Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)
Darllen a gwneud nodiadau (Reading and taking notes)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.1 Eich strategaeth

Byddwch yn synnu efallai faint o ddeunydd y bydd angen i chi ei ddarllen a’i wylio ar eich cwrs. Meddyliwch am eich diben a pha strategaeth y byddwch yn ei defnyddio pryd bynnag y byddwch yn darllen rhywbeth. Os ydych yn brysur, efallai y bydd angen i chi fabwysiadu techneg darllen cyflym er mwyn dod o hyd i ddeunydd perthnasol. Fodd bynnag, os bydd angen i chi ddarllen rhywbeth yn fanwl, dylech fod yn barod i arafu a defnyddio dulliau darllen beirniadol.

Edrychwch ar ddeunyddiau eich cwrs i ddod o hyd i’r canlyniadau dysgu ar gyfer eich cwrs neu i ddod o hyd i’r bloc penodol rydych yn ei astudio a defnyddiwch y rhain fel canolbwynt eich strategaeth. Efallai y gwelwch hefyd nad oes angen i chi edrych ar yr holl ddeunyddiau a gewch. [Defnyddiwch eich canlyniadau dysgu ar gyfer eich cwrs i canolbwyntio ar eich strategaeth]

Edrychwch ar ganllaw eich cwrs i weld a yw rhai ohonynt yn ddewisol.