<?xml version="1.0" encoding="utf-8"?>
<Item xmlns:xsi="http://www.w3.org/2001/XMLSchema-instance" SchemaVersion="2.0" TextType="BodyMatter" id="X-LDTW_1" ACSPageNumber="1" ACSTemplate="Garamond_Crown_Quarto" ACSCourseItem="LDTW_1" LastRendering="LearningSpace" DiscussionAlias="Comment" SessionAlias="" SecondColour="None" ThirdColour="None" FourthColour="None" Logo="colour" xsi:noNamespaceSchemaLocation="http://www.open.edu/openlearn/ocw/mod/oucontent/schemas/v2_0/OUIntermediateSchema.xsd"><meta name="aaaf:olink_server" content="http://www.open.edu/openlearn/ocw"/><meta name="dc:issued" content="2011-01-04 15:39:36"/><CourseCode>LDTW_1</CourseCode><CourseTitle><font val="Arial">Darllen a wneud nodiadau (</font><font val="Arial">Reading</font><font val="Arial"> and taking notes)</font></CourseTitle><ItemID/><ItemTitle><font val="Arial">Darllen a wneud nodiadau (</font><font val="Arial">Reading</font><font val="Arial"> and taking notes)</font></ItemTitle><FrontMatter><Imprint><Standard><GeneralInfo><Paragraph>This e-book is taken from an Open University module, which
        was originally published as an open educational resource on the OpenLearn website [<a href="http://www.open.edu/openlearn">http://www.open.edu/openlearn/</a>]. This content may include video, images and interactive
        content that may not be optimised for your device. To view the original version of this
        content please go to OpenLearn – [<a href="http://www.open.edu/openlearn">http://www.open.edu/openlearn/</a>].</Paragraph><Paragraph>If reading this text has inspired you to learn more, you may
        be interested in joining the millions of people who discover our free learning
        resources and qualifications by visiting The Open University [<a href="http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content">http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content</a>].</Paragraph><Paragraph><b>Don't miss out:</b></Paragraph><Paragraph><b>1. Join over 200,000 students, </b>currently studying with The Open University [<a href="http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content">http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content</a>]</Paragraph><Paragraph><b>2. Enjoyed this? </b>Find out more about this topic or browse all our free course materials on OpenLearn [<a href="http://www.open.edu/openlearn">http://www.open.edu/openlearn/</a>]</Paragraph><Paragraph><b>3. Outside the UK? </b>We have students in over a hundred countries studying online qualifications [<a href="http://www.openuniversity.edu/">http://www.openuniversity.edu/</a>] including an MBA at our triple accredited Business School.</Paragraph></GeneralInfo><Copyright><Paragraph>Copyright © 2013 The Open University</Paragraph></Copyright><Rights><Paragraph>Except for third party materials and/or otherwise stated (see terms and conditions [<a href="http://www.open.ac.uk/conditions">http://www.open.ac.uk/conditions</a>]) the content in OpenLearn is released for use under the terms of the
                        Creative Commons Attribution-NonCommercial-Sharealike 2.0 licence [<a href="http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/uk/">http://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/uk/</a>].</Paragraph><Paragraph>In short this allows you to use the content throughout the world without payment
        for non-commercial purposes in accordance with the Creative Commons non commercial
        sharealike licence.  Please read this licence in full along with OpenLearn terms
        and conditions before making use of the content.</Paragraph><Paragraph>When using the content you must attribute us (The Open University) (the OU)
        and any identified author in accordance with the terms of the Creative Commons Licence.</Paragraph><Paragraph>The Acknowledgements section is used to list, amongst other things, third party
        (Proprietary), licensed content which is not subject to Creative Commons licensing.  Proprietary
        content must be used (retained) intact and in context to the content at all times.  The
        Acknowledgements section is also used to bring to your attention any other Special Restrictions
        which may apply to the content.  For example there may be times when the Creative Commons
        Non-Commercial Sharealike licence does not apply to any of the content even if owned by us (the
        OU).  In these stances, unless stated otherwise, the content may be used for personal and non-commercial
        use.  We have also identified as Proprietary other material included in the content which is not subject
        to Creative Commons Licence.  These are: OU logos, trading names and may extend to certain photographic and
        video images and sound recordings and any other material as may be brought to your attention.</Paragraph><Paragraph>Unauthorised use of any of the content may constitute a breach of the terms and conditions
        and/or intellectual property laws.</Paragraph><Paragraph>We reserve the right to alter, amend or bring to an end any terms and conditions provided
        here without notice.</Paragraph><Paragraph>All rights falling outside the terms of the Creative Commons licence are retained or controlled
        by The Open University.</Paragraph><Paragraph>Head of Intellectual Property, The Open University</Paragraph></Rights></Standard></Imprint></FrontMatter><Unit><UnitID>LDTW_1</UnitID><UnitTitle><font val="Arial">Darllen a wneud nodiadau (</font><font val="Arial">Reading</font><font val="Arial"> and taking notes)</font></UnitTitle><Introduction><Title>Introduction</Title><Paragraph>Mae darllen, gwrando a meddwl fel rhan o’ch astudiaeth gyda’r Brifysgol Agored yn aml yn mynd law yn llaw â gwneud nodiadau o ryw fath. Fe welwch fod sawl ffordd wahanol o ddarllen a sawl ffordd wahanol o wneud nodyn o rywbeth. Yn dibynnu ar eich sefyllfa, efallai y byddwch yn darllen yn fwy neu’n llai am rywbeth, neu efallai y byddwch yn canolbwyntio ar un adran benodol o lyfr. Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch yn gwneud nodiadau o gwbl.</Paragraph><Paragraph>Mae llawer o fyfyrwyr yn dweud bod natur yr hyn y maent yn ei ddarllen neu’r hyn y maent yn gwrando arno yn pennu’r math o nodiadau y maent yn eu gwneud. Er enghraifft, os ydych yn ceisio amlinellu cydberthnasau cymhleth, efallai mai dull gweledol o wneud nodiadau, megis map meddwl neu ddiagram systemau, yw’r fforddorau o wneud hynny.<SideNote><SideNoteParagraph>Efallai y byddwch yn gwneud nodiadau helaeth, yn nodi ond rhai geiriau yn unig, yn gwneud diagramau neu efallai na fyddwch o gwbl.</SideNoteParagraph></SideNote></Paragraph><Paragraph>Ar yr un pryd, efallai y gwelwch fod y modd rydych yn ymdrin â deunyddiau eich cwrs (boed yn llyfrau neu’n ddeunydd clyweledol) yn newid yn ôl yr hyn y mae angen i chi ei gyflawni ar yr adeg honno yn eich cwrs. Er enghraifft, os ydych am gasglu tystiolaeth o sawl ffynhonnell wahanol, efallai na fyddwch yn darllen yr holl ffynonellau hynny yn fanwl ond yn bwrw golwg yn fras drostynt am y rhannau perthnasol. Fodd bynnag, os oes angen i chi ddeall dadl gymhleth y mae un awdur penodol yn ei gwneud, efallai y bydd angen i chi ganolbwyntio’n astud ar y testun hwnnw.</Paragraph><Paragraph>Ceisiwch fod yn hyblyg yn eich techneg astudio a byddwch yn ymwybodol o’ch diben pryd bynnag y byddwch yn paratoi i ddarllen, gwylio neu wrando ar unrhyw beth ar gyfer eich cwrs. Fe ddewch ar draws technegau gwahanol yn y llyfryn hwn. Rhowch gynnig ar rai ohonynt. Ni fydd pob un ohonynt at eich dant ond efallai y bydd ambell un yn ddefnyddiol i chi yn eich astudiaethau.</Paragraph></Introduction><LearningOutcomes><Paragraph>Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, byddwch:</Paragraph><LearningOutcome>wedi datblygu eich sgiliau darllen a gwrando a bydd gennych ddealltwriaeth o wrando'n astud a darllen yn feirniadol</LearningOutcome><LearningOutcome>wedi dysgu technegau er mwyn darllen yn gyflymach</LearningOutcome><LearningOutcome>yn deall sut i werthuso deunydd ar-lein</LearningOutcome><LearningOutcome>yn deall pwysigrwydd gwneud nodiadau da</LearningOutcome><LearningOutcome>wedi dysgu sut i wneud nodiadau a'u rhoi mewn trefn</LearningOutcome><LearningOutcome>yn gwybod sut i wneud nodiadau o ddeunydd sain</LearningOutcome><LearningOutcome>yn gwybod sut i wneud nodiadau ar fformiwlâu a datrys problemau</LearningOutcome><LearningOutcome>wedi dysgu dulliau er mwyn rhannu eich nodiadau.</LearningOutcome></LearningOutcomes><Session id="sess002"><Title>1 Darllen a gwrando</Title><Paragraph>Mae darllen a gwrando ar ddeunydd academaidd yn wahanol iawn i ddarllen a gwrando er mwyn pleser. Mae’n gofyn i chi feddwl o ddifrif am y deunydd. Ar gyfer rhai pynciau, efallai y bydd angen i chi ddadansoddi a beirniadu rhywbeth, yn hytrach na’i dderbyn fel ‘y gwirionedd’ yn unig.</Paragraph><Paragraph>Efallai y bydd rhywfaint o’r hyn y byddwch yn ei ddarllen ac yn gwrando arno yn eiriog iawn ac yn ymdrin â chysyniadau neu ddamcaniaethau cymhleth. Efallai y gwelwch hefyd fod llawer iawn o ddeunydd a bydd angen i chi ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi â hynny.</Paragraph><Quote><Paragraph>‘Roedd llewyrch y dudalen wen yn straen go iawn. Roedd defnyddio darn o blastig tryloyw lliw yn helpu fy llygaid.’</Paragraph></Quote><Paragraph>Ceisiwch fabwysiadu ymagwedd hyblyg tuag at eich strategaethau darllen a byddwch yn ymwybodol o’ch diben wrth i chi astudio. Bydd angen i chi dreulio mwy o amser ar rai deunyddiau darllen a gwrando nag eraill.</Paragraph><Paragraph>Gall adegau godi pan fydd yn rhaid i chi gydnabod na allwch ymdrin â phopeth. Os digwydd hyn, peidiwch â mynd i banig! Ceisiwch ddod i benderfyniad ar yr hyn y byddwch yn ei ddarllen ac yn gwrando arno a faint o amser y byddwch <i>yn</i> ei dreulio arno. Bydd siarad â’ch tiwtor, eich cynghorydd astudio neu ganolfan ranbarthol y Brifysgol Agored yn eich helpu i ddatblygu strategaeth ar gyfer ymdopi â’r gwaith y mae’n rhaid i chi ei wneud.</Paragraph><Paragraph>Ewch i <a href="http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/">http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/</a> i gael cyngor defnyddiol ar strategaethau a thechnegau darllen.</Paragraph><Section id="sec002_001"><Title>1.1 Eich strategaeth</Title><Paragraph>Byddwch yn synnu efallai faint o ddeunydd y bydd angen i chi ei ddarllen a’i wylio ar eich cwrs. Meddyliwch am eich diben a pha strategaeth y byddwch yn ei defnyddio pryd bynnag y byddwch yn darllen rhywbeth. Os ydych yn brysur, efallai y bydd angen i chi fabwysiadu techneg darllen cyflym er mwyn dod o hyd i ddeunydd perthnasol. Fodd bynnag, os bydd angen i chi ddarllen rhywbeth yn fanwl, dylech fod yn barod i arafu a defnyddio dulliau darllen beirniadol.</Paragraph><Paragraph>Edrychwch ar ddeunyddiau eich cwrs i ddod o hyd i’r canlyniadau dysgu ar gyfer eich cwrs neu i ddod o hyd i’r bloc penodol rydych yn ei astudio a defnyddiwch y rhain fel canolbwynt eich strategaeth. Efallai y gwelwch hefyd nad oes angen i chi edrych ar yr holl ddeunyddiau a gewch.<SideNote><SideNoteParagraph>Defnyddiwch eich canlyniadau dysgu ar gyfer eich cwrs i canolbwyntio ar eich strategaeth</SideNoteParagraph></SideNote></Paragraph><Paragraph>Edrychwch ar ganllaw eich cwrs i weld a yw rhai ohonynt yn ddewisol.</Paragraph><SubSection id="sec002_001_001"><Title>1.1.1 Ymagweddau mewn Camau</Title><Paragraph>Pan fydd yn rhaid i chi ddeall y wybodaeth yn wirioneddol neu pan fyddwch yn ei chael hi’n anodd deall y cynnwys, gallai mabwysiadu ymagwedd ‘mewn camau’ tuag at eich darllen helpu. Mae SQ3R yn un ymagwedd mewn camau o’r fath - ymagwedd pum cam tuag at ddarllen yn fwy effeithiol (gweler Ffigur 1). Er na fyddwch bob amser am fabwysiadu SQ3R yn llawn, efallai y bydd rhai o’r camau yn ddefnyddiol i chi. Y camau yw: bwrw golwg dros y gwaith, cwestiynu, darllen, dwyn i gof, adolygu.</Paragraph><NumberedList class="decimal"><ListItem>Bwrw golwg dros y testun - cyn i chi ddechrau, edrychwch ar strwythur y deunydd (a oes penawdau, diagramau, tablau a allai fod yn ddefnyddiol i chi?)</ListItem><ListItem>Cwestiynu - ceisiwch gwestiynu am beth y mae’r deunydd yn sôn. Gofynnwch i chi’ch hun: Pwy? Beth? Ble? Pryd? Pam? Sut? Os bydd eich cwrs yn rhoi cwestiynau i chi eu hystyried wrth ddarllen neu wrando ar y deunydd, cadwch hwy wrth law.</ListItem><ListItem>Darllen (neu wrando) - ceisiwch ddarllen a gwrando mewn ffordd hamddenol ond penodol. Peidiwch â gwneud nodiadau os bydd yn amharu ar eich dealltwriaeth.</ListItem><ListItem>Dwyn i gof - profwch eich cof o’r hyn rydych newydd ei ddarllen neu wrando arno. Nodwch ar bapur yr hyn y gallwch ei gofio heb edrych ar y testun.</ListItem><ListItem>Adolygu - ewch yn ôl i’r testun a’i ddarllen eto, gan wneud nodiadau cryno y tro hwn. Dychmygwch sut y gallech egluro beth rydych wedi ei ddarllen i rywun arall.</ListItem></NumberedList><Figure id="fig001"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig001.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_fig001.jpg" x_imagewidth="511" x_imageheight="287"/><Caption>Ffigur 1 Techneg SQ3R. Un ffordd o sicrhau eich bod yn darllen deunyddiau eich cwrs yn effeithiol</Caption></Figure><Paragraph>Gall y dechneg ‘aros-adolygu’ eich helpu hefyd wrth ddarllen. Mae hyn yn golygu cyfnodau byr o ddarllen a defnyddio cwestiynau i adolygu’r hyn rydych newydd ei ddarllen. Gallwch naill ai ddefnyddio’r cwestiynau a restrir isod neu ysgrifennu eich cwestiynau chi eich hun sy’n fwy priodol.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Beth yw’r prif syniad(au)?</ListItem><ListItem>Faint sydd angen i chi ei gofio?</ListItem><ListItem>Faint o fanylion sydd angen i chi eu nodi?</ListItem><ListItem>A oes gennych farn ar yr hyn sy’n cael ei ddweud? (… os yw’n briodol cael barn.)</ListItem><ListItem>Sut y byddech yn egluro yn eich nodiadau beth yw eich barn chi eich hun?</ListItem></BulletedList><Paragraph>Ar ôl ychydig o baragraffau defnyddiwch eich cwestiynau i’ch tywys wrth i chi wneud nodiadau. Yna parhewch i ddarllen gan ddefnyddio’r un dechneg.</Paragraph></SubSection></Section><Section id="sec002_002"><Title>1.2 Darllen gweithredol</Title><Paragraph>Llunnir deunyddiau cyrsiau’r Brifysgol Agored i’ch annog i ddarllen yn weithredol. Er enghraifft, mae gan lawer o destunau ganlyniadau dysgu ar gyfer pob pennod neu adran. Cadwch y canlyniadau hyn mewn cof wrth i chi ddarllen, a chymerwch eich amser i’w hadolygu unwaith y byddwch wedi gorffen astudio’r deunydd. Yn aml mae asesiad ynghlwm wrth ganlyniadau dysgu.</Paragraph><Quote><Paragraph>'Doeddwn i ddim fel petawn i’n gallu gwneud synnwyr o’r geiriau. Mae’n <font val="Times"><i><sub>‘</sub></i></font>rhaid fy mod i wedi darllen yr un darn sawl gwaith.'</Paragraph></Quote><Paragraph>Yn aml mae llyfrau cyrsiau yn ymgorffori cwestiynau hunanasesu sy’n eich annog i fyfyrio ar yr hyn rydych newydd ei ddarllen. Yn yr un modd, llunnir y deunyddiau clyweledol i roi eich gallu i feirniadu ar waith wrth i chi wylio a gwrando.</Paragraph><Paragraph>Ceisiwch ymddiddori mewn popeth rydych yn ei ddarllen ac yn gwrando arno. Mae’n rhy hawdd gwrando ar rywbeth neu ei ddarllen mewn modd goddefol a sylweddoli wedyn nad ydych yn ei gofio. Mae sawl strategaeth amrywiol ar gyfer sicrhau eich bod yn canolbwyntio. Un ohonynt yw meddwl am un nod penodol wrth ddarllen, er enghraifft, ‘Dwi am ddysgu sut y caiff y ddamcaniaeth hon ei thrin gan y person hwn’ (gweler <CrossRef idref="sec002_001">Adran 1.1</CrossRef>, Eich strategaeth). Un arall yw ceisio cymhwyso’r hyn rydych yn ei ddarllen at bethau sydd eisoes yn gyfarwydd i chi, naill ai o rannau cynharach o’ch cwrs neu o’ch bywyd, er mwyn deall y mater yn well.<SideNote><SideNoteParagraph>Ceisiwch ymddiddori mewn popeth rydych yn ei ddarllen ac yn gwrando arno.</SideNoteParagraph></SideNote></Paragraph><Paragraph>Yn anad dim dylech anelu at allu deall y deunydd rydych yn ei ddarllen.</Paragraph></Section><Section id="sec002_003"><Title>1.3 Darllen yn feirniadol</Title><Paragraph>Bydd eich cwrs yn cynnwys amrywiaeth o ddeunydd o ffynonellau gwahanol. Ceisiwch ymdrin â’r cyfan gyda gwrthrychedd sy’n caniatáu i chi wahanu dadleuon wedi eu hategu’n dda oddi wrth farn ddi-sail. Efallai y bydd angen i chi feirniadu rhywfaint o’r deunydd a gewch. Bydd dysgu darllen pethau yn feirniadol hefyd yn eich helpu i fyfyrio ar sut y gallech gynhyrchu eich dadleuon eich hun sydd wedi eu hategu’n dda.</Paragraph><Paragraph><SideNote><SideNoteParagraph><InlineFigure><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_figu001.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_figu001.jpg" x_imagewidth="150" x_imageheight="138"/></InlineFigure></SideNoteParagraph></SideNote></Paragraph><Quote><Paragraph>'Canolbwyntiais mor galed ar ddarllen fel bod fy holl ymdrech fel <font val="Times"><i><sub>‘</sub></i></font>petai ar ‘ganolbwyntio’ ac nid ar feddwl na dehongli’r hyn roeddwn i’n ei ddarllen.'</Paragraph></Quote><Paragraph>Gall nodau’r testun a’r hyn y mae’n gobeithio ei gadarnhau gael eu nodi hawsaf yn aml ar ddechrau’r darn ac ar ei ddiwedd. Gallech hefyd geisio darllen clawr cefn llyfr neu’r dudalen gydnabyddiaeth: gallai’r rhain roi rhywfaint o gefndir i chi am yr awdur.</Paragraph><Paragraph>Defnyddiwch gwestiynau i’ch helpu i archwilio deunydd yn feirniadol. Mae’r dull hwn yn arbennig o werthfawr ar gyfer deunydd nad yw wedi cael ei adolygu gan gymheiriaid (nad yw wedi cael ei roi gerbron panel golygyddol o arbenigwyr cyn iddo gael ei gyhoeddi). Gallwch ddefnyddio’r cwestiynau beirniadol hyn ar erthyglau papur newydd, ffynonellau’r rhyngrwyd a llyfrau. Fodd bynnag, maent hefyd yn ddefnyddiol wrth ddarllen deunyddiau a adolygwyd gan gymheiriaid, fel deunyddiau eich cwrs ac erthyglau cyfnodolion.<SideNote><SideNoteParagraph>Defnyddiwch gwestiynau i’ch helpu i archwilio deunydd yn feirniadol.</SideNoteParagraph></SideNote></Paragraph><Box id="box001"><Heading>Blwch 1 Rhai cwestiynau i’ch tywys wrth ddarllen</Heading><UnNumberedList><ListItem>Pwy sy’n siarad neu’n ysgrifennu?</ListItem><ListItem>Beth yw eu barn neu safbwynt?</ListItem><ListItem>Pa syniadau a gwybodaeth a gyflwynir a sut y’u cafwyd?</ListItem><ListItem>A oes honiadau di-sail? A ddarperir rhesymau neu dystiolaeth berthnasol?</ListItem><ListItem>A yw’r dull a ddefnyddir i ganfod y dystiolaeth yn gadarn? (e.e. o ran maint y sampl neu’r grŵp rheoli lle yr honnir arwyddocâd ystadegol)</ListItem><ListItem>A yw’r dystiolaeth yn gywir neu’n ddilys?</ListItem><ListItem>Pa honiadau a wnaed?</ListItem><ListItem>Beth yw ffaith a beth yw barn?</ListItem><ListItem>Beth yw’r gwerthoedd amhenodol a phenodol?</ListItem><ListItem>A oes unrhyw gyffredinoli afresymol?</ListItem><ListItem>Beth a hepgorwyd?</ListItem><ListItem>Sut y daethpwyd i’r casgliadau?</ListItem><ListItem>A yw’r casgliadau yn rhesymol?</ListItem><ListItem>Pa farn neu safbwyntiau eraill allai fod?</ListItem></UnNumberedList></Box></Section><Section id="sec002_004"><Title>1.4 Gwerthuso deunydd ar-lein</Title><Paragraph>Wrth werthuso deunydd y dewch o hyd iddo ar-lein, dylech ddefnyddio’r un dull beirniadol o gwestiynu ag y byddech ar gyfer deunydd papur. Bydd llawer o’r testunau ar-lein y byddwch yn edrych arnynt yn fersiynau electronig o gyfnodolion a llyfrau cyhoeddedig. Fodd bynnag, gall rhywfaint o ddeunydd ar-lein fod ar ffurf blogiau, wikis a gwefannau eraill, lle y cyflwynir gwybodaeth mewn ffordd wahanol ac efallai y bydd angen i chi chwilio ychydig yn galetach am dystiolaeth y gall wrthsefyll prosesau craffu beirniadol.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Dadansoddi wrth i chi ddarllen - a yw’r dadleuon yn gadarn?/yn ategu ei gilydd? A yw’r ffeithiau’n gyson â’i gilydd? Ceisiwch feddwl am y cynnwys yn y ffyrdd canlynol.</ListItem><ListItem>Perthnasedd - gallai diben y wefan fod yn wahanol iawn i’ch diben chi wrth astudio eich cwrs.</ListItem><ListItem>Gwrthrychedd - byddwch yn ymwybodol a yw’r awdur yn dadlau o blaid rhywbeth penodol. Ni fyddai rhagfarn wrth ysgrifennu o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid diystyru’r deunydd a’i hepgor o’ch astudiaethau, ond dylech ei amlygu a’i gydnabod wrth ddyfynnu neu aralleirio.</ListItem><ListItem>Tystiolaeth ategol - a yw honiadau yn seiliedig ar dystiolaeth y gellir ei holrhain i ffynhonnell ddibynadwy, neu ar wybodaeth y gwyddoch ei bod yn ddibynadwy? Ceisiwch beidio â chael eich dylanwadu gan esboniad tanbaid neu esboniad wedi ei eirio’n dda nad yw wedi ei ddadlau’n systematig nac wedi ei ategu gan dystiolaeth.</ListItem><ListItem>Dylanwadau eraill - a noddwyd y gwaith gan sefydliad a allai fod wedi dylanwadu ar ddehongliad y canlyniadau? Fel arall, efallai bod y wefan wedi ei noddi gan sefydliad ag enw da, a allai eich annog i fod yn fwy hyderus ynghylch y wybodaeth a welwch yno.</ListItem><ListItem>Tarddiad - o ble y daw’r wybodaeth? Edrychwch am dudalen ‘ynglŷn â’r wefan hon’ sy’n sôn wrthych am awduron y wefan a’u nodau. Edrychwch ar y cyfeiriad gwe: os yw’n gorffen gyda ‘.ac.uk’ mae’n perthyn i brifysgol yn y DU.</ListItem><ListItem>Amseroldeb - a yw’r wefan yn cael ei diweddaru’n gyson, neu a yw’n edrych fel petai’n cael ei hesgeuluso? Yn aml mae dyddiad hawlfraint a symbol rhywle ar y wefan sy’n nodi pryd y cafodd y deunydd ei gynhyrchu neu pryd y cafodd ei ddiweddaru ddiwethaf.</ListItem><ListItem>Dull - os ydych yn chwilio am adroddiad ymchwil, a yw’r dulliau a ddefnyddir ar gyfer casglu a dadansoddi data yn eglur?</ListItem></BulletedList><Paragraph>Ewch i lyfrgell electronig y Brifysgol Agored yn <a href="http://ltssolweb1.open.ac.uk/safari/signpost.htm">http://ltssolweb1.open.ac.uk/safari/signpost.htm</a> i weld rhagor am chwilio am wybodaeth a’i gwerthuso.</Paragraph></Section><Section id="sec002_005"><Title>1.5 Technegau darllen yn gyflym</Title><Paragraph><SideNote><SideNoteParagraph>Gall technegau darllen yn gyflym eich helpu i ddod o hyd i rannau defnyddiol y testun y mae angen i chi eu darllen.</SideNoteParagraph></SideNote>Gall adegau godi pan fydd angen i chi ddarllen llawer iawn o ddeunydd mewn cyfnod byr o amser. Gall technegau darllen yn gyflym (fel sganio a brasddarllen) eich helpu i ddod o hyd i rannau defnyddiol y testun y mae angen i chi eu darllen. Os ydych yn brasddarllen neu’n sganio rhywbeth ac yn penderfynu nad yw’n werth ei ddarllen yn fanwl, rydych wedi arbed rhywfaint o amser gwerthfawr i chi’ch hun. Fodd bynnag, os penderfynwch fod y deunydd yn ddefnyddiol, bydd angen i chi arafu a dechrau edrych ychydig yn fanylach ar y testun.</Paragraph><Paragraph>Er i’r ddwy dechneg gael eu disgrifio ar wahân yma, efallai y byddwch yn brasddarllen ac yn sganio darn yr un pryd.</Paragraph><SubSection id="sec002_005_001"><Title>1.5.1 Sganio</Title><Paragraph>Mae hyn yn ddefnyddiol pan fyddwch am ddethol rhywfaint o wybodaeth benodol yn gyflym o destun ond nad ydych am ddarllen y testun cyfan (gweler Ffigur 2). Mae sganio erthygl neu lyfr yn eich galluogi i ddethol geiriau neu ymadroddion heb orfod manylu ar ystyr ehangach y testun. Os ydych yn chwilio am rywbeth penodol, ceisiwch sganio’r dudalen am eiriau, ymadroddion neu acronymau penodol. Dylai’r geiriau hyn eich taro ar unwaith wrth i’ch llygad symud i lawr y dudalen.</Paragraph><Paragraph>Gallwch roi cynnig ar y dechneg hon hefyd ar y rhestr gynnwys, y mynegai neu’r rhestr darluniau i weld a yw geiriau allweddol yn ymddangos yno. Gallwch anwybyddu beth mae’r llyfr neu’r erthygl yn ceisio ei ddweud a chanolbwyntio’n syml ar y geiriau rydych am geisio dod o hyd iddynt.</Paragraph><Figure id="fig002"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig002.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_fig002.jpg" x_imagewidth="511" x_imageheight="225"/><Caption>Ffigur 2 Wrth i chi sganio’r testun bydd eich llygad yn taro ar rai geiriau ac ymadroddion penodol</Caption></Figure></SubSection><SubSection id="sec002_005_002"><Title>1.5.2 Brasddarllen</Title><Paragraph>Mewn cyferbyniad â hyn mae brasddarllen yn golygu darllen brawddegau yn gyflym i ddod o hyd i brif syniadau’r deunydd rydych yn ei ddarllen (gweler Ffigur 3). Nid yw’r math hwn o ddarllen yn golygu eich bod yn deall y deunydd rydych wedi ei ddarllen yn llwyr, ond mae’n eich helpu i ddeall y prif bwynt yn gyflym iawn. Nid oes rhaid i chi ddarllen pob gair. Gadewch i’ch llygaid frasddarllen y brawddegau ac fe welwch eich bod yn taro ar eiriau sy’n rhoi cliwiau i chi o ran yr hyn y bydd y testun yn ei ddweud nesaf.</Paragraph><Figure id="fig003"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig003.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_fig003.jpg" x_imagewidth="511" x_imageheight="364"/><Caption>Ffigur 3 Gadewch i’ch llygaid frasddarllen y testun yn gyflym fel bod hanfod y testun yn glir i chi</Caption></Figure><Paragraph>Gallwch gyfuno brasddarllen â sganio yn hawdd iawn. Felly, er enghraifft, efallai y byddwch yn dechrau sganio’r dudalen gynnwys mewn llyfr ar gyfer teitl pennod diddorol. Yna, ar ôl i chi ddod o hyd i bennod yr hoffech edrych arni, gallwch ddechrau brasddarllen y cyflwyniad neu’r casgliad i’r bennod.</Paragraph><Paragraph>Ceisiwch ddarllen y frawddeg gyntaf ym mhob paragraff. Yn aml bydd y frawddeg gyntaf yn paratoi’r cefndir ar gyfer gweddill y paragraff.</Paragraph><Box id="box002"><Heading>Blwch 2 Awgrymiadau eraill ar gyfer darllen yn gyflym</Heading><BulletedList><ListItem>Edrychwch ar y cyflwyniad: efallai y bydd yn rhoi trosolwg defnyddiol i chi o’r bennod neu’r erthygl.</ListItem><ListItem>Ewch yn syth i’r casgliad a darllenwch hwnnw’n gyflym.</ListItem><ListItem>Edrychwch ar y rhestr gynnwys i ganfod strwythur cyffredinol y llyfr.</ListItem><ListItem>Chwiliwch am eiriau cyfeirio (megis: yn y bôn, yn bwysicaf oll, i gloi) er mwyn helpu i nodi rhannau mwyaf perthnasol y testun.</ListItem></BulletedList></Box></SubSection></Section><Section id="sec002_006"><Title>1.6 Darllen deunydd cymhleth</Title><Paragraph>O bryd i’w gilydd byddwch yn dod ar draws deunydd cwrs sy’n gymhleth. Peidiwch â mynd i banig os bydd hyn yn digwydd. Dylid ond disgwyl ar lefel Prifysgol y byddwch, o bosibl, yn cael anhawster i ddeall rhywfaint o’r testun. Mae strategaethau y gallwch eu mabwysiadu i’ch helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon.<SideNote><SideNoteParagraph>Peidiwch â rhuthro’n syth i ddarllen y deunydd. Edrychwch yn gyflym drwy’r deunydd i gael syniad o strwythur y darn.</SideNoteParagraph></SideNote></Paragraph><BulletedList><ListItem>Peidiwch â rhuthro’n syth i ddarllen y deunydd a cheisio deall yr ystyr. Camwch yn ôl a gofynnwch ambell i gwestiwn syml yn gyntaf. Edrychwch yn gyflym drwy’r deunydd i gael syniad o strwythur y darn. A yw’r penawdau a’r is-benawdau yn nodi cyfeiriad y testun? A oes unrhyw grynodebau defnyddiol? A oes unrhyw ddarluniau sy’n helpu i egluro beth a olygir gan y testun, megis diagramau neu dablau?</ListItem><ListItem>Ceisiwch nodi’r anhawster drwy ddadansoddi’r hyn y mae’r testun yn ymdrin ag ef - er enghraifft, pa agwedd benodol ar bwnc y mae’n canolbwyntio arni a beth y mae wedi ei hepgor? Gallwch hefyd ddod o hyd i lyfr arall sy’n ymdrin â’r pwnc hwn a allai ei egluro mewn modd a fydd yn eich helpu i’w ddeall.</ListItem><ListItem>Defnyddiwch eiriadur cyffredinol da ac, os gallwch ddod o hyd i un, geiriadur arbenigol ar gyfer eich disgyblaeth. Mae rhai geiriaduron electronig defnyddiol ar gael o wefan llyfrgell arlein y Brifysgol Agored (http://library.open.ac.uk/). Mae geiriaduron arbenigol yn ymchwilio i eirfa eich pwnc ac yn canolbwyntio ar gysyniadau, damcaniaethau a phobl sy’n bwysig (er enghraifft, bydd gan eiriadur gwyddorau cymdeithasol gofnod ar Michel Foucault). Nid ydynt yn syml yn rhoi cyfystyron geiriau ond gallant ymchwilio i derm, ymadrodd neu gysyniad yn llawnach.<SideNote><SideNoteParagraph><InlineFigure><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_figu002.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_figu002.jpg" x_imagewidth="150" x_imageheight="224"/></InlineFigure></SideNoteParagraph></SideNote></ListItem><ListItem>Ysgrifennwch yr hyn rydych yn ei ddeall. Weithiau gall bwlch gael ei lenwi drwy gasglu ynghyd yr hyn rydych yn ei ddeall. Ceisiwch ddefnyddio’r dechneg ‘aros-adolygu’ o ddarllen (gweler <CrossRef idref="sec003_001">Adran 2.1</CrossRef>) lle y byddwch yn darllen cwpl o baragraffau ar y tro cyn stopio ac ysgrifennu nodiadau. Hyd yn oed os nad ydych yn siŵr eich bod yn deall y deunydd, mae ceisio ysgrifennu’r hyn y credwch y mae rhywun arall yn ceisio ei ddweud weithiau yn ffordd dda o ddeall dadl anodd.</ListItem><ListItem>Peidiwch ag ildio yn rhy fuan. Os cariwch ymlaen i ddarllen, efallai y dewch ar draws rhywbeth sy’n eich helpu i ddeall y testun cyffredinol. Efallai y bydd yn rhaid i chi dderbyn na allwch ddeall rhywbeth ar y pryd ond y gallwch ddychwelyd ato yn nes ymlaen, ar ôl i chi ddeall pynciau cysylltiedig.<SideNote><SideNoteParagraph>Os cariwch ymlaen i ddarllen, efallai y dewch ar draws rhywbeth sy’n eich helpu i ddeall y testun cyffredinol.</SideNoteParagraph></SideNote></ListItem><ListItem>Pan fydd popeth arall yn methu, cofiwch bob tro y gallwch ofyn i rywun am help: bydd myfyriwr arall neu eich tiwtor neu gynghorydd astudio yn ceisio ei egluro wrthych. Mae fforymau ar-lein yn aml yn ffordd ddefnyddiol o gael help ac efallai y gwelwch fod rhywun arall wedi codi’r cwestiwn yno o’r blaen.<SideNote><SideNoteParagraph>Mae fforymau arlein yn aml yn ffordd ddefnyddiol o gael help</SideNoteParagraph></SideNote></ListItem></BulletedList></Section></Session><Session id="sess003"><Title>2 Pam gwneud nodiadau?</Title><Paragraph>Gall gwneud nodiadau gyfrannu at y broses o ddarllen yn weithredol ac, felly, eich helpu i ganolbwyntio ar y pwnc rydych yn ei astudio. Os ydych yn ddetholus o ran y technegau a ddefnyddiwch ar gyfer gwneud nodiadau gallwch eu teilwra at ddibenion penodol - er enghraifft, i gasglu ynghyd ddeunydd o’r cwrs yn gyffredinol a fydd yn ddefnyddiol pan ddaw yn adeg adolygu ar gyfer arholiad neu waith ar aseiniad.</Paragraph><Section id="sec003_001"><Title>2.1 Datblygu arferion da</Title><Paragraph>Ceisiwch ddatblygu arferion da o ran gwneud nodiadau o ddechrau eich astudiaethau.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Ysgrifennwch eich nodiadau yn eich geiriau eich hun bob amser. Peidiwch â chopïo’r union eiriau rydych yn eu darllen. Drwy drosi’r hyn rydych yn ei ddarllen i’ch geiriau chi eich hun bydd gennych gyfle gwell o ddeall yn iawn yr hyn y mae’n ei ddweud: rydych yn mewnoli ystyr y deunydd.<SideNote><SideNoteParagraph>Ysgrifennwch eich nodiadau yn eich geiriau eich hun bob amser.</SideNoteParagraph></SideNote></ListItem><ListItem>Byddwch yn ymwybodol o’r risgiau o lên-ladrad. Os ydych yn copïo deunydd air am air, yn hytrach na defnyddio eich geiriau chi eich hun, gwnewch yn siŵr eich bod yn nodi’r ffynhonnell fel y gallwch gydnabod o ble y daw os byddwch yn ei ddyfynnu mewn aseiniad. Mae cael gafael ar ddeunydd darllen ar-lein yn ei gwneud yn hawdd iawn i chi amlygu a chopïo blociau o destun i mewn i’ch dogfennau ac yna anghofio nad eich gwaith chi ydyw. Pan fyddwch yn cyflwyno aseiniadau, bydd disgwyl i chi gadarnhau mai eich gwaith chi yw’r cyfan.</ListItem><ListItem>Nodwch o ble y daeth y syniadau yn eich nodiadau: y llyfr neu’r bennod, y dudalen, teitl y cyfnodolyn, teitl yr erthygl, neu beth bynnag sy’n briodol. Os ydych wedi nodi dyfyniad uniongyrchol gan rywun, cofiwch roi rhif y dudalen bob tro o ble y daeth y dyfyniad, neu byddwch yn treulio amser yn chwilio amdano eto yn nes ymlaen. Os ydych yn gwneud nodiadau o wefan neu flog, gwnewch nodyn o gyfeiriad y wefan, enw’r wefan a’r dyddiad y gwnaethoch fynd arni. Mae disgwyl i chi greu rhestr gyfeirnod o’ch ffynonellau ar ddiwedd eich aseiniadau.<SideNote><SideNoteParagraph>Nodwch o ble y daeth y syniadau yn eich nodiadau.</SideNoteParagraph></SideNote></ListItem><ListItem>Pan ddewch o hyd i ddyfyniad perffaith, gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi dyfynodau amlwg o amgylch y geiriau yn eich nodiadau (pan ddychwelwch at eich nodiadau fisoedd yn ddiweddarach o bosibl, byddwch wedi anghofio ai chi neu rywun arall a ysgrifennodd y geiriau oni fyddwch wedi gwneud hynny’n amlwg drwy roi dyfynodau).</ListItem></BulletedList></Section><Section id="sec003_002"><Title>2.2 Eich strategaeth ar gyfer gwneud nodiadau</Title><Paragraph>Nid oes un ffordd gywir o wneud nodiadau. Mae sefyllfaoedd gwahanol yn galw am ddulliau gwahanol felly cofiwch bob amser beth yw diben eich darllen a’ch gwrando. Weithiau efallai y bydd angen i chi wneud nodiadau cynhwysfawr o destun llawn. Ar adegau eraill efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen mwy nag ychydig o nodiadau prin a dyfyniad penodol. Weithiau efallai y byddwch yn teimlo nad oes angen i chi wneud mwy nag ysgrifennu rhai nodiadau ymylol yn y llyfr cwrs ei hun (techneg ddefnyddiol iawn).</Paragraph><Quote><Paragraph>‘Dim ond pan oedd yn rhaid i mi fynd ati i ateb cwestiwn y traethawd y sylweddolais i nad oeddwn i wedi cael digon o’m darllen, er gwaetha fy holl nodiadau.’</Paragraph></Quote><Paragraph>Felly meddyliwch am y deunydd wrth ddewis pa fath o nodiadau i’w gwneud. Er enghraifft, efallai mai techneg weledol, fel map meddwl neu fap systemau, fyddai orau i’ch helpu i gynrychioli cydberthnasau cymhleth, ond nodiadau wedi’u tablu fyddai orau i’ch helpu i wneud cymhariaeth uniongyrchol o ddamcaniaethau gwahanol. Ond yn bwysicaf oll, dylech bob amser feddwl am eich diben.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Ar gyfer beth y mae’r nodiadau? A fwriedir iddynt grynhoi ystod eang o ddeunyddiau cwrs allweddol? Gellid eu defnyddio i’ch paratoi ar gyfer aseiniad, neu efallai y byddech yn ailwampio hen nodiadau, hirach, i greu nodiadau mwy cryno ar gyfer arholiad.</ListItem><ListItem>O ba fath o ddeunydd rydych yn gwneud nodiadau? A yw’n bennod sy’n cynnwys trosolwg sy’n galw am nodiadau manwl, neu’n bennod nad oes angen ond darnau bach o wybodaeth arnoch ohoni? Efallai y byddai angen i chi sganio’r erthygl neu’r bennod cyn penderfynu gwneud unrhyw nodiadau.</ListItem></BulletedList></Section><Section id="sec003_003"><Title>2.3 Trefnwch eich nodiadau</Title><Paragraph><SideNote><SideNoteParagraph>Dewch o hyd i ffordd o gadw trefn ar eich papurau gyda labeli ystyrlon, categorïau a ddyfeisiwyd a codau lliw.</SideNoteParagraph></SideNote>Pan fyddwch wedi dechrau gwneud nodiadau, fe welwch eu bod yn ehangu’n gyflym a bydd angen i chi ddod o hyd i ffordd o’u trefnu fel y gallwch ddod o hyd i bethau yn ddiweddarach. Mae rhai ffactorau sy’n gyffredin i nodiadau wedi’u trefnu’n dda: labeli ystyrlon, categorïau a ddyfeisiwyd yn dda, codau lliw.</Paragraph><SubSection id="sec003_003_001"><Title>2.3.1 Ffeilio nodiadau papur</Title><Paragraph>Os ydych yn ysgrifennu eich nodiadau â llaw, dewch o hyd i ffordd o gadw trefn ar eich papurau. Mae rhai myfyrwyr yn hoffi defnyddio ffeil ‘lever-arch’, rhwymydd modrwyog neu ffeil gonsertina. Casglwch ynghyd bethau defnyddiol fel labeli gludiog a ffolderi plastig.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Os defnyddiwch ffeil ‘lever-arch’ gallwch ddefnyddio dalennau rhannu i ddosbarthu eich nodiadau. Ceisiwch eu labelu a rhestrwch y penawdau mewn mynegai yn y blaen.</ListItem><ListItem>Os defnyddiwch ffeil gonsertina defnyddiwch labeli gludiog i gategoreiddio pob rhan.</ListItem><ListItem>Gall greu codau lliw drwy ddefnyddio aroleuwyr neu labeli gludiog eich helpu i ddod o hyd i bethau yn gyflym. Er enghraifft, gallech ddefnyddio gwyrdd ar gyfer deunydd ar ddamcaniaethau, melyn ar gyfer astudiaethau achos a choch ar gyfer enwau awduron allweddol yn eich maes.</ListItem></BulletedList></SubSection><SubSection id="sec003_003_002"><Title>2.3.2 Trefnu ffeiliau cyfrifiadurol</Title><Paragraph><SideNote><SideNoteParagraph>Defnyddiwch dyfais storio gludadwy fel gyriant pen i gario eich ffeiliau o amgylch gyda chi ble bynnag yr ewch.</SideNoteParagraph></SideNote>Meddyliwch am y ffordd orau o drefnu’r dogfennau a’r ffeiliau rydych yn eu creu ar y cyfrifiadur. Gwnewch yn siŵr eich bod yn creu strwythur ffolderi gyda labeli ystyrlon.</Paragraph><Paragraph>Os byddwch yn colli ffeil ar eich cyfrifiadur, teipiwch ei henw i mewn i Windows Explorer i chwilio amdani. Mae rhai cymwysiadau defnyddiol am ddim ar gael hefyd ar y rhyngrwyd (er enghraifft, Google Desktop a Yahoo) a fydd yn mynegeio eich ffeiliau ac yn eich galluogi i chwilio pob ffeil ar eich cyfrifiadur.</Paragraph><Paragraph>Gall dyfais storio gludadwy fel gyriant pen (disg fflach neu gofbin), fod yn ddefnyddiol iawn os ydych yn gweithio ar fwy nag un cyfrifiadur, fel y gallwch gario eich ffeiliau o amgylch gyda chi ble bynnag yr ewch. Byddwch yn ofalus sut rydych yn enwi eich ffeil bob tro rydych yn ei chadw fel nad ydych yn anghofio pa un yw’r un fwyaf diweddaraf.</Paragraph><Paragraph>Gwnewch yn siŵr bod gennych system i gadw eich ffeiliau cyfrifiadurol wrth gefn. Defnyddiwch CD, gyriant caled ar wahân neu ddyfais storio arall i gadw’r fersiwn ddiweddaraf o’ch ffeiliau.</Paragraph><Paragraph>Ewch i <a href="http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/">http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/</a> i ganfod mwy am ddefnyddio eich cyfrifiadur neu i drefnu eich ffolderi a’ch ffeiliau.</Paragraph></SubSection></Section><Section id="sec003_004"><Title>2.4 Technegau ar gyfer gwneud nodiadau</Title><Paragraph>Mae sawl ffordd o wneud nodiadau, er enghraifft:</Paragraph><BulletedList><ListItem>Nodiadau ar sail testun: ysgrifennu nodiadau yn eich llyfrau cwrs, creu tablau gyda nodiadau ynddynt, creu cardiau crynhoi.</ListItem><ListItem>Nodiadau gweledol: tynnu lluniau o fapiau meddwl, mapiau systemau, diagramau llinell neu ddefnyddio aroleuwyr a darnau papur gludiog lliw i greu cod lliwiau ar y nodiadau sydd gennych eisoes.</ListItem><ListItem>Nodiadau sain: defnyddio cyfrifiadur neu recordydd digidol i greu sain y gallwch wrando arno yn ddiweddarach.</ListItem></BulletedList><Paragraph>Gallwch hefyd gyfuno’r arferion gwahanol hyn a chreu nodiadau pwerus iawn. Mae rhagor o wybodaeth am y technegau hyn isod. Mae gan bob un ei chryfderau a’i gwendidau. Gall rhai apelio atoch yn fwy nag eraill, ond rhowch gynnig ar rai technegau gwahanol i weld pryd maent yn gweithio orau i chi.</Paragraph><Paragraph>Os yw’n well gennych wneud nodiadau ar eich cyfrifiadur yn hytrach na gyda llaw, gallwch ddod o hyd i becynnau meddalwedd am ddim ar-lein. Maent yn amrywio o gardiau mynegai electronig a meddalwedd mapio meddwl i wefannau lle y gallwch storio eich dogfennau.</Paragraph><Paragraph>Ewch i <a href="http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/">http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/</a> i ddysgu mwy am dechnegau ar gyfer gwneud nodiadau.</Paragraph><SubSection id="sec003_004_001"><Title>2.4.1 Aroleuo, anodi a darnau papur lliw</Title><Paragraph>Er y byddai rhai yn credu bod y syniad o ysgrifennu yn eu llyfrau testun yn anodd ar y dechrau, mae llawer o fyfyrwyr yn credu ei fod yn dechneg ddefnyddiol, a dylunnir llawer o destunau’r Brifysgol Agored gydag ymyl llydan i fyfyrwyr at y diben hwn.</Paragraph><Paragraph>Mae defnyddio’r lle cyfyngedig ar ymylon eich llyfrau cwrs yn eich annog i brosesu’r cysyniadau, y damcaniaethau neu’r prosesau rydych yn darllen amdanynt a’u haileirio fel crynodeb byr (gweler Ffigur 4). Mae gallu aralleirio yn gryno ac yn gywir yn ddawn ysgrifennu bwysig a fydd yn fanteisiol i chi ar gyfer aseiniadau ac arholiadau.</Paragraph><Paragraph>Mae’r agwedd weledol ar ysgrifennu yn eich llyfrau cwrs ac aroleuo yn bwysig ac fe fydd yn haws o lawer i chi sganio’r deunydd pan fyddwch yn dychwelyd ato yn nes ymlaen. Mae defnyddio aroleuwyr yn gwella’r effaith weledol a gall fod yn ddefnyddiol hefyd i roi cod lliw gwahanol i rannau gwahanol o’r testun. Fodd bynnag, peidiwch â gorliwio, oherwydd gall gormod o aroleuo eich drysu a gall awgrymu nad ydych yn astudio’r testun i bob pwrpas.</Paragraph><Paragraph>Gallwch hefyd ysgrifennu nodiadau ar ddarnau papur gludiog lliw a’u defnyddio fel dalen-nodau, neu eu rhoi ar wal eich ardal astudio.</Paragraph><Figure id="fig004"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig004.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="true" x_imagesrc="ldtw_1_fig004.jpg" x_imagewidth="740" x_imageheight="976" x_smallsrc="ldtw_1_fig004.small.jpg" x_smallfullsrc="\\DCTM_FSS\content\Teaching and curriculum\Modules\Shared Resources\OpenLearn\LDTW_1\0.9\ldtw_1_fig004.small.jpg" x_smallwidth="511" x_smallheight="674"/><Caption>Ffigur 4 Defnyddio ymyl eich llyfrau cwrs i ysgrifennu nodiadau</Caption></Figure><Figure id="fig005"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig005.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_fig005.jpg" x_imagewidth="511" x_imageheight="387"/><Caption>Ffigur 5 Gall nodiadau wedi’u gwneud eich helpu i lunio’r cydberthnasau rhwng pethau fel damcaniaethau, cysyniadau neu awduron</Caption></Figure></SubSection><SubSection id="sec003_004_002"><Title>2.4.2 Tablau, geirfaoedd a rhestri</Title><Paragraph>Gall creu tablau, naill ai ar bapur neu ar y cyfrifiadur, eich helpu i roi trefn ar gydberthnasau rhwng cysyniadau, awduron pwysig, prosesau a phethau eraill. Er enghraifft, gallai tabl eich helpu i gymharu’r agweddau gwahanol ar dair damcaniaeth gyferbyniol (gweler <CrossRef idref="fig005">Ffigur 5</CrossRef>).</Paragraph><Paragraph>Gallech ychwanegu saethau a thynnu lluniau i ddangos cydberthnasau neu gryfderau neu wendidau.</Paragraph><Paragraph>Gall gwneud rhestri o dan benawdau eich helpu i osod eich nodiadau mewn grwpiau, ac mae geirfaoedd yn nhrefn yr wyddor yn ffordd wych o ddod o hyd i unrhyw derminoleg arbenigol ar gyfer eich cwrs.</Paragraph><Figure id="fig006"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig006.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_fig006.jpg" x_imagewidth="511" x_imageheight="470"/><Caption>Ffigur 6 Diagram llinell o gylchred fetabolaidd Krebs</Caption></Figure></SubSection><SubSection id="sec003_004_003"><Title>2.4.3 Diagramau llinell</Title><Paragraph>Mae diagramau llinell (fel diagramau llif) yn ddefnyddiol iawn ar gyfer cynrychioli dilyniannau rhesymegol yn weledol, fel camau mewn proses, neu ar gyfer cydberthnasau cymhleth. Er enghraifft, gallai myfyrwyr bioleg ddefnyddio diagram llinell i nodi camau gwahanol cylchred fetabolaidd Krebs (gweler <CrossRef idref="fig006">Ffigur 6</CrossRef>).</Paragraph><Paragraph>Cadwch nifer y geiriau i isafswm er mwyn ceisio manteisio i’r eithaf ar gryfder gweledol y diagram - defnyddio geiriau neu ymadroddion sbarduno yn hytrach na brawddegau llawn. Gallwch ychwanegu nodiadau hirach o dan y diagram i ategu eich dealltwriaeth. Gallech hefyd ddefnyddio aroleuwyr lliw ar y nodiadau hyn.</Paragraph></SubSection><SubSection id="sec003_004_004"><Title>2.4.4 Mapiau meddwl</Title><Paragraph>Mae mapiau meddwl yn ddull gweledol arall o wneud nodiadau, a elwir hefyd yn nodiadau chwistrellu, mapiau cysyniadau neu nodiadau patrymog. Maent yn dangos sut mae agweddau gwahanol ar bwnc yn ymwneud â’i gilydd. Mae diagramau llinell yn defnyddio saethau i ddangos dilyniant neu broses ond mae mapiau meddwl fel o gwrs ail lefel y Brifysgol Agored, Bioleg Ddynol (SK277) ciplun o’r berthynas gymhleth yn aml rhwng cysyniadau a syniadau (gweler <CrossRef idref="fig007">Ffigur 7</CrossRef>).</Paragraph><Figure id="fig007"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig007.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="true" x_imagesrc="ldtw_1_fig007.jpg" x_imagewidth="740" x_imageheight="537" x_smallsrc="ldtw_1_fig007.small.jpg" x_smallfullsrc="\\DCTM_FSS\content\Teaching and curriculum\Modules\Shared Resources\OpenLearn\LDTW_1\0.9\ldtw_1_fig007.small.jpg" x_smallwidth="511" x_smallheight="371"/><Caption>Ffigur 7 Mae’r map meddwl hwn yn crynhoi disgrifiad hir o broteinau</Caption></Figure><Paragraph>Fel gyda diagramau llinell, dylech ddefnyddio geiriau neu ymadroddion byr yn eich map meddwl yn hytrach na brawddegau, a gallwch ychwanegu lliw a symbolau.</Paragraph><Paragraph>Mae mapiau meddwl electronig am ddim ar gael i’w lawrlwytho o’r we. Maent yn hawdd ac yn gyflym i’w defnyddio a gellir eu defnyddio i gynhyrchu nodiadau astudio effeithiol iawn.</Paragraph></SubSection><SubSection id="sec003_004_005"><Title>2.4.5 Mapiau systemau</Title><Paragraph>Yn debyg i fapiau meddwl, gall mapiau systemau ddal ciplun o gydberthynas gymhleth. Maent yn arbennig o dda am ddangos cydberthnasau sy’n gorgyffwrdd rhwng cydrannau gwahanol y map (gweler <CrossRef idref="fig008">Ffigur 8</CrossRef> drosodd). Gall y broses o dynnu llun o fap systemau eich helpu i feddwl drwy strwythur pwnc a’r hyn sy’n gyffredin rhwng elfennau gwahanol a’r gydberthynas rhyngddynt. Gellir defnyddio llinellau toredig i ddangos ffiniau amhenodol rhwng is-systemau.</Paragraph><Figure id="fig008"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig008.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="true" x_imagesrc="ldtw_1_fig008.jpg" x_imagewidth="740" x_imageheight="511" x_smallsrc="ldtw_1_fig008.small.jpg" x_smallfullsrc="\\DCTM_FSS\content\Teaching and curriculum\Modules\Shared Resources\OpenLearn\LDTW_1\0.9\ldtw_1_fig008.small.jpg" x_smallwidth="511" x_smallheight="353"/><Caption>Ffigur 8 Gall cydberthnasau cymhleth sy’n gorgyffwrdd gael eu cynrychioli’n effeithiol iawn gan fap systemau</Caption></Figure></SubSection><SubSection id="sec003_004_006"><Title>2.4.6 Cardiau crynhoi</Title><Paragraph>Gall ysgrifennu nodiadau ar gardiau mynegai fod yn ffordd effeithiol o grynhoi. Drwy ddefnyddio cyfuniad o eiriau, lliwiau a lluniau, gallwch greu cyfres drefnus iawn o gymhorthion cof a fydd o ddefnydd yn nes ymlaen pan fyddwch yn wynebu aseiniad neu arholiad (gweler <CrossRef idref="fig009">Ffigur 9</CrossRef>).</Paragraph><Figure id="fig009"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_fig009.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="true" x_imagesrc="ldtw_1_fig009.jpg" x_imagewidth="740" x_imageheight="290" x_smallsrc="ldtw_1_fig009.small.jpg" x_smallfullsrc="\\DCTM_FSS\content\Teaching and curriculum\Modules\Shared Resources\OpenLearn\LDTW_1\0.9\ldtw_1_fig009.small.jpg" x_smallwidth="511" x_smallheight="200"/><Caption>Ffigur 9 Cardiau crynhoi (a - blaen y garden, b - cefn y garden). Chi sy’n penderfynu sut i drefnu eich nodiadau ar eich cardiau crynhoi</Caption></Figure><Paragraph>Mae gan gardiau mynegai electronig fuddiannau ychwanegol, megis dulliau chwilio fel y gallwch ddod o hyd i eiriau allweddol. Ceir fersiynau mwy cymhleth o gymwysiadau meddalwedd am ddim nag y mae disgwyl i chi dalu amdanynt.</Paragraph></SubSection><SubSection id="sec003_004_007"><Title>2.4.7 Nodiadau sain</Title><Paragraph>Mae rhai myfyrwyr yn gallu dysgu’n dda o nodiadau sain. Gallech hefyd ddefnyddio recordydd llais digidol, iPod neu ffôn symudol i greu nodiadau sain y gallwch wrando arnynt pan fyddwch yn dewis gwneud hynny.</Paragraph><Paragraph>Ewch i <a href="http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/">http://www.open.ac.uk/skillsforstudy/</a> i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddefnyddio iPods a dyfeisiau eraill i gofnodi eich nodiadau.</Paragraph></SubSection><SubSection id="sec003_004_008"><Title>2.4.8 Gwneud nodiadau o ddeunydd llafar</Title><Paragraph>Mae astudio gyda’r Brifysgol Agored yn golygu gwylio a gwrando ar ddeunydd cwrs. Efallai y bydd disgwyl i chi wrando ar gryno ddisgiau sain, gwylio cyfweliadau a darlithoedd ar ffilm a chael sesiynau wyneb yn wyneb â thiwtor.</Paragraph><Paragraph>Ym mhob un o’r sefyllfaoedd hyn bydd angen i chi ddatblygu strategaethau ar gyfer ymdrin â llif parhaus o wybodaeth gan y siaradwr: i nodi’r rhannau pwysicaf o’r llif wrth iddo ddigwydd ac ysgrifennu nodiadau yn gyflym tra’n parhau i wrando ar y ffaith bwysig nesaf.</Paragraph><Paragraph>Er y gallwch stopio ac ailchwarae deunyddiau wedi eu recordio, ceisiwch beidio â gwneud hyn ormod neu fe fydd yn cymryd llawer o amser i chi wneud nodiadau. Peidiwch â gwneud trawsgrifiad llawn o’r hyn rydych yn gwrando arno - byddwch yn ddisgybledig a gwnewch nodiadau byr. Os ydych am nodi dyfyniad, cofiwch ddefnyddio dyfynodau a nodwch o ble y daeth y dyfyniad.</Paragraph><Paragraph>Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddod yn fwy effeithlon o ran gwrando ar ddeunyddiau llafar a gwneud nodiadau arnynt.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Nodwch y prif bwyntiau am gefndir y pwnc cyn i chi wrando</ListItem><ListItem>Defnyddiwch dalfyriadau yn eich nodiadau</ListItem><ListItem>Gadewch ofod gwyn yn eich pad nodiadau ar gyfer nodiadau ychwanegol yn nes ymlaen</ListItem></BulletedList><Paragraph>Casglwch rywfaint o wybodaeth cyn i chi ddechrau gwrando. Os bydd deunyddiau eich cwrs yn cynnwys nodiadau i gyd-fynd â’r rhaglen, darllenwch y nodiadau hynny yn gyntaf, er mwyn cael cefndir y cyfweliad, y ddarlith neu’r rhaglen. Os ydych yn mynd i diwtorial, efallai y bydd eich tiwtor am i chi ddarllen rhai unedau o’ch cwrs cyn i’r tiwtorial ddechrau. Mae’r gwaith paratoi hwn yn eich helpu i ganolbwyntio ar wrando ac yn eich helpu i ragweld yr hyn a allai godi.</Paragraph><Paragraph>Cofiwch gofnodi’r dyddiad ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall ar frig eich nodiadau ac os bydd angen i chi wirio rhywbeth rydych wedi ei golli o bosibl yn y ddarlith, gofynnwch i’r tiwtor neu gyd-fyfyriwr ar ôl y tiwtorial.</Paragraph><Paragraph>Gall defnyddio talfyriadau wrth ysgrifennu eich helpu i ymdopi â pha mor gyflym y bydd angen i chi wneud nodiadau tra’n gwrando ar rywun yn siarad. Ceir talfyriadau sefydledig ond gallwch lunio eich rhai chi eich hun hefyd. Os ydych eisoes yn gallu gwneud nodiadau llaw-fer, rydych yn ffodus iawn! Os byddwch yn gwneud nodiadau ar frys efallai y byddwch am ddychwelyd at rannau penodol o’ch nodiadau yn nes ymlaen i ychwanegu atynt. Ceisiwch adael digon o le ar y dudalen o amgylch eich paragraffau neu bwyntiau bwled wrth i chi wneud nodiadau.</Paragraph></SubSection><SubSection id="sec003_004_009"><Title>2.4.9 Gwneud nodiadau ar fformiwlâu a datrys problemau</Title><Paragraph>Mae cyrsiau mathemateg yn aml yn defnyddio tasgau datrys problemau fel ffordd o’ch helpu i ddysgu fformiwlâu. Mae’r tasgau hyn yn eich helpu i ymarfer eich sgiliau datrys problemau a chymhwyso’r sgiliau hynny i sefyllfaoedd cyfarwydd ac anghyfarwydd. Bydd yr awgrymiadau hyn yn eich helpu wrth i chi weithio drwy’r tasgau hyn.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Peidiwch â dileu eich nodiadau os ydych wedi gwneud camgymeriad. Rhowch linell drwy’r rhan o’r fformiwla sy’n anghywir, rhowch linell oddi tani ac ailddechreuwch eich nodiadau o dan y pwynt hwnnw. Wrth fynd drwy’r cyfrifiadau, gall eich camgymeriadau eich helpu yn y pen draw i ddod o hyd i’r ateb cywir.</ListItem><ListItem>Gadewch ddigon o ofod gwyn o amgylch eich datrysiadau fel y gallwch wneud nodiadau ychwanegol yn nes ymlaen os bydd angen.</ListItem><ListItem>Gall tasgau datrys problemau, a dysgu mathemateg yn gyffredinol, olygu dysgu cam wrth gam, felly ewch drwy gyfrifiadau a phroblemau yn drylwyr: peidiwch â cheisio dod o hyd i ffordd fer o wneud rhywbeth neu hepgor ambell i gam.</ListItem></BulletedList></SubSection><SubSection id="sec003_004_010"><Title>2.4.10 Rhannu eich nodiadau</Title><Paragraph>Efallai y byddai o fudd i chi ddod o hyd i grŵp o fyfyrwyr o gyffelyb anian y gallech rannu nodiadau â hwy. Gall edrych ar nodiadau pobl eraill helpu i egluro pethau nad ydych o bosibl wedi eu deall.</Paragraph><Paragraph>Mae rhai gwefannau yn caniatáu i chi gadw eich nodiadau ar-lein. Yn aml mae gan y gwefannau hyn y cyfleuster i wneud eich nodiadau a gaiff eu storio yn hysbys i bawb (y rhagosodiad yw hyn weithiau), neu gallant eu rhyddhau i unigolion dethol. Gallai manteision eraill y gwefannau hyn gynnwys y gallu i gysylltu â gwyddoniaduron a geirfaoedd eraill ar-lein (megis Wikipedia), trefnu eich nodiadau yn hawdd, gosod nodyn atgoffa i chi’ch hun a fformadu eich nodiadau fel eu bod yn haws eu darllen.</Paragraph><Paragraph>Ewch i <a href="http://www.open.ac.uk/skillsforstudy">http://www.open.ac.uk/skillsforstudy</a> i weld detholiad o’r gwefannau hyn.</Paragraph><Paragraph>Un o fanteision defnyddio’r gwefannau hyn i wneud a chadw eich nodiadau yw nad oes yn rhaid i chi boeni ynghylch eu colli. Hyd yn oed os bydd eich cyfrifiadur yn methu neu os byddwch yn colli eich cofbin, caiff y nodiadau ar y wefan eu cadw’n ddiogel.</Paragraph></SubSection><SubSection id="sec003_004_011"><Title>2.4.11 Ailwampio eich nodiadau</Title><Paragraph>Bydd y nodiadau a wnewch yn ystod eich cwrs yn darparu adnodd y gallwch ei ailwampio at ddibenion eraill, er enghraifft ar gyfer aseiniadau ac arholiadau. Mae ailwampio nodiadau hefyd yn gyfle i adolygu, oherwydd mae’n rhaid i chi fynd yn ôl drwy’r broses feddwl unwaith eto wrth i chi eu hailwampio. Efallai y penderfynwch gadw’r nodiadau hyn hyd yn oed er mwyn cyfeirio atynt wrth astudio yn y dyfodol.</Paragraph><BulletedList><ListItem>Os byddwch yn ailwampio nodiadau ar gyfer aseiniad, cadwch gwestiwn yr aseiniad gyda chi er mwyn helpu i hoelio eich sylw. Edrychwch am arweiniad yng nghanllaw eich aseiniad, a allai eich cymell i edrych ar rai rhannau o ddeunyddiau eich cwrs i ateb cwestiwn penodol. Os ydych wedi ffeilio eich nodiadau yn dda, byddwch yn gallu mynd yn syth at y deunydd perthnasol.</ListItem><ListItem>Pan fyddwch yn ailwampio eich nodiadau ar gyfer arholiad, hwyrach y byddwch yn lleihau hyd eich hen nodiadau. Wrth i chi eu darllen ceisiwch eu crynhoi ac yna defnyddiwch yr ail set hon o nodiadau fel eich deunydd adolygu.</ListItem></BulletedList><Figure id="figu003"><Image src="http://www.open.edu/openlearn/ocw/pluginfile.php/98095/mod_oucontent/oucontent/813/ldtw_1_figu003.jpg" height="" width="100%" alt="" id="" webthumbnail="" x_imagesrc="ldtw_1_figu003.jpg" x_imagewidth="361" x_imageheight="156"/></Figure></SubSection></Section></Session><Session id="sess004"><Title>3 Bydd y sgiliau hyn yn eich gwella</Title><Paragraph>Mae’n cymryd amser i bawb ddod o hyd i’r ffordd orau o ddarllen, deall a gwneud nodiadau yn y brifysgol. Peidiwch â phoeni os nad ydych yn teimlo eich bod yn gwneud hyn yn effeithlon ar y dechrau. Rhowch amser i’ch hun ymgyfarwyddo â ffyrdd gwahanol o wneud nodiadau a mynd i’r afael â deunyddiau anodd y cwrs.</Paragraph><Paragraph>Yn bwysicaf oll, peidiwch â bod ofn gofyn am help. Os nad ydych yn deall rhywbeth, gall eich tiwtor neu gynghorydd astudio eich rhoi ar ben ffordd. Efallai mai’r cyfan sydd ei angen arnoch yw ychydig o eglurhad ar frawddeg neu baragraff penodol - gall cydnabod pryd mae angen help arnoch a gwybod sut i ofyn amdano arbed llawer iawn o amser a gofid i chi ac mae’n sgil dda i’w meithrin ynddi ei hun.</Paragraph><Paragraph>Cofiwch gymryd sgiliau gwneud nodiadau a darllen yn effeithiol o ddifrif. Fe welwch fod amser a dreulir ar ddatblygu eich sgiliau nawr yn gwella eich gallu i ymdopi â gofynion astudio yn y dyfodol. Mae’r sgiliau sy’n gysylltiedig â bod yn fyfyriwr effeithlon ac effeithiol yn hynod ddefnyddiol mewn meysydd eraill o’ch bywyd hefyd, er enghraifft yn y gweithle. Datblygwch y sgiliau hynny nawr ac ni fyddwch byth yn difaru.</Paragraph></Session><Session><Title>Y camau nesaf</Title><Paragraph>Ar ôl i chi gwblhau'r uned hon, efallai yr hoffech astudio uned OpenLearn arall, neu un o fodiwlau'r <a href="http://openlearn.open.ac.uk/mod/glossary/showentry.php?courseid=4373&amp;concept=Open+University"><font val="Verdana">Brifysgol Agored</font></a>. Dyma ychydig awgrymiadau:</Paragraph><UnNumberedList><ListItem><a href="http://openlearn.open.ac.uk/course/view.php?id=2502">DD100121_1</a> <SideNote><SideNoteParagraph>Awgrym: daliwch Ctrl i lawr a chliciwch ar ddolen i'w hagor mewn tab newydd.</SideNoteParagraph></SideNote>Darllen a gwneud nodiadau - paratoi ar gyfer astudio </ListItem><ListItem><a href="http://openlearn.open.ac.uk/course/view.php?id=3097"><font val="Arial">D218_7</font></a><font val="Arial"> </font>Datblygu sgiliau darllen mewn perthynas â'r Gwyddorau Cymdeithasol</ListItem><ListItem><a href="http://openlearn.open.ac.uk/course/view.php?id=3005">GSG_3</a> Darllen</ListItem></UnNumberedList></Session><BackMatter><Acknowledgements><Paragraph><b>Don't miss out:</b></Paragraph><Paragraph><b>1. Join over 200,000 students, </b>currently studying with The Open University [<a href="http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content">http://www.open.ac.uk/choose/ou/open-content</a>]</Paragraph><Paragraph><b>2. Enjoyed this? </b>Find out more about this topic or browse all our free course materials on OpenLearn [<a href="http://www.open.edu/openlearn">http://www.open.edu/openlearn/</a>]</Paragraph><Paragraph><b>3. Outside the UK? </b>We have students in over a hundred countries studying online qualifications [<a href="http://www.openuniversity.edu/">http://www.openuniversity.edu/</a>] including an MBA at our triple accredited Business School.</Paragraph></Acknowledgements></BackMatter></Unit><settings><numbering><Session autonumber="false"/><Section autonumber="false"/><SubSection autonumber="false"/><SubSubSection autonumber="false"/><Activity autonumber="false"/><Exercise autonumber="false"/><Box autonumber="false"/><CaseStudy autonumber="false"/><Quote autonumber="false"/><Extract autonumber="false"/><Dialogue autonumber="false"/><KeyPoints autonumber="false"/><Reading autonumber="false"/><StudyNote autonumber="false"/><Example autonumber="false"/><Verse autonumber="false"/><SAQ autonumber="false"/><ComputerDisplay autonumber="false"/><Summary autonumber="false"/><ProgramListing autonumber="false"/><ITQ autonumber="false"/><Tables autonumber="false"/><Figures autonumber="false"/><MediaContent autonumber="false"/><Chemistry autonumber="false"/></numbering><discussion_alias>Comment</discussion_alias><session_prefix/></settings></Item>
