trwy gyfweliadau. Fe wnaethon nhw gyfweld â mi, maent yn cyfweld â chydweithwyr yr wyf yn gweithio gyda nhw, felly roedd hynny'n eithaf braf oherwydd nad oedd pwysau arsylwadau.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Pa fath o ysgol ydych chi'n gweithio ynddi?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Rwy'n gweithio mewn ysgol gynradd, sef dau fynediad ar y ffurf ar y cyfan ac yna mae gennym ychydig flynyddoedd lle nad oes ond un dosbarth ond maent yn ddosbarthiadau eithaf mawr. Mae tua phum munud o ganol tref, felly mae gennym gymysgedd eithaf gwahanol o blant sy'n mynychu'r ysgol.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Ac allwch chi ddisgrifio diwrnod arferol ym mywyd cynorthwyydd addysgu?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Wel ie. Rwy'n cyrraedd yr ysgol am tua 8.45. Dyna pryd rwy'n dechrau, ychydig cyn i'r plant ddod i mewn, fel y gallaf helpu gydag unrhyw drefniadau sydd angen ei wneud. Yn ystod y bore byddaf yn treulio yn y dosbarth gyda grwpiau, felly mewn llythrennedd ac mewn mathemateg yn gweithio gyda grwpiau gallu gwahanol i'w helpu i symud ymlaen gyda'u dysgu. Ac yna mae gen i grwpiau ymyrryd yn ystod amser y cynulliad, sydd fel arfer yn grwpiau sy'n seiliedig ar ysgrifennu. Ac yna yn y prynhawniau, mae fy prynhawn yn amrywio ychydig yn dibynnu ar y diwrnod. Rwy'n gweithio 1 i 1 gyda merch sydd ag anghenion arbennig ac rwy'n gwneud gwaith grŵp yn ogystal â hynny, felly dim ond rhywbeth y mae'n ei ddibynnu ar y diwrnod!</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Beth sy'n well gennych – y gwaith grŵp neu'r gwaith unigol?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Rwy'n eithaf hoffi'r gwaith grŵp rwy'n credu. Weithiau mae'n fwy braf pan fydd gennych grŵp oherwydd gall y plant bownsio syniadau oddi ar ei gilydd a rhoi cefnogaeth ei gilydd. Weithiau, mae 1 i 1 ychydig yn fwy anodd os efallai nad ydynt yn deall oherwydd nad oes neb arall o gwmpas yn rhoi ychydig o gefnogaeth ychwanegol iddynt.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Allwch chi feithrin cydberthynas â phlentyn yn unigol?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Ie, gallwch chi, ie.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>A gyda'r gwaith unigol, fyddech chi'n gweld y plentyn hwnnw bob diwrnod o'r wythnos neu a fyddai hynny'n digwydd tua dau brynhawn yr wythnos? </Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Yr oedd yn arfer bod hynny'n ei gweld bob dydd o'r wythnos. Nawr mae'n dair diwrnod yr wythnos ar hyn o bryd, dim ond oherwydd ein bod ni'n ceisio - rydym yn gweithio ar annibyniaeth felly rydym yn dechrau tynnu rhywfaint o'r gefnogaeth ychydig ond rwyf bob amser yn gwmpasu felly, os bydd angen i mi allu neidio i mewn.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>Pa rannau o'r swydd ydych chi'n eu mwynhau fwyaf?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Byddwn i'n dweud ei bod yn gwylio'r plant yn dysgu ac yn gwella ac yn gwybod fy mod wedi chwarae rhan fechan yn hynny o beth. Mae llawer o bobl dan sylw ond ie, mae hynny'n braf gweld.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>Allwch chi roi enghraifft benodol i mi o rywbeth rydych chi wedi'i wneud sydd wedi bod yn werth chweil?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Ydw. Rwy'n gweithio mewn llawer o feysydd llythrennedd a rhifedd gwahanol ond mewn llythrennedd, treuliais amser gyda bachgen oedd yn ei chael hi'n anodd ei ffoneg, a oedd yn amlwg yn golygu nad oedd ei ddarllen yn gwella'n fawr. Ac felly treuliais bum munud y dydd gydag ef yn mynd heibio, dro ar ôl tro yn mynd dros seiniau'r cyfnod yr oedd ynddo, a oedd yn ei helpu oherwydd ei fod yn fach ac yn aml ac yn golygu ei fod yn cofio hynny. Ac felly fe wnaeth ei ddarllen wella, a oedd yn wirioneddol werth chweil i'w weld.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Oes heriau eraill yn eich wynebu fel rhan o'r rôl?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Ydi, gall fod yn heriol, dwi'n darganfod. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn ôl pob tebyg yn dweud y gall ymddygiad weithiau fod yr aflonyddwch mwyaf heriol, ac yn arbennig o isel yn y dosbarth, felly siarad wrth iddyn nhw fod ar y carped, neu fidgetio - pethau fel hynny. Ond mae gennym bolisi ymddygiad yr ydym yn ei ddilyn ac mae'n gweithio'n eithaf da o fewn y dosbarth.</Remark>
<Remark>Mae'n cynnwys system goleuadau traffig - felly maent yn dechrau bob dydd ar ambr ac yna gallant symud i fyny fel y gallant fynd yn wyrdd ac yna ar ddiwrnod da iawn gallant fynd i fyny i aur. Ond wedyn, gyda'r gwrthwyneb, mae gennym ardal goch hefyd, felly os bydd plentyn yn anodd, byddant yn cael rhybudd. Os bydd yn parhau, byddant yn symud i mewn i'r parth coch. Os yw'n dal i fod arno, yna bydd yr athrawes ddosbarth yn delio ag ef neu, os na fydd hi'n yr ystafell, byddant yn mynd i aelod arall o staff am gyfnod o amser ond gallant - unwaith y byddant wedi cael hynny ac maen nhw'n dod yn ôl - gallant ennill eu ffordd yn ôl felly nid yw'n golygu dim ond oherwydd eu bod mewn coch yn y bore y byddant yno yno ar ddiwedd y dydd. Gallant weithio eu ffordd yn ôl.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>Katie, sut mae eich swydd wedi newid dros amser?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Byddwn yn dweud ei fod wedi newid cryn dipyn. Mae'r rôl ei hun wedi newid gan fy mod yn canfod hynny oherwydd bod y baich gwaith ar athrawon wedi cynyddu yn fwy, mae'n hidlo i lawr i'r cynorthwywyr dysgu hefyd, yn enwedig o ran pethau fel gwaith papur. Hefyd, bu heriau'r cwricwlwm yn newid, a phryd y gwnaethant ei newid, yna yn amlwg roedd y lefelau y maent yn arfer eu defnyddio'n ddiflannu'n genedlaethol ac mae wedi gorfod dod o hyd i ysgolion a chlystyrau eu ffordd eu hunain, mae'n debyg, sut y byddant yn bwriadu asesu, ac mae'n wedi bod yn her i ddysgu'r system newydd a sut i'w addasu i'r plant yr ydym yn gweithio gyda nhw.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>A gwnaethoch ddweud wrthyf yn gynharach eich bod yn gweithio gyda phlant sydd wedi dod o'r dosbarth derbyn a'u bod yn mynd drwy gyfnod pontio mawr i ddod i'r dosbarth cynradd. Ydych chi'n meddwl bod gan gynorthwywyr addysgu rôl i'w chwarae yn helpu gyda'r cyfnod pontio hwnnw? </Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Ydw, dwi'n meddwl felly oherwydd ei fod yn neidio anodd iawn ar eu cyfer oherwydd bod y Dderbynfa'n gweithio a sut y bydd y Feithrinfa wedi gweithio o'r blaen, mae hynny'n wahanol i Flwyddyn 1 oherwydd yn amlwg mae Blwyddyn 1 yn llawer mwy strwythuredig. Felly, rwy'n credu, yn enwedig ar ddechrau'r flwyddyn, treuliais lawer o amser yn helpu'r plant i ymgartrefu yn y drefn newydd a gweithio gyda nhw felly nid oeddent yn teimlo'n orlawn iawn i ddechrau.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Mae'n gam allweddol yn eu datblygiad, onid yw? </Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Ydw.</Remark>
<Speaker>Isobel:</Speaker>
<Remark>Pa gyfleoedd datblygu sydd ar gael i gynorthwywyr addysgu? Neu, yn eich profiad eich hun, pa gyfleoedd datblygu a gynigiwyd i chi – naill ai gan yr ysgol neu gan rywun arall? </Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Wel yn yr ysgol mae gennym ddyddiau mewnosod, sy'n cynnwys athrawon a chynorthwywyr addysgu yn gyffredinol. Maent yn dueddol o fod yn eithaf penodol - felly mae unrhyw beth yn ymwneud â diweddariadau i bolisïau neu gynlluniau gwaith newydd y maent wedi'u cael i wella ysgrifennu neu ddarllen, fel ein bod ni i gyd ar yr un dudalen.</Remark>
<Remark>Rydym hefyd wedi cael hyfforddiant TA-benodol ar ymyriadau ffoneg a mathemateg, ffyrdd gwahanol o geisio helpu'r plant i ddysgu a phethau tebyg i hynny, sy'n gweithio'n dda iawn oherwydd ei fod yn dueddol o fod yn gynorthwywyr addysgu sydd mewn gwirionedd yn gwneud y grwpiau llai.</Remark>
<Remark>Yna tu allan i'r ysgol rydw i gyda'r Undeb ac maen nhw'n cynnig cryn dipyn o DPP i bob un o'u haelodau felly mae math o fath - mae'n fath o amrediad eang. Mae pethau fel rheoli ymddygiad, rydym wedi gwneud gweithdai ar iechyd meddwl a meddylfryd, y gallwch chi ei wneud. Maent yn rhedeg cyrsiau y gallwch eu mynychu ac maent hefyd yn rhedeg cyrsiau ar-lein. Felly mae hynny'n ddefnyddiol iawn, fel yn amlwg ni allwch chi fynd i'r cyrsiau bob amser. Ac mae ganddynt gynhadledd staff cymorth penodol hefyd, a byddant yn rhedeg llawer o gyfleoedd i chi rwydweithio gyda staff cymorth eraill.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>A pha sgiliau penodol ydych chi wedi'u datblygu fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Rwy'n credu bod yna ychydig iawn. Rwy'n meddwl yn amlwg bod angen sgiliau gwrando da arnoch chi - amynedd. Mae amynedd yn un fawr weithiau, yn enwedig gyda'r rhai iau.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>Mae'r modiwl hwn wedi annog darllenwyr i fod yn ymarferwyr myfyriol – sef meddwl yn ddyfnach am eu rôl eu hunain. Allwch chi ddweud rhywfaint wrthym am sut mae hyn yn gweithio yn eich ysgol, oherwydd rwy'n gwybod bod gennych brofiad o fod yn ymarferydd myfyriol? </Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Ydw, mae bob amser yn eithaf defnyddiol i fyfyrio ar yr hyn rydych chi'n ei wneud, yn enwedig grwpiau os oes gennych grwpiau ymyrraeth hir ers ychydig wythnosau, i fyfyrio ar sut mae hynny'n digwydd ac a oes angen gwneud newidiadau ai peidio. A hefyd mae gennym sylwadau. Yn fy achos i, fel arfer mae ein dirprwy yn gwneud hynny a bydd yn ein harsylwi naill ai o fewn y dosbarth neu gyda grŵp o blant. Ac yna mae'n amlwg ei fod yn ddefnyddiol oherwydd byddwn ni'n cael adborth ganddo, ac o fewn hynny bydd hi'n gofyn i ni beth aethom ati i wneud yn dda gyda'r hyn yr oeddem yn ei wneud, a hefyd mae meysydd y gallem eu gwella y tro nesaf, sy'n ddefnyddiol iawn i feddwl amdano oherwydd dwi ddim yn meddwl bod pobl yn gwneud hynny drwy'r amser, felly mae'n wirioneddol ddefnyddiol gwneud hynny. Ac yna byddwn yn cael targedau penodol fel ein bod ni'n gwybod beth rydym yn anelu at wella ein harfer.</Remark>
<Speaker>Eddie:</Speaker>
<Remark>A sut ydych chi'n gweld eich gyrfa yn datblygu yn y dyfodol?</Remark>
<Speaker>Katie:</Speaker>
<Remark>Rwy'n credu y byddem yn hoffi cymryd mwy o ran yn yr ochr anghenion arbennig o fod yn gynorthwyydd addysgu oherwydd yn amlwg rwyf wedi sôn am fod amrywiaeth mor amrywiol o anghenion arbennig gwahanol ac felly byddai'n ddefnyddiol i ddull o ddysgu mwy. yn fanwl iawn am rai o'r materion y mae'r plant hyn yn eu hwynebu a sut y gallwn eu helpu yn yr ysgol, yn enwedig o fewn yr ysgol brif ffrwd. Rwy'n credu y byddai hynny'n ffordd eithaf diddorol i'w gymryd.</Remark>
</Transcript>
<Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/nnco_ta_1_s5_panel_discussion_still.jpg" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/nnco_ta_1_s5_panel_discussion_still.jpg" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="82358e57" x_imagesrc="nnco_ta_1_s5_panel_discussion_still.jpg" x_imagewidth="320" x_imageheight="176"/>
</MediaContent>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="a1"/>
</Interaction>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Cynlluniwyd y cwrs hwn i archwilio meysydd eang o ddiddordeb ar gyfer y sawl sy'n gweithio gyda phlant ar hyn o bryd neu a hoffai weithio gyda phlant. Nid yw'r cwrs yn eich cymhwyso fel cynorthwyydd addysg: nid oes unrhyw ofynion a nodir yn genedlaethol ar gyfer dod yn gynorthwyydd addysgu – mae pob awdurdod lleol neu ysgol yn amlinellu ei ofynion/gofynion penodol (TES, 2015). Fodd bynnag, bydd y bathodyn (a'r datganiad o gyfranogiad) yn ddefnyddiol ar gyfer eich CV ac fel sail ar gyfer trafodaeth mewn cyfweliad. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Datblygu a rheoli perthnasau</Heading>
</InternalSection>
<Paragraph>Roedd Adran 1 yn defnyddio astudiaethau achos er mwyn edrych ar ddatblygiad cydberthnasau o'r blynyddoedd cynnar i'r ysgol uwchradd a sut y gall cynorthwywyr addysgu chwarae rôl bwysig wrth reoli'r cydberthnasau hyn, yn enwedig pan fydd plant yn symud o un lleoliad i un arall. Cawsoch eich cyflwyno i ddamcaniaethwyr enwog ar gydberthnasau, fel John Bowlby a Mary Ainsworth, cyn dysgu am Jean Piaget a Lev Vygotsky, ac y mae eu syniadau yn dal i fod yn bwysig ar gyfer datblygiad plentyn. Nid y rhain yw'r unig ddamcaniaethwyr sydd wedi cyfrannu at ddamcaniaeth datblygiad plentyn, ond maent yn fan cychwyn defnyddiol. Yn yr adran hon, buoch hefyd yn ystyried pa mor bwysig yw meithrin cydberthnasau â rhieni a chael 'rhieni fel partneriaid'. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Annog darllen</Heading>
<Paragraph>Yn Adran 2 buoch yn edrych ar ddarllen, llythrennedd, sut mae plant yn dysgu sut i ddarllen, a sut y gellir datblygu darllen ar gamau gwahanol o addysg. Cawsoch eich cyflwyno i gysyniadau allweddol, fel y 'bwlch darllen' a'r 'bwlch rhwng y rhywiau'. Mae'r 'bwlch darllen' yn ymwneud ag anghydraddoldebau o ran cyrhaeddiad mewn darllen, ac mae'r 'bwlch rhwng y rhywiau' yn codi cwestiynau ynghylch pam y mae rhai bechgyn yn fwy amharod i ddarllen ac yn datblygu'n arafach na rhai merched. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Rheoli ymddygiad</Heading>
<Paragraph>Roedd Adran 3 yn canolbwyntio ar reoli ymddygiad, yn enwedig sut i reoli ymddygiad mewn ystafell ddosbarth mewn ffordd gadarnhaol. Roedd pwyslais yr adran hon ar gynnwys plant wrth hyrwyddo ymddygiad da ac ar wobrwyo yn hytrach na chosbi. Buoch yn ystyried gwaith Rudolph Dreikurs ar 'nodau camymddwyn' a ffyrdd amgen o fynd i'r afael â sefyllfa heriol. Buoch yn edrych ar y defnydd o siartiau gwobrwyo fel enghraifft o ymddygiadaeth a'r feirniadaeth a geir o'r dull hwn o reoli ymddygiad. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Anghenion arbennig</Heading>
<Paragraph>Roedd Adran 4 yn sôn am helpu plant ag anghenion addysgol arbennig (AAA). Roedd yr adran hon yn archwilio rhywfaint o'r derminoleg a ddefnyddiwyd ar gyfer disgrifio anabledd neu gyflwr plentyn. Roedd yn edrych ar adroddiad y llywodraeth ar AAA a beth yw ystyr ymarfer cynhwysol. Cawsoch gyfle i fyfyrio ar y graddau y mae eich ymarfer eich hun yn gynhwysol. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Deilliannau dysgu</Heading>
<Paragraph>Roedd y deilliannau dysgu cyffredinol ar gyfer Cefnogi datblygiad plant yn ategu'r pedair adran hyn. Gobeithio eich bod: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>wedi cael cipolwg ar safbwyntiau amrywiol plant o'r blynyddoedd cynnar drwodd i'r ysgol uwchradd </ListItem>
<ListItem>yn gallu myfyrio ar brofiad ac ymarfer personol, nodi cryfderau a gwendidau, a chymhwyso hyn at y materion y dewch ar eu traws yn eich ymarfer </ListItem>
<ListItem>yn deall sut mae rhai damcaniaethau yn ceisio egluro datblygiad plentyn</ListItem>
<ListItem>yn myfyrio ar werth gwaith cynorthwywyr addysgu, y sgiliau cymorth cysylltiedig, a meddwl am eich rôl yn y dyfodol. </ListItem>
</BulletedList>
</InternalSection>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Efallai eich bod wedi nodi bod dau o'r deilliannau dysgu yn cyfeirio at 'fyfyrio'. Er mwyn gwneud y gorau o'ch astudiaethau, mae angen i chi fyfyrio ar eich dysgu a chynllunio eich datblygiad er mwyn cyflawni eich nodau gyrfa, personol neu astudio. </Paragraph>
<Paragraph>Gan gyfeirio'n ôl at y clip fideo, gwelsoch sut mae Katie wedi myfyrio ar ei rôl fel cynorthwyydd addysgu. Llwyddodd i nodi gwobrwyon a heriau'r swydd ac mae'n amlwg ei bod wedi treulio amser yn meddwl am ei datblygiad gyrfa. Mae Katie am weithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau, felly roedd Adran 4 o'r cwrs o ddiddordeb arbennig, ond cyfeiriodd hefyd at agweddau eraill ar y cwrs sy'n berthnasol i'w hymarfer. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 2</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 30 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Dychmygwch mai chi yw Katie a'ch bod yn cael eich holi am eich rôl fel cynorthwyydd addysgu. Nid oes angen i chi fod yn gweithio fel cynorthwyydd addysgu – efallai bod gennych brofiad o weithio gyda phlant mewn ffyrdd eraill, efallai fel rhiant neu nain neu daid. Myfyriwch ar agweddau gwahanol eich rôl. Os mai dim ond rhai adrannau o'r cwrs rydych wedi'u hastudio, dylech allu defnyddio'r wybodaeth hon i fyfyrio ar y cwestiynau hyn. </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>A ydych yn chwarae rhan yn y gwaith o ddatblygu a rheoli cydberthnasau?</ListItem>
<ListItem>A ydych yn gweithio'n agos gyda phlant unigol ac a oes gan unrhyw un ohonynt anghenion addysgol arbennig?</ListItem>
<ListItem>Sut ydych chi'n annog darllen a llythrennedd yn eich lleoliad?</ListItem>
<ListItem>Pa agweddau ar y cwrs oedd yn ddefnyddiol ar gyfer eich ymarfer eich hun?</ListItem>
<ListItem>Pa agweddau ar eich ymarfer nad ymdriniwyd â nhw ar y cwrs hwn?</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Gwnewch nodiadau mewn ymateb i'r cwestiynau hyn a chrynhowch beth rydych yn ei gofio o'r adrannau a ddarllenwyd gennych. Defnyddiwch eich nodiadau i geisio nodi meysydd o'ch ymarfer neu brofiad yr hoffech eu datblygu ymhellach. </Paragraph>
</Question>
<Interaction>
<FreeResponse size="paragraph" id="a2"/>
</Interaction>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Mae Katie wedi nodi'r ffaith ei bod yn mwynhau ei rôl fel Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch ac nid oes ganddi unrhyw ddyhead i fod yn athro. Mae'r sgiliau sy'n ofynnol i fod yn gynorthwyydd addysgu yn cyd-fynd â'r rhai sy'n ofynnol i fod yn athro, er eu bod yn wahanol, ac mae ganddi gydberthynas dda â'r athrawon yn ei hysgol. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 3</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 30 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Pan fyddwch yn mynd i gyfweliadau bydd disgwyl i chi roi tystiolaeth o'ch sgiliau felly mae'n strategaeth dda i ystyried hyn ymlaen llaw. </Paragraph>
<Quote>
<Heading>Sgiliau penodol</Heading>
<Paragraph>Nodwyd bod y sgiliau a'r rhinweddau canlynol yn ofynnol er mwyn gweithio fel cynorthwyydd addysgu cynradd, ond mae'r rhan fwyaf ohonynt yn berthnasol mewn mathau eraill o waith gyda phlant a phobl ifanc: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>sgiliau meithrin;</ListItem>
<ListItem>sgiliau gwrando;</ListItem>
<ListItem>y gallu i weithio dan bwysau;</ListItem>
<ListItem>y gallu i weithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm;</ListItem>
<ListItem>dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o anghenion plentyn;</ListItem>
<ListItem>parodrwydd i ddysgu;</ListItem>
<ListItem>gallu i addasu;</ListItem>
<ListItem>amynedd ac ymdeimlad o degwch.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Ceisiwch nodi un neu ddwy o'r sgiliau hyn yn eich rôl bresennol. Gallai hyn fod yn rôl fel cynorthwyydd addysgu, wedi eich cyflogi mewn ysgol neu gallai fod yn rôl fwy anffurfiol, fel gwirfoddolwr neu o fewn y teulu. Myfyriwch ar ba rai o'r rhain sy'n bwysig yn eich gwaith a meddyliwch sut y byddech yn rhoi tystiolaeth ohonynt pe byddai rhywun yn eich holi amdanynt mewn cyfweliad. </Paragraph>
<Paragraph>Ceisiwch osgoi cymryd eich sgiliau cyflogadwyedd yn ganiataol, e.e. drwy ddweud 'wel, mae'n dod yn naturiol'. Er mwyn bod yn llwyddiannus mewn ceisiadau am swyddi a chyfweliadau, mae'n hanfodol eich bod yn gallu cydnabod y sgiliau sydd gennych a'u disgrifio'n effeithiol. </Paragraph>
<SourceReference>(Y Brifysgol Agored, 2016, wedi'i addasu o'r wefan Childhood and youth studies qualification</SourceReference>
</Quote>
</Question>
<Discussion>
<Paragraph>Rydych yn tueddu i gymryd y sgiliau sydd gennych yn ganiataol. Rydych yn defnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy hyn bob dydd heb fod yn ymwybodol ohonynt o reidrwydd. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
<Paragraph>Mae gan Katie fwy o gyfle i weithio'n unigol â disgyblion unigol na'r athro. Mae ganddi gynlluniau i ddatblygu ei sgiliau yn gweithio gyda phlant ag anghenion addysgol arbennig ac mae wedi cymryd cam tuag at ddechrau hyfforddi yn y maes hwn. Mae Katie yn myfyrio'n rheolaidd ar ei rôl ac yn adolygu ei hanghenion o ran hyfforddiant. </Paragraph>
<Paragraph>Nid oes angen i chi fod mewn cyflogaeth er mwyn dechrau meddwl am y sgiliau rydych eisoes wedi eu datblygu mewn cydberthnasau â phlant ar gamau gwahanol o'u datblygiad. Efallai y byddwch yn gweld eich bod wedi datblygu rhai o'r sgiliau trosglwyddadwy a restrir yng Ngweithgaredd 3 ac y bydd y rhain o fudd i chi os byddwch yn penderfynu gweithio gyda phlant. </Paragraph>
<Paragraph>Gobeithio y bu'r cyfle hwn i fyfyrio ar eich dysgu a'ch ymarfer yn ddefnyddiol ac y byddwch yn ei gynnwys yn eich ymarfer fel proses barhaus o gofnodi ac adolygu. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Yn y gweithgaredd terfynol, byddwch yn edrych ar gyfleoedd i ddatblygu eich gyrfa ymhellach. Wrth ymgymryd â'r gweithgareddau myfyriol yn yr adran hon, rydych wedi cymryd cam tuag at ddatblygu eich cynllun datblygu personol (CDP) eich hun. Mae CDP yn hyrwyddo'r syniad bod dysgu a datblygu yn weithgareddau gydol oes ac mae'n ddull strwythuredig o'ch annog i fyfyrio wrth ymarfer a chynllunio eich gyrfa. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 4</Heading>
<Timing>Caniatewch tua 30 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Gwyliwch y clip fideo hwn, What's it all about?, sy'n amlinellu'r pum cam sy'n rhan o gynllun datblygu personol: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Nodi</ListItem>
<ListItem>Cynllunio</ListItem>
<ListItem>Gweithredu</ListItem>
<ListItem>Cofnodi</ListItem>
<ListItem>Adolygu.</ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Nawr eich bod yn gwybod beth yw ystyr cynllun datblygu personol, defnyddiwch y pum cam i lunio eich CDP eich hun. Un man cychwyn da fyddai defnyddio'r myfyrdod o Weithgareddau 2 a 3 fel sail ar gyfer meddwl am gynllunio ar gyfer y dyfodol a gweithredu. </Paragraph>
</Question>
<Discussion>
<Paragraph>Efallai eich bod eisoes wedi meddwl am eich dysgu a'ch datblygiad gyrfa eich hun, ond mae llunio cynllun datblygu personol yn rhoi strwythur i'r broses hon ac yn rhoi rhywbeth i gyfeirio'n ôl ato ac adeiladu arno dros amser. </Paragraph>
</Discussion>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Rydym yn gobeithio y byddwch yn penderfynu datblygu'r hyn rydych wedi'i ddysgu ymhellach a bod y cwrs rhagflas hwn wedi bod o fudd i chi. Rydym hefyd yn gobeithio ei fod wedi rhoi rhywfaint o ymwybyddiaeth i chi o wahanol agweddau ar rôl y cynorthwyydd addysgu ac wedi eich annog i ddysgu mwy. </Paragraph>
<Paragraph>Bydd yr adran olaf, Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach, yn eich cyfeirio at gyfleoedd astudio pellach. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>TES (2015) How to Become A Teaching Assistant, 18 Awst [ar-lein]. Ar gael yn https://www.tes.com/article.aspx?storyCode=6167026 (cyrchwyd 12 Ionawr 2016). </Paragraph>
<Paragraph>Y Brifysgol Agored (2016) ‘Sgiliau cyflogadwyedd’, Childhood and Youth Studies Qualifications [ar-lein]. Ar gael yn http://learn4.open.ac.uk/mod/oucontent/view.php?id=6439 (cyrchwyd 1 Chwefror 2016). </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ysgrifennwyd y cwrs hwn sydd am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Gwnaed cyfraniadau gan Katie Harrison (athro ac aelod o Undeb ATL). </Paragraph>
<Paragraph>Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn. </Paragraph>
<Paragraph>Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf. </Paragraph>
<Paragraph>Gweithgaredd 1</Paragraph>
<Paragraph>Fideo a thrawsgrifiad © Y Brifysgol Agored (2016)</Paragraph>
<Paragraph>Gweithgaredd 4</Paragraph>
<Paragraph>Addaswyd o Wasanaeth Cyngor Gyrfaoedd Y Brifysgol Agored yn cynnwys y fideo © Y Brifysgol Agored</Paragraph>
</Session>
</Unit>
<Unit id="datblygur">
<UnitID/>
<UnitTitle>Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach</UnitTitle>
<Session>
<Paragraph>Gobeithio bod Cefnogi datblygiad plant wedi bod yn ddiddorol ac yn llawn gwybodaeth. </Paragraph>
<Paragraph>Efallai y byddwch yn cofio ateb rhai cwestiynau ar ddechrau'r cwrs am yr hyn sy'n eich cymell i ddysgu. Nawr eich bod wedi cwblhau'r cwrs cyfan neu ran ohono, hoffem ofyn i chi fyfyrio ar eich profiad drwy gwblhau un gweithgaredd byr olaf. </Paragraph>
<Activity>
<Heading>Gweithgaredd 1</Heading>
<Timing>Dylech neilltuo tua 15 munud</Timing>
<Question>
<Paragraph>Holiadur am yr hyn rydych wedi'i ddysgu (2)</Paragraph>
<Paragraph>Os hoffech adolygu eich ymatebion i'r holiadur cyntaf ar ddechrau'r cwrs, gallwch ddychwelyd i'r Holiadur am yr hyn rydych wedi'i ddysgu (1). </Paragraph>
<Paragraph>Ystyriwch ble oeddech chi pan wnaethoch ddechrau'r cwrs hwn. </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Sut roedd astudio'r cwrs hwn yn cyd-fynd â'ch bywyd bob dydd? A wnaethoch chi neilltuo amser i weithio arno neu a gawsoch chi amser penodol i wneud hynny? </ListItem>
<ListItem>A wnaethoch wynebu unrhyw heriau penodol? Sut wnaethoch chi eu goresgyn?</ListItem>
<ListItem>Ydych chi wedi dysgu unrhyw beth y gallwch ei ddefnyddio yn y dyfodol? Sut allai hyn ddylanwadu ar y ffordd y byddwch yn gwneud pethau yn y dyfodol? </ListItem>
</BulletedList>
<Paragraph>Drwy astudio'r cwrs hwn, dylech bellach fod:</Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>wedi cael cipolwg ar safbwyntiau amrywiol plant o'r blynyddoedd cynnar drwodd i'r ysgol uwchradd</ListItem>
<ListItem>yn gallu myfyrio ar brofiad ac ymarfer personol, nodi cryfderau a gwendidau, a chymhwyso hyn at y materion y dewch ar eu traws yn eich ymarfer </ListItem>
<ListItem>yn deall sut mae rhai damcaniaethau yn ceisio egluro datblygiad plentyn</ListItem>
<ListItem>yn myfyrio ar werth gwaith cynorthwywyr addysgu, y sgiliau cymorth cysylltiedig, a meddwl am eich rôl yn y dyfodol. </ListItem>
</BulletedList>
</Question>
</Activity>
</Session>
<Session>
<Paragraph><InlineFigure><Image src="https://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/1986662/mod_oucontent/oucontent/96207/welsh_cymru-badges_90x90_scd.png" src_uri="file:////dog/PrintLive/Corporate/OLCymru%20Transfer/CYM-SCD-E1/assets/welsh_cymru-badges_90x90_scd.png" x_folderhash="21007b94" x_contenthash="bc765850" x_imagesrc="welsh_cymru-badges_90x90_scd.png" x_imagewidth="90" x_imageheight="90"/></InlineFigure></Paragraph>
<Paragraph>Gobeithio eich bod yn teimlo eich bod wedi cyflawni rhywbeth wrth gasglu'r bathodynnau ar gyfer Cefnogi datblygiad plant. Os hoffech gael eich atgoffa sut i ennill eich bathodynnau ar ôl cwblhau adran, ewch i Sut gallaf ennill fy mathodyn?</Paragraph>
<Paragraph>Os hoffech gael eich atgoffa sut i gael eich datganiad cyfranogi ar ôl ennill pob un o'r bathodynnau, ewch i Sut gallaf gael fy natganiad cyfranogi?</Paragraph>
<Paragraph>Pan fyddwch wedi cwblhau adran yn llwyddiannus ac wedi llwyddo i basio'r asesiad cwis cysylltiedig, byddwch yn cael eich bathodyn Cefnogi datblygiad plant ar gyfer yr adran honno. Caiff neges e-bost ei hanfon atoch i'ch hysbysu eich bod wedi ennill bathodyn, a bydd yn ymddangos yn y rhan Fy mathodynnau yn eich proffil OpenLearn Create. Gall gymryd hyd at 24 awr i fathodyn gael ei roi. </Paragraph>
<Paragraph>Caiff neges e-bost ei hanfon atoch i'ch hysbysu eich bod wedi cael datganiad cyfranogi. Unwaith y bydd y datganiad ar gael (fel ffeil PDF), byddwch yn gallu ei weld a'i lawrlwytho o'ch proffil OpenLearn Create. </Paragraph>
<Paragraph>Gall gymryd hyd at 24 awr i roi'r datganiad cyfranogi ar ôl i chi gwblhau'r cwrs.</Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Gobeithio eich bod wedi mwynhau Cefnogi datblygiad plant, a gobeithio bod y cwrs wedi'ch ysbrydoli i barhau i ddysgu. Nodir isod rai dolenni allweddol ar gyfer ble yr hoffech fynd nesaf. </Paragraph>
<InternalSection>
<Heading>Datblygu eich gyrfa</Heading>
<Paragraph>Mae'r dolenni hyn o'r TES a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol yn trafod rôl cynorthwyydd addysgu, y sgiliau trosglwyddadwy sy'n ofynnol ac yn rhoi cipolwg i chi ar y lefelau gwahanol o gael mynediad i'r proffesiwn: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>TES: Sut i ddod yn gynorthwyydd addysgu</ListItem>
<ListItem>Proffiliau swyddi'r Gwasanaeth Gyrfaoedd Cenedlaethol: Cynorthwy-ydd addysgu</ListItem>
<ListItem>Sgiliau ar gyfer ysgolion: Amrywiaeth o adnoddau yn ymwneud â'r rolau amrywiol mewn ysgolion. </ListItem>
</BulletedList>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Gwirfoddoli</Heading>
<Paragraph>Efallai yr hoffech ystyried gwirfoddoli i ymestyn a gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth. Gallai'r gwefannau hyn eich helpu i feddwl am eich opsiynau: </Paragraph>
<BulletedList>
<ListItem>Leonard Cheshire Disability</ListItem>
<ListItem>National Council for Voluntary Organisations (NCVO)</ListItem>
<ListItem>https://www.volunteering-wales.net</ListItem>
</BulletedList>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Rhwydwaith Arfer Gorau</Heading>
<Paragraph>Mae gan y Rhwydwaith Arfer Gorau dros 10 mlynedd o brofiad yn cyflwyno cyrsiau a hyfforddiant ar gyfer staff cymorth. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Undebau llafur</Heading>
<Paragraph>Mae undebau llafur yn cynnig rhaglenni hyfforddiant a datblygiad ar gyfer eu haelodau, yn aml mewn partneriaeth â darparwyr fel Y Brifysgol Agored. Siaradwch â chynrychiolydd eich undeb i gael gwybod am unrhyw gyfleoedd lleol. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Mwy o gyrsiau anffurfiol am ddim</Heading>
<Paragraph>Mae'r Brifysgol Agored hefyd yn cynnig rhagor o gyrsiau rhagarweiniol ar-lein a chyrsiau sgiliau ar gyfer astudio, ac y mae pob un ohonynt ar gael am ddim ar-lein. </Paragraph>
<Paragraph>Mae FutureLearn hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau ar-lein y gallech fod am eu hystyried. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Y Brifysgol Agored</Heading>
<Paragraph>Efallai yr hoffech ystyried dilyn un o gyrsiau Mynediad Y Brifysgol Agored i'ch paratoi ar gyfer astudio'n llwyddiannus tuag at gymhwyster addysg uwch a gydnabyddir yn genedlaethol. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r Brifysgol Agored yn cynnig amrywiaeth o gymwysterau y gallech fod am eu hystyried. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Cymwysterau addysg, plentyndod ac ieuenctid</Heading>
<Paragraph>Os hoffech edrych yn fanylach ar astudiaethau plentyndod, yna ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Y Brifysgol Agored ar gymwysterau Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid. </Paragraph>
</InternalSection>
<InternalSection>
<Heading>Arall</Heading>
<Paragraph>Efallai y byddwch yn cofio bod Heather yn hapus â'i rôl fel Cynorthwyydd Addysgu, ond ganddi hi ddiddordeb mewn magu profiad fel cynorthwyydd addysgu cyn dod yn athro neu ddilyn cymhwyster addysgu. Rydym yn argymell eich bod yn cysylltu â'ch darparwr TAR (tystysgrif addysg i raddedigion) lleol er mwyn cael gwybod am eu gofynion penodol o ran cynnwys y cwricwlwm cenedlaethol sy'n ofynnol ganddynt mewn gradd. Bydd hefyd yn ofynnol i chi gael TGAU mewn Mathemateg, Saesneg neu Gymraeg a Gwyddoniaeth neu gymhwyster cyfatebol cyn i chi ddod yn athro. </Paragraph>
<Box type="style2">
<Paragraph><CrossRef idref="feedback">ADBORTH</CrossRef></Paragraph>
</Box>
</InternalSection>
</Session>
<Session id="feedback">
<Paragraph>Yn olaf, a fyddech cystal â chwblhau ein harolwg diwedd cwrs byr? </Paragraph>
<Paragraph>Mae gennym ddiddordeb mawr mewn clywed gennych ac ni ddylai gymryd mwy na 10 munud i gwblhau'r arolwg hwn. </Paragraph>
</Session>
<Session>
<Paragraph>Ysgrifennwyd y cwrs hwn sydd am ddim gan Isobel Shelton a Sue McKeogh (tiwtoriaid staff yn Y Brifysgol Agored). Heblaw am ddeunyddiau gan drydydd partïon a deunyddiau a nodwyd fel arall (gweler y telerau ac amodau), mae'r cynnwys hwn ar gael o dan Drwydded ShareALike-Anfasnachol-Priodoliad Creative Commons 4.0. </Paragraph>
<Paragraph>Mae'r deunydd a gaiff ei gydnabod isod yn Berchenogol ac fe'i defnyddir dan drwydded (nid yw'n ddarostyngedig i Drwydded Creative Commons). Rydym yn ddiolchgar iawn i'r ffynonellau canlynol am roi caniatâd i ni atgynhyrchu deunydd yn y cwrs am ddim hwn. </Paragraph>
<Paragraph>Gwnaed pob ymdrech i gysylltu â pherchenogion hawlfreintiau. Os byddwn wedi hepgor unrhyw ffynonellau yn anfwriadol, bydd y cyhoeddwyr yn barod i wneud y trefniadau angenrheidiol ar y cyfle cyntaf. </Paragraph>
</Session>
</Unit>
</Item>